Neidio i'r prif gynnwy

Pwyntiau i'w nodi

Os ydych chi’n defnyddio’r cynllun hwn i ddyfarnu cymhorthdal, rhaid ichi roi gwybod i’r Uned Rheoli Cymorthdaliadau – e-bost: rheolicymorthdaliadau@llyw.cymru

1. Rhanbarth

Cymru

2. Teitl y Cynllun Cymhorthdal

Cynllun Cymorth Presenoldeb Arddangoswyr Brand Cymru Wales

3. Sail gyfreithiol yn y DU

Adran 60(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

4. Amcanion polisi penodol y cynllun

Bydd y cynllun yn llwyfan i hyrwyddo polisïau allweddol Llywodraeth Cymru, gan gynnwys:

  • Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
  • Y Strategaeth Twristiaeth, blaenoriaethau Croeso i Gymru
  • Strategaeth Ddigwyddiadau Genedlaethol ar gyfer Cymru 2022 i 2030

Mae'r fenter yn cefnogi aliniad strategol sector digwyddiadau busnes Cymru â blaenoriaethau'r llywodraeth, gan atgyfnerthu enw da'r wlad â’i hapêl i brynwyr a phartneriaid rhyngwladol.

5. Diben y cynllun

Diben y cynllun yw adeiladu a chyflwyno presenoldeb cenedlaethol ar y cyd o dan y brand Cymru Wales mewn digwyddiadau ac arddangosfeydd, gan wella gwelededd y brand, nifer yr ymwelwyr a chyfleoedd busnes yn sylweddol.

Drwy ddod â chyflenwyr o Gymru a chynrychiolwyr twristiaeth rhanbarthol ynghyd o dan frand cryf, unedig, bydd y pafiliwn yn arddangos cryfderau sectorol Cymru a'r galluoedd sy'n barod i'w hallforio mewn marchnadoedd byd-eang cystadleuol.

6. Awdurdodau cyhoeddus sydd wedi’u hawdurdodi i weithredu’r cynllun

Llywodraeth Cymru

7. Categori neu gategorïau o fentrau cymwys

Mae'r cynllun yn agored i fusnesau yn y sectorau Twristiaeth, Digwyddiadau Busnes, Creadigol, Masnach Ryngwladol a Bwyd a Diod yng Nghymru, neu i fusnesau a all gael effaith gadarnhaol ar y rhain.

Mae hyn yn cynnwys y canlynol, ymhlith eraill:

  • Trefnwyr Lleol yng Nghymru
  • Sefydliadau Rheoli Cyrchfannau
  • Cwmnïau Rheoli cyrchfannau
  • Trefnwyr Cynadleddau Proffesiynol
  • Awdurdodau Lleol
  • Sefydliadau proffesiynol eraill sy'n cynrychioli ac yn dylanwadu ar fusnes i Gymru yn un o'r meysydd uchod o Lywodraeth Cymru.

8. Sectorau i’w cefnogi

  • Gweithgareddau llety a gwasanaethau bwyd
  • Y celfyddydau, adloniant a hamdden
  • Gweithgarwch gan wasanaethau eraill

9. Hyd y cynllun

1 Ionawr 2026 tan 31 Rhagfyr 2030.

10. Y gyllideb cymorth o dan y ynllun

£50,000,000

11. Ffurf y cymorth

Bydd yr holl gymhorthdal a ddyfernir o dan y Cynllun yn cael ei ddyfarnu drwy Grant Uniongyrchol.

12. Telerau ac amodau cymhwysedd

Rhaid i'r busnes:

  • Fod yn gweithredu yng Nghymru lle mae'r cymhorthdal yn cael ei gynnig a bod yn addas ar gyfer pob Arddangosfa / Digwyddiad lle mae'r cymhorthdal yn cael ei gynnig.
  • Bodloni gwerthoedd brand Cymru, sicrhau cynnyrch marchnad a chynnwys gwefan addas a pherthnasol a chronfa ddata bresennol o gleientiaid.
  • Adnoddau a chynrychiolaeth ddigonol a gwybodus i fodloni gofynion y digwyddiad, gan gynnwys unrhyw ofynion cyn ac ôl y digwyddiad gan y trefnydd a/neu Lywodraeth Cymru.
  • Darparu enillion ar fuddsoddiad disgwyliedig i Lywodraeth Cymru yn y cam ymgeisio a'i diweddaru ar ôl y digwyddiad am unrhyw fusnes sydd wedi'i sicrhau o ganlyniad i fynychu'r digwyddiad.

13. Y sail ar gyfer cyfrifo cymorthdaliadau

Mae'r cymhorthdal yn cwmpasu hyd at 50% o’r gofod pod unigol, gwaith dylunio ac adeiladu. Mae'r gost yn ddibynnol ar y gofod stondinau sydd ar gael a'r niferoedd sy'n arddangos. Pan fo Arddangosfa / Digwyddiad newydd yn cael ei nodi neu pan ystyrir ei bod yn hanfodol i'r sefydliad fod yn bresennol, gellir dyfarnu cymhorthdal (yn amodol ar adolygiad a chymeradwyaeth Llywodraeth Cymru) ar gyfradd uwch.

14. Uchafswm y cymhorthdal a ganiateir o dan y cynllun

£500,000

15. Manylion cyswllt

I gael rhagor o wybodaeth am wneud cais am gymorth o dan y cynllun hwn, cysylltwch â'r tîm Cwrdd yng Nghymru yn: CwrddyngNghymru@llyw.cymru

I gael rhagor o wybodaeth am sut mae'r cynllun hwn yn cydymffurfio â Deddf Rheoli Cymorthdaliadau 2022, cysylltwch â:

Yr Uned Rheoli Cymorthdaliadau

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd CF10 3NQ
Y Deyrnas Unedig

Rhif ffôn:

+ 44 (0)3000 604 400

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Image