Mae'r fframwaith yn adrodd yn erbyn set o fesurau er mwyn cefnogi'r Strategaeth Tlodi Plant.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Mae Fframwaith Monitro Strategaeth Tlodi Plant 2025 yn darparu'r data cyhoeddedig diweddaraf ar ganlyniadau i blant a theuluoedd yng Nghymru. Mae'r canfyddiadau wedi'u trefnu ar draws pedwar parth: Safon Byw; Addysg, Sgiliau a Chyflogaeth; Llesiant; a Chymunedau Cynhwysol. Mae'r crynodeb isod yn darparu canfyddiad allweddol ar gyfer pob parth.
Y parth Safon Byw
- Yn y cyfnod diweddaraf, amcangyfrifwyd bod 31.2% o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi incwm cymharol ar ôl costau tai.
Y parth Addysg, Sgiliau a Chyflogaeth
- Mae'r blwch mewn cyrhaeddiad TGAU rhwng disgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a'r rhai nad ydynt yn gymwys i'w cael yn parhau i fod yn sylweddol. Yn 2024 i 2025, y gwahaniaeth mewn ennill graddau A* i C oedd 29.4 pwynt canran.
Y parth Llesiant
- Mae babanod sy'n cael eu geni mewn ardaloedd mwy difreintiedig yng Nghymru yn fwy tebygol o gael pwysau geni isel.
Y parth Cymunedau Cynhwysol
- Mae boddhad â mynediad at wasanaethau lleol ac ymdeimlad o berthyn i'r gymuned yn is ymhlith teuluoedd sy'n profi amddifadedd materol.
Adroddiadau
Fframwaith monitro y Strategaeth Tlodi Plant: 2025 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 645 KB
Cyswllt
Ymchwil Cyfiawnder Cymdeithasol
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn:
0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
