Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Tachwedd 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwy'n cyhoeddi mesurau pellach i roi cymorth i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a gwella gofal a phrofiadau cleifion. Mae hyn yn rhan o'r ymyrraeth barhaus o dan y lefel 5 y mesurau arbennig.

Er gwaethaf rhai arwyddion o welliant ers i'r bwrdd iechyd gael ei uwchgyfeirio i fesurau arbennig ym mis Chwefror 2023, mae wedi wynebu heriau sylweddol a pharhaus o ran darparu gofal diogel, amserol ac effeithiol, yn enwedig yn achos gofal wedi'i gynllunio, gwasanaethau canser a gwasanaethau brys ac argyfwng.

Yn yr adroddiad cynnydd ar y mesurau arbennig, a gyhoeddwyd ar 24 Hydref 2025, y prif bwyntiau oedd bod cynnydd wedi'i wneud o ran cryfhau llywodraethiant ac arweinyddiaeth, ond bod materion perfformiad yn bodoli o hyd sy'n parhau i beri risgiau i ddiogelwch cleifion a hyder y cyhoedd. Mae pobl yn aros am gyfnodau annerbyniol o hir am ofal wedi'i gynllunio a gofal mewn argyfwng.

Mae'r bwrdd iechyd wedi ystyried yr adroddiad hwnnw ac mae bellach wedi gofyn am gymorth ychwanegol i gyflymu gwelliant.

Er mwyn ymateb i hynny, byddaf yn darparu capasiti ac arbenigedd ychwanegol ar lefel uchel o fewn y bwrdd iechyd, gyda chymorth ychwanegol gan Perfformiad a Gwella’r GIG. Bydd y tîm o arbenigwyr yn cynnwys cyfarwyddwr gwella a benodir i weithio gyda chymorth arweinwyr gweithredol profiadol. Byddant yn gweithio ochr yn ochr â phrif weithredwr a bwrdd y Bwrdd Iechyd i fwrw ymlaen â gwelliannau cyflym mewn meysydd gwasanaeth allweddol. Nid disodli'r arweinyddiaeth weithredol yw'r bwriad, ond ei chefnogi.

Bydd gwaith y tîm yn canolbwyntio ar y canlynol:

  • Lleihau oedi wrth drosglwyddo cleifion o ambiwlansys, a gwella'r llif
  • Lleihau’r amseroedd aros ar gyfer triniaeth wedi’i chynllunio a phrofion diagnostig
  • Gwella’r amseroedd aros ar gyfer diagnosis a thriniaeth canser
  • Cryfhau llywodraethiant, sicrwydd a gallu arweinyddol ymhellach.

Bydd y cymorth ychwanegol ar waith am chwe mis i ddechrau, ac yna bydd yn cael ei werthuso. Bydd y tîm yn gweithredu o dan gylch gorchwyl a threfniadau atebolrwydd clir. 

Bydd yr ymyrraeth yn cael ei rhoi ar waith mewn partneriaeth â thimau Perfformiad a Gwella'r GIG sydd gyda’r bwrdd iechyd ar hyn o bryd, gan sicrhau tryloywder a chysondeb â blaenoriaethau Gweinidogol. Byddaf yn awyddus i gael gwybod beth yn rhagor y gellir ei wneud i gyflymu’r broses o weithredu argymhellion y Grŵp Cynghori Gweinidogol ar Berfformiad a Chynhyrchiant a chyflawni'r camau galluogi gorfodol a nodais yn Fframwaith Cynllunio 2025-2028.

Bydd adroddiadau cynnydd rheolaidd yn cael eu darparu, gan gynnwys canlyniadau.

Mae'r penderfyniad hwn yn adlewyrchu ein hymrwymiad i'r Ddyletswydd Ansawdd o dan Ddeddf y GIG (Cymru) 2006 a'n nod clir i wella gwasanaethau'r GIG i bobl y Gogledd. 

Mae'n gam angenrheidiol i fynd i'r afael â heriau perfformiad hirsefydlog ac i sicrhau bod pobl yn cael y gofal y maen nhw'n ei haeddu.