Nifer y bobl a gadwyd o dan Adran 135 ac 136 o’r Ddeddf Iechyd Meddwl: Gorffennaf i Fedi 2025
Data ynglŷn â nifer y bobl a gadwyd o dan Adran 135 ac 136 yng Nghymru yn ôl oedran, rhyw, ethnigrwydd, man diogel a chanlyniad yr asesiad ar gyfer Gorffennaf i Fedi 2025.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Y Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 yw'r gyfraith yng Nghymru a Lloegr sy'n caniatáu i bobl gael eu derbyn i'r ysbyty, gyda neu heb eu cydsyniad, ar gyfer asesu a thrin anhwylder meddyliol.
Mae'r ystadegau hyn yn cyfrannu at ddealltwriaeth o'r defnydd o Adrannau 135 a 136 o'r Ddeddf iechyd meddwl ledled Cymru a gwaith amlasiantaeth i ymateb i ofal mewn argyfwng iechyd meddwl.
Prif bwyntiau
Yn ystod y chwarter a daeth i ben ym Medi 2025
Cafwyd 26 achos o gadw pobl o dan Adran 135 ac 572 achos o gadw pobl o dan Adran 136 yng Nghymru.
Dynion oedd y gyfran uchaf o’r holl rai a gafodd eu cadw (50.2%).
Roedd 95.2% o bob achos yn 18 oed neu'n hŷn.
Roedd 94.6% o'r bobl a gadwyd yn perthyn i’r grŵp ethnig Gwyn.
Lleoliad iechyd diogel oedd y man diogel cyntaf yr aethpwyd â 59.7% o'r bobl a gadwyd iddo, a cherbyd heddlu oedd y dull cludo mwyaf tebygol.
Ar ôl cael eu hasesu, cafodd 43.5% o'r bobl a gadwyd eu rhyddhau gyda chynllun gofal iechyd meddwl yn y gymuned.
Manylion cyswllt
Ystadegau Perfformiad GIG Cymru
E-bost: hss.performance@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099
