Neidio i'r prif gynnwy

Trafodaeth a dadansoddiad o nifer y bobl mewn aelwyd lle mae incwm yn llai na 60% o ganolrif y DU.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Mawrth 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Y cyhoeddiad diweddaraf

Beth yw tlodi incwm cymharol?

Mae person mewn tlodi incwm cymharol pan ei bod yn byw mewn cartref lle’r oedd cyfanswm incwm yr aelwyd o bob ffynhonnell yn llai na 60 y cant o incwm aelwyd gyfartalog y DU (fel y rhoddir gan y canolrif).

Mae hyn yn golygu bod tlodi incwm cymharol yn fesur o anghydraddoldeb incwm, nid mesur uniongyrchol o safonau byw.

Am fwy o wybodaeth ar ystyr tlodi incwm cymharol, gweler ein cyflwyniad 'Beth yw tlodi incwm cymharol?'.

Daw'r data sydd gennym ar gyfer tlodi incwm cymharol o'r adroddiad Cartrefi islaw'r incwm cyfartalog a gyhoeddwyd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP).

Y prif ffigur ar gyfer Cymru o'r adroddiad hwn yw canran yr holl unigolion yng Nghymru a oedd yn byw mewn tlodi incwm cymharol - mae hwn yn ddangosydd cenedlaethol sy'n golygu ei fod yn cael ei ddefnyddio i fesur cynnydd a wneir yng Nghymru tuag at gyflawni'r 7 nod llesiant.

Mae’r dangosydd hwn yn gysylltiedig â charreg filltir genedlaethol: lleihau’r bwlch tlodi rhwng pobl yng Nghymru sydd â nodweddion allweddol a gwarchodedig penodol (sy’n golygu mai nhw sydd fwyaf tebygol o fod mewn tlodi) a’r rheini heb y nodweddion hynny erbyn 2035. Ymrwymo i osod targed ymestynnol ar gyfer 2050.

Mae'r data hwn yn defnyddio incwm gwario cyfwerth yr aelwyd.

Mae'r data hwn ar gael o'r flwyddyn ariannol 1994-95, ar gyfer gwledydd y DU a rhanbarthau Lloegr gan wahanol grwpiau oedran (pob unigolyn, plant, oedolion oedran gweithio a phensiynwyr).

Rydym hefyd yn dangos dadansoddiad (StatsCymru) ychwanegol ar nodweddion economaidd, teuluol, ethnigrwydd ac anabledd.

Beth i gadw mewn cof wrth ddehongli'r ystadegau hyn

Effaith pandemig y coronafeirws (COVID-19)

Argymhellir na ddylid dadansoddi data Cartrefi Islaw’r Incwm Cyfartalog ar lefel islaw’r DU ar gyfer y flwyddyn yn diweddu yn 2021 gan fod y cyfuniad o samplau llai o faint a gogwydd ychwanegol yn golygu nad yw'n bosibl gwneud asesiadau ystadegol ystyrlon o dueddiadau a newidiadau yn y flwyddyn honno o gymharu â'r lefel cyn y coronafeirws.

Nid yw pwyntiau data sy'n rhychwantu cyfnod y flwyddyn yn diweddu yn 2021 yn cynnwys data arolwg y flwyddyn honno mewn cyfrifiadau, gan y bernir eu bod o ansawdd isel. Mae hyn yn golygu bod rhai newidiadau go iawn a ddigwyddodd i incwm, fel y cynllun ffyrlo neu’r cynnydd dros dro mewn Credyd Cynhwysol, ddim ond yn cael eu cofnodi yn rhannol yn y gyfres amser.

Effeithiwyd ar ddata a gasglwyd ar gyfer y flwyddyn yn diweddu yn 2022 hefyd gan bandemig y coronafeirws, ond wedi gwaith dadansoddi helaeth mae Adran Gwaith a Phensiynau’r DU yn fodlon bod lefelau’r gogwydd yn y data sy'n deillio o'r newid modd yn is nag ar gyfer y flwyddyn yn diweddu yn 2021 ac yn cael llai o ddylanwad ar yr ystadegau. Rydym o'r farn bod ansawdd data’r flwyddyn yn diweddu yn 2022  yn gadarn, fodd bynnag cynghorir defnyddio pwyll wrth wneud cymariaethau â blynyddoedd blaenorol a dehongli newidiadau mwy.

Er nad oedd trefniadau gwaith maes FRS yn union yr un fath â chyn y pandemig yn FYE 2023, dychwelwyd yn raddol trwy gydol y flwyddyn at drefniadau llawer tebycach i hynny na chyfnod pandemig y coronafeirws (COVID-19), pan ddefnyddiwyd cyfweliadau dros y ffôn yn unig. Ailddechreuwyd cynnal cyfweliadau'r FRS wyneb yn wyneb yn ddiofyn yn ystod FYE 2023, gyda'r ffôn yn cael ei ddefnyddio fel dewis amgen gan 28% o aelwydydd y sampl (ledled y DU).

Sampl fach

Mae'r ffigurau hyn yn seiliedig ar ganlyniadau o’r Arolwg o Adnoddau Teulu (FRS) â sampl o tua 900 o aelwydydd yng Nghymru. Mae hwn yn sampl eithaf bach, a dyna pam mae tair blynedd neu fwy o ddata wedi’u cyfuno gyda'i gilydd i roi cyfartaleddau symudol aml-flwyddyn. Er enghraifft, mae cyfartaledd tair-blynedd yn gyfartaledd y flwyddyn ddiweddaraf a'r ddwy flynedd flaenorol. Mae hyn yn gostwng (ond nid yn dileu) yr ansefydlogrwydd a geir mewn amcangyfrifon sy’n seiliedig ar un flwyddyn yn unig.

Mae llawer o ffactorau yn gallu sbarduno newid

Mae symudiadau yn y ffigurau hyn yn cael ei yrru gan newidiadau yn yr economi ehangach, y farchnad lafur, y system dreth a budd-daliadau, ac effeithiau cymharol y newidiadau hyn ar wahanol grwpiau. Felly, gan fod nifer fawr o ffactorau cymhleth a rhyngweithiol, mae'n anodd asesu yn union pa rai o’r newidiadau sydd wedi sbarduno symudiadau yn y ffigurau hyn, neu i ragweld sut y gallai pethau newid yn y dyfodol.  

Costau byw gwahanol

Mae'r defnydd o ganolrif y DU yn y mesur tlodi incwm cymharol yn caniatáu inni i gymharu Cymru â rhanbarthau tebyg eraill yn y DU. Fodd bynnag, gan fod costau byw yng Nghymru yn tueddu i fod yn is nac ydynt mewn ardaloedd eraill y DU, efallai bod y ffigurau ar gyfer Cymru yn awgrymu bod safon byw yng Nghymru yn is nag yw mewn gwirionedd.

Nid oes arwyddocâd ystadegol

Nid oes yr un o'r newidiadau dros amser yn y prif ffigurau tlodi incwm cymharol yn ystadegol arwyddocaol. Rydym yn eich cynghori i fod yn ofalus wrth edrych ar newidiadau o flwyddyn i flwyddyn, gan fod tueddiadau hirdymor yn aml yn rhoi darlun cliriach.

Hefyd, wrth gymharu amcangyfrifon o dlodi incwm cymharol wahanol grwpiau o bobl, cadwch mewn cof y cyfyngau hyder eang tebygol oherwydd meintiau isel y samplau. Rydym yn gweithio ar fethodoleg i’n galluogi i amcangyfrif y cyfyngau hyder hyn yn y dyfodol.

Talgrynnu data

Mae’r holl ffigurau a ddangosir wedi’u talgrynnu i’r 10 mil agosaf o unigolion neu bwynt canran cyflawn.

Methodoleg