Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) 2025 adroddiad canlyniadau - Canlyniadau maes yr amgylchedd ffisegol
Diben MALlC yw nodi’r ardaloedd bach yng Nghymru sydd fwyaf difreintiedig.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Diben y maes hwn yw mesur ffactorau yn yr ardal leol a all effeithio ar lesiant neu ansawdd bywyd y rhai sy’n byw mewn ardal. Mae gan y maes bwysoliad cymharol o 5% yn y mynegai cyffredinol.
Dangosyddion
Ffigur 9.1: dangosyddion maes yr amgylchedd ffisegol, MALlC 2025
Disgrifiad o Ffigur 9.1: diagram sy’n dangos bod maes yr amgylchedd ffisegol yn cynnwys 7 dangosydd. Mae’r dangosyddion wedi’u grwpio’n 4 is-faes ac maent wedi’u pwysoli’n gyfartal ynddynt. Y ganran a ddangosir nesaf at bob is-faes yw’r swm y mae’n ei gyfrannu at y maes cyffredinol.
Dangosyddion sy’n cofnodi ansawdd aer (35%)
Mae’r is-faes ansawdd aer yn cynnwys 3 dangosydd sydd â’r un pwysoliad sy’n mesur y gwerthoedd crynodiad cyfartalog wedi’u pwysoli yn ôl y boblogaeth ar gyfer y llygryddion allweddol Nitrogen deuocsid (NO2), gronynnau llai na 10 micrometr μm (PM10) a gronynnau llai na 2.5 micrometr μm (PM2.5) yn y drefn honno.
Dangosydd o berygl llifogydd (35%)
Mae sgôr yr is-faes perygl llifogydd yn seiliedig ar gyfran yr aelwydydd sy’n wynebu perygl llifogydd o afonydd, y môr neu lifogydd dŵr wyneb, ond nid yw'n cyfrif am amddiffynfeydd rhag llifogydd.
Dangosyddion sy’n cofnodi mynediad a maint y man gwyrdd (15%)
Mae’r is-faes mannau gwyrdd yn cynnwys 2 ddangosydd sydd â’r un pwysoliad:
- y dangosydd agosrwydd at fan gwyrdd naturiol hygyrch sy’n mesur cyfran yr aelwydydd ym mhob ardal sydd o fewn 300 metr (taith gerdded o tua 5 munud) i fan gwyrdd naturiol hygyrch
- y sgôr ar gyfer mannau gwyrdd amgylchol sy’n mesur pa mor wyrdd yw ardal gan ddefnyddio sgôr Mynegai Llystyfiant â Gwahaniaeth wedi’i Normaleiddio cymedrig cartrefi (NDVI) o fewn clustogfa o 300 metr o amgylch pob annedd breswyl
Dangosydd sy’n cofnodi amlygiad i lygredd sŵn (15%)
Mae sgôr yr is-faes llygredd sŵn yn seiliedig ar gyfran y boblogaeth sy’n cael ei hamlygu i lygredd sŵn o ffyrdd a rheilffyrdd sy’n fwy na 55 desibel neu’n hafal i hynny.
Mae manylion llawn am y dangosydd a’r ffordd y lluniwyd y maes ar gael yn adroddiad technegol MALlC 2025.
Prif bwyntiau
Ffigur 9.2: map o ACEHIau wedi’u lliwio yn ôl grŵp amddifadedd amgylchedd ffisegol, MALlC 2025
© Hawlfraint y Goron 2025. Cartograffeg. Llywodraeth Cymru.
Disgrifiad o ffigur 9.2: mae’r map yn dangos ym maes yr amgylchedd ffisegol MALlC 2025, fod clystyrau o amddifadedd mawr o ran yr amgylchedd ffisegol yn ninasoedd mawr de-ddwyrain Cymru ac o’u hamgylch ac, i raddau llai, yn y gogledd-ddwyrain ac yng nghymoedd y de. Gwelwyd hefyd rai ardaloedd unigol o amddifadedd mawr o ran yr amgylchedd ffisegol ledled y gorllewin.
- Ar gyfer maes yr amgylchedd ffisegol, yr ardal fwyaf difreintiedig yng Nghymru oedd Cathays 12, Caerdydd (yn ardal Ganol Caerdydd a Pharc Caerdydd), roedd yn safle 13 ymhlith yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yn 2019.
- Roedd 3 o’r 10 ardal fwyaf difreintiedig o MALlC 2025 yn dal i fod ymhlith y 10 ardal fwyaf difreintiedig ym MALlC 2019.
- Mae 8 o’r 10 ardal fwyaf difreintiedig yng Nghaerdydd, mae’r 2 arall yng Nghasnewydd a Chastell-nedd Port Talbot; mae pob un o’r 10 ardal yn ardaloedd trefol.
- Caerdydd (39%) oedd yr awdurdod lleol â’r gyfran uchaf o ardaloedd yn y 10% o ardaloedd mwyaf difreintiedig, yna Gasnewydd (28%) a Chastell-nedd Port Talbot (21%).
- Nid oedd unrhyw ACEHIau yn y 10% o ardaloedd mwyaf difreintiedig yn Ynys Môn, Wrecsam na Sir Benfro.
Bu rhai newidiadau ym mhatrymau amddifadedd o ran yr amgylchedd ffisegol a welwyd ym MALlC 2025 o gymharu â’r rhai a welwyd ym MALlC 2019. Mae hyn i’w ddisgwyl o ystyried bod dangosydd newydd ynglŷn â llygredd sŵn wedi cael ei gynnwys a bod methodoleg y dangosydd ar gyfer mannau gwyrdd amgylchol wedi newid.
Gellir lawrlwytho’r set lawn o safleoedd meysydd MALlC 2025 a’r dangosyddion sylfaenol o dudalennau gwe StatsCymru.
Cymhariaeth rhwng MALlC 2019 a MALlC 2025
Bu sawl newid methodolegol i'r maes amgylchedd ffisegol rhwng MALlC 2019 a MALlC 2025, gan gynnwys dangosydd newydd ar gyfer llygredd sŵn. Felly, nid yw'r maes yn uniongyrchol gymharol i'r maes ar gyfer MALlC 2019. I gael gwybodaeth am sut mae’r maes wedi newid ers 2019, gweler yr adroddiad technegol.
Tabl 9.1: symudiad rhwng grŵp amddifadedd amgylchedd ffisegol rhwng MALlC 2019 a MALlC 2025
| Grŵp amddifadedd MALlC | 10% mwyaf difreintiedig 2025 | 10% i 20% mwyaf difreintiedig 2025 | 20% i 30% mwyaf difreintiedig 2025 | 30% i 50% mwyaf difreintiedig 2025 | 50% lleiaf difreintiedig 2025 |
|---|---|---|---|---|---|
| 10% mwyaf difreintiedig 2019 | 68% | 23% | 6% | 3% | 2% |
| 10% i 20% mwyaf difreintiedig 2019 | 22% | 36% | 20% | 17% | 5% |
| 20% i 30% mwyaf difreintiedig 2019 | 4% | 23% | 26% | 31% | 15% |
| 30% i 50% mwyaf difreintiedig 2019 | 1% | 4% | 14% | 35% | 46% |
| 50% lleiaf difreintiedig 2019 | 0% | 2% | 4% | 16% | 78% |
Dengys y tabl ganran yr ardaloedd bach (ACEHIau) ym mhob grŵp amddifadedd ar gyfer MALlC 2019 sydd wedi aros yn yr un grŵp neu sydd wedi symud grŵp ym MALlC 2025. I gael esboniad ar sut rydym wedi trin y lleiafrif o ardaloedd sydd wedi newid ffin, a'r safleoedd a gyfrifwyd ym mhob categori ar gyfer MALlC 2019 a MALlC 2025, gweler yr adroddiad canllawiau.
Dengys y groeslinell (o’r ochr chwith uchaf i’r dde gwaelod) ganran yr ardaloedd sydd wedi aros yn yr un grŵp amddifadedd. Uwchlaw’r groeslinell ceir canrannau’r ardaloedd sydd wedi symud o grŵp mwy difreintiedig i grŵp llai difreintiedig. Islaw’r groeslinell ceir canrannau’r ardaloedd sydd wedi symud o grŵp llai difreintiedig i grŵp mwy difreintiedig.
Mae’r tabl yn dangos y canlynol:
- arhosodd y rhan fwyaf o ACEHIau yn y grwpiau amddifadedd mwyaf a lleiaf difreintiedig yn yr un grŵp rhwng 2019 a 2025
- roedd 68% o’r 10% o ardaloedd mwyaf difreintiedig yn 2019 wedi aros yn y grŵp hwnnw yn 2025
- roedd 78% y 50% o ardaloedd lleiaf difreintiedig yn 2019 wedi aros yn y grŵp hwnnw yn 2025
Dim ond 39 o ardaloedd (2%) a symudodd fwy na 2 grŵp amddifadedd i’r naill gyfeiriad neu’r llall. Isod rydym yn canolbwyntio ar y rhai a symudodd fwyaf i mewn neu allan o’r grŵp mwyaf difreintiedig.
Yn gymharol fwy difreintiedig
Mae 4 ardal wedi symud o grŵp y 50% lleiaf difreintiedig ym MALlC 2019 i grŵp y 10% mwyaf difreintiedig ym MALlC 2025 (sylwch nad yw hyn yn ymddangos yn y tabl uchod oherwydd talgrynnu), roedd yr ardaloedd hyn yng Ngwynedd, Sir Ddinbych a 2 yng Ngheredigion.
Cymharol lai difreintiedig
Symudodd 3 ardal o grŵp y 10% mwyaf difreintiedig ym MALlC 2019 i grŵp y 50% lleiaf difreintiedig ym MALlC 2025, roedd yr ardaloedd hyn yn Abertawe, Sir Gaerfyrddin a Rhondda Cynon Taf.
Roedd perygl llifogydd yn sbardun allweddol ar gyfer newidiadau mawr mewn amddifadedd cymharol o ran yr amgylchedd ffisegol ar gyfer pob un o’r 7 ardal hynny, p’un a oeddent yn mynd yn fwy neu’n llai difreintiedig.
Dadans
Ffigur 9.3: plot blychau o safleoedd maes amgylchedd ffisegol MALlC 2025, yn ôl awdurdod lleol
Disgrifiad o ffigur 9.3: dengys y siart ddosbarthiad safleoedd maes yr amgylchedd ffisegol ar gyfer pob awdurdod lleol yng Nghymru. Mae’r blychau glas yn cynnwys hanner cyfanswm yr ardaloedd bach (ACEHIau) ym mhob awdurdod lleol, wedi’i ganoli ar y safle canolrifol (canol) ar gyfer pob awdurdod lleol a dengys y ‘wisgers’ yr ystod lawn o safleoedd yn yr awdurdod lleol. Mae amddifadedd yn cynyddu wrth i’r safle ostwng (hynny yw, tuag ochr chwith gwaelod y plot).
Ym Merthyr Tudful a Chastell-nedd Port Talbot y ceir y dosbarthiad mwyaf o safleoedd maes yr amgylchedd ffisegol ac yng Nghaerdydd, Sir Benfro a Chasnewydd y ceir y dosbarthiad culaf. Sir Benfro ac Ynys Môn sydd â’r safle canolrifol uchaf (llai difreintiedig) a Chaerdydd a Chasnewydd sydd â’r safle isaf (mwy difreintiedig).
Crynodiadau o ardaloedd sy’n wynebu amddifadedd o ran amgylchedd ffisegol, yn ôl awdurdod lleol
Un ffordd o ystyried data MALlC ar lefel awdurdod lleol yw edrych ar gyfran yr ardaloedd yn yr awdurdod lleol sydd yn y 10% mwyaf difreintiedig (neu’r 20% ac ati) o’r holl ardaloedd yng Nghymru. Mae modd ystyried y dull hwn fel nodi crynodiad o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig mewn awdurdod lleol, yn hytrach na’r lefel amddifadedd cyfartalog.
Mae canlyniadau maes yr amgylchedd ffisegol MALlC 2025 yn dangos y canlynol:
- yr awdurdod lleol â’r gyfran uchaf o ardaloedd yn y 10% o ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru oedd Caerdydd (39%), yna Gasnewydd (28%)
- nid oedd unrhyw ACEHIau yn y 10% o ardaloedd mwyaf difreintiedig yn Ynys Môn, Wrecsam na Sir Benfro
- dim ond un AGEHI yn y 10% o ardaloedd mwyaf difreintiedig sydd ym Mhowys, Sir Fynwy a Sir Ddinbych
- Sir Benfro ac Ynys Môn a oedd hefyd yr awdurdodau lleol â’r crynodiadau isaf o ardaloedd yn hanner mwyaf difreintiedig Cymru, sef 8% a 17% yn y drefn honno
- Caerdydd a Chasnewydd a oedd â’r ganran uchaf o ardaloedd yn y 50% mwyaf difreintiedig yng Nghymru, sef 94% ac 89% yn y drefn honno
Ffynonellau perthnasol eraill
Ansawdd aer
Ceir rhagor o wybodaeth am fodel Mapio Hinsawdd Llygredd Llywodraeth y DU, sy’n cyfrifo crynodiadau llygryddion cyfartalog ar gyfer pob cilomedr sgwâr o’r DU ar wefan DEFRA. Ceir gwybodaeth am ddangosydd llesiant cenedlaethol 5 (lefelau llygredd Nitrogen Deuocsid yn yr aer) ar ein gwefan Llesiant Cymru.
Perygl llifogydd
Ceir nifer o adroddiadau, tystiolaeth a data ar lifogydd ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).
Mannau gwyrdd
Caiff data ar ganfyddiadau pobl o fannau gwyrdd lleol a’u boddhad gyda nhw eu casglu fel rhan o Arolwg Cenedlaethol Cymru. Gellir gweld y prif ganlyniadau yn Nangosydd Canlyniadau Arolwg Cenedlaethol Cymru.
Mae Mynegai Mannau Gwyrdd sy’n cynnwys data am Gymru wedi cael ei gyhoeddi gan Fields in Trust.
Llygredd sŵn
Casglwyd data ar foddhad pobl gyda lefelau sŵn traffig yn eu hardal leol (2018-19) ac a yw sŵn o’r tu allan i’w cartref wedi achosi problemau rheolaidd iddynt (2021-22) fel rhan o Arolwg Cenedlaethol Cymru.
Cydweithiodd CNC â Land Use Consultants (LUC) i ddatblygu’r adnodd Llonyddwch a Lle sy’n nodi mannau llonydd yng Nghymru. Mae thema 4 o’r adnodd hwn yn dadansoddi amgylcheddau sŵn, gan gynnwys ffyrdd, rheilffyrdd a ffynonellau eraill o sŵn. Mae canlyniadau thema 4 ar gael ar Tranquillity and Place storymap.
