Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Lluniwyd y Memorandwm Esboniadol hwn gan y Grŵp Llywodraeth Leol, Tai, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ac fe’i gosodir gerbron Senedd Cymru ar y cyd â’r is-ddeddfwriaeth uchod ac yn unol â Rheol Sefydlog 27.1.

Datganiad Ysgrifennydd y Cabinet

Yn fy marn i, mae'r Memorandwm Esboniadol hwn yn rhoi darlun teg a rhesymol o effaith ddisgwyliedig Rheoliadau Cynlluniau Cymorthdaliadau a Grantiau Amaethyddol (Apelau) (Diwygio) (Cymru. Rwy’n fodlon bod y manteision yn cyfiawnhau’r costau tebygol.

Huw Irranca-Davies AS
Y Dirprwy Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion
Gwledig

4 Tachwedd 2025

Rhan 1: memorandwm esboniadol

Disgrifiad

Mae'r rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynlluniau Cymorthdaliadau a Grantiau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) 2006 i ddiweddaru'r darpariaethau sy'n ymwneud â ffioedd apelau. Yn benodol, maent yn galluogi Gweinidogion Cymru i bennu'r ffi sy'n daladwy am apelau sy'n ymwneud â chynlluniau a sefydlwyd o dan Gyfraith a Gymathwyd.

Materion o ddiddordeb arbennig i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Dim

Cefndir deddfwriaethol

Gwneir y rheoliadau hyn o dan adrannau 16(1), 17(1), a 19(1) o Ddeddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023. Yn unol ag adran 50(6) o'r ddeddf, mae'r Rheoliadau drafft yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol a rhaid eu cymeradwyo drwy benderfyniad Senedd Cymru cyn iddynt ddod i rym.

Diben ac effaith fwriedig y ddeddfwriaeth

Diben y rheoliadau hyn yw:

  • darparu hyblygrwydd i Weinidogion Cymru bennu ffioedd apêl ar gyfer cynlluniau o dan Gyfraith a Gymathwyd
  • sicrhau bod prosesau apelio yn parhau i fod yn gymesur ac yn gynaliadwy

Mae'r diwygiad hwn yn cefnogi'r broses o weinyddu'n effeithiol gynlluniau cymorth amaethyddol ac yn sicrhau cysondeb â'r fframwaith deddfwriaethol ehangach a gyflwynwyd gan Ddeddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023.

Mae rheoliad 2 yn diwygio rheoliad 3(4)(b) o Reoliadau 2006 i ganiatáu i Weinidogion Cymru bennu ffioedd apêl ar gyfer cynlluniau sy'n gweithredu o dan ddeddfwriaeth y cyfeirir ati yn adran 16(2), 17(2) neu 19(2) o Ddeddf 2023.

Mae paragraffau newydd 3(5) a (6) wedi'u cynnwys er mwyn nodi y caiff Gweinidogion Cymru godi’r cyfryw ffioedd a bennir ganddynt ar gyfer apelau sy'n ymwneud â’r canlynol:

  • Cynllun y Taliad Sylfaenol
  • ariannu, rheoli a monitro'r Polisi Amaethyddol Cyffredin
  • cymorth ar gyfer datblygu gwledig

Ychwanegir diffiniad o "cynlluniau o dan Ddeddf 2023" i egluro cwmpas y diwygiad.

Ymgynghoriad

Cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad cyhoeddus yn 2023 ar ddyfodol cymorth amaethyddol yng Nghymru. Roedd yr ymgynghoriad yn cynnig apelau am ddim, ond heb graffu annibynnol. Roedd y mwyafrif llethol o'r ymatebion o blaid parhau â'r broses bresennol. Felly, ailgyflwynwyd craffu annibynnol, ond cynigiwyd cynyddu'r ffi i dalu cost y craffu annibynnol (ffioedd panel). Ni ystyriwyd adennill y costau yn llawn.

Gwnaeth adborth o'r ymgynghoriad lywio dyluniad y rheoliadau hyn.

Asesiad Effaith Rheoleiddiol (RIA)

Rhan 1: penderfynu a oes angen RIA

Mae angen cynnal RIA ar gyfer yr is-ddeddfwriaeth hon yn unol â Chod RIA Gweinidogion Cymru o dan adran 76 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae'r newidiadau sy'n cael eu cynnig i Reoliadau Cynlluniau Cymorthdaliadau a Grantiau Amaethyddol (Apelau) (Diwygio) (Cymru) 2025 yn cyflwyno newidiadau i ffioedd apelio, sydd â goblygiadau ariannol ac o ran polisi. Felly, mae RIA llawn wedi'i gynnal.

Effeithiau eraill

Mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw dyledus i'w dyletswyddau statudol o dan GOWA 2006. Mae Asesiad Effaith Integredig (IIA) wedi'i gynnal ochr yn ochr â'r RIA hwn. Bydd adrannau 1 ac 8 o'r IIA yn cael eu cyhoeddi, yn ddwyieithog ar y rhyngrwyd. Mae'r IIA yn ystyried hawliau plant, cydraddoldeb ac effeithiau economaidd-gymdeithasol. Caiff rhagor o fanylion a dolenni i'r IIA llawn eu darparu ar ôl ei gyhoeddi.

Rhan 2: Asesiad Effaith Rheoleiddiol 

Diben

Mae'r RIA hwn yn darparu gwybodaeth am y costau, y manteision a'r risgiau sy'n gysylltiedig â'r newidiadau sy'n cael eu cynnig i ffioedd apelio y Cynlluniau Cymhorthdal a Grantiau Amaethyddol. Mae'n helpu Gweinidogion i wneud penderfyniadau ac yn galluogi'r Senedd a rhanddeiliaid i graffu.

Yr opsiynau

Ystyriwyd pedwar opsiwn:

  1. status quo: cadw ffioedd cyfredol (£50 am wrandawiad ysgrifenedig, £100 am wrandawiad llafar). Yn ariannol anghynaladwy
  2. cynnydd rhannol: codi ffioedd i £100 (ysgrifenedig) a £200 (llafar). Yn lleihau'r cymhorthdal cyhoeddus ond nid yw'n ysgwyddo'r holl gostau craffu (Ffioedd Aelodau'r Panel Annibynnol)
  3. ffi ar sail craffu (a ffefrir): gosod ffioedd o £220 (ysgrifenedig) a £290 (ar lafar). Yn ysgwyddo'r costau craffu yn llawn (Ffioedd Aelodau'r Panel Annibynnol, dim costau eraill wedi'u cynnwys)
  4. adennill y costau'n llawn:ffioedd o ryw £500 fesul apêl. Gwrthod oherwydd pryderon ynghylch tegwch

Costau a manteision

Opsiwn 1 - Status Quo – Cadw'r ffioedd cyfredol (£50 yn ysgrifenedig, £100 ar lafar)
Costau
  • yn ariannol anghynaliadwy i Lywodraeth Cymru
  • nid yw'n talu am y costau craffu (e.e., ffioedd Aelodau'r Panel Annibynnol)
  • parhau i ddibynnu ar gymhorthdal cyhoeddus ar gyfer gweinyddu apêl
Manteision
  • y gost isaf i apelwyr
  • gellir cyflwyno apelau, waeth beth fo'u tebygolrwydd o lwyddo
  • yn hygyrch a theg
Opsiwn 2: cynnydd rhannol: codi ffioedd i £100 (ysgrifenedig) a £200 (llafar)
Costau
  • lleihau ond nid yw'n dileu'n llwyr baich y cymhorthdal cyhoeddus
  • nid yw'n talu am gostau craffu yn llawn
Manteision
  • cynnydd cymedrol yn y refeniw o ffioedd apelio
  • yn fwy cynaliadwy na'r status quo
  • yn dal i fod yn gymharol fforddiadwy i apelwyr
Opsiwn 3: ffi ar sail craffu (a ffefrir): gosod ffioedd o £220 (ysgrifenedig) a £290 (llafar)
Costau
  • rhag-gostau uwch i apelwyr
  • cyfanswm y refeniw a ragwelir o ffioedd apelio: £21,840 (o'i gymharu â £6,600 o dan y ffioedd cyfredol) i dalu'r holl gostau craffu gan banel annibynnol (ffioedd aelodau'r panel)
Manteision
  • yn talu am yr holl gostau craffu annibynnol (ffioedd aelodau'r panel)
  • strwythur ffioedd tryloyw a theg
  • ad-daliadau yn sicrhau tegwch i apelwyr llwyddiannus
  • lleihau dibyniaeth ar gymhorthdal cyhoeddus (bydd dal cymhorthdal ar gyfer costau gweinyddol)
Opsiwn 4: adennill y costau llawn: ffioedd o ryw £500 fesul apêl
Costau
  • baich ariannol sylweddol ar apelwyr
  • risg i bobl beidio ag apelio oherwydd y gost uchel
Manteision
  • adennill holl gostau'r apêl (craffu + gweinyddu)
  • nid oes angen cymhorthdal cyhoeddus

Mae'r opsiwn a ffefrir (Opsiwn 3) yn sicrhau tegwch ac yn adennill costau. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i dalu'r costau gweinyddol.

Effaith Ragweledig y Ffi Apelio, ar sail rhagdybiaeth tebyg am debyg, gan ddefnyddio'r apelau a dderbyniwyd yn y cyfnod 2022-24:

  • gwrandawiadau ysgrifenedig: 36 apêl → £7,920
  • gwrandawiadau llafar 48 apêl → £13,920
  • cyfanswm: £21,840 (o'i gymharu â'r ffi bresennol o £6,600) gan apelwyr i Lywodraeth Cymru

Effaith Ragweledig y Ffi Apelio ar ad-daliadau gan Lywodraeth Cymru i apelwyr yn ystod 2022–2024 ar gyfer 29 o apelau llwyddiannus/rhannol lwyddiannus:

  • ar sail y dystiolaeth bresennol: £2,300
  • ar sail y ffi a ragwelir: £7,570

Ymgynghori

Roedd yr adborth o'r ymgynghoriad cyhoeddus yn 2023 o blaid craffu annibynnol. Cafodd y cynigion cychwynnol ar gyfer apelau am ddim eu newid. Cafodd ffioedd presennol apelau annibynnol eu codi i adlewyrchu cost craffu annibynnol, ond gwrthodwyd y cynnig i adennill yr holl gostau oherwydd adborth rhanddeiliaid.

Asesiad Effaith Integredig (IIA)

Cynhaliwyd yr IIA ochr yn ochr â'r RIA hwn. Bydd adrannau 1 ac 8 o'r IIA yn cael eu cyhoeddi, yn ddwyieithog. Mae'r IIA yn asesu cydraddoldeb, hawliau plant, ac effeithiau economaidd-gymdeithasol. Bydd dolenni i asesiadau llawn yn cael eu darparu adeg eu cyhoeddi.

Cronfa Gyfunol Cymru (WCF)

Nid yw'r Rheoliad hwn yn cynnwys darpariaethau fydd yn arwain at wariant i Gronfa Gyfuno Cymru.

Crynodeb

Opsiwn 3 (ffi seiliedig ar graffu) sydd wedi'i ddewis. Mae'n adlewyrchu costau craffu gan banel annibynnol, yn cynnwys mecanwaith ad-dalu ac yn cynnal tegwch a thryloywder.

Asesu’r gystadleuaeth

Mae prawf hidlo'r gystadleuaeth wedi'i gwblhau; Ni ddisgwylir i'r ddeddfwriaeth arfaethedig effeithio'n andwyol ar gystadleuaeth yng Nghymru. Mae'r broses apelio yn effeithio yr un fath ar bob ymgeisydd cymwys.

Adolygu ar ôl gweithredu

Bydd y ddeddfwriaeth yn cael ei monitro bob blwyddyn ar gyfer nifer yr apelau, eu canlyniadau a'u had-daliadau. Bydd adolygiad mewnol yn cael ei gynnal o fewn tair blynedd i asesu effeithiolrwydd y strwythur ffioedd.