Reoliadau Cynlluniau Cymorthdaliadau a Grantiau Amaethyddol (Apelau) (Diwygio) (Cymru) 2025: memorandwm esboniadol a’r asesiad effaith rheoleiddiol
Memorandwm esboniadol a baratowyd gan y Grŵp Llywodraeth Leol, Tai, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Lluniwyd y Memorandwm Esboniadol hwn gan y Grŵp Llywodraeth Leol, Tai, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ac fe’i gosodir gerbron Senedd Cymru ar y cyd â’r is-ddeddfwriaeth uchod ac yn unol â Rheol Sefydlog 27.1.
Datganiad Ysgrifennydd y Cabinet
Yn fy marn i, mae'r Memorandwm Esboniadol hwn yn rhoi darlun teg a rhesymol o effaith ddisgwyliedig Rheoliadau Cynlluniau Cymorthdaliadau a Grantiau Amaethyddol (Apelau) (Diwygio) (Cymru. Rwy’n fodlon bod y manteision yn cyfiawnhau’r costau tebygol.
Huw Irranca-Davies AS
Y Dirprwy Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion
Gwledig
4 Tachwedd 2025
Rhan 1: memorandwm esboniadol
Disgrifiad
Mae'r rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynlluniau Cymorthdaliadau a Grantiau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) 2006 i ddiweddaru'r darpariaethau sy'n ymwneud â ffioedd apelau. Yn benodol, maent yn galluogi Gweinidogion Cymru i bennu'r ffi sy'n daladwy am apelau sy'n ymwneud â chynlluniau a sefydlwyd o dan Gyfraith a Gymathwyd.
Materion o ddiddordeb arbennig i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Dim
Cefndir deddfwriaethol
Gwneir y rheoliadau hyn o dan adrannau 16(1), 17(1), a 19(1) o Ddeddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023. Yn unol ag adran 50(6) o'r ddeddf, mae'r Rheoliadau drafft yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol a rhaid eu cymeradwyo drwy benderfyniad Senedd Cymru cyn iddynt ddod i rym.
Diben ac effaith fwriedig y ddeddfwriaeth
Diben y rheoliadau hyn yw:
- darparu hyblygrwydd i Weinidogion Cymru bennu ffioedd apêl ar gyfer cynlluniau o dan Gyfraith a Gymathwyd
- sicrhau bod prosesau apelio yn parhau i fod yn gymesur ac yn gynaliadwy
Mae'r diwygiad hwn yn cefnogi'r broses o weinyddu'n effeithiol gynlluniau cymorth amaethyddol ac yn sicrhau cysondeb â'r fframwaith deddfwriaethol ehangach a gyflwynwyd gan Ddeddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023.
Mae rheoliad 2 yn diwygio rheoliad 3(4)(b) o Reoliadau 2006 i ganiatáu i Weinidogion Cymru bennu ffioedd apêl ar gyfer cynlluniau sy'n gweithredu o dan ddeddfwriaeth y cyfeirir ati yn adran 16(2), 17(2) neu 19(2) o Ddeddf 2023.
Mae paragraffau newydd 3(5) a (6) wedi'u cynnwys er mwyn nodi y caiff Gweinidogion Cymru godi’r cyfryw ffioedd a bennir ganddynt ar gyfer apelau sy'n ymwneud â’r canlynol:
- Cynllun y Taliad Sylfaenol
- ariannu, rheoli a monitro'r Polisi Amaethyddol Cyffredin
- cymorth ar gyfer datblygu gwledig
Ychwanegir diffiniad o "cynlluniau o dan Ddeddf 2023" i egluro cwmpas y diwygiad.
Ymgynghoriad
Cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad cyhoeddus yn 2023 ar ddyfodol cymorth amaethyddol yng Nghymru. Roedd yr ymgynghoriad yn cynnig apelau am ddim, ond heb graffu annibynnol. Roedd y mwyafrif llethol o'r ymatebion o blaid parhau â'r broses bresennol. Felly, ailgyflwynwyd craffu annibynnol, ond cynigiwyd cynyddu'r ffi i dalu cost y craffu annibynnol (ffioedd panel). Ni ystyriwyd adennill y costau yn llawn.
Gwnaeth adborth o'r ymgynghoriad lywio dyluniad y rheoliadau hyn.
Asesiad Effaith Rheoleiddiol (RIA)
Rhan 1: penderfynu a oes angen RIA
Mae angen cynnal RIA ar gyfer yr is-ddeddfwriaeth hon yn unol â Chod RIA Gweinidogion Cymru o dan adran 76 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae'r newidiadau sy'n cael eu cynnig i Reoliadau Cynlluniau Cymorthdaliadau a Grantiau Amaethyddol (Apelau) (Diwygio) (Cymru) 2025 yn cyflwyno newidiadau i ffioedd apelio, sydd â goblygiadau ariannol ac o ran polisi. Felly, mae RIA llawn wedi'i gynnal.
Effeithiau eraill
Mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw dyledus i'w dyletswyddau statudol o dan GOWA 2006. Mae Asesiad Effaith Integredig (IIA) wedi'i gynnal ochr yn ochr â'r RIA hwn. Bydd adrannau 1 ac 8 o'r IIA yn cael eu cyhoeddi, yn ddwyieithog ar y rhyngrwyd. Mae'r IIA yn ystyried hawliau plant, cydraddoldeb ac effeithiau economaidd-gymdeithasol. Caiff rhagor o fanylion a dolenni i'r IIA llawn eu darparu ar ôl ei gyhoeddi.
Rhan 2: Asesiad Effaith Rheoleiddiol
Diben
Mae'r RIA hwn yn darparu gwybodaeth am y costau, y manteision a'r risgiau sy'n gysylltiedig â'r newidiadau sy'n cael eu cynnig i ffioedd apelio y Cynlluniau Cymhorthdal a Grantiau Amaethyddol. Mae'n helpu Gweinidogion i wneud penderfyniadau ac yn galluogi'r Senedd a rhanddeiliaid i graffu.
Yr opsiynau
Ystyriwyd pedwar opsiwn:
- status quo: cadw ffioedd cyfredol (£50 am wrandawiad ysgrifenedig, £100 am wrandawiad llafar). Yn ariannol anghynaladwy
- cynnydd rhannol: codi ffioedd i £100 (ysgrifenedig) a £200 (llafar). Yn lleihau'r cymhorthdal cyhoeddus ond nid yw'n ysgwyddo'r holl gostau craffu (Ffioedd Aelodau'r Panel Annibynnol)
- ffi ar sail craffu (a ffefrir): gosod ffioedd o £220 (ysgrifenedig) a £290 (ar lafar). Yn ysgwyddo'r costau craffu yn llawn (Ffioedd Aelodau'r Panel Annibynnol, dim costau eraill wedi'u cynnwys)
- adennill y costau'n llawn:ffioedd o ryw £500 fesul apêl. Gwrthod oherwydd pryderon ynghylch tegwch
Costau a manteision
Opsiwn 1 - Status Quo – Cadw'r ffioedd cyfredol (£50 yn ysgrifenedig, £100 ar lafar)
Costau
- yn ariannol anghynaliadwy i Lywodraeth Cymru
- nid yw'n talu am y costau craffu (e.e., ffioedd Aelodau'r Panel Annibynnol)
- parhau i ddibynnu ar gymhorthdal cyhoeddus ar gyfer gweinyddu apêl
Manteision
- y gost isaf i apelwyr
- gellir cyflwyno apelau, waeth beth fo'u tebygolrwydd o lwyddo
- yn hygyrch a theg
Opsiwn 2: cynnydd rhannol: codi ffioedd i £100 (ysgrifenedig) a £200 (llafar)
Costau
- lleihau ond nid yw'n dileu'n llwyr baich y cymhorthdal cyhoeddus
- nid yw'n talu am gostau craffu yn llawn
Manteision
- cynnydd cymedrol yn y refeniw o ffioedd apelio
- yn fwy cynaliadwy na'r status quo
- yn dal i fod yn gymharol fforddiadwy i apelwyr
Opsiwn 3: ffi ar sail craffu (a ffefrir): gosod ffioedd o £220 (ysgrifenedig) a £290 (llafar)
Costau
- rhag-gostau uwch i apelwyr
- cyfanswm y refeniw a ragwelir o ffioedd apelio: £21,840 (o'i gymharu â £6,600 o dan y ffioedd cyfredol) i dalu'r holl gostau craffu gan banel annibynnol (ffioedd aelodau'r panel)
Manteision
- yn talu am yr holl gostau craffu annibynnol (ffioedd aelodau'r panel)
- strwythur ffioedd tryloyw a theg
- ad-daliadau yn sicrhau tegwch i apelwyr llwyddiannus
- lleihau dibyniaeth ar gymhorthdal cyhoeddus (bydd dal cymhorthdal ar gyfer costau gweinyddol)
Opsiwn 4: adennill y costau llawn: ffioedd o ryw £500 fesul apêl
Costau
- baich ariannol sylweddol ar apelwyr
- risg i bobl beidio ag apelio oherwydd y gost uchel
Manteision
- adennill holl gostau'r apêl (craffu + gweinyddu)
- nid oes angen cymhorthdal cyhoeddus
Mae'r opsiwn a ffefrir (Opsiwn 3) yn sicrhau tegwch ac yn adennill costau. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i dalu'r costau gweinyddol.
Effaith Ragweledig y Ffi Apelio, ar sail rhagdybiaeth tebyg am debyg, gan ddefnyddio'r apelau a dderbyniwyd yn y cyfnod 2022-24:
- gwrandawiadau ysgrifenedig: 36 apêl → £7,920
- gwrandawiadau llafar 48 apêl → £13,920
- cyfanswm: £21,840 (o'i gymharu â'r ffi bresennol o £6,600) gan apelwyr i Lywodraeth Cymru
Effaith Ragweledig y Ffi Apelio ar ad-daliadau gan Lywodraeth Cymru i apelwyr yn ystod 2022–2024 ar gyfer 29 o apelau llwyddiannus/rhannol lwyddiannus:
- ar sail y dystiolaeth bresennol: £2,300
- ar sail y ffi a ragwelir: £7,570
Ymgynghori
Roedd yr adborth o'r ymgynghoriad cyhoeddus yn 2023 o blaid craffu annibynnol. Cafodd y cynigion cychwynnol ar gyfer apelau am ddim eu newid. Cafodd ffioedd presennol apelau annibynnol eu codi i adlewyrchu cost craffu annibynnol, ond gwrthodwyd y cynnig i adennill yr holl gostau oherwydd adborth rhanddeiliaid.
Asesiad Effaith Integredig (IIA)
Cynhaliwyd yr IIA ochr yn ochr â'r RIA hwn. Bydd adrannau 1 ac 8 o'r IIA yn cael eu cyhoeddi, yn ddwyieithog. Mae'r IIA yn asesu cydraddoldeb, hawliau plant, ac effeithiau economaidd-gymdeithasol. Bydd dolenni i asesiadau llawn yn cael eu darparu adeg eu cyhoeddi.
Cronfa Gyfunol Cymru (WCF)
Nid yw'r Rheoliad hwn yn cynnwys darpariaethau fydd yn arwain at wariant i Gronfa Gyfuno Cymru.
Crynodeb
Opsiwn 3 (ffi seiliedig ar graffu) sydd wedi'i ddewis. Mae'n adlewyrchu costau craffu gan banel annibynnol, yn cynnwys mecanwaith ad-dalu ac yn cynnal tegwch a thryloywder.
Asesu’r gystadleuaeth
Mae prawf hidlo'r gystadleuaeth wedi'i gwblhau; Ni ddisgwylir i'r ddeddfwriaeth arfaethedig effeithio'n andwyol ar gystadleuaeth yng Nghymru. Mae'r broses apelio yn effeithio yr un fath ar bob ymgeisydd cymwys.
Adolygu ar ôl gweithredu
Bydd y ddeddfwriaeth yn cael ei monitro bob blwyddyn ar gyfer nifer yr apelau, eu canlyniadau a'u had-daliadau. Bydd adolygiad mewnol yn cael ei gynnal o fewn tair blynedd i asesu effeithiolrwydd y strwythur ffioedd.
