Adroddiad terfynol sy'n crynhoi'r canlyniadau i unigolion a chymunedau o ganlyniad i'r rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur a'r rheswm dros y canlyniadau hyn.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Gwerthusiad o Raglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur
Canlyniadau'r rhaglen: agweddau ac ymddygiadau
Fe wnaeth gwaith maes dynnu sylw at sut roedd cymryd rhan yn y rhaglen yn atgyfnerthu neu'n cryfhau agweddau cadarnhaol presennol tuag at natur i raddau helaeth.
Roedd y rhai a gymerodd ran eisoes yn ymgysylltu â mannau gwyrdd cyn iddynt gymryd rhan yn y rhaglen. O ganlyniad, nid oedd fawr o newid yn lefelau ymgysylltu'r rhai a gymerodd ran. Fodd bynnag, adroddwyd am gynnydd mewn ymddygiadau ecogyfeillgar cyffredinol o ganlyniad i ymwneud â'r rhaglen.
Canlyniadau'r rhaglen: manteision personol
Adroddwyd am ystod o fuddion personol o ganlyniad i ymwneud â'r rhaglen. Ymhlith y manteision a adroddwyd yr oedd llesiant gwell, meithrin gwybodaeth neu sgiliau, cwrdd â phobl newydd ac iechyd corfforol gwell.
Canlyniadau'r rhaglen: pobl sydd â mynediad cyfyngedig at fyd natur
Nododd y rhai a gymerodd ran mewn prosiectau wedi'u hanelu at y rhai sydd â mynediad cyfyngedig i natur eu bod yn teimlo'n gysylltiedig ag eraill a bod eu hiechyd wedi gwella.
Dulliau: sut a pham y cyflawnodd prosiectau ganlyniadau
Tynnodd y gwerthusiad sylw at y dulliau canlynol a oedd yn sail i'r canlyniadau a nodwyd:
- roedd alinio nodau'r prosiect â chymhelliant i gymryd rhan yn fwy tebygol o arwain at bobl yn cymryd rhan yn y prosiect
- deall pwy y mae'r prosiectau yn eu targedu a theilwra dulliau ymgysylltu yn unol â hynny
- cynnig hyblygrwydd i grwpiau a sefydliadau gyflawni prosiectau mewn ffyrdd sy'n cefnogi anghenion lleol
- cyfuno gweithgarwch ymarferol â chyfleoedd dysgu i annog rhagor o gyfrifoldeb ymhlith gwirfoddolwyr
- defnyddio gwybodaeth a phrofiad presennol grwpiau cymunedol a chefnogi'r rhai sy'n cyflawni prosiectau i feithrin capasiti
- sicrhau bod gweithgarwch ar y safle yn cael ei gynnal i sicrhau canlyniadau a gyflawnwyd
Adroddiadau
Adroddiad terfynol , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 845 KB
Crynodeb , HTML
Cyswllt
Tîm Ymchwil Hinsawdd a'r Amgylchedd
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn:
0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
