Gwerthusiad Gweithgareddau Atgyweirio ac Ailddefnyddio: crynodeb
Mae'r adroddiad yn nodi canfyddiadau gwerthusiad o Gronfa'r Economi Gylchol ar gyfer Gweithgareddau Atgyweirio ac Ailddefnyddio ledled Cymru rhwng 2019 a 2025.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad a diben
Mae gan Lywodraeth Cymru hanes cryf o flaenoriaethu'r economi gylchol drwy offerynnau deddfwriaethol a pholisi fel Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 (Deddfwriaeth y DU) a strategaeth Mwy nag Ailgylchu 2021, a osododd y nod i Gymru ddod yn genedl dim gwastraff, dim allyriadau net erbyn 2050. Ymrwymodd Rhaglen Lywodraethu 2021 i 2026 i gefnogi 80 o ganolfannau atgyweirio ac ailddefnyddio yng nghanol trefi ledled Cymru i gyfrannu at y nodau hyn.
Un mecanwaith ar gyfer cyflawni'r nod hwn oedd sefydlu Cronfa'r Economi Gylchol (WRAP) yn 2019, gan ddarparu cyllid ar gyfer gweithgareddau atgyweirio ac ailddefnyddio ledled Cymru. Mae gweithgareddau atgyweirio ac ailddefnyddio fel a ganlyn:
Mae gweithgareddau atgyweirio ac ailddefnyddio
Hybiau
Adeilad neu ofod ffisegol (a gallai gynnwys mannau symudol, e.e. faniau) sydd ar agor ar ddiwrnodau neu oriau rheolaidd a gall y gymuned leol gael mynediad iddo. Mae cwmpas gweithgareddau hybiau yn eang; gallant gynnwys gweithgareddau atgyweirio ac ailddefnyddio yn ôl anghenion y gymuned, ochr yn ochr â chyfleoedd i ailgylchu neu uwchgylchu eitemau.
Llyfrgell pethau
Sefydliad sy'n gweithredu llyfrgell fenthyca o eitemau megis offer a nwyddau tŷ.
Caffis trwsio
Sefydliad neu grŵp sy'n atgyweirio eitemau sydd wedi torri mewn lleoliadau cymunedol.
Mathau eraill o weithgarwch
Mae rhai prosiectau nad ydynt yn cael eu cwmpasu gan y categorïau uchod, megis oergelloedd cymunedol.Mae'r rhain o fewn cwmpas Cronfa'r Economi Gylchol ac, felly, o fewn cwmpas y gwerthusiad hwn.
Dosbarthwyd tua £14 miliwn o gyllid cyfalaf a refeniw i fusnesau a chyrff cyhoeddus drwy Gronfa’r Economi Gylchol rhwng 2019 a 2025.
Dull gwerthuso
Asesodd y gwerthusiad hwn adnoddau, gweithgareddau ac effeithiau gweithgareddau atgyweirio ac ailddefnyddio a ariennir gan Gronfa’r Economi Gylchol ledled Cymru rhwng 2019 a 2025. Cyflawnwyd hyn drwy ddull cymysg a oedd yn cynnwys y gweithgareddau canlynol.
- Adolygiad pen desg o’r ddogfennaeth a data ariannu perthnasol.
- Cyfweliadau cwmpasu â rhanddeiliaid allweddol i fireinio'r fframwaith gwerthuso.
- Datblygu modelau damcaniaeth newid ar gyfer y gweithgareddau atgyweirio ac ailddefnyddio a ariennir yn unigol ac ar gyfer y sefydliadau rhwydwaith.
- Cyfweliadau lled-strwythuredig: cynhaliwyd 19 â threfnwyr neu wirfoddolwyr sefydliadau a ariennir, wyth â chynrychiolwyr awdurdodau lleol, a 12 â defnyddwyr gwasanaethau.
- Arolygon o 73 o ddefnyddwyr gwasanaeth a 1,013 o aelodau'r cyhoedd i archwilio profiadau a chanfyddiadau o weithgareddau atgyweirio ac ailddefnyddio.
- Grwpiau ffocws ag aelodau'r cyhoedd.
- Pedair astudiaeth achos fanwl o wahanol fathau o weithgareddau atgyweirio ac ailddefnyddio ledled Cymru.
- Dadansoddiad gofodol o ddosbarthiad gweithgareddau atgyweirio ac ailddefnyddio ledled Cymru a'i gymharu â Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru.
Canolbwyntiodd y dadansoddiad ar effeithiau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd y gweithgareddau atgyweirio ac ailddefnyddio, ochr yn ochr ag asesiadau o werth am arian a sefyllfaoedd gwrthffeithiol i nodi effeithiolrwydd posibl y cyllid o ran cost. Yn ogystal, dadansoddwyd ffactorau sy'n effeithio ar ba mor effeithiol yw gweithgareddau atgyweirio ac ailddefnyddio, gan gynnwys rôl sefydliadau rhwydwaith, lleoliad, modelau busnes ac ymddygiad y cyhoedd. Aseswyd hefyd rwystrau i gyflawni ac opsiynau ar gyfer cyflawni effaith bosibl yn y dyfodol.
Prif ganfyddiadau
Effaith gweithgareddau atgyweirio ac ailddefnyddio
Canfu'r gwerthusiad fod nod Llywodraeth Cymru o ariannu 80 o hybiau atgyweirio ac ailddefnyddio ar draws canol trefi yng Nghymru wedi'i gyflawni. Er bod 73 o hybiau canol tref wedi'u cefnogi'n uniongyrchol trwy gyllid grant, cefnogwyd 163 o safleoedd trwy sefydliadau rhwydwaith (Benthyg Cymru a Caffi Trwsio Cymru) a gadwyd gyllid gan Gronfa’r Economi Gylchol, sy'n golygu ei bod yn debygol y rhagorwyd ar y nod o gefnogi 80 o hybiau canol tref. At ddibenion y gwerthusiad hwn, diffinnir canol tref fel lleoliad sy'n hawdd ei gyrraedd ar drafnidiaeth gyhoeddus lle na fyddai angen i bobl gyrraedd mewn car. Nid ystyrir bod hybiau atgyweirio ac ailddefnyddio yng nghanolfannau ailgylchu gwastraff cartref yn rhai canol tref.
Nodwyd amrywiaeth o effeithiau cymdeithasol cadarnhaol gweithgareddau atgyweirio ac ailddefnyddio ar gyfer gwirfoddolwyr a defnyddwyr, sy'n cynnwys llesiant a chysylltiad cymdeithasol, cymorth wedi'i deilwra ar gyfer grwpiau agored i niwed, magu hyder a gwelliannau iechyd meddwl, datblygu dysgu a sgiliau, a chydlyniant cymunedol. Yn ogystal, rhoddwyd clod i weithgareddau atgyweirio ac ailddefnyddio am gefnogi aelwydydd incwm isel, cyrraedd cymunedau gwledig a chymunedau sydd wedi’u heithrio, creu hybiau cymunedol, a chodi ymwybyddiaeth a gwella dealltwriaeth o gysyniadau a gwasanaethau economi gylchol.
Mae effeithiau amgylcheddol gweithgareddau atgyweirio ac ailddefnyddio yn cynnwys gostyngiadau uniongyrchol mewn gwastraff, yn ogystal â'r allyriadau carbon posibl a osgoir o weithgynhyrchu eitem newydd i gymryd lle un sydd wedi'i hatgyweirio neu sydd wedi’i hailddefnyddio. Mae gweithgareddau atgyweirio ac ailddefnyddio hefyd yn helpu i feithrin newid ymddygiad ymhlith defnyddwyr a gwirfoddolwyr, gyda thystiolaeth o'r gwerthusiad hwn yn awgrymu eu bod yn normaleiddio ymddygiadau’n ymwneud ag atgyweirio ac ailddefnyddio, yn annog pobl i brynu nwyddau ail-law, yn ymgorffori agwedd ‘adnoddau nid gwastraff’, ac yn ysgogi gweithredu cymunedol i leihau gwastraff.
Nododd y gwerthusiad hwn sawl mecanwaith y mae gweithgareddau atgyweirio ac ailddefnyddio yn darparu buddion economaidd i unigolion a'r gymuned ehangach drwyddynt. Canfuwyd bod gweithgareddau atgyweirio ac ailddefnyddio yn hyrwyddo datblygu sgiliau a chyflogaeth ymhlith gwirfoddolwyr ac yn darparu arbedion i unigolion ac aelwydydd sy’n atgyweirio ac ailddefnyddio eitemau yn lle prynu rhai newydd. Roedd rhai siopau ailddefnyddio yn cynnal eu hunain yn ariannol, gan ailfuddsoddi elw gwerthiant mewn prosiectau cymunedol. Mae hybiau atgyweirio ac ailddefnyddio cymunedol yn denu pobl i ganol trefi, gan gynyddu nifer yr ymwelwyr ar y strydoedd mawr o bosibl a darparu buddion posibl i fusnesau cyfagos.
Effeithiolrwydd cyllid yr economi gylchol o ran cost
Nid oedd yr asesiad yn gallu cynnal dadansoddiad cost a budd cynhwysfawr oherwydd cyfyngiadau yn y data monitro. Er bod cyfrifiadau enghreifftiol o allyriadau carbon a osgowyd ac arbedion defnyddwyr yr adroddwyd amdanynt yn awgrymu bod gweithgareddau atgyweirio ac ailddefnyddio yn debygol o gyflawni gwerth, mae’r ffaith nad oes data cyson ar allbynnau a chanlyniadau yn atal asesiad llawn.
Fodd bynnag, mae tystiolaeth yn tynnu sylw at amrywiad mewn effeithiolrwydd o ran cost ar draws gwahanol fodelau cyflawni. Mae cynlluniau sy'n gysylltiedig â chanolfannau ailgylchu gwastraff y cartref, a gefnogir trwy gyllid cyfalaf, yn dangos mwy o botensial i allu cynnal eu hunain yn ariannol trwy ymgorffori ailddefnyddio yn systemau gwastraff awdurdodau lleol. Mewn cyferbyniad, mae mentrau yn y gymuned megis caffis trwsio a llyfrgelloedd pethau yn dibynnu'n fawr ar wirfoddolwyr a chefnogaeth refeniw barhaus. Er bod y prosiectau hyn yn darparu buddion cymdeithasol a llesiant sylweddol, mae eu gallu i gynnal eu hunain yn ariannol dros yr hirdymor yn parhau i fod yn llai sicr.
Roedd buddsoddi mewn sefydliadau rhwydwaith, Caffi Trwsio Cymru a Benthyg Cymru yn profi’n fecanwaith effeithiol ar gyfer ehangu graddfa gweithrediadau. Drwy ddarparu yswiriant, hyfforddiant, cymorth gweinyddol a chyfleoedd dysgu gan gymheiriaid, roedd rhwydweithiau'n lleihau'r rhwystrau i grwpiau lleol sefydlu ac ehangu gwasanaethau. Galluogodd y dull hwn Lywodraeth Cymru i gyrraedd mwy o gymunedau yn anuniongyrchol nag a fyddai wedi bod yn bosibl trwy gyllid grant uniongyrchol yn unig.
Gyda'i gilydd, mae'r canfyddiadau hyn yn awgrymu bod Cronfa'r Economi Gylchol wedi bod yn sbardun pwysig o weithgarwch ledled Cymru, er bod union gydbwysedd y costau a'r buddion yn parhau i fod yn ansicr. Byddai gwerthusiadau yn y dyfodol yn elwa ar dargedau cliriach a systemau monitro mwy cadarn i alluogi asesiad mwy cyflawn o werth am arian.
Heriau a nodwyd
Nododd y gwerthusiad hwn sawl rhwystr rhag defnyddio a chyflenwi gweithgareddau atgyweirio ac ailddefnyddio. Codwyd pryderon ynghylch iechyd a diogelwch, yn enwedig ynghylch atgyweirio a benthyca eitemau trydanol ac offer pŵer. Cafodd y baich gweinyddol o redeg prosiectau a chael gafael ar gyllid ei nodi fel rhwystr gan rai awdurdodau lleol a sefydliadau cymunedol. Tynnwyd sylw arbennig at y broses ariannu, gyda chylchoedd ariannu byr a chyfyngedig yn cyfyngu ar gynllunio hirdymor. Roedd recriwtio a chadw staff a gwirfoddolwyr profiadol yn her i lawer o grwpiau.
Nodwyd heriau wrth fonitro gweithgareddau atgyweirio ac ailddefnyddio yn ystod y gwerthusiad hwn hefyd. Roedd bylchau mewn data monitro ar gyfer effeithiau amgylcheddol (e.e. nifer y tunelli o wastraff o allyriadau carbon a osgowyd) a monitro cyson o ganlyniadau cymdeithasol yn ei gwneud yn anodd meintioli a chymharu effeithiau ar draws yr holl weithgareddau atgyweirio ac ailddefnyddio.
Casgliadau ac argymhellion
Mae'r gwerthusiad yn awgrymu bod Cronfa'r Economi Gylchol wedi cefnogi twf sylweddol mewn gweithgareddau atgyweirio ac ailddefnyddio ledled Cymru, gan ragori ar y targed gwreiddiol o 80 o hybiau. Mae'r cyflawniad hwn yn adlewyrchu cyfuniad o fuddsoddiad cyfalaf i sefydlu safleoedd, cyllid refeniw i gynnal y ddarpariaeth, a rôl alluogi sefydliadau rhwydwaith.
Mae tystiolaeth yn awgrymu amrywiaeth o ganlyniadau cadarnhaol i gymunedau ac unigolion, gan gynnwys llesiant gwell, cysylltiadau cymdeithasol cryfach, datblygu sgiliau, a chymorth i grwpiau agored i niwed. Mae canlyniadau amgylcheddol yn cynnwys dargyfeirio gwastraff ac osgoi allyriadau carbon, er bod bylchau yn y gwaith o fonitro prosiectau a ariannwyd yn gynharach yn cyfyngu ar y gallu i feintioli’r buddion hyn yn llawn. Nodwyd rhai effeithiau economaidd, gan gynnwys arbedion cost i ddefnyddwyr, cyfleoedd gwirfoddoli a chyflogaeth, a chyfraniadau at nifer yr ymwelwyr yng nghanol y dref.
Ni ellid asesu effeithiolrwydd o ran cost yn gynhwysfawr oherwydd bylchau data, ond mae gwahaniaethau ar draws modelau busnes yn amlwg. Mae cynlluniau sy'n gysylltiedig â chanolfannau ailgylchu gwastraff y cartref a gefnogir gan gyllid cyfalaf yn dangos mwy o botensial o ran cynnal eu hunain yn ariannol, tra bod mentrau cymunedol yn darparu gwerth cymdeithasol cryf ond yn parhau i ddibynnu ar gyllid refeniw parhaus. Mae rhwydweithiau megis Caffi Trwsio Cymru a Benthyg Cymru wedi bod yn alluogwyr hollbwysig, gan leihau rhwystrau i grwpiau llawr gwlad ac ymestyn cyrhaeddiad y rhaglen.
Er gwaethaf y cyflawniadau hyn, mae heriau'n parhau o ran cynaliadwyedd, cylchoedd ariannu tymor byr, beichiau gweinyddol, a monitro anghyson. Nid yw ymwybyddiaeth y cyhoedd o weithgareddau atgyweirio ac ailddefnyddio yn gyson, gyda siopau ailddefnyddio yn gymharol adnabyddus, tra bod caffis trwsio, stordai creadigol a llyfrgelloedd pethau yn llai amlwg.
Argymhellion
Dylid casglu data ar gyfer canlyniadau cymdeithasol trawsbynciol
Casglu data ar bwy sy'n ymgysylltu â gweithgareddau atgyweirio ac ailddefnyddio er mwyn deall cynhwysiant a chyrhaeddiad. Un o nodau Cronfa'r Economi Gylchol yw annog amrywiaeth eang o bobl i gymryd rhan mewn gweithgareddau atgyweirio ac ailddefnyddio. Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod data ymgysylltu yn cael eu casglu er mwyn deall pwy sy'n defnyddio gweithgareddau atgyweirio ac ailddefnyddio, a all lywio’r broses o wneud penderfyniadau polisi a chyllido yn y dyfodol er mwyn sicrhau bod gweithgareddau atgyweirio ac ailddefnyddio yn opsiwn i bawb.
Dylid addasu dulliau gwerthuso effaith gymdeithasol presennol ar gyfer gweithgareddau atgyweirio ac ailddefnyddio
Addasu methodolegau llesiant a gwerth cymdeithasol presennol (e.e. WELLBYs, TOMs) i fesur effeithiau cymdeithasol gweithgareddau atgyweirio ac ailddefnyddio megis llesiant, cynhwysiant, hyder a datblygu sgiliau. Dylai monitro yn y dyfodol gynnwys data llesiant cyn ac ar ôl cyfranogiad ac adrodd cyson ar ganlyniadau gwirfoddolwyr a hyfforddiant i gofnodi gwerth llawn y gweithgareddau hyn, yn gymesur â'r cyllid sy’n dod i law er mwyn sicrhau hyfywedd.
Dylid buddsoddi ac ymchwilio i wella cyfrifianellau effaith ar gyfer gweithgareddau atgyweirio ac ailddefnyddio
Buddsoddi mewn ymchwil a datblygu cyfrifianellau effaith safonol ar gyfer gweithgareddau atgyweirio ac ailddefnyddio er mwyn sicrhau y caiff buddion amgylcheddol eu mesur mewn ffordd gyson ac yn dryloyw (e.e. gwastraff a osgowyd, allyriadau nwyon tŷ gwydr). Byddai adeiladu ar offer presennol megis Caffi Trwsio Cymru a Carboniadur Edinburgh Tool Library yn gwella’r gallu i gymharu ac yn galluogi asesiadau mwy cywir o effaith amgylcheddol.
Canlyniadau a thargedau wedi'u diffinio
Cryfhau fframweithiau monitro gyda chanlyniadau a thargedau clir a safonol ar draws pob prosiect. Dylai pob gweithgaredd, o leiaf, adrodd ar nifer a phwysau'r eitemau a ailddefnyddiwyd ac amcangyfrifon o arbedion carbon, gyda dangosyddion ychwanegol (e.e. cyfraddau llwyddiant atgyweirio, boddhad defnyddwyr, amlder benthyca, oriau gwirfoddolwyr) sy'n berthnasol i'r math o brosiect. Byddai casglu data cyson yn gwella’r gallu i gymharu, atebolrwydd, ac asesiadau o effeithiolrwydd o ran cost yn y dyfodol.
Monitro gwariant yn erbyn targedau
Sefydlu systemau sy'n cysylltu gwariant yn uniongyrchol ag allbynnau a chanlyniadau er mwyn gwella asesu effeithiolrwydd o ran cost. Dylai hyn gynnwys mapio argaeledd data, nodi tanadrodd oherwydd beichiau ar wirfoddolwyr neu feichiau gweinyddol, a sefydlu fframweithiau ar gyfer rhannu data cyson rhwng cyllidwyr, rhwydweithiau a phartneriaid cyflenwi.
Dylid cynnal ymchwil i ddeall effaith sectoraidd ymyriadau manwerthu a’r economi gylchol yn y sector ailddefnyddio
Comisiynu ymchwil bwrpasol i ddeall effeithiau economaidd a sectoraidd ehangach gweithgareddau atgyweirio ac ailddefnyddio. Dylai hyn gynnwys archwilio sut mae manwerthu yn y sector ailddefnyddio yn rhyngweithio â'r sector manwerthu elusennol, sut mae caffis trwsio a llyfrgelloedd pethau yn dylanwadu ar y galw am wasanaethau atgyweirio a llogi masnachol, a'r effaith gyffredinol ar ymddygiad defnyddwyr. Byddai canfyddiadau’n cefnogi polisïau economi gylchol sy’n ategu, yn hytrach na disodli, marchnadoedd presennol.
Dylid datblygu cronfeydd arian ar wahân i wahaniaethu rhwng prosiectau o wahanol fathau
Datblygu cronfeydd arian gwahanol ar gyfer prosiectau sy'n gysylltiedig â chanolfannau ailgylchu gwastraff y cartref, prosiectau sy'n seiliedig ar y gymuned, a phrosiectau a gefnogir gan rwydweithiau i gydnabod eu strwythurau ariannol gwahanol a’r addewid o ran fod yn gynaliadwy. Yn aml, mae angen buddsoddiad cyfalaf ar gynlluniau canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref, ond gallant ddod yn hunangynhaliol ar ôl iddynt gael eu hymgorffori mewn systemau rheoli gwastraff, tra bod mentrau cymunedol yn dibynnu ar gyllid refeniw parhaus i gefnogi’r broses gydlynu, gwirfoddolwyr, ac ymarferion ymgysylltu. Byddai ffrydiau ariannu pwrpasol yn caniatáu i bob model gael adnoddau priodol a gwella’r gallu i werthuso rhaglenni yn y dyfodol.
Datblygu strwythur grantiau haenog ar gyfer sefydliadau sy'n gwneud cais am wahanol lefelau o gyllid
Cyflwyno strwythur grantiau haenog sy'n gymesur â maint ac uchelgais y prosiect i ostwng rhwystrau gweinyddol i sefydliadau llai wrth gynnal atebolrwydd am grantiau mwy.
Amserlenni ariannu
Byddai cylchoedd ariannu hwy (tair i bum mlynedd) neu gyfnodau ymgeisio treigl yn galluogi sefydliadau cymunedol i gynllunio'n fwy effeithiol, lleihau straen gwirfoddolwyr, a sicrhau mwy o barhad wrth gyflenwi gwasanaethau. Byddai hyblygrwydd wrth reoli tanwariant ac amserlenni yn gwella gwerth am arian ac yn cefnogi twf cynaliadwy.
Manylion cyswllt
Awduron yr Adroddiad: Sean Heron, Katie Lloyd, Susannah Lynn, Hannah Rigley, Scout Astley Jones, Iestyn Allen
Safbwyntiau’r ymchwilwyr yw’r rhai a fynegir yn yr adroddiad hwn ac nid ydynt o reidrwydd yn rhai Llywodraeth Cymru.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r canlynol:
Ymchwil Hinsawdd ac Amgylchedd
Yr Is-adran Ymchwil Gymdeithasol a Gwybodaeth
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: YmchwilHinsawddAcAmgylchedd@llyw.cymru
Rhif ymchwil gymdeithasol: 110/2025
ISBN Digidol: 978-1-80633-646-3
