Neidio i'r prif gynnwy

Ar gyfer y cyfnod a ddaeth i ben ar Mawrth 2020, data ar blant a phensiynwyr mewn amddifadedd materol ac incwm isel yng Nghymru.

Dyma Ystadegau Gwladol diweddaraf Cymru. Gweler ein herthygl Mesurau Tlodi: Ebrill 2020 i Fawrth 2021 ynghylch pam rydym yn cynghori yn erbyn defnyddio set ddata 2020-21 ar gyfer Cymru.

Mae tlodi materol yn fesur o safonau byw. Rydym yn diffinio person fel bod mewn tlodi materol os ydynt heb fynediad i nifer penodol o nwyddau a gwasanaethau.

Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn defnyddio'r Arolwg Adnoddau Teuluol i gyhoeddi ystadegau am blant a phensiynwyr mewn tlodi materol yn eu hadroddiad HBAI, wedi'u dangos ar gyfer gwledydd a rhanbarthau'r DU yn Lloegr.

Prif ganfyddiadau

Roedd 14% o blant sy'n byw yng Nghymru mewn tlodi materol a chartref incwm isel rhwng 2017-18 a 2019-20. Cartrefi incwm isel yw’r rhai gyda chyfanswm incwm aelwyd islaw 70% o incwm aelwyd gyfartalog y DU - cyn tynnu costau tai. Mae hyn ychydig yn uwch na’r 11% a adroddwyd y llynedd. Y gyfradd gyfatebol yw 12% ar gyfer Lloegr, 11% ar gyfer yr Alban a 7% ar gyfer Gogledd Iwerddon. Mae hwn yn gynnydd o 3 phwynt canran o'r hyn a adroddwyd y llynedd. Fodd bynnag, byddwch yn ofalus wrth gymharu data dros amser gan y gall tueddiadau fod yn gyfnewidiol oherwydd meintiau sampl bach i Gymru.

Roedd 7% o bensiynwyr sy'n byw yng Nghymru mewn tlodi materol rhwng 2017-18 a 2019-20 (ni ystyrir incwm i bensiynwyr). Mae hyn ychydig yn is na'r 8% a adroddwyd y llynedd.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Plant a phensiynwyr mewn amddifadedd materol dros amser, 2004-05 i 2019-20 , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 8 KB

ODS
8 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.