Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) 2025 adroddiad canlyniadau - Canlyniadau maes tai
Diben MALlC yw nodi’r ardaloedd bach yng Nghymru sydd fwyaf difreintiedig.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Yn gysyniadol, diben y maes tai yw nodi tai annigonol, o ran cyflwr ffisegol, amodau byw ac argaeledd. Yma, mae amodau byw yn golygu addasrwydd y tai ar gyfer y sawl sy'n byw ynddynt, er enghraifft o ran iechyd a diogelwch, ac addasiadau angenrheidiol.
Mae gan y maes bwysoliad cymharol o 9% yn y mynegai cyffredinol. Mae hyn wedi cynyddu o 7% ym mynegai 2019, yn sgil ychwanegu dangosyddion newydd ar effeithlonrwydd ynni a'r anallu i fforddio bod yn berchen-feddiannydd neu yn y farchnad rhentu breifat.
Dangosyddion
Ffigur 7.1: dangosyddion maes tai, MALlC 2025
Disgrifiad o ffigur 7.1: diagram sy'n dangos bod gan y maes tai ddau is-faes wedi'u pwysoli'n gyfartal, argaeledd tai a chyflwr tai, gyda dau ddangosydd pwysoliad cyfartal yr un.
Mae is-faes argaeledd tai yn cynnwys dangosyddion megis:
- canran yr aelwydydd sydd wedi'u gorlenwi ar y mesur ystafelloedd gwely seiliedig ar Gyfrifiad 2021
- anallu i fforddio dod yn berchen-feddiannydd neu fod yn y farchnad rhentu preifat, 2023 (newydd ar gyfer MALlC 2025, mae rhagor o fanylion isod)
Mae'r is-faes cyflwr tai yn cynnwys dangosyddion megis:
- ansawdd gwael, sef y tebygolrwydd bod tai mewn cyflwr gwael neu'n cynnwys peryglon difrifol (er enghraifft, y risg o gwympo neu dai oer), 2023
- effeithlonrwydd ynni, 2012 i 2024 (newydd ar gyfer MALlC 2025, mae rhagor o fanylion isod)
Rydym yn cyflwyno dangosydd newydd ar yr anallu i fforddio dod yn berchen-feddiannydd neu fod yn y farchnad rhentu preifat, a luniwyd gan Brifysgol Heriot-Watt. Mae’r dangosydd hwn wedi cael ei ddefnyddio mewn sawl iteriad o fynegeion amddifadedd Lloegr, ar gyfer aelwydydd iau â phenteulu o dan 40 oed. Bydd ein mesur yn ymgorffori ail elfen i rentwyr preifat hŷn lle mae’r penteulu rhwng 40 a 65 oed. Amcangyfrifon wedi’u modelu yw’r rhain, sy’n seiliedig ar brisiau tai a rhenti preifat chwartel isaf yn ôl maint annedd o fewn ardal benodol, ac incymau aelwydydd wedi’u modelu ar lefel ardal gynnyrch ehangach haen is (AGEHI). Mae'r dangosydd yn amcangyfrif a all aelwydydd mewn AGEHI fforddio prynu neu rentu’n breifat cartref addas o fewn ardal farchnad dai leol ehangach, yn seiliedig ar incwm ac anghenion maint annedd yr aelwydydd.
Rydym yn cyflwyno dangosydd newydd ar effeithlonrwydd ynni, yn seiliedig ar raddau’r Weithdrefn Asesu Safonol ar gyfer anheddau preswyl yn yr ardal, sy’n deillio o ddata Tystysgrifau Perfformiad Ynni (EPC). Mae’r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol wedi datblygu'r dangosydd ar gyfer anheddau preswyl yng Nghymru a Lloegr, gan briodoli sgoriau EPC amcangyfrifedig ar gyfer pob annedd nad oes ganddynt EPC dilys ar hyn o bryd.
Mae manylion llawn am y dangosyddion ac adeiladwaith y maes ar gael yn adroddiad technegol MALlC 2025.
Prif bwyntiau
Ffigur 7.2: map o ACEHIau wedi'u lliwio yn ôl grŵp amddifadedd tai, MALlC 2025
© Hawlfraint y Goron 2025. Cartograffeg. Llywodraeth Cymru.
Disgrifiad o ffigur 7.2: mae'r map yn dangos ym maes tai MALlC 2025, mae pocedi o amddifadedd tai uchel yn tueddu i glystyru yn y trefi mawr a'r dinasoedd (wedi'i gymell gan yr agwedd argaeledd tai), ac yn ardaloedd mwy gwledig y gorllewin a'r gogledd (a ysgogir gan agwedd cyflwr tai).
- Yr awdurdodau lleol â'r gyfran uchaf o ardaloedd yn y 10% o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru oedd Gwynedd (38%), yna Caerdydd (33%).
- Nid oedd gan 6 awdurdod lleol unrhyw ardaloedd bach yn y 10% mwyaf difreintiedig yng Nghymru: Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Sir y Fflint, Merthyr Tudful, Torfaen a Bro Morgannwg.
- Roedd 5 o'r 10 ardal fwyaf difreintiedig o ran tai yng Nghymru yng Ngwynedd, ac roedd 2 ar y ffin ag ‘Uwch Conwy’, sef ardal o Gonwy sydd hefyd yn y 10 mwyaf difreintiedig.
- Roedd y 4 o'r 10 ardal fwyaf difreintiedig arall yng Nghaerdydd, yn Grangetown a Glan yr Afon.
Roedd yr ardal fwyaf difreintiedig o ran tai'r un peth ar gyfer MALlC 2019: Grangetown 9 o gwmpas pen gogleddol Corporation Road. Ar y cyd â'i gymydog Grangetown 6, nhw yw'r unig ardaloedd i ymddangos yn y degradd mwyaf difreintiedig o'r is-feysydd cyflwr tai ac argaeledd tai.
Bu rhai newidiadau yn y patrymau amddifadedd tai a welwyd ym MALlC 2025 o gymharu â'r rhai a welwyd ym MALlC 2019. Mae hyn i'w ddisgwyl o gofio cynnwys y dangosyddion newydd ar effeithlonrwydd ynni ac anallu i fforddio dod yn berchen-feddiannydd neu fod yn y farchnad rhentu preifat.
Cymhariaeth rhwng MALlC 2019 a MALlC 2025
Mae dau ddangosydd newydd yn y maes hwn, felly nid yw'n uniongyrchol gymharol â'r maes tai ar gyfer MALlC 2019. I gael gwybodaeth am sut mae'r maes wedi newid ers 2019, gweler yr adroddiad technegol.
| Grŵp amddifadedd MALlC | 10% mwyaf difreintiedig 2025 | 10% i 20% mwyaf difreintiedig 2025 | 20% i 30% mwyaf difreintiedig 2025 | 30% i 50% mwyaf difreintiedig 2025 | 50% lleiaf difreintiedig 2025 |
|---|---|---|---|---|---|
| 10% mwyaf difreintiedig 2019 | 54% | 19% | 13% | 12% | 3% |
| 10% i 20% mwyaf difreintiedig 2019 | 20% | 24% | 17% | 27% | 12% |
| 20% i 30% mwyaf difreintiedig 2019 | 11% | 16% | 18% | 36% | 19% |
| 30% i 50% mwyaf difreintiedig 2019 | 5% | 13% | 13% | 27% | 41% |
| 50% lleiaf difreintiedig 2019 | 1% | 3% | 5% | 14% | 77% |
Dengys y tabl ganran yr ardaloedd bach (ACEHIau) ym mhob grŵp amddifadedd ar gyfer MALlC 2019 sydd wedi aros neu wedi symud grŵp ym MALlC 2025. I gael esboniad ar sut rydym wedi trin y lleiafrif o ardaloedd sydd wedi newid ffin, a'r safleoedd a gyfrifwyd ym mhob categori ar gyfer MALlC 2019 a MALlC 2025, gweler yr adroddiad canllawiau.
Dengys y groeslinell (o'r ochr chwith uchaf i'r dde gwaelod) ganran yr ardaloedd sydd wedi aros yn yr un grŵp amddifadedd. Uwchlaw'r groeslinell ceir canrannau'r ardaloedd sydd wedi symud o grŵp mwy difreintiedig i grŵp llai difreintiedig. Islaw'r groeslinell ceir canrannau'r ardaloedd sydd wedi symud o grŵp llai difreintiedig i grŵp mwy difreintiedig.
Mae'r tabl yn dangos:
- yr arhosodd y rhan fwyaf o ACEHIau yn y grwpiau amddifadedd mwyaf difreintiedig a lleiaf difreintiedig yn yr un grŵp rhwng 2019 a 2025
- yr oedd 54% o'r 10% o ardaloedd mwyaf difreintiedig yn 2019 yn dal i fod ymhlith y grŵp hwnnw yn 2025
- yr oedd 77% o'r 50% o ardaloedd lleiaf difreintiedig yn 2019 yn dal i fod ymhlith y grŵp hwnnw yn 2025
Symudodd ychydig dros 100 o ACEHIau fwy na 2 grŵp amddifadedd. Isod rydym yn canolbwyntio ar y rhai a symudodd i mewn neu allan o'r grŵp mwyaf difreintiedig.
Yn gymharol fwy difreintiedig
Mae 9 ardal wedi symud o grŵp y 50% lleiaf difreintiedig ym MALlC 2019 i grŵp y 10% mwyaf difreintiedig ym MALlC 2025, roedd 6 yng Nghaerdydd ac yn cael eu graddio'n uchel o ran amddifadedd argaeledd tai, ac roedd y 3 arall yng Ngwynedd neu Ynys Môn ac yn graddio'n uchel o ran amddifadedd cyflwr tai.
Cymharol lai difreintiedig
Symudodd 5 ardal o grŵp y 10% mwyaf difreintiedig ym MALlC 2019 i grŵp y 50% lleiaf difreintiedig ym MALlC 2025. Roedd yr ardaloedd hyn mewn trefi neu'n agos atynt mewn 5 awdurdod lleol gwahanol yn Ne a Chanolbarth Cymru.
Dadansoddiad awdurdodau lleol
Ffigur 7.3: plot blychau o safleoedd maes tai MALlC 2025, yn ôl awdurdod lleol
Disgrifiad o ffigur 7.3: dengys y siart isod ddosbarthiad safleoedd y maes tai ar gyfer pob awdurdod lleol. Mae'r blychau glas yn cynnwys hanner cyfanswm yr ardaloedd bach (ACEHIau) ym mhob awdurdod lleol, wedi'i ganoli ar y safle canolrifol (canol) ar gyfer pob awdurdod lleol a dengys y ‘wisgers’ yr ystod lawn o safleoedd yn yr awdurdod lleol. Mae amddifadedd yn cynyddu wrth i'r safle ostwng (hynny yw, tuag ochr chwith gwaelod y plot).
Yng Nghasnewydd, Caerdydd, Conwy ac Abertawe mae dosbarthiad y safleoedd maes tai ar ei fwyaf, ar ei fwyaf cul yng Ngwynedd a Merthyr Tudful. Sir y Fflint a Phen-y-bont ar Ogwr oedd â'r safle canolrifol uchaf (llai difreintiedig) a Gwynedd sydd â'r isaf (mwyaf difreintiedig).
Crynodiadau o ardaloedd sy'n wynebu amddifadedd o ran tai, yn ôl awdurdod lleol
Un ffordd o ystyried data MALlC ar lefel awdurdod lleol yw edrych ar gyfran yr ardaloedd yn yr awdurdod lleol sydd yn y 10% mwyaf difreintiedig (neu'r 20% ac ati) o'r holl ardaloedd yng Nghymru. Mae modd ystyried y dull hwn fel nodi crynodiad o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig mewn awdurdod lleol, yn hytrach na'r lefel amddifadedd cyfartalog.
Mae canlyniadau maes tai MALlC 2025 yn dangos y canlynol:
- Gwynedd oedd yr awdurdod lleol gyda'r gyfran uchaf o ardaloedd yn y 10% mwyaf difreintiedig yng Nghymru, gyda 38% neu 27 o'i ardaloedd yn y grŵp hwnnw, wedi'i ysgogi gan amddifadedd mewn cyflwr tai (ond gyda 5 o'r 27 hefyd yn y 30% mwyaf difreintiedig o ran argaeledd tai),
- yna Caerdydd oedd â 33% neu 73 o'i hardaloedd yn y 10% mwyaf difreintiedig yng Nghymru, wedi'i ysgogi gan amddifadedd o ran argaeledd tai
- Gwynedd hefyd a oedd â'r ganran uchaf o ardaloedd yn y 50% mwyaf difreintiedig yng Nghymru, ar 83%
- Nid oedd gan 6 awdurdod lleol unrhyw ardaloedd bach yn y 10% mwyaf difreintiedig yng Nghymru: Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Sir y Fflint, Merthyr Tudful, Torfaen a Bro Morgannwg
- Pen-y-bont a Sir y Fflint oedd yr awdurdodau lleol â'r crynodiadau isaf o ardaloedd yn hanner mwyaf difreintiedig Cymru, ar 26% a 25% yn y drefn honno
Gwybodaeth gysylltiedig
Digartrefedd
Mae'n bosibl mai digartrefedd yw'r math mwyaf eithafol o amddifadedd mewn perthynas â mynediad at dai. Mae data sy'n ymwneud â digartrefedd statudol a'r rhai sy'n cyflwyno i awdurdodau lleol am gymhorthdal tai ar gael ar lefel awdurdod lleol. Rydym yn datblygu casgliad newydd o ddata digartrefedd ar lefel unigolion yng Nghymru, a byddwn yn archwilio cynnydd hyn cyn y mynegai nesaf.
Cyflwr Tai
Y tro diwethaf y cafodd Arolwg Cyflwr Tai Cymru, sy'n casglu gwybodaeth am gyflwr ac effeithlonrwydd ynni pob math a deiliadaeth o dai yng Nghymru, oedd yn y flwyddyn ariannol Ebrill 2017 i Fawrth 2018 (2017-18). Mae cynlluniau ar waith ar gyfer Arolwg Tai Cymru yn 2027-28. Bydd hyn yn cynnwys arolwg cyflwr tai safonol, fel y cynhaliwyd yn 2017-18, ac elfen arolwg cymdeithasol ehangach sy'n cwmpasu pynciau cysylltiedig â thai amrywiol. Bydd gwaith maes yn cael ei gynnal dros flwyddyn ariannol 2027-28, gyda'r prif ganlyniadau i'w disgwyl ym mis Rhagfyr 2028.
Tlodi tanwydd
Ystyrir bod aelwyd mewn tlodi tanwydd os na all gadw ei chartref yn gynnes am gost resymol. Yng Nghymru, mae'r diffiniad o dlodi tanwydd incwm llawn yn nodi bod aelwyd mewn tlodi tanwydd os oes angen iddi wario mwy na 10% o'i hincwm (gan gynnwys budd-daliadau cysylltiedig â thai a net o'i threth gyngor) ar yr holl ddefnydd o danwydd yr aelwyd er mwyn cynnal cyfundrefn wresogi foddhaol. Mae amcangyfrifon wedi'u modelu o dlodi tanwydd ar gyfer Cymru fel ym mis Hydref 2024 ar gael.
Mannau awyr agored preifat
Mae tîm cyfalaf naturiol SYG wedi llunio a chyhoeddi ystadegau ar erddi preifat (mannau awyr agored preifat) i lawr at lefel AGEHIau ar gyfer Prydain Fawr i gyd. Daeth yr ystadegau hyn o gronfa ddata AddressBase Plus Arolwg Ordnans (ac maent yn cynnwys mannau awyr agored preifat ‘nad ydynt yn wyrdd’ ym mlaen, yng nghefn ac wrth ochr eiddo, yn ogystal â gerddi ‘gwyrdd’).
Mae'r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol wedi defnyddio'r gwaith hwn fel sail ar gyfer dangosydd ar gyfer mynegeion amddifadedd Lloegr 2025. Gwnaethom benderfynu peidio â chynnwys dangosydd o'r fath ym MALlC 2025, am resymau a osodwyd yn ein hadroddiad cynigion a chrynodeb adborth gan ddefnyddwyr dilynol.
