Neidio i'r prif gynnwy

Ar gyfer y cyfnod a ddaeth i ben ar Mawrth 2023, data ar blant a phensiynwyr mewn amddifadedd materol ac incwm isel yng Nghymru.

Mae amddifadedd materol yn fesur o safonau byw. Rydym yn diffinio person fel bod mewn amddifadedd materol os ydynt heb fynediad i nifer penodol o nwyddau a gwasanaethau.

Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn defnyddio'r Arolwg Adnoddau Teuluol i gyhoeddi ystadegau am blant, pobl o oedran gweithio a phensiynwyr mewn amddifadedd materol yn eu hadroddiad Cartrefi Islaw’r Incwm Cyfartalog (HBAI) (DWP), wedi'u dangos ar gyfer gwledydd a rhanbarthau'r DU yn Lloegr.

Prif ganfyddiadau

Roedd 11% o blant sy'n byw yng Nghymru mewn amddifadedd materol a chartref incwm isel rhwng y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben (FYE) 2021 a FYE 2023. Cartrefi incwm isel yw’r rhai gyda chyfanswm incwm aelwyd islaw 70% o incwm aelwyd gyfartalog y DU - cyn tynnu costau tai. Y gyfradd gyfatebol ar gyfer Lloegr yw 12% tra bod yr Alban yn 10% ac ar gyfer Gogledd Iwerddon 8%.

Roedd 11% o'r oedolion o oedran gweithio a oedd yn byw yng Nghymru rhwng FYE 2021 a FYE 2023 mewn amddifadedd materol a chartrefi incwm isel. Dyma'r un gyfradd â'r gyfradd ar gyfer yr Alban. Mae'r cyfraddau cyfatebol yn is ar gyfer Lloegr (9%) ac ar gyfer Gogledd Iwerddon (7%).

Roedd 8% o bensiynwyr sy'n byw yng Nghymru mewn amddifadedd materol rhwng FYE 2021 a FYE 2023 (ni ystyrir incwm i bensiynwyr). Mae'r cyfraddau cyfatebol yn is ar 7% ar gyfer Lloegr, 4% ar gyfer Gogledd Iwerddon, a 6% ar gyfer yr Alban.

Gwybodaeth am yr ansawdd

Er nad oedd trefniadau gwaith maes FRS yn union yr un fath â chyn y pandemig yn FYE 2023, dychwelwyd yn raddol trwy gydol y flwyddyn at drefniadau llawer tebycach i hynny na chyfnod pandemig y coronafeirws (COVID-19), pan ddefnyddiwyd cyfweliadau dros y ffôn yn unig. Ailddechreuwyd cynnal cyfweliadau'r FRS wyneb yn wyneb yn ddiofyn yn ystod FYE 2023, gyda'r ffôn yn cael ei ddefnyddio fel dewis amgen gan 28% o aelwydydd y sampl (ledled y DU).

Gan fod mwy o hyder yn nata FYE 2022, y llynedd ailddechreuodd yr Adran Gwaith a Phensiynau a Llywodraeth Cymru gyhoeddi data islaw lefel y DU. Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau wedi gwella hyder yn ansawdd data y sampl eleni (FYE 2023), a oedd yn fwy cynrychioliadol nag yn ystod y pandemig, gyda phroffil yr ymatebwyr yn agosach at y rhai a ymatebodd i'r arolwg cyn FYE 2021.

Fel y llynedd, mae'r pwyntiau data newydd sy'n cael eu cyhoeddi yn rhychwantu cyfnod FYE 2021 ond nid ydynt yn cynnwys data arolwg FYE 2021 mewn cyfrifiadau, gan y bernir eu bod o ansawdd isel. Mae hyn yn golygu bod amcangyfrifon a gyfrifwyd gynt fel cyfartaleddau treigl 3 i 5 mlynedd yn seiliedig ar gyfartaleddau treigl 2 i 4 blynedd sy'n hepgor data arolwg FYE 2021.

Ar gyfer FYE 2023, ni effeithiwyd y pandemig ar ymatebion yr arolwg am fynediad at gyfleoedd neu wasanaethau cymdeithasol (megis mynd ar wyliau neu gael torri gwallt) a ofynnwyd fel rhan o sefydlu lefel yr amddifadedd materol. Mae hyn yn wahanol i FYE 2022 lle arhosodd y cyfyngiadau Covid-19 mewn grym trwy gydol chwarter cyntaf blwyddyn yr arolwg, cyn cael eu dileu'n raddol.

Gan fod ffigurau yn seiliedig ar gyfartaleddau treigl 3 blynedd, golyga hyn, ar gyfer FYE 2023, nid oes modd cymharu amcangyfrifon o amddifadedd materol yn llwyr â'r cyfnod cyn y pandemig. Mae rhagor o wybodaeth am ansawdd data FYE 2022 ac FYE 2023 ar gael adroddiad technegol yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Plant, pobl o oedran gweithio a phensiynwyr mewn amddifadedd materol, cyn costau tai, Cymru, cyfartaledd dros dair blwyddyn ariannol, flwyddyn ariannol a ddaeth i ben (FYE) 2007 i FYE 2023 , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 10 KB

ODS
10 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Nia Jones

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.