Amddifadedd materol ac incwm isel
Data ar blant mewn amddifadedd materol ac incwm isel a phensiynwyr mewn amddifadedd materol yng Nghymru, yn seiliedig ar gyfres data Cartrefi Islaw'r Incwm Cyfartalog.
Cynnwys
Y cyhoeddiad diweddaraf
Sut y mesurir tlodi materol?
Ar gyfer plant, mesurir tlodi materol trwy ofyn ymatebwyr i'r arolwg os oes ganddynt fynediad i 21 o nwyddau a gwasanaethau. Os na allant fforddio eitem benodol maent yn cael sgôr, gydag eitemau mwy cyffredin (sy'n eiddo i fwy o bobl) yn rhoi sgôr pwysedig uwch.
Ystyrir bod plentyn mewn tlodi materol ac incwm isel os ydynt yn byw mewn teulu sydd â chyfanswm sgôr o 25 neu fwy allan o 100, ac incwm cyfwerth aelwyd islaw 70% o gyfartaledd (canolrif) y DU cyn talu costau tai.
Gofynnir ymatebwyr sy'n bensiynwyr oed 65 neu'n hŷn a oes ganddynt fynediad at restr o 15 o nwyddau a gwasanaethau. Os nad oes ganddynt eitem benodol (oherwydd cost, iechyd neu argaeledd) maent yn cael sgôr, gydag eitemau mwy cyffredin (sy'n eiddo i fwy o bobl) yn rhoi sgôr pwysedig uwch. Ystyrir bod bensiynwr mewn tlodi materol os ydynt yn byw mewn teulu sydd â sgôr terfynol o 20 neu fwy allan o 100.
Beth y dylai ei gadw mewn cof am dlodi materol?
Data cyfnewidiol
Ar gyfer dadansoddiadau rhanbarthol mae’r ffigurau tlodi materol yn gyfartaleddau 3 blynedd, ond, er hynny, gall y data fod yn gyfnewidiol, o ganlyniad i faint samplau bychain. Mae hyn yn arbennig o wir ar lefel is-grwpiau megis y rheiny sydd mewn tlodi materol.
Gwahanol fesurau
Yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) sy’n cyfrifo’r mesur tlodi materol sydd o fewn y datganiad hwn, gan ddefnyddio’r arolwg adnoddau teulu (FRS). Mae'n cyfeirio at anallu hunan-gofnodedig o unigolion neu gartrefi i fforddio nwyddau a gweithgareddau penodol sy'n nodweddiadol mewn cymdeithas ar adeg benodol mewn amser, ni waeth a byddent yn dewis cael yr eitemau hyn, hyd yn oed os gallent eu fforddio.
Gofynnir ymatebwyr a oes ganddynt 21 o nwyddau a gwasanaethau penodol, gan gynnwys eitemau plentyn, oedolyn ac aelwyd. Os nad oes ganddynt y nwydd neu wasanaeth, gofynnir a yw hyn oherwydd nad ydynt eu heisiau neu oherwydd na allant eu fforddio.
Yna, cyfunir gwybodaeth am blant sydd mewn tlodi materol gyda gwybodaeth am incwm yr aelwyd (cyn costau tai), i adrodd ffigurau ar blant mewn tlodi materol ac aelwyd incwm isel.
Adroddwyd ffigurau ar gyfer pensiynwyr mewn amddifadedd materol ond ni chyfunir y rhain â gwybodaeth ar yr incwm yr aelwyd. Y ffynhonnell arall o wybodaeth ar amddifadedd materol yng Nghymru yw’r Arolwg Cenedlaethol Cymru.
Mae'r Mesur Arolwg Cenedlaethol yn defnyddio llawer o'r cwestiynau a ddefnyddir yn yr FRS, ond nid yw gwybodaeth am amddifadedd materol yn cael ei gyfuno gyda gwybodaeth ar incwm ar gyfer unrhyw un o'r grwpiau oedran.
Adroddodd yr Arolwg Cenedlaethol ffigurau ar gyfer oedolion, rhieni a phensiynwyr mewn amddifadedd materol yng Nghymru.
Yr unig ffigurau cymharol o’r ddwy ffynhonnell yw’r rhai ar gyfer pensiynwyr mewn amddifadedd materol yng Nghymru. Rhesymau posibl dros y gwahaniaeth rhwng ffigurau’r Arolwg Cenedlaethol a’r FRS ar gyfer pensiynwyr yw:
- Gofynnir pensiynwyr yn yr Arolwg Cenedlaethol am 15 o nwyddau neu wasanaethau, tra gofynnir pensiynwyr yn yr FRS am 21 o nwyddau a gwasanaethau
- Mae’r ffigurau yn cyfeirio at gyfnodau amser ychydig yn wahanol – mae'r ffigurau FRS yn gyfartaledd tair blynedd o 2013-14 i 2015-16 tra bo'r ffigurau Arolwg Cenedlaethol ar gyfer 2016-17
- Gwahaniaethau yn y sampl o bensiynwyr a ddewiswyd ar gyfer y ddau arolwg.
- Mae gan y ddau arolwg ffocws gwahanol o ran eu cynnwys. Mae’r Arolwg Cenedlaethol yn gofyn am amrywiaeth o bynciau gwahanol megis barn pobl ar wasanaethau amrywiol, eu hiechyd a lles a’u gweithgareddau, tra bod y FRS yn arolwg sy'n canolbwyntio ar incwm a beth mae pobl yn gallu eu fforddio.