Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Diben y maes hwn yw mesur cyfran y bobl sy'n profi amddifadedd sy'n ymwneud â byw mewn cymuned ddiogel. Mae'n cwmpasu profiadau gwirioneddol o droseddu a thân, yn ogystal â chanfyddiadau pobl o ddiogelwch pan fyddant allan yn yr ardal leol. Mae gan y maes bwysoliad cymharol o 5% yn y mynegai cyffredinol.

Dangosyddion

Ffigur 8.1: dangosyddion y maes diogelwch cymunedol, MALlC 2025

Image

Disgrifiad o ffigur 8.1: diagram sy'n dangos bod gan y maes diogelwch cymunedol 9 dangosydd, y mae 7 o'r rhain yn seiliedig ar gategorïau data troseddau a gofnodwyd gan yr heddlu, un yn ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ac un yn ymwneud ag achos o dân.  Y ganran a ddangosir nesaf at bob dangosydd yw'r swm y mae'n cyfrannu at y maes cyffredinol.  

Rhifiaduron y maes yw nifer gyfartalog yr achosion dros 6 blwyddyn ariannol Ebrill 2018 i fis Mawrth 2019 (2018-19) i 2023-24 ar gyfer y categorïau canlynol o droseddau a gofnodwyd gan yr heddlu: 

  • trais gydag anaf
  • trais heb anaf
  • troseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus
  • stelcio ac aflonyddu
  • difrod troseddol
  • bwrgleriaeth
  • dwyn

Y rhifiadur ar gyfer y dangosydd ymddygiad gwrthgymdeithasol yw'r nifer cyfartalog o achosion a gofnodwyd dros y ddwy flwyddyn ariannol (2022-23 a 2023-24). 

Y rhifiadur ar gyfer y dangosydd achosion o dân yw'r nifer cyfartalog o danau yr aethpwyd atynt dros y tair blwyddyn ariannol (2021-22 i 2023-24). 

Rydym wedi cyflwyno rhai newidiadau i'r dangosyddion a ddefnyddir yn y maes ers MALlC 2019. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • rhannu'r dangosydd troseddau treisgar a gofnodwyd gan yr heddlu blaenorol mewn i’r pedwar categori cyntaf o droseddau a restrir uchod
  • ymestyn nifer y blynyddoedd o ddata troseddau a gofnodwyd gan yr heddlu i 6 blynedd ar gyfartaledd (o 2 flynedd), er mwyn osgoi effaith patrymau anarferol o droseddau yn ystod y blynyddoedd yr effeithir arnynt gan bandemig COVID-19
  • newidiadau i'r boblogaeth sydd mewn perygl mewn ardal i adlewyrchu nad dim ond y rhai sy'n byw mewn ardal a allai gael eu heffeithio, ac i gynnwys poblogaethau carchardai

Mae manylion llawn am y dangosyddion ac adeiladwaith y maes ar gael yn adroddiad technegol MALlC 2025.

Prif bwyntiau

Ffigur 8.2: map o ACEHIau wedi'u lliwio yn ôl grŵp amddifadedd diogelwch cymunedol, MALlC 2025

Image

Hawlfraint y Goron 2025: Cartograffeg, Llywodraeth Cymru, ML/35/25.26, Medi 2025, OGL.

Disgrifiad o ffigur 8.2: mae'r map yn dangos ym maes diogelwch cymunedol MALlC 2025, roedd pocedi o amddifadedd uchel yng nghymoedd y de, a dinasoedd mawr, ac yn y trefi ar yr arfordir ac ar y ffin yn y gogledd. 

  • Sir Fynwy oedd yr unig awdurdod lleol heb ACEHIau yn 10% o ardaloedd mwyaf difreintiedig.
  • Yr awdurdodau lleol â'r gyfran uchaf o ardaloedd yn y 10% o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig oedd Blaenau Gwent (28%), yna Casnewydd (23% o ACEHIau yn yr awdurdod lleol).
  • Mae patrymau cyffredinol amddifadedd diogelwch cymunedol ym MALlC 2025 yn debyg yn fras i'r rhai ar gyfer MALlC 2019.
  • Yr ardal fwyaf difreintiedig yng Nghymru oedd Gorllewin y Rhyl 2 yn Sir Ddinbych (cafodd yr AGEHI hwn ei raddio'n seithfed ym MALlC 2019).
  • Roedd 3 o'r 10 ardal fwyaf difreintiedig o MALlC 2025 hefyd ymhlith y 10 ardal fwyaf difreintiedig ym MALlC 2019.
  • Roedd 3 o'r 10 ardal fwyaf difreintiedig yng Nghymru yn Sir Ddinbych ac roedd 2 ohonynt yng Nghonwy. 

Gellir lawrlwytho'r set lawn o safleoedd y meysydd o MALlC 2025 a'r dangosyddion sylfaenol o dudalennau gwe StatsCymru.

Cymhariaeth rhwng MALlC 2019 a MALlC 2025

Rhannwyd un o'r dangosyddion trosedd a gofnodwyd gan yr heddlu o MALlC 2019 yn bedwar dangosydd ar wahân, a chafwyd sawl newid methodolegol arall ar gyfer y maes. Felly, nid yw'r maes yn uniongyrchol gymharol i'r maes ar gyfer MALlC 2019. I gael gwybodaeth am sut mae'r maes wedi newid ers 2019, gweler adroddiad technegol  MALlC 2025.

Tabl 8.1: symudiadau rhwng grwpiau amddifadedd diogelwch cymunedol rhwng MALlC 2019 a MALlC 2025
Grŵp 
amddifadedd 
MALlC
10% 
mwyaf 
difreintiedig
2025
10% i 20% 
mwyaf 
difreintiedig
2025
20% i 30% 
mwyaf 
difreintiedig
2025
30% i 50% 
mwyaf 
difreintiedig
2025
50% 
lleiaf 
difreintiedig
2025
10% 
mwyaf 
difreintiedig
2019
61%19%5%10%5%
10% i 20% 
mwyaf 
difreintiedig 
2019
21%33%18%18%9%
20% i 30% 
mwyaf 
difreintiedig
2019
12%23%29%29%7%
30% i 50% 
mwyaf 
difreintiedig 
2019
3%11%19%36%30%
50% lleiaf 
difreintiedig 
2019
0%1%2%14%84%

Dengys y tabl ganran yr ardaloedd bach (ACEHIau) ym mhob grŵp amddifadedd ar gyfer MALlC 2019 sydd wedi aros neu wedi symud grŵp ym MALlC 2025. I gael esboniad ar sut rydym wedi trin y lleiafrif o ardaloedd sydd wedi newid ffin, a'r safleoedd a gyfrifwyd ym mhob categori ar gyfer MALlC 2019 a MALlC 2025, gweler yr adroddiad canllawiau.

Dengys y groeslinell, o'r ochr chwith uchaf i'r dde gwaelod, ganran yr ardaloedd sydd wedi aros yn yr un grŵp amddifadedd. Uwchlaw'r groeslinell ceir canrannau'r ardaloedd sydd wedi symud o grŵp mwy difreintiedig i grŵp llai difreintiedig. Islaw'r groeslinell ceir canrannau'r ardaloedd sydd wedi symud o grŵp llai difreintiedig i grŵp mwy difreintiedig.

Mae'r tabl yn dangos:

  • arhosodd y rhan fwyaf o ACEHIau o’r grŵp amddifadedd mwyaf neu leiaf difreintiedig yn yr un grŵp rhwng 2019 a 2025
  • yr oedd 61% o'r 10% o ardaloedd mwyaf difreintiedig yn 2019 yn dal i fod ymhlith y grŵp hwnnw yn 2025
  • yr oedd 84% o'r 50% o ardaloedd lleiaf difreintiedig yn 2019 yn dal i fod ymhlith y grŵp hwnnw yn 2025

Symudodd 62 o ACEHIau fwy na 2 grŵp amddifadedd. Isod rydym yn canolbwyntio ar y rhai a symudodd fwyaf i mewn neu allan o’r grwpiau mwyaf difreintiedig.

Yn gymharol fwy difreintiedig

Symudodd 5 AGEHI o grŵp y 50% lleiaf difreintiedig ym MALlC 2019 i'r 10% i 20% mwyaf difreintiedig ym MALlC 2025, roedd 2 yn Sir Fynwy, 2 yn Rhondda Cynon Taf ac un yng Ngheredigion.

Cymharol lai difreintiedig

Symudodd 10 ardal o grŵp y 10% mwyaf difreintiedig ym MALlC 2019 i grŵp y 50% lleiaf difreintiedig ym MALlC 2025, wedi’u leoli yng Nghasnewydd, Caerdydd, Wrecsam, Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe. Roedd gan yr ardaloedd hyn rai o'r poblogaethau gweithle dibreswyl mwyaf, sydd bellach wedi'u cynnwys yn enwadwyr cyfraddau troseddu a gofnodwyd gan yr heddlu.

Dadansoddiad awdurdodau lleol

Ffigur 8.3: plot blychau o safleoedd maes diogelwch cymunedol MALlC 2025, yn ôl awdurdod lleol

Image

Disgrifiad o ffigur 8.3: dengys y siart ddosbarthiad safleoedd y maes diogelwch cymunedol ar gyfer pob awdurdod lleol. Mae'r blychau glas yn cynnwys hanner cyfanswm yr ardaloedd bach (ACEHIau) ym mhob awdurdod lleol, wedi'i ganoli ar y safle canolrifol (canol) ar gyfer pob awdurdod lleol a dengys y ‘wisgers’ yr ystod lawn o safleoedd ym mhob awdurdod lleol. Mae amddifadedd yn cynyddu wrth i'r safle ostwng (hynny yw, tuag ochr chwith gwaelod y plot). 

Yn Abertawe a Chaerdydd mae ystod y safleoedd maes diogelwch cymunedol ar ei mwyaf ac ar ei chulaf ym Merthyr Tudful a Blaenau Gwent. Powys sydd â'r safle canolrifol uchaf (llai difreintiedig) a Blaenau Gwent sydd â'r isaf (mwyaf difreintiedig).

Crynodiadau o ardaloedd sy'n wynebu amddifadedd o ran diogelwch cymunedol, yn ôl awdurdod lleol

Un ffordd o ystyried data MALlC ar lefel awdurdod lleol yw edrych ar gyfran yr ardaloedd yn yr awdurdod lleol sydd yn y 10% mwyaf difreintiedig (neu'r 20% ac ati) o'r holl ardaloedd yng Nghymru. Mae modd ystyried y dull hwn fel nodi crynodiad o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig mewn awdurdod lleol, yn hytrach na'r lefel amddifadedd cyfartalog.

Mae canlyniadau maes diogelwch cymunedol MALlC 2025 yn dangos y canlynol: 

  • yr awdurdod lleol â'r gyfran uchaf o ardaloedd yn y 10% mwyaf difreintiedig yng Nghymru oedd Blaenau Gwent (28% neu 13 o ardaloedd), yna Casnewydd (23%) a Thorfaen (20%)
  • nid oedd gan Sir Fynwy unrhyw ardaloedd bach yn y 10% mwyaf difreintiedig, ac roedd gan Fro Morgannwg a Rhondda Cynon Taf dim ond 4% o’u hardaloedd yn y 10% mwyaf difreintiedig
  • Powys a Cheredigion oedd yr awdurdodau lleol â'r crynodiadau isaf o ardaloedd yn y 50% mwyaf difreintiedig yng Nghymru, ar 27% a 31% yn y drefn honno
  • Blaenau Gwent a Chaerffili oedd â'r ganran uchaf o ardaloedd yn y 50% mwyaf difreintiedig yng Nghymru, ar 91% a 74% yn y drefn honno

Crynodiadau o ardaloedd sy'n wynebu amddifadedd diogelwch cymunedol ym MALlC 2025, yn ôl awdurdod lleol ar StatsCymru.

Gwybodaeth gysylltiedig

Troseddau a gofnodwyd gan yr heddlu

Ers cyhoeddi MALlC 2019, bu ffocws parhaus ar ansawdd prosesau cofnodi troseddau gan yr heddlu. Mae hyn yn dilyn yr arolygiadau o heddluoedd a gynhaliwyd gan Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Fawrhydi (HMIC), yr ymchwiliad i ystadegau troseddau a gynhaliwyd gan y Pwyllgor Dethol ar Weinyddiaeth Gyhoeddus (PASC) a phenderfyniad Awdurdod Ystadegau'r DU i ddileu'r dynodiad Ystadegau Gwladol o ystadegau troseddau a gofnodwyd gan yr heddlu. Yn fwy diweddar, cynhaliodd Awdurdod Ystadegau'r DU adolygiad ansawdd arall fel cam cyntaf tuag at ail-achredu.

Credir bod y ffocws ar ansawdd wedi gwella cydymffurfiaeth â'r Safon Genedlaethol Cofnodi Troseddau (NCRS), sy'n golygu bod mwy o droseddau sy'n dod i sylw'r heddlu yn cael eu cofnodi. Ystyriodd grŵp y maes diogelwch cymunedol ai data troseddau a gofnodwyd gan yr heddlu oedd y ffynhonnell orau o ddata troseddau a oedd ar gael ar gyfer MALlC 2025 ar lefel ardal fach a chytunwyd mai'r data hwn oedd y ffynhonnell orau.

Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr

Mae Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr yn mesur lefelau troseddu drwy ofyn i bobl a ydynt wedi profi unrhyw drosedd yn y flwyddyn flaenorol. Mae'r Arolwg Troseddu yn cofnodi troseddau y mae'n bosibl na roddwyd gwybod i'r heddlu amdanynt ac, felly, fe'i defnyddir ochr yn ochr â'r ffigurau ar gyfer troseddau a gofnodwyd gan yr heddlu i ddangos darlun mwy cywir o lefel troseddu yn y wlad. 

Mae gwybodaeth am ganfyddiadau o droseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn elfen ychwanegol a ddarperir gan yr Arolwg Troseddu. Mae hon yn elfen allweddol o amddifadedd diogelwch cymunedol, o ran teimlo'n ddiogel pan fyddwch allan yn eich ardal leol. Ceir data a rhagor o wybodaeth am Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Ni chynhwyswyd y data hwn ym MALlC 2025, gan nad yw'r data yn ystadegol gadarn islaw lefel Cymru.

Arolwg Cenedlaethol Cymru

Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru yn holi am deimlo'n anniogel ar ôl iddi nosi yn eich ardal leol. Mae canfyddiadau o ddiogelwch wedi'u cynnwys yn y diffiniad o amddifadedd diogelwch cymunedol. Ceir rhagor o wybodaeth a data ar ein gwefan.