Ar gyfer y cyfnod a ddaeth i ben ar Mawrth 2019, data ar blant a phensiynwyr mewn amddifadedd materol ac incwm isel yng Nghymru.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Amddifadedd materol ac incwm isel
Mae tlodi materol yn fesur o safonau byw. Rydym yn diffinio person fel bod mewn tlodi materol os ydynt heb fynediad i nifer penodol o nwyddau a gwasanaethau.
Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn defnyddio'r Arolwg Adnoddau Teuluol i gyhoeddi ystadegau am blant a phensiynwyr mewn tlodi materol yn eu hadroddiad HBAI, wedi'u dangos ar gyfer gwledydd a rhanbarthau'r DU yn Lloegr.
Mae data o DWP yn dangos:
- roedd 11% o blant sy'n byw yng Nghymru mewn tlodi materol a chartrefi incwm isel rhwng 2016-17 a 2018-19. Cartrefi incwm isel yw’r rhai gyda chyfanswm incwm aelwyd islaw 70% o incwm aelwyd gyfartalog y DU - cyn tynnu costau tai. Mae hyn i lawr o'r 12% a adroddwyd y llynedd.
- roedd 8% o bensiynwyr sy'n byw yng Nghymru mewn tlodi materol rhwng 2016-17 a 2018-19 (ni ystyrir incwm i bensiynwyr). Mae hyn ychydig yn is na’r 9% a adroddwyd y llynedd.
Adroddiadau
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Plant a phensiynwyr mewn amddifadedd materol dros amser, 2004-05 i 2018-19: tablau , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 10 KB
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.