Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) yw dull swyddogol Llywodraeth Cymru o fesur amddifadedd cymharol mewn ardaloedd bach. Bwriedir iddo nodi’r ardaloedd bach hynny lle mae’r crynodiadau uchaf o sawl math gwahanol o amddifadedd. 

Cyhoeddwyd y mynegai diwethaf yn 2019. Rydym wrthi’n cynllunio ar gyfer cyhoeddi mynegai wedi’i ddiweddaru ar ddiwedd 2025. Ym mis Tachwedd 2024 cyhoeddwyd adroddiad ar ddangosyddion arfaethedig ar gyfer MALlC 2025.

Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi’r adborth a gafwyd ar y cynigion hynny, drwy arolwg a gynhaliwyd rhwng 11 Tachwedd a 16 Rhagfyr 2024, a oedd yn agored i unigolion a sefydliadau. Mae hefyd yn amlinellu datblygiadau diweddar neu newidiadau a wnaed i gynigion ar ôl ystyried yr ymatebion i’r arolwg a safbwyntiau ein grwpiau cynghori. 

Nid yw’n ailadrodd y manylion llawn yn yr adroddiad gwreiddiol ar y cynigion. Am ragor o gefndir ar MALlC, a sut yr aethom ati i ddatblygu’r cynigion, cyfeiriwch at yr adroddiad cynharach ar gynigion.

Ymatebion i’r arolwg

Hoffai Llywodraeth Cymru ddiolch i bawb a ymatebodd i’r arolwg. Cafwyd cyfanswm o 29 o ymatebion ysgrifenedig ac ymunodd tua 55 o bobl â’n gweminarau. 

Cafwyd ymatebion gan ystod o sefydliadau gwahanol, gan gynnwys awdurdodau lleol, byrddau iechyd, sefydliadau yn y trydydd sector a sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus. Cafwyd pedwar ymateb gan swyddogion Llywodraeth Cymru, a chyflwynwyd y gweddill gan sefydliadau allanol. Cafwyd rhywfaint o gynrychiolaeth o bob rhan o Gymru. Ceir rhestr lawn o’r sefydliadau a ymatebodd yn atodiad 1

Nid oedd yn ofynnol i ymatebwyr ateb pob cwestiwn. Cyfrifir y canrannau a ddangosir ar gyfer pob cwestiwn drwy ddefnyddio nifer yr ymatebion i’r cwestiwn penodol hwnnw, ac nid ydynt yn cynnwys ymatebwyr a hepgorodd y cwestiwn. 

Mae nifer yr ymatebion i’r arolwg yn golygu bod yr adborth yn annhebygol o gofnodi’n llawn holl sefydliadau, rolau a diddordebau darpar ddefnyddwyr MALlC. Bydd yr ymatebion yn adlewyrchu diddordebau penodol yr ymatebwyr a’u sefydliadau, a allai effeithio ar flaenoriaethu dangosyddion a lefel yr ymatebion i gwestiynau am feysydd penodol.

Mae’r adran nesaf yn crynhoi ein rhestr arfaethedig gyfredol o ddangosyddion ar ôl cael adborth yr arolwg, cyngor gan grwpiau cynghori, a datblygiadau diweddar eraill. Mae’n dangos y newidiadau a wnaed rhwng dangosyddion 2019 a chynigion 2025. 

Mae’r adrannau dilynol yn rhoi trosolwg o’r adborth a gafwyd mewn ymateb i gwestiynau’r arolwg a ofynnwyd yn ein hadroddiad ar y cynigion. Maent yn rhoi crynodebau o ymatebion wedi’u hanonymeiddio sy’n canolbwyntio ar y safbwyntiau a gefnogwyd gan ymatebwyr lluosog. Nid ydynt yn cofnodi pob sylw a gafwyd. 

Mae’r wyth adran sy’n ymdrin â maes penodol yn dilyn fformat tebyg sy’n cwmpasu: 

  • ymatebion i gwestiynau penodol
  • crynodeb o’r dangosyddion ar gyfer MALlC 2025
  • materion eraill
  • dangosyddion eraill i’w hystyried yn y dyfodol
  • newidiadau i gynigion ar ôl adborth arolwg neu waith diweddar

Crynodeb o’r cynigion

Amlinellir isod ein dangosyddion arfaethedig yn dilyn yr arolwg, a nodir newidiadau rhwng MALlC 2019 a MALlC 2025. 

Mae rhywfaint o waith ar ddatblygu dangosyddion yn mynd rhagddo a byddwn yn parhau â’r gwaith datblygu dros yr ychydig fisoedd nesaf. Bydd penderfyniadau terfynol ar y dangosyddion hyn yn cael eu gwneud wedi’u llywio gan ein grwpiau cynghori yn ogystal â’r adborth gan ddefnyddwyr. 

Rydym yn bwriadu cyhoeddi MALlC 2025 ym mis Tachwedd 2025. Caiff unrhyw ddiweddariadau pellach ar amserlenni neu ddangosyddion yn y cyfamser eu cyhoeddi ar wefan MALlC.

Incwm

Dangosyddion MALlC 2019 y byddwn yn eu diweddaru ar gyfer MALlC 2025

  • Canran o’r boblogaeth sy’n cael budd-daliadau sy’n gysylltiedig ag incwm a chredydau treth

Cyflogaeth

Dangosyddion MALlC 2019 y byddwn yn eu diweddaru ar gyfer MALlC 2025

  • Canran o’r boblogaeth oedran gweithio sy’n cael budd-daliadau sy’n gysylltiedig â chyflogaeth

Iechyd

Dangosyddion MALlC 2019 y byddwn yn eu diweddaru ar gyfer MALlC 2025

  • Pwysau geni isel
  • Plant sy’n ordew (dosbarth derbyn)
  • Nifer yr achosion o ganser
  • Diagnosis o gyflyrau iechyd meddwl
  • Diagnosis o gyflyrau cronig
  • Salwch hirdymor cyfyngol
  • Cyfradd marwolaethau cynamserol

Dangosyddion newydd posibl ar gyfer MALlC 2025

  • Nifer y brechiadau ymhlith plant (yn amodol ar adolygiad data)
  • Iechyd deintyddol (yn amodol ar adolygiad data ond yn annhebygol o gael ei gynnwys)

Addysg

Dangosyddion MALlC 2019 y byddwn yn eu diweddaru ar gyfer MALlC 2025

  • Sgôr pwyntiau cyfartalog Cyfnod Allweddol 4
  • Cyfradd absenoldeb cyson – cynradd (cyfunwyd hyn ar gyfer camau cynradd ac uwchradd yn flaenorol, gyda throthwy gwahanol)
  • Cyfradd absenoldeb cyson – uwchradd (fel yr uchod)
  • Canran y bobl nad ydynt yn dechrau Addysg Uwch yn 18-19 oed
  • Nifer yr oedolion 25 i 64 oed heb gymwysterau neu sydd â chymwysterau isel (dim cymwysterau yn flaenorol, yn unig)

Dangosyddion newydd posibl ar gyfer MALlC 2025

  • Pobl ifanc 16 i 19 oed sy’n gadael yr ysgol ac nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant (rydym yn archwilio data Gyrfa Cymru, ond annhebygol o gael ei gynnwys)

Dangosyddion na fyddwn yn eu diweddaru ar gyfer MALlC 2025

  • Sgôr pwyntiau cyfartalog y Cyfnod Sylfaen (ddim ar gael mwyach)
  • Sgôr pwyntiau cyfartalog Cyfnod Allweddol 2 (ddim ar gael mwyach)

Mynediad at wasanaethau

Dangosyddion MALlC 2019 y byddwn yn eu diweddaru ar gyfer MALlC 2025

  • Amser teithio cyfartalog ar drafnidiaeth gyhoeddus a phreifat i siop bwyd
  • Amser teithio cyfartalog ar drafnidiaeth gyhoeddus a phreifat i feddygfa
  • Amser teithio cyfartalog ar drafnidiaeth gyhoeddus a phreifat i gyfleuster chwaraeon
  • Amser teithio cyfartalog ar drafnidiaeth gyhoeddus a phreifat i ysgol uwchradd
  • Amser teithio cyfartalog ar drafnidiaeth gyhoeddus a phreifat i fferyllfa
  • Amser teithio cyfartalog ar drafnidiaeth gyhoeddus a phreifat i swyddfa bost
  • Amser teithio cyfartalog ar drafnidiaeth gyhoeddus a phreifat i ysgol gynradd
  • Amser teithio cyfartalog ar drafnidiaeth gyhoeddus a phreifat i lyfrgell
  • Amser teithio cyfartalog ar drafnidiaeth breifat i orsaf betrol
  • Mynediad at wasanaethau digidol (diffiniad yn amodol ar adolygiad terfynol o’r data)

Dangosyddion newydd posibl ar gyfer MALlC 2025

  • Amser teithio cyfartalog ar drafnidiaeth gyhoeddus a phreifat i wasanaethau gofal plant (yn amodol ar adolygiad data)

Tai

Dangosyddion MALlC 2019 y byddwn yn eu diweddaru ar gyfer MALlC 2025

  • Gorlenwi (mesur ystafelloedd gwely ar sail y Cyfrifiad)
  • Dangosydd tai o ansawdd gwael fel y'i mesurir trwy beryglon a chyflwr gwael (yn amodol ar gytuno ar ddull ar gyfer diweddaru'r data)

Dangosyddion newydd posibl ar gyfer MALlC 2025

  • Anallu i fforddio dod yn berchen-feddiannydd neu ymuno â’r farchnad rhentu preifat (yn amodol ar adolygiad data)
  • Mesur o berfformiad ynni gwael ar gyfer anheddau (yn amodol ar adolygiad data)

Diogelwch cymunedol

Dangosyddion MALlC 2019 y byddwn yn eu diweddaru ar gyfer MALlC 2025

  • Bwrgleriaethau a gofnodwyd gan yr heddlu
  • Difrod troseddol a gofnodwyd gan yr heddlu
  • Achosion o ddwyn a gofnodwyd gan yr heddlu
  • Troseddau treisgar a gofnodwyd gan yr heddlu (rydym yn ystyried ei ddisodli â dangosyddion cyfansoddol megis ‘trais heb anaf’, ‘lladdiad a thrais sy’n achosi anaf’, a ‘stelcian a rheolaeth drwy orfodaeth’)
  • Ymddygiad gwrthgymdeithasol
  • Achosion o dân

Dangosyddion newydd posibl ar gyfer MALlC 2025

  • Troseddau rhywiol a gofnodwyd gan yr heddlu (yn amodol ar adolygiad data)

Yr Amgylchedd Ffisegol

Dangosyddion MALlC 2019 y byddwn yn eu diweddaru ar gyfer MALlC 2025

  • Sgôr aelwydydd sy’n wynebu perygl o lifogydd
  • Dangosyddion sgôr ansawdd aer   
  • Diffyg agosrwydd i fan gwyrdd naturiol hygyrch  
  • Sgôr ar gyfer mannau gwyrdd amgylchol

Dangosyddion newydd posibl ar gyfer MALlC 2025

  • Llygredd sŵn (diffiniad wrthi’n cael ei ddatblygu)

Maes incwm

Ar gyfer MALlC 2019, diben y maes incwm oedd mesur cyfran y bobl ag incwm islaw lefel ddiffiniedig. Ar gyfer MALlC 2025, byddwn yn adolygu’r ffordd rydym yn disgrifio’r maes ar ôl inni benderfynu ar y diffiniad gorau o’r dangosydd. Mae’n bosibl y caiff y diben ei ddisgrifio drwy gyfeirio at ddefnyddio incwm isel fel procsi am amddifadedd materol.

Ymatebion i gwestiynau penodol

Cwestiwn 4: O ystyried y newidiadau tebygol a ddisgrifiwyd ar gyfer y dangosyddion yn y maes incwm, ydych chi’n credu y dylai pwysoliad y maes fod yn uwch, yn is neu’r un fath â’r pwysoliad a ddefnyddiwyd yn 2019, sef 22%?

Cafwyd cyfanswm o 21 o ymatebion i’r cwestiwn hwn, a dewisodd wyth ymatebydd ei hepgor. Roedd mwyafrif o’r ymatebwyr yn meddwl y dylai’r pwysoliad aros yr un fath â phwysoliad MALlC 2019, gyda 12 o ymatebwyr (57%) yn pleidleisio dros hyn.

Roedd yr ymatebwyr eraill wedi’u rhannu rhwng cefnogi pwysoliad uwch neu bwysoliad is. Roedd pum ymatebydd (24%) yn meddwl y dylai pwysoliad y maes incwm fod yn uwch, ond roedd pedwar (19%) yn meddwl y dylai fod yn is.

Cwestiwn 5: Esboniwch eich rhesymau dros yr ymateb uchod a gwnewch unrhyw sylwadau eraill ar gynigion ar gyfer y maes incwm.

Y consensws ymhlith yr ymatebwyr oedd y dylai pwysoliad y maes incwm aros yr un fath â 2019 (22%).

Roedd y sylwadau yn rhoi gwahanol resymau pam roedd pobl wedi pleidleisio fel y gwnaethant: nododd rhai bwysigrwydd y maes incwm i gynrychioli amddifadedd materol a phwysigrwydd cynyddol hyn oherwydd digwyddiadau diweddar (e.e. yr argyfwng costau byw a chwyddiant cynyddol). Gwnaethant gyflwyno achos yn erbyn gostwng pwysoliad y maes o ganlyniad i hyn. Roedd sawl un o’r ymatebwyr yn meddwl ei fod yn dal i fod yn un o feysydd pwysicaf y mynegai, gan awgrymu pwysoliad uwch i incwm na’r maes cyflogaeth.

Awgrymodd sylwadau eraill fod pwysoliad y maes incwm sydd eisoes yn uchel yn lleihau pwysigrwydd meysydd eraill, yn enwedig iechyd a’r amgylchedd ffisegol. Roedd rhai ymatebwyr yn teimlo bod y meysydd eraill hyn yn cael eu tangynrychioli o ystyried yr effaith y gallant ei chael ar amddifadedd, felly dylid cadw’r pwysoliad ar gyfer incwm ar yr un lefel â 2019, neu ei ostwng.

Lle y cyfeiriwyd at hyn, roedd sawl un o’r ymatebwyr yn gefnogol i wneud gwaith ochr yn ochr â’r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol a’r Adran Gwaith a Phensiynau. Roedd hyn yn dylanwadu ar y pwysoliadau, gan fod rhai yn teimlo y dylai’r ymgais i sicrhau mwy o gysondeb â mynegai Lloegr hefyd ymestyn i bwysoliadau meysydd.

Fodd bynnag, roedd y broses o gyflwyno Credyd Cynhwysol a oedd yn dal i fynd rhagddi ac effeithiau posibl hyn yn golygu nad oes gan rai ymatebwyr farn bendant ar y pwysoliadau eto. Crybwyllwyd hyn gan sawl awdurdod lleol a ymatebodd. Roedd dau ymatebydd yn teimlo na fyddai’r newidiadau i Gredyd Cynhwysol yn cael digon o effaith ar y maes i awgrymu newid y pwysoliad.

Yn eu sylwadau cyffredinol, cyfeiriodd tri ymatebydd at yr opsiwn ynghylch a ddylid cynnwys trothwy enillion yn y dangosydd. Er iddynt gydnabod y cymhlethdodau a oedd yn gysylltiedig â’r penderfyniad roeddent yn ffafrio opsiwn 2 ar hyn o bryd (cynnwys trothwy).

Gwnaeth un ymatebydd ein hannog i adolygu potensial ystadegau incwm seiliedig ar ddata gweinyddol arbrofol y SYG i Gymru a Lloegr wrth i ddatblygiadau fynd rhagddynt. Cyfeiriodd hefyd at ystadegau’r Adran Gwaith a Phensiynau ynglŷn â phlant mewn teuluoedd ar incwm isel. Mewn cysylltiad â hyn dylid nodi ein bod yn anelu at gyhoeddi dadansoddiad ar sail oedran o’r dangosydd amddifadedd incwm yn y MALlC nesaf, gan gynnwys data i blant.

Crynodeb o’r dangosyddion ar gyfer MALlC 2025

Ar ôl ystyried yr ymatebion i’r arolwg, a oedd yn cefnogi ein cynigion ar y cyfan, bwriadwn fabwysiadu’r dull gweithredu a argymhellwyd gan yr Adran Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol a’r Adran Gwaith a Phensiynau.

Bydd manyleb y maes incwm yn parhau i fod yn seiliedig ar ddata gweinyddol o’r system fudd-daliadau, y systemau credydau treth a data’r Swyddfa Gartref ar geiswyr lloches a gynorthwyir. Mae manyleb wedi datblygu drwy drafodaethau iteraidd â’r Adran Gwaith a Phensiynau ers i’n hadroddiad ar y cynigion gael ei gyhoeddi ac mae bellach yn cymhwyso trothwy incwm at aelwydydd mewn gwaith.

Er ei fod wrthi’n cael ei lunio’n derfynol, y cynnig tebygol yw cynnwys y categorïau canlynol o uned budd-dal yn rhifiadur y maes, gan gynnwys pob ceisydd o 31 Mawrth 2024, ac unrhyw bartneriaid a phlant dibynnnol:

  • Budd-daliadau sy’n dibynnu ar brawf modd ‘etifeddol’ (Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy’n gysylltiedig ag Incwm)
  • Credyd Pensiwn (Gwarant)
  • Grwpiau amodoldeb ‘di-waith’ Credyd Cynhwysol
  • Grwpiau amodoldeb ‘di-waith’ Credyd Cynhwysol, y mae eu hincwm cyfwerthedig ar gyfer mis Mawrth 2024 (llai hawliadau sy’n ymwneud ag iechyd/gofalu Credyd Cynhwysol; llai budd-daliadau eraill sy’n ymwneud ag iechyd/anabledd; a llai costau tai gwirioneddol) o dan drothwy canolrifol o 70%
  • Budd-dal Tai yn unig (h.y. ddim yn hawlio un o’r budd-daliadau eraill a restrir uchod), y mae eu hincwm ‘amcangyfrifedig’ cyfwerthedig ar gyfer mis Mawrth 2024 (llai unrhyw fudd-daliadau sy’n ymwneud ag iechyd/anabledd; a llai costau tai gwirioneddol ‘amcangyfrifedig’) o dan drothwy canolrifol o 70%
  • Credyd Treth yn unig (h.y. ddim yn hawlio un o’r budd-daliadau eraill a restrir uchod), y mae eu hincwm ‘amcangyfrifedig’ cyfwerthedig ‘amcangyfrifedig’ ar gyfer mis Mawrth 2024 (llai unrhyw fudd-daliadau sy’n ymwneud ag iechyd/anabledd; a llai costau tai gwirioneddol ‘amcangyfrifedig’) o dan drothwy canolrifol o 70%
  • Ceiswyr lloches sy’n cael cymorth cynhaliaeth, cymorth llety, neu’r ddau (y Swyddfa Gartref)

Materion eraill

Mae penderfyniadau terfynol ynglŷn â phwysoli ar gyfer y mynegai eto i’w gwneud.

Yn unol â’r hyn a amlinellwyd yn yr adroddiad ar y cynigion ac a gefnogwyd gan yr ymatebion i’r arolwg, byddwn yn ceisio cadw’r pwysoliad cymharol uchaf ar incwm fel agwedd allweddol ar amddifadedd. Fodd bynnag, byddwn yn adolygu pwysoliad y maes incwm ar y cyd â’n grwpiau maes arbenigol pan fydd ansawdd data mewn dangosyddion a meysydd wedi cael ei asesu.

Cyfeiriodd rhai ymatebwyr at gysoni â phwysoliad y maes incwm a ddefnyddir ym mynegai Lloegr. Roedd y rhain eisoes yn eithaf tebyg yn 2019, sef 22% ym MALlC a 22.5% ym mynegai Lloegr. O ystyried sawl gwahaniaeth arall rhwng methodoleg y mynegeion sy’n effeithio ar gymharedd, byddwn yn ceisio cysoni â’r pwysoli’n fras, yn hytrach nag anelu at gysoni’n union.

Dangosyddion eraill i’w hystyried yn y dyfodol

Fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad ar y cynigion, byddwn yn parhau i adolygu cynnydd i ddatblygu ystadegau incwm seiliedig ar ddata gweinyddol arbrofol y SYG i Gymru a Lloegr i’w defnyddio o bosibl mewn mynegeion yn y dyfodol.

Newidiadau i gynigion ar ôl adborth arolwg neu waith diweddar

Nodwn y gefnogaeth i’r cynigion ynglŷn â’r maes hwn, ac i gynnwys trothwy enillion. Yn unol â’r bwriad gwreiddiol, mae manyleb y maes wedi cael ei datblygu ymhellach ers ein hadroddiad ar y cynigion, ac mae’n adlewyrchu opsiwn 2 o’r adroddiad hwnnw yn fras, ond gyda therfyn amser mwy diweddar, sef mis Mawrth 2024 ac mae’n cynnwys trothwy incwm i aelwydydd mewn gwaith.

Maes cyflogaeth

Diben y maes cyflogaeth yw casglu gwybodaeth am ddiffyg cyflogaeth. Mae’n cynnwys y boblogaeth oedran gweithio sy’n cael ei heithrio’n anwirfoddol o waith, gan gynnwys y bobl hynny na allant weithio oherwydd salwch neu sy’n ddi-waith ond sydd wrthi’n chwilio am waith. Ar gyfer MALlC 2025, byddwn yn adolygu’r ffordd rydym yn disgrifio’r maes ar ôl inni benderfynu ar y diffiniad gorau o’r dangosydd. Er enghraifft, mae’n bosibl y byddwn yn ychwanegu cyfeiriad at gyfrifoldebau gofalu fel rheswm pellach dros beidio â bod mewn gwaith os caiff y dangosydd ei ymestyn i gynnwys Lwfans Gofalwr, nad yw wedi’i gynnwys o’r blaen.

Ymatebion i gwestiynau penodol

Cwestiwn 6: O ystyried y newidiadau tebygol a ddisgrifiwyd ar gyfer y dangosyddion yn y maes cyflogaeth, ydych chi’n credu y dylai pwysoliad y maes fod yn uwch, yn is neu’r un fath â’r pwysoliad a ddefnyddiwyd yn 2019, sef 22%?

Cafwyd 20 o ymatebion i’r cwestiwn hwn. Yn debyg i’r maes incwm, yr opsiwn i gadw’r un pwysoliad â MALlC 2019 oedd yr opsiwn mwyaf poblogaidd, ond i raddau llai: roedd 14 o ymatebwyr (70%) yn teimlo y dylai’r pwysoliad ar gyfer y maes cyflogaeth fod yr un fath â’r pwysoliad ar gyfer MALlC 2019.

Fodd bynnag, roedd yr ymatebion eraill yn tueddu i gefnogi gostwng y pwysoliad ers MALlC 2019. O blith y chwe ymatebydd arall, roedd pump (25%) yn meddwl y dylai’r pwysoliad fod yn is na phwysoliad 2019, a dim ond un a deimlai y dylai’r pwysoliad fod yn uwch.

Cwestiwn 7: Esboniwch eich rhesymau dros yr ymateb uchod a gwnewch unrhyw sylwadau eraill ar gynigion ar gyfer y maes cyflogaeth.

Yn debyg i’r maes incwm, roedd cefnogaeth gref o blaid cadw pwysoliad 2019 ar gyfer y maes addysg. Gwelwyd hefyd fod rhai o’r rhesymau dros hyn yn debyg, megis pwysigrwydd tynnu sylw at amddifadedd materol. Nododd un ymatebydd hefyd sut y byddai’r cadw’r un pwysoliad yn ei gwneud yn haws i gymharu ag iteriadau blaenorol o MALlC.

Ar y cyfan, roedd ymatebwyr o blaid gweithio ochr yn ochr gyda’r Adran Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol a’r Adran Gwaith a Phensiynau. Nododd un ymatebydd hefyd, pe bai’r fethodoleg ar gyfer incwm a chyflogaeth i Gymru yn gyson â’r gwaith a wneir yn Lloegr, y gallai’r pwysoliadau fod yr un fath ym mynegai’r naill wlad a’r llall.

Mae rhai ymatebwyr wedi dadlau o blaid newid y pwysoliadau ar gyfer cyflogaeth ar wahân i incwm. Roedd y pwyntiau a godwyd yma yn canolbwyntio ar gymhlethdod cyflogaeth (h.y. contractau dim oriau a hunangyflogaeth), y ffaith bod y maes yn cynnwys un dangosydd nad yw’n cyfiawnhau’r pwysoliad uchel o bosibl, ac y dylai pwysoliad cyflogaeth fod yn is na phwysoliad incwm er mwyn canolbwyntio’n fwy uniongyrchol ar dlodi. Roedd dau ymatebydd a atebodd gwestiwn diweddarach yn yr arolwg ynglŷn â phwysoliadau o blaid pwysoliad is ar gyfer y maes cyflogaeth na’r pwysoliad yn 2019, sef tua 17% i 18%.

Nododd ychydig o ymatebwyr fod gwaith yn mynd rhagddo ar y dangosydd hwn a’i bod yn anodd rhoi ateb pendant ynglŷn â phwysoliadau nes bod mwy o ddatblygiadau gyda’r maes.

Crynodeb o’r dangosyddion ar gyfer MALlC 2025

Ar ôl ystyried yr ymatebion i’r arolwg, a oedd yn cefnogi ein cynigion ar y cyfan, byddwn yn mabwysiadu’r dull gweithredu a argymhellwyd gan yr Adran Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol a’r Adran Gwaith a Phensiynau.

Fel yr amlinellwyd yn fanwl yn ein hadroddiad ar y cynigion, bydd y maes cyflogaeth yn cynnwys nifer yr unigolion 18 i 66 oed, wedi’u cyfartaleddu dros 12 o bwyntiau amser misol ar wahân o fis Ebrill 2022 i fis Mawrth 2023, yr oedd ganddynt hawl i:

  • Lwfans Ceisio Gwaith/Lwfans Ceisio Gwaith Newydd
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth/Lwfans Cyflogaeth a Chymorth Newydd
  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Gofal Analluedd/Lwfans Gofalwr
  • Budd-dal Analluogrwydd/Lwfans Anabledd Difrifol
  • Hawlwyr Credyd Cynhwysol yn y grwpiau amodoldeb canlynol:
    • Dim gofynion sy’n gysylltiedig â gwaith
    • Cynllunio ar gyfer gwaith (er mwyn cynnwys y rhai sydd wedi’u cau allan yn anwirfoddol oherwydd cyfrifoldebau gofalu)
    • Paratoi ar gyfer gwaith (gan gynnwys y rhai â gallu cyfyngedig i weithio oherwydd cyflyrau iechyd neu blentyn 2 oed)
    • Chwilio am waith

Byddai’r dangosydd yn cael ei fynegi fel canran o’r rhai rhwng 18 a 66 oed. Yr Adran Gwaith a Phensiynau yw’r ffynhonnell.

Materion Eraill

Mae penderfyniadau terfynol ynglŷn â phwysoli ar gyfer y mynegai eto i’w gwneud.

Yn unol â’r hyn a amlinellwyd yn yr adroddiad ar y cynigion ac a gefnogwyd gan yr ymatebion i’r arolwg, byddwn yn ceisio cadw pwysoliad cymharol uchaf ar gyflogaeth fel agwedd allweddol ar amddifadedd. Fodd bynnag, byddwn yn adolygu pwysoliad y maes cyflogaeth ar y cyd â’n grwpiau maes arbenigol pan fydd ansawdd data mewn dangosyddion a meysydd wedi cael ei asesu.

Cyfeiriodd rhai ymatebwyr at gysoni â phwysoliad y maes cyflogaeth a ddefnyddir ym mynegai Lloegr. Roedd y rhain eisoes yn eithaf tebyg yn 2019, sef 22% ym MALlC a 22.5% ym mynegai Lloegr. O ystyried sawl gwahaniaeth arall rhwng methodoleg y mynegeion sy’n effeithio ar gymharedd, byddwn yn ceisio cysoni â’r pwysoli’n fras, yn hytrach nag anelu at gysoni’n union.

Dangosyddion eraill i’w hystyried yn y dyfodol

Nid oes dim wedi’i nodi ar hyn o bryd.

Newidiadau i gynigion ar ôl adborth arolwg neu waith diweddar

Nodwn y gefnogaeth i’r cynigion ynglŷn â’r maes hwn; felly ni wnaed unrhyw newidiadau i’r hyn a fwriadwyd o ganlyniad i adborth yr arolwg.

Maes iechyd

Diben y maes hwn yw mesur diffyg iechyd da ymhlith yr holl bobl, a chasglu gwybodaeth am ragfynegyddion iechyd yn y dyfodol yn seiliedig ar amddifadedd a brofwyd yn ystod plentyndod. Mae rhai dangosyddion yn y maes hwn wedi’u safoni yn ôl oedran a rhyw er mwyn cyfrif am wahaniaethau yn y boblogaeth rhwng ardaloedd bach.

Ymatebion i gwestiynau penodol

Cwestiwn 8: Rhowch eich barn ar ba mor berthnasol i’r maes iechyd yw’r dangosydd newydd posibl ar gyfer brechiadau ymhlith plant: derbyn yr holl imiwneiddiadau rheolaidd ymhlith plant pedair oed.

Ymatebodd 22 o bobl i’r cwestiwn hwn, a gwnaeth saith ei hepgor. Roedd 90% (20) o’r 22 o ymatebwyr yn meddwl bod y dangosydd arfaethedig yn berthnasol i raddau neu’n berthnasol iawn i’r maes iechyd, gyda 10 yn dewis ‘perthnasol iawn’ a 10 yn dewis ‘yn berthnasol i raddau’. Dewisodd y ddau ymatebydd arall yr opsiwn ‘ddim yn berthnasol nac yn amherthnasol’, ac ni ddewisodd yr un ymatebodd yr opsiwn ‘ddim yn berthnasol’.

Cwestiwn 9: Rhestrwch y canlynol yn eu trefn, o ran sut y byddech yn blaenoriaethu’r tri dangosydd sy’n ymwneud â babanod a phlant i’w cynnwys ym MALlC 2025. (1 = y flaenoriaeth uchaf)

Y dangosydd (sy’n ymwneud â babanod a phlant) â’r flaenoriaeth uchaf i’w gynnwys ym MALlC 2025 oedd plant 4-5 oed sy’n ordew. Roedd pwysau geni isel yn ail agos, a daeth brechiadau ymhlith plant (dangosydd newydd posibl) yn drydydd. Ymatebodd cyfanswm o 20 o bobl i’r cwestiwn hwn.

Cwestiwn 10: Rhowch eich barn ar ba mor berthnasol i’r maes iechyd yw’r dangosydd newydd posibl ar gyfer iechyd deintyddol.

Ymatebodd 22 o bobl i’r cwestiwn hwn. O’r rhain, roedd dros 80% o’r farn bod y dangosydd newydd posibl ynglŷn ag iechyd deintyddol o leiaf yn berthnasol i raddau i’r maes iechyd. Roedd 10 o bobl (46%) o’r farn ei bod yn berthnasol iawn ac roedd wyth o bobl (36%) o’r farn ei bod yn berthnasol i raddau.

Roedd tri o bobl (14%) o’r farn nad oedd y dangosydd arfaethedig yn berthnasol nac yn amherthnasol, ac roedd un ymatebydd yn meddwl nad oedd y dangosydd arfaethedig yn berthnasol i’r maes iechyd.

Cwestiwn 11: Esboniwch eich rhesymau dros yr ymatebion uchod a gwnewch unrhyw sylwadau eraill ar gynigion ar gyfer y maes iechyd.

Iechyd Deintyddol

Codwyd mynediad at ofal deintyddol gan sawl ymatebydd fel mater a allai effeithio ar gwmpas data ar y dangosydd arfaethedig ‘iechyd deintyddol’, na fyddai o bosibl yn cofnodi iechyd deintyddol cyffredinol y boblogaeth. Cyfeiriodd sawl ymatebydd at brinder lleoedd / rhestrau aros i gofrestru ag un o ddeintyddion y GIG, a’u fforddiadwyedd hefyd i rai. Mae’n bosibl y bydd rhai pobl sydd wedi cofrestru â deintydd yn ei chael hi’n anodd trefnu apwyntiadau neu deithio i weld eu deintydd, ac mae’n bosibl bod aelwydydd sy’n well eu byd yn defnyddio gofal deintyddol preifat yn lle hynny. Dywedodd ymatebwyr wrthym ei bod yn bwysig bod y senarios hyn yn cael eu hystyried wrth benderfynu a ddylid cynnwys y data ar gyfer iechyd deintyddol.

Brechiadau ymhlith plant

Gwnaeth sawl ymatebydd ymhelaethu ar y ffordd roeddent wedi graddio’r dangosydd newydd arfaethedig hwn. Esboniodd rhai eu bod yn cefnogi cynnwys y dangosydd oherwydd y bwlch anghydraddoldeb yn nifer y plant sy’n cael brechiadau erbyn pedair oed, effaith bosibl patrymau gwaith ar fod ar gael i fynd i apwyntiadau, a chamwybodaeth sy’n effeithio ar grwpiau penodol. Fodd bynnag, gwnaeth rhai fynegi pryderon ynglŷn â ffactorau sy’n cymhlethu penderfyniadau ynglŷn â brechu ac effaith hynny, megis dewis rhieni, gwahaniaethau diwylliannol, ac imiwnedd torfol. Ar y cyfan, roedd cefnogaeth i’r dangosydd arfaethedig fel y’i hamlinellwyd yn y canlyniadau uchod, ond gyda rhai yn nodi y dylid gweithredu’n bwyllog.

Dywedodd ein hadroddiad ar y cynigion ein bod yn annhebygol o gael caniatâd i gyhoeddi data’r dangosydd ar lefel ardal gynnyrch ehangach haen is (AGEHI) oherwydd pryderon ynglŷn â phreifatrwydd. Hoffem egluro mai data lefel AGEHI a fyddai’n cael eu defnyddio yng nghyfrifiadau’r maes, ond dim ond data lefel uwch a fyddai’n cael eu cyhoeddi o bosibl ar gyfer y dangosydd penodol.

Sylwadau eraill

Er y gellir gweld atebion manylach mewn cwestiwn diweddarach, cyfeiriodd rhai ymatebwyr at bwysoliad y maes iechyd. Cyfeiriodd y sylwadau at y ffordd y byddai’r dangosyddion newydd arfaethedig yn cryfhau’r maes, gan awgrymu y gallai pwysoliad iechyd fod yn uwch na’r un a ddefnyddiwyd yn 2019.

Gwnaeth rhai ymatebwyr ymhelaethu ar y ffordd roeddent wedi graddio yng nghwestiwn 9 drwy esbonio pam roeddent o blaid parhau â’r dangosyddion blaenorol ynglŷn â phwysau geni isel neu blant sy’n ordew. Ymhlith y rhesymau roedd y dystiolaeth ynglŷn ag effeithiau hirdymor y ffactorau hyn.

Cododd un ymatebydd bryder ynglŷn â’r dangosydd iechyd meddwl a gofnodir gan feddygon teulu (a oedd eisoes wedi’i gynnwys ym MALlC 2019), yn benodol a yw ymwybyddiaeth gynyddol o gyflyrau iechyd meddwl yn ddiweddar yn cael ei hadlewyrchu o bosibl yn y cynnydd yn nifer y cleifion sy’n cael diagnosis, gan greu camargraff bod nifer y bobl â chyflyrau iechyd meddwl wedi cynyddu. Fodd bynnag, prif ddiben MALlC yw cynnig ymarfer graddio cymharol o feysydd bach ar adeg benodol, yn hytrach na dadansoddi tueddiadau yn nata dangosyddion dros amser, a bydd ein herthygl ar ddata dangosyddion yn parhau i roi arweiniad ynglŷn â chymharu data dros amser.

Crynodeb o’r dangosyddion ar gyfer MALlC 2025

Dangosyddion sy’n ymwneud â phlant

  • Rydym yn bwriadu diweddaru’r dulliau o fesur pwysau geni isel a phlant gordew.
  • Newydd: Rydym yn parhau i ystyried ffordd newydd o fesur nifer y brechiadau ymhlith plant ac rydym wedi dechrau ymarfer sicrhau ansawdd data. Nodwn mai yn y trydydd safle o blith y tri dangosydd sy’n ymwneud â babanod a phlant roedd y dangosydd hwn a byddwn yn ystyried hyn wrth werthuso’r gwerth a ychwanegir gan y dangosydd hwn at y maes.

Dangosyddion sy’n casglu gwybodaeth am gyflyrau penodol sydd wedi’u diagnosio

  • Rydym yn bwriadu diweddaru’r dangosyddion ar gyfer cyflyrau cronig a chyflyrau iechyd meddwl sydd wedi cael diagnosis gan feddygon teulu, a nifer yr achosion o ganser.

Dangosyddion sy’n casglu gwybodaeth am statws iechyd y boblogaeth yn fwy cyffredinol

  • Rydym yn bwriadu diweddaru’r dangosyddion ar gyfer marwolaethau cynamserol a salwch cyfyngol hirdymor hunangofnodedig.
  • Newydd: rydym yn ystyried ffordd newydd o fesur iechyd deintyddol ond rhagwelwn y bydd hon yn cael ei gwrthod yn y mynegai hwn oherwydd bylchau yng nghwmpas y data.

Materion eraill

Fel y nodir uchod, rydym yn dal i ystyried dau ddangosydd posibl. Rydym yn aros nes bod pob un o’r setiau data wedi dod i law cyn gwneud y penderfyniadau terfynol ynglŷn â phwysoli ar gyfer y mynegai.

Dangosyddion eraill i’w hystyried yn y dyfodol

Fel y disgrifia’r adroddiad ar y cynigion, byddwn yn adolygu’r potensial i ddeillio dangosydd o’r arolwg iechyd a llesiant myfyrwyr o ysgolion uwchradd a gynhaliwyd gan y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion ar gyfer iteriadau o’r mynegai yn y dyfodol.

Newidiadau i gynigion ar ôl adborth arolwg neu waith diweddar

Nodwn y gefnogaeth gyffredinol i’r cynigion ar gyfer y maes hwn; felly ni wnaed unrhyw newidiadau i’r hyn a fwriadwyd o ganlyniad i adborth yr arolwg.

Maes addysg

Diben y maes hwn yw cofnodi graddau’r amddifadedd sy’n ymwneud ag addysg, hyfforddiant a sgiliau. Bwriedir iddo adlewyrchu anfanteision addysgol mewn ardal o ran diffyg cymwysterau a sgiliau. Mae’r dangosyddion arfaethedig yn casglu gwybodaeth am gyrhaeddiad isel ymhlith plant a phobl ifanc a chymwysterau isel ymhlith oedolion.

Ymatebion i gwestiynau penodol

Cwestiwn 12: I ba raddau rydych chi’n cytuno â’r newidiadau arfaethedig canlynol i ddangosyddion y maes addysg?

Ymatebodd cyfanswm o 22 o bobl i’r cwestiwn hwn, a gwnaeth saith ei hepgor.

Rhannu’r dangosydd ynglŷn ag absenoldeb mynych yn ddau ddangosydd ar wahân, y naill ar gyfer absenoldeb mynych mewn ysgolion cynradd a’r llall ar gyfer absenoldeb mynych mewn ysgolion uwchradd.

Roedd y mwyafrif o’r ymatebwyr (77%) yn cytuno â’r cynnig hwn, gyda chwech o bobl yn cytuno’n gryf, ac 11 yn dewis yr opsiwn ‘cytuno’. Nid oedd gweddill yr ymatebwyr (5 o bobl) yn cytuno nac yn anghytuno y dylid rhannu absenoldeb mynych yn ddau ddangosydd ar wahân. Nid oedd unrhyw ymatebwyr yn anghytuno â’r cynnig hwn.

Defnyddio trothwy o golli 10% (yn hytrach na 15%) neu fwy o sesiynau ysgol hanner diwrnod ar gyfer absenoldeb mynych.

Roedd cyfanswm o naw ymatebydd (41%) yn cytuno â’r cynnig hwn, gyda phob un o’r naw yn dewis yr opsiwn ‘cytuno’ a dim un ohonynt yn dewis yr opsiwn ‘cytuno’n gryf’. Dywedodd y ganran uchaf o’r ymatebwyr (50%, 10 o bobl) nad oeddent yn cytuno nac yn anghytuno â’r cynnig i ddefnyddio trothwy o 10% yn hytrach na 15%. Roedd y tri ymatebydd arall yn anghytuno â’r cynnig, ac nid oedd neb wedi dewis yr opsiwn ‘anghytuno’n gryf’.

Cynnwys cyrchfannau eraill, megis dysgu ehangach neu ganlyniadau cyflogaeth barhaus, yn y dangosydd ar gyfer disgyblion sy’n gadael CA4.

Roedd dros 90% (20 o ymatebwyr) yn cytuno â’r cynnig i gynnwys cyrchfannau eraill yn y dangosydd ar gyfer disgyblion sy’n gadael CA4. O’r rhain, roedd pedwar o bobl (18% o gyfanswm yr ymatebwyr) yn cytuno’n gryf, ac roedd 16 (73% o gyfanswm yr ymatebwyr) yn cytuno â’r cynnig. Roedd un ymatebydd nad oedd yn cytuno nac yn anghytuno, ac roedd un a oedd yn anghytuno â’r cynnig.

Cynnwys y rhai â chymwysterau lefel 1, yn ogystal â’r rhai heb gymwysterau, yn y dangosydd ehangach ‘oedolion heb gymwysterau neu gymwysterau isel’.

Roedd canran uchel o’r ymatebwyr yn cytuno â’r cynnig hwn. O gyfanswm yr ymatebwyr (22), roedd pedwar yn cytuno’n gryf a 15 yn cytuno, sy’n gwneud cyfanswm o fwy na 85% o ymatebwyr a oedd yn cytuno â’r cynnig i gynnwys y rhai â chymwysterau lefel 1. Nid oedd y tri ymatebydd arall yn cytuno nac yn anghytuno â’r cynnig.

Cwestiwn 13: O ystyried y newidiadau tebygol a ddisgrifiwyd ar gyfer y dangosyddion yn y maes addysg, ydych chi’n credu y dylai pwysoliad y maes fod yn uwch, yn is neu’r un fath â’r pwysoliad a ddefnyddiwyd yn 2019, sef 14%?

Ymatebodd cyfanswm o 20 o bobl i’r cwestiwn hwn, a gwnaeth naw ei hepgor. O’r 20 o ymatebwyr, roedd tri chwarter (15 o bobl) yn meddwl y dylai’r pwysoliad ar gyfer y maes addysg aros yr un fath â 2019. O’r pum ateb arall, roedd pedwar yn meddwl y dylai’r pwysoliad fod yn uwch na’r pwysoliad yn 2019, ac awgrymodd un ymatebydd y dylai fod yn is.

Cwestiwn 14: Esboniwch eich rhesymau dros yr ymatebion uchod a gwnewch unrhyw sylwadau eraill ar gynigion ar gyfer y maes addysg.

Absenoldeb mynych

Fel y dengys y crynodeb uchod, roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr yn cytuno â’r cynnig i rannu’r dangosydd ynglŷn ag absenoldeb mynych yn ddau ddangosydd ar wahân. Roedd ymatebion a oedd yn cytuno â’r cynnig wedi cynnwys esboniadau megis bod disgyblion uwchradd yn tueddu i golli mwy o ysgol na disgyblion cynradd.

Cafwyd dau ymateb a fynegodd ychydig o bryder ynglŷn â’r cynnig hwn; sef y dylai’r diffiniad o absenoldeb mynych fod yn glir, a’i bod yn bwysig cydnabod nad yw’r dangosydd ynglŷn â’r gyfradd absenoldeb mynych mewn ysgolion cynradd yn un newydd ac nad yw’n mynd i’r afael â’r diffyg dangosydd ar gyfer y cyfnod sylfaen a chyrhaeddiad ar CA2.

Cyfeiriodd y sylwadau eraill ar y dangosydd absenoldeb mynych at y cynnig i ddefnyddio trothwy o golli 10% (yn hytrach na 15%) neu fwy o sesiynau ysgol hanner diwrnod. Fel y dengys y crynodeb o’r ymatebion i gwestiwn 12, roedd ymatebwyr yn llai sicr ynglŷn â’r cynnig hwn. Nododd un ymatebydd fod 10% yn unol â’r trothwy newydd ar gyfer ‘absenoldeb mynych’, ond roedd y trothwy hwn yn arfer bod yn 20%. Gofynnodd un ymatebydd a fyddai’n bosibl edrych ar absenoldeb heb awdurdod yn unig.

Awgrymodd ymatebwyr eraill na ddylid pennu trothwy is, gan gyfeirio at faterion megis effaith absenoldeb oherwydd salwch, a chynnydd cyffredinol mewn cyfraddau absenoldeb ers pandemig y Coronafeirws (COVID-19).

Er mai cymysg oedd y farn ar y trothwy, rydym yn cynnig y dylid defnyddio’r ffigur o 10%. Mae hyn yn golygu y bydd MALlC yn gyson â diffiniad swyddogol Llywodraeth Cymru o ‘absenoldeb cyson’. Rydym eisoes wedi gweld nad yw’r newid o ran trothwy yn cael fawr ddim effaith ar safleoedd cymharol ardaloedd ar gyfer y dangosydd, ar sail cynradd, uwchradd neu gyffredinol.

Sgôr pwyntiau cyfartalog CA4

Roedd yr unig sylw ar sgôr pwyntiau cyfartalog CA4 yn cytuno â’r cynnig i beidio â chynnwys data o gyfnod pandemig COVID-19.

Y dangosydd ar gyfer disgyblion sy’n gadael CA4

Fel y’i hamlinellwyd yn y crynodeb ar gyfer cwestiwn 12, roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr yn cytuno â’r cynnig i gynnwys cyrchfannau eraill, megis dysgu ehangach neu ganlyniadau cyflogaeth parhaus, yn y dangosydd ynglŷn â disgyblion sy’n gadael CA4. Esboniodd yr ymatebwyr a oedd yn cefnogi’r cynnig hwn fod y newid yn bwysig am y byddai’n cryfhau’r dangosydd a’i fod yn ddangosydd allweddol o lesiant yn y dyfodol.

Codwyd dau fater a oedd yn destun pryder. Roedd un ymatebydd yn meddwl bod rhywfaint o orgyffwrdd o bosibl â’r maes addysg ac mai dim ond disgyblion sy’n mynd i sefydliad addysg uwch y dylid eu cynnwys yn y dangosydd ynglŷn â disgyblion sy’n gadael CA4. Gofynnodd ymatebydd arall a allai fod dangosydd ‘mynediad i gyfleoedd (h.y. mynediad i waith, amrywiaeth hyfforddiant)’ ar wahân, ac roedd yn meddwl y byddai cynnwys cyrchfannau heblaw addysg uwch (AU) yn gwanhau bwriad gwreiddiol y dangosydd ynglŷn â disgyblion sy’n gadael CA4.

Rydym wedi ystyried y mater hwn ymhellach (gan gynnwys yr adborth uchod) ar y cyd â grŵp maes addysg o arbenigwyr. Oherwydd cymhlethdodau wrth ddiffinio canlyniad ‘cyflogaeth barhaus’ ac oedi cyn cael data ar gyfer y dangosydd hwn, yn ogystal â’r pryderon a godwyd ynglŷn â gwyro oddi wrth y bwriad gwreiddiol i gofnodi niferoedd sy’n mynd i sefydliadau AU yn benodol, ni fyddwn yn ehangu cwmpas canlyniadau ar gyfer y dangosydd hwn ym MALlC 2025. Byddwn yn ystyried y potensial am ddangosydd ehangach, amgen ynglŷn â disgyblion sy’n gadael yr ysgol (16-19 oed) nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yn seiliedig ar ddata gan Gyrfa Cymru.

Oedolion heb gymwysterau neu â chymwysterau isel

Dim ond un sylw a wnaed mewn perthynas â’r cynnig hwn, a nododd y byddai cynnwys cymwysterau isel yn tynnu sylw at amddifadedd yn well yn hytrach na dangosydd ‘dim cymwysterau’ yn unig. Fel y’i hamlinellwyd yn y crynodeb ar gyfer cwestiwn 12, roedd y cynnig hwn yn cael ei gefnogi ar y cyfan gan ymatebwyr.

Pwysoliad y maes

Fel y’i crynhoir uchod ar gyfer cwestiwn 13, roedd y rhan fwyaf o ymatebwyr yn meddwl y dylai pwysoliad y maes addysg aros yr un fath ar gyfer 2025 â’r pwysoliad ar gyfer 2019. Roedd un ymatebydd yn meddwl bod rhywfaint o gyfiawnhad dros bennu pwysoliad is oherwydd y problemau presennol gyda data ar berfformiad ysgol oedran cynnar ac oedran cynradd. Roedd rhai ymatebwyr yn credu y dylai pwysoliad y maes fod yn uwch. Gwnaeth un ohonynt gyfeirio at arwyddocâd anfantais addysgol mewn amddifadedd a’r ystod o ddangosyddion a oedd wedi’u cynnwys yn y maes.

Crynodeb o’r dangosyddion ar gyfer MALlC 2025

Dangosyddion deilliannau / cyfraddau absenoldeb ysgolion

  • Rydym yn bwriadu diweddaru’r dangosydd ynglŷn â sgôr pwyntiau cyfartalog CA4.
  • Byddwn yn cynnwys dangosyddion ‘absenoldeb cyson’ ar wahân ar gyfer addysg gynradd ac addysg uwchradd gyda throthwy o golli 10% o sesiynau hanner diwrnod.

Dangosyddion sy’n ymwneud ag addysg ôl-orfodol / y boblogaeth ehangach

  • Rydym yn bwriadu diweddaru’r dangosydd ar gyfer cyfran y disgyblion sy’n gadael CA4 i fynd i sefydliad addysg uwch.
  • Byddwn yn cynnwys dangosydd ynglŷn â chyfran yr oedolion o oedran gweithio heb gymwysterau neu sydd â chymwysterau isel (lefel 1).

Materion eraill

Rydym yn ymchwilio i addasrwydd data Gyrfa Cymru ar gyfer dangosydd pellach ynglŷn â chyrchfannau disgyblion, fel y’i nodir uchod. Rydym yn aros nes bod pob un o’r setiau data wedi dod i law cyn gwneud y penderfyniadau terfynol ynglŷn â phwysoli ar gyfer y mynegai.

Dangosyddion eraill i’w hystyried yn y dyfodol

Rydym yn bwriadu ailgyflwyno dangosyddion sy’n gysylltiedig â chyrhaeddiad mewn ysgolion cynradd os bydd data ar gael.

Newidiadau i gynigion ar ôl adborth arolwg neu waith diweddar

Nodwn y gefnogaeth gyffredinol i’r cynigion ynglŷn â’r maes hwn, ac mae’r cynigion yn eithaf tebyg i’r rhai blaenorol, gyda dau newid bach.

Fel y’i nodir yn y crynodeb uchod, rydym yn bwriadu cyfeirio at ddangosyddion ‘absenoldeb cyson’ yn hytrach nag ‘absenoldeb mynych’, gan fod y dangosydd bellach yn gyson â diffiniad swyddogol presennol Llywodraeth Cymru.

Nid ydym yn bwriadu ehangu cwmpas deilliannau ar gyfer y dangosydd ynglŷn â ‘disgyblion CA4 sy’n gadael CA4 i fynd i sefydliad addysg uwch’ ar gyfer MALlC 2025. Yn hytrach na hynny, byddwn yn ystyried y potensial am ddangosydd ehangach, amgen ynglŷn â disgyblion sy’n gadael yr ysgol nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yn seiliedig ar ddata gan Gyrfa Cymru.

Maes mynediad at wasanaethau

Diben y maes hwn yw casglu gwybodaeth am amddifadedd o ganlyniad i anallu cartref i fanteisio ar amrywiaeth o wasanaethau yr ystyrir bod eu hangen i fyw o ddydd i ddydd, yn ffisegol ac ar-lein. Mae hyn yn cwmpasu amddifadedd materol (er enghraifft methu â chael bwyd) ac agweddau cymdeithasol ar amddifadedd (er enghraifft methu â mynd i weithgareddau ar ôl ysgol).

Ymatebion i gwestiynau penodol

Cwestiwn 15: Rhowch eich barn ar ba mor berthnasol i’r maes gwasanaethau yw’r dangosydd newydd posibl sy’n mesur amseroedd teithio i wasanaethau gofal plant.

Cafwyd 21 o ymatebion i’r cwestiwn hwn, a gwnaeth wyth ymatebydd ei hepgor. Roedd 17 o ymatebwyr yn credu bod dangosydd posibl ynglŷn ag amseroedd teithio i wasanaethau gofal plant yn berthnasol. O’r rhain, roedd naw ymatebydd (43% o gyfanswm yr ymatebwyr) yn credu bod y dangosydd yn berthnasol iawn i’r maes, ac roedd wyth ymatebydd (38% o gyfanswm yr ymatebwyr) yn credu ei bod yn berthnasol i raddau.

Roedd y pedwar ymatebydd arall (19%) yn credu na fyddai’r dangosydd yn berthnasol nac yn amherthnasol i’r maes, ac nid oedd yr un ymatebydd yn ystyried bod y dangosydd yn amherthnasol i’r maes.

Cwestiwn 16: Esboniwch eich rhesymau dros yr ymatebion uchod a gwnewch unrhyw sylwadau eraill ar gynigion ar gyfer y maes mynediad at wasanaethau.

Cafwyd cyfanswm o 16 o ymatebion i’r cwestiwn hwn gan ystod o sefydliadau.

Dangosydd amseroedd teithio i wasanaethau gofal plant

Roedd y rhan fwyaf o’r sylwadau a wnaed yn canolbwyntio ar y dangosydd ynglŷn â gwasanaethau gofal plant. Yn gyffredinol, roedd yr ymatebion i gwestiwn 15 a chwestiwn 16 yn dangos cefnogaeth i’r cynnig i gynnwys dangosydd ynglŷn â gwasanaethau gofal plant.

Nododd sawl ymatebydd yr effaith sylweddol y mae mynediad at wasanaethau gofal plant yn ei chael ar amddifadedd ac ansawdd bywyd i'r rhai sydd â phlant. Roedd hyn yn canolbwyntio’n bennaf ar yr effaith y gall gofal plant ei chael ar gyflogaeth, a chyfeiriwyd at hyn yn uniongyrchol mewn pum ymateb ac yn anuniongyrchol mewn rhagor. Gwnaeth rhai pwyntiau eraill grybwyll effaith gwasanaethau gofal plant ar yr ymdeimlad o gymuned, deall anghydraddoldebau mewn grwpiau rhywedd a lleiafrifol, a’r heriau sy’n gysylltiedig â chael gafael ar wasanaethau gofal plant mewn cymunedau gwledig.

Fodd bynnag, cododd rhai ymatebwyr bryderon neu ystyriaethau ynglŷn â’r dangosydd arfaethedig ar gyfer gwasanaethau gofal plant. Cyfeiriodd chwe ymatebydd at y mathau o wasanaethau gofal plant a phlant i’w cynnwys yn y data. Awgrymodd rhai o’r rhain wasanaethau ychwanegol ‘ddim ar y llyfrau’ a ddylai gael eu cynnwys yn eu barn nhw. Ymhlith yr enghreifftiau mae gwaith ieuenctid, gwasanaethau rhwng cyfrwng Saesneg a chyfrwng Cymraeg a darpariaeth AAAA, a gofal plant anffurfiol gyda ffrindiau neu deulu. Roedd gofal plant anffurfiol yn destun pryder penodol oherwydd ei arwyddocâd mewn rhai ardaloedd, a’r ffaith nad yw’n cael ei gofnodi gan Arolygiaeth Gofal Cymru.

Cyfeiriodd dau ymatebydd at bryderon ynglŷn â pheidio â chynnwys meysydd lle roedd niferoedd bach o blant; roedd un yn canolbwyntio ar y gyfran fawr o ofal plant anffurfiol mewn rhai ardaloedd, na fyddai’n cael ei gofnodi, ac roedd y llall yn canolbwyntio ar effeithiau posibl i’r ardaloedd dan sylw. Nododd rhai ymatebwyr hefyd fod teuluoedd mewn gwaith yn debygol o ddefnyddio gwasanaethau gofal plant sy’n agos i’w gweithle yn hytrach na’u cartref a ffactorau eraill megis fforddiadwyedd, na fyddai’n cael ei ystyried yn y dangosydd. Hefyd, nododd dau ymatebydd yn benodol nad ydynt yn gweld sut y byddai’r dangosydd arfaethedig na’r set ddata yn ymwneud ag amddifadedd yn y naill achos, nac yn ‘llenwi bwlch’ yn y maes yn yr achos arall.

Ar y cyfan, er bod cefnogaeth gyffredinol i’r cynnig i gynnwys dangosydd ynglŷn â gwasanaethau gofal plant, nododd ymatebwyr bryderon ynghylch cymhlethdod gwasanaethau gofal plant ac addasrwydd y setiau data sydd ar gael. Mae’n anodd neu’n amhosibl ymdrin â’r rhan fwyaf o’r materion hyn, er eu bod yn ddilys, mewn dangosydd a fydd yn bodloni ein meini prawf. Er gwaethaf y cyfyngiadau, rydym yn cynnig bod gwerth o hyd mewn dangosydd sy’n seiliedig ar wasanaethau gofal plant sydd wedi’u cofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC), fel y’i disgrifiwyd yn ein hadroddiad ar y cynigion.

Sylwadau eraill

Ynghanol y sylwadau ar ofal plant, awgrymodd rhai ymatebwyr wasanaethau eraill i’w hystyried ar gyfer y maes, megis gweithgareddau hamdden, ysgolion cyfrwng Cymraeg, a chartrefi gofal i oedolion.

Awgrymodd tri ymatebydd wasanaethau eraill y dylid eu cynnwys yn y maes, gan gynnwys gwasanaethau neu asedau diwylliannol a mannau cymunedol (ynghyd ag awgrym o ffynhonnell drwy Asedau Cymunedol Cymru a Mynegeion Cymru Gydnerth); deintyddfeydd; cyfleusterau bancio.

Gwnaeth dau ymatebydd sylwadau ar y dangosydd ynglŷn â gwasanaethau digidol. Soniodd un y dylai’r dangosydd ynglŷn â gwasanaethau digidol gynnwys ffeibr llawn ochr yn ochr â gwasanaethau >30 Mb yr eiliad, ac y dylai unrhyw ddangosydd ynglŷn â gwasanaethau ffonau symudol ystyried mynediad at bob darparwr a data ar ansawdd gwasanaeth. Nododd un arall fod canran lawer uwch na’r rhai nad ydynt ar-lein nad ydynt yn hyfedr nac yn hyderus ar-lein, felly byddai’n annog rhagor o waith i benderfynu ar ddangosyddion cysylltiedig ar gyfer iteriadau o MALlC yn y dyfodol.

Er gwaethaf yr ychwanegiadau hyn a awgrymwyd gan ychydig o ymatebwyr, ar y cyfan ymddangosai fel petai ymatebwyr yn cytuno bod y cynigion presennol yn synhwyrol, yng ngoleuni’r data sydd ar gael ar hyn o bryd.

Mae dau ymatebydd hefyd yn credu y gallai’r pwysoliad ar gyfer y maes mynediad i wasanaethau fod yn uwch ar gyfer MALlC 2025.

Crynodeb o’r dangosyddion ar gyfer MALlC 2025

  • Rydym yn bwriadu diweddaru amseroedd teithio at yr wyth gwasanaeth gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a’r naw gwasanaeth gan ddefnyddio trafnidiaeth breifat a ddefnyddiwyd ym MALlC 2019.
  • Rydym yn bwriadu diweddaru’r ffordd o fesur mynediad at wasanaethau band eang.
  • Newydd: rydym yn ystyried ffordd ychwanegol o fesur amseroedd teithio i wasanaethau gofal plant.

Materion eraill

Mae penderfyniadau terfynol ynglŷn â phwysoli ar gyfer y mynegai eto i’w gwneud.

Pan fydd set ddata nesaf Ofcom wedi’i chyhoeddi, byddwn yn adolygu cwmpas diweddaraf band eang cyflym iawn ar gyfer ardaloedd bach, ac yn ystyried a ddylid cyflwyno metrig ychwanegol fel “datglwm” ar gyfer yr ardaloedd hynny na ellir eu graddio o ran diffyg argaeledd band eang cyflym iawn.

Dangosyddion eraill i’w hystyried yn y dyfodol

Mae gofal cymdeithasol i oedolion wedi cael ei nodi fel gwasanaeth o ddiddordeb i ymatebwyr i’r arolwg ac aelodau o’r grwpiau maes. Er na fydd modd ymchwilio i hyn er mwyn ei gynnwys ym MALlC 2025, nodwyd y dylid ei adolygu pan fydd y mynegai yn cael ei ddiweddaru yn y dyfodol.

Newidiadau i gynigion ar ôl adborth arolwg neu waith diweddar

Nodwn y gefnogaeth gyffredinol i’r cynigion ar gyfer y maes hwn; felly ni wnaed unrhyw newidiadau i’r hyn a fwriadwyd o ganlyniad i adborth yr arolwg.

Maes tai

Yn gysyniadol, diben y maes tai yw nodi tai annigonol, o ran cyflwr ffisegol, amodau byw ac argaeledd. Yma, mae amodau byw yn golygu addasrwydd y tai ar gyfer y sawl sy’n byw ynddynt, er enghraifft o ran iechyd a diogelwch, ac addasiadau angenrheidiol.

Ymatebion i gwestiynau penodol

Cwestiwn 17: Rhowch eich barn ar ba mor berthnasol i’r maes tai yw’r dangosydd newydd posibl ar gyfer anheddau â pherfformiad ynni gwael (yn amodol ar gynyddu cwmpas y set ddata ar Dystysgrifau Perfformiad Ynni).

Cafwyd 24 o ymatebion i’r cwestiwn hwn, a gwnaeth pump o bobl ei hepgor. Ar y cyfan, mae’r ymatebwyr yn cytuno bod y dangosydd posibl yn berthnasol dros ben i’r maes.

Roedd 12 o’r ymatebwyr (50%) o’r farn bod y dangosydd yn berthnasol iawn i’r maes. O ran yr ymatebion eraill, roedd 10 o ymatebwyr (41.7%) o’r farn bod y dangosydd yn berthnasol i raddau, ac roedd dau ymatebydd (8.3%) o’r farn nad yw’r dangosydd yn berthnasol nac yn amherthnasol. Ni nododd yr ymatebydd fod y dangosydd yn amherthnasol i’r maes.

Cwestiwn 18: Rhowch eich barn ar ba mor berthnasol i’r maes tai yw’r dangosydd wedi’i fodelu posibl ar gyfer fforddiadwyedd tai (yn amodol ar sicrwydd ansawdd data).

Cafwyd 23 o ymatebion i’r cwestiwn hwn, a gwnaeth chwech o bobl ei hepgor. Ar y cyfan, mae’r ymatebion yn dangos cryn gefnogaeth i’r cynnig i gynnwys y dangosydd hwn ac yn credu y byddai’n berthnasol iawn.

Roedd 17 o ymatebwyr (73.9%) o’r farn bod y dangosydd yn berthnasol iawn i’r maes, ac roedd pum ymatebydd arall (21.7%) o’r farn bod y dangosydd yn berthnasol i raddau. Ym marn un ymatebydd nid oedd y dangosydd yn berthnasol nac yn amherthnasol.

Cwestiwn 19: I ba raddau rydych chi wedi defnyddio’r dangosyddion wedi’u modelu ar gyfer ansawdd tai gwael, a gafodd eu cyhoeddi a’u cynnwys ym maes tai MALlC 2019?

Cafwyd 21 o ymatebion i’r cwestiwn hwn, a gwnaeth wyth o bobl ei hepgor. Ar y cyfan, mae’r ymatebion yn dangos bod y defnydd a wneir o’r dangosydd wedi’i fodelu ar gyfer ansawdd tai gwael gan ddefnyddwyr yn amrywio o ran amlder, gyda sawl un yn nodi mai anaml y byddent yn ei ddefnyddio.

Nododd 15 o ymatebwyr mai anaml y byddent yn ei defnyddio, os o gwbl, gyda naw ymatebydd (42.9%) yn nodi nad oeddent erioed wedi defnyddio’r dangosydd, ac roedd y chwe ymatebydd arall (28.6%) yn nodi defnydd prin o’r dangosydd. O blith yr ymatebwyr eraill, nododd pum ymatebydd (23.8%) eu bod yn defnyddio’r dangosydd weithiau. Dim ond un ymatebydd a nododd ei fod yn defnyddio’r dangosydd yn aml iawn.

Cwestiwn 20: Os ydych wedi defnyddio’r dangosyddion wedi’u modelu ar gyfer ansawdd tai gwael, disgrifiwch sut y gwnaethoch eu defnyddio a rhowch unrhyw adborth arall.

Er mai defnydd cymysg a welwyd yn yr atebion i gwestiwn 19, mae’r atebion i gwestiwn 20 yn dangos bod y dangosyddion wedi’u modelu ar gyfer ansawdd tai gwael yn rhoi gwybodaeth werthfawr i sawl defnyddiwr. Roedd eu perthnasedd hefyd yn cael ei gydnabod gan ymatebwyr a nododd nad oeddent erioed wedi defnyddio data’r dangosydd wedi’i fodelu neu mai anaml roeddent wedi eu defnyddio.

Ystyriwyd bod ansawdd tai gwael yn ddangosydd pwysig ar gyfer mentrau polisi sy’n ymwneud â thai a gwella prosesau cyflawni prosiectau. Nododd dau ymatebydd fod y dangosydd yn ddefnyddiol er mwyn deall tai mewn cyflwr gwael a digonolrwydd tai. Nodwyd bod hwn yn fater pwysig am fod tai mewn cyflwr gwael yn aml yn effeithio’n anghymesur ar grwpiau sy’n agored i niwed, megis pobl hŷn a’r rhai yn y sector rhentu cymdeithasol.

Soniodd un ymatebydd fod y data yn cael eu defnyddio mewn nifer o brosiectau a oedd yn ymwneud â thai, ac yn canolbwyntio’n bennaf ar wella amodau tai drwy gyfeirio buddsoddiadau. Ymhlith yr enghreifftiau mae cynlluniau adnewyddu cymdogaeth, cynlluniau effeithlonrwydd sy’n seiliedig ar ardal a strategaethau tlodi tanwydd. Nododd ymatebydd arall ei fod yn credu y gallai’r data fod yn ddefnyddiol ar gyfer y strategaeth dai arfaethedig ynglŷn â digonolrwydd tai yng Nghymru drwy fesur addasrwydd i fod yn gartref a lefel eiddo mewn cyflwr gwael yn stoc dai Cymru.

Nodwyd hefyd fod y dangosyddion wedi’u modelu ar gyfer ansawdd tai yn werthfawr mewn meysydd polisi eraill, megis iechyd. Gwnaeth un ymatebydd gysylltu gwerth yr wybodaeth am ansawdd tai, a’r gwelliannau i dai drwy ei defnyddio, â chyfrannu tuag at welliannau eraill mewn gwasanaethau eraill megis iechyd. Nododd un ymatebydd arall y defnydd o’r dangosydd fel penderfynydd ehangach iechyd, gan wella dealltwriaeth ar lefel ardal fach.

Fodd bynnag, nododd rhai ymatebwyr eu bod yn defnyddio ffynonellau data eraill, neu fod eu defnydd o’r dangosyddion wedi’u modelu wedi lleihau dros amser wrth iddynt fynd yn llai perthnasol. Roedd y data amgen a grybwyllwyd yn cynnwys: data ar dystysgrifau perfformiad ynni, data ynghylch a yw tai wedi’u cysylltu â rhwydwaith nwy, a’r flwyddyn yr adeiladwyd y tŷ.

Cwestiwn 21: Rhowch eich barn ar ba mor berthnasol i’r maes tai yw ffordd o fesur mannau awyr agored preifat eiddo fel dangosydd ar gyfer amddifadedd tai.

Cafwyd 23 o ymatebion i’r cwestiwn hwn, a gwnaeth chwech o bobl ei hepgor. Ar y cyfan, mae’r ymatebwyr yn cytuno bod y dangosydd posibl yn berthnasol i’r maes, ond i raddau llai na’r ddau ddangosydd arfaethedig blaenorol.

Roedd 12 o’r ymatebwyr (52.2%) o’r farn bod y dangosydd yn berthnasol i raddau i’r maes, ac roedd chwe ymatebydd (26.1%) o’r farn nad oedd y dangosydd yn berthnasol nac yn amherthnasol. Dim ond pum ymatebydd (21.7%) oedd o’r farn bod y dangosydd yn berthnasol iawn, ond nid oedd yr un ymatebydd yn ystyried bod y dangosydd yn amherthnasol i’r maes.

Cwestiwn 22: Esboniwch eich rhesymau dros yr ymatebion uchod a gwnewch unrhyw sylwadau eraill ar y cynigion ar gyfer y maes tai.

Anheddau â pherfformiad ynni gwael

Fel y dengys y crynodeb o’r adborth ar gyfer cwestiwn 17, roedd mwyafrif mawr o’r ymatebwyr yn cytuno, yn amodol ar gynyddu cwmpas y set ddata ar gyfer tystysgrifau perfformiad ynni, fod y dangosydd arfaethedig ynglŷn ag anheddau â pherfformiad ynni gwael yn berthnasol i’r maes tai. Nododd sawl ymatebydd eu bod yn cefnogi’r cynnig i gydweithio â thîm mynegeion amddifadedd Lloegr y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol ynglŷn â’r data ar dystysgrifau perfformiad ynni.

Codwyd rhai pryderon ynglŷn ag ansawdd a chwmpas y data ar dystysgrifau perfformiad ynni. Fel y’i hamlinellwyd yn ein hadroddiad ar y cynigion, ymdrinnid â materion o ran cwmpas drwy fewnbynnu graddau effeithlonrwydd ynni ar gyfer eiddo lle mae’r data ar goll. Byddwn yn asesu’r dull ac ansawdd y data yn ofalus cyn mabwysiadu’r dangosydd hwn a gynigir.

Cyfeiriodd rhai ymatebwyr at fesurau amgen megis tlodi tanwydd (a wrthodwyd yn ein hadroddiad ar y cynigion) neu ddata a ddaw o Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC). Nid yw SATC yn cwmpasu anheddau o bob math o ddeiliadaeth felly byddai’n anaddas fel yr un sail dros ddangosydd MALlC.

Nododd ymatebwyr rai materion eraill, gan gynnwys heriau o ran gwella graddau effeithlonrwydd ynni, a sut y tueddir i weld cartrefi mwy effeithlon o ran ynni yn y sector tai cymdeithasol.

Fforddiadwyedd tai

Fel y’i hamlinellwyd yn y crynodeb ar gyfer cwestiwn 18, roedd bron pob ymatebydd i’r cwestiwn hwn yn meddwl y byddai’r dangosydd wedi’i fodelu ar gyfer fforddiadwyedd tai a gynigiwyd, yn amodol ar sicrhau ansawdd data, yn berthnasol i’r maes tai.

Nodwyd hyn hefyd yn y sylwadau, gyda sawl ymatebydd yn disgrifio’r dangosydd fel un sy’n berthnasol iawn er mwyn deall amddifadedd, yn hanfodol o ran mynediad at dai digonol, ac sydd â defnyddiau posibl y tu hwnt i MALlC.

Fodd bynnag, amlinellodd rhai ymatebwyr gymhlethdodau a phryderon, megis y ffordd y mae fforddiadwyedd yn rhyngweithio â cheisiadau digartrefedd, awydd i ystyried angen heb ei ddiwallu hefyd, a chostau tai cynyddol i berchen-feddianwyr a rhentwyr preifat presennol.

Awgrymodd rhai ymatebwyr y gallai’r data fod yn fwy defnyddiol ar lefel AGEHG am fod llai o amrywio ym mhrisiau tai cyfartalog o gymharu ag AGEHI. Fel y’i crynhowyd yn ein hadroddiad ar y cynigion, byddai’r data ar brisiau tai a rhenti yn cael eu crynhoi ar draws “ardaloedd marchnad dai” mwy o faint na’r AGEHI.

Gwnaeth ymatebwyr hefyd drafod meini prawf fforddiadwyedd, gyda safbwyntiau gwahanol ar drothwyon priodol. Er eglurder, yn ogystal â meini prawf sy’n ymwneud â lluoswyr benthyca morgais neu gymarebau rhent i incwm, mae’r cynnig yn cynnwys ail faen prawf ynglŷn â fforddiadwyedd bod incwm net ar ôl costau tai yn uwch na lefel ofynnol a bennir ymlaen llaw. Hefyd, er y byddwn yn adolygu’r dewis o feini prawf, mae’n werth nodi mai prif nod MALlC yw mesur sefyllfa gymharol ardaloedd bach o ran fforddiadwyedd, a fydd yn llai sensitif i newidiadau bach mewn meini prawf a ddewiswyd na dadansoddiad sy’n canolbwyntio ar werthoedd absoliwt.

Mannau awyr agored preifat

Unwaith eto, fel y dengys y crynodeb ar gyfer cwestiwn 21, roedd ymatebwyr yn cefnogi’r syniad o fesur mannau agored preifat eiddo ar y cyfan, gan ddweud ei fod yn elfen allweddol i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau am fod mannau agored yn cynnig buddiannau ar gyfer iechyd a llesiant corfforol a meddyliol.

Fodd bynnag, roedd ymatebwyr yn llai cefnogol i’r dangosydd hwn o gymharu â’r cynigion eraill ar gyfer y maes tai. Roedd rhai ymatebwyr yn teimlo bod i fannau awyr agored preifat arwyddocâd cyd-destunol ond eu bod yn cael llai o effaith ar amddifadedd.

Awgrymwyd mesurau amgen i’w hystyried, megis mynediad i fannau cymunedol diogel, yn enwedig i’r rhai mewn fflatiau. Fel y’i crybwyllwyd yn ein hadroddiad ar y cynigion rydym eisoes yn cynnwys mesur o agosrwydd i fannau gwyrdd naturiol hygyrch ym maes yr amgylchedd ffisegol yn MALlC.

Awgrymodd ymatebwyr y dylid ailystyried y mesur hwn mewn iteriad diweddarach o MALlC unwaith y bydd yn fwy sefydlog.

Sylwadau eraill

Awgrymodd rhai ymatebwyr bwysoliadau ar gyfer y maes tai. Awgrymodd un ymatebydd y gallai fod yn uwch pe bai’r dangosydd wedi’i fodelu ar gyfer fforddiadwyedd tai a gynigir yn cael ei ddatblygu; fodd bynnag, roedd ymatebydd arall o’r farn mai’r pwysoliad blaenorol (7%) a ddefnyddiwyd yn 2019 yw’r pwysoliad mwyaf posibl addas ar gyfer y maes tai, ac y gallai fod yn is os bydd ansawdd data yn mynd yn broblem gyda’r dangosyddion.

Yn olaf, roedd un ymatebydd yn cefnogi’r mesur ynglŷn â gorlenwi (ni ofynnwyd am hyn fel cwestiwn) ond hoffai hefyd weld mesur ar gyfer tanfeddiannaeth, a all dynnu sylw at feysydd eraill o amddifadedd; er enghraifft, gall aelwydydd un person wynebu mwy o dlodi tanwydd.

Crynodeb o’r dangosyddion ar gyfer MALlC 2025

  • Rydym yn bwriadu diweddaru’r dangosydd ar gyfer gorlenwi (mesur ystafelloedd gwely yn seiliedig ar Gyfrifiad 2021).
  • Rydym yn bwriadu diweddaru'r dangosydd o ansawdd tai gwael wedi’u modelu, yn amodol ar gytuno ar ddull addas ar gyfer hyn.
  • Yn amodol ar asesu ansawdd data, byddwn yn cynnwys dangosydd ynglŷn ag aneffeithlonrwydd ynni drwy ddefnyddio data o gofnodion o dystysgrifau perfformiad ynni, a phriodoli yn achos cofnodion sydd ar goll.
  • Yn amodol ar asesu ansawdd data, byddwn yn cynnwys mesur o fforddiadwyedd tai, a fynegir fel anallu i fforddio dod yn berchen-feddiannydd neu ymuno â’r farchnad rhentu preifat.

Materion eraill

Fel y nodir uchod, rydym yn dal i ystyried dau ddangosydd posibl. Rydym yn aros nes bod pob un o’r setiau data wedi dod i law cyn gwneud y penderfyniadau terfynol ynglŷn â phwysoli ar gyfer y mynegai.

Dangosyddion eraill i’w hystyried yn y dyfodol

Fel y’i disgrifiwyd yn yr adroddiad ar y cynigion, byddwn yn adolygu cynnydd yn y dyfodol o ran datblygu proses newydd o gasglu data digartrefedd ar lefel unigolion yng Nghymru a byddwn yn ystyried effaith newid yn yr hinsawdd ar yr hyn sy’n gyfystyr ag amddifadedd tai yn y dyfodol.

Newidiadau i gynigion ar ôl adborth arolwg neu waith diweddar

Nodwn y gefnogaeth gyffredinol i’r cynigion ar gyfer y maes hwn.

Awgrymodd ymatebion fod dangosyddion MALlC 2019 ar gyfer ansawdd tai gwael wedi’u modelu yn darparu gwybodaeth werthfawr i sawl defnyddiwr. Rydym bellach yn archwilio diweddariad posibl o'r set ddata a byddwn yn cynnwys y dangosyddion hyn yn MALlC 2025 os yn bosibl.

Nodwn fod sawl ymatebydd hefyd yn cefnogi’r syniad o fesur mannau awyr agored preifat. Felly, byddwn yn adolygu hyn ar gyfer mynegeion yn y dyfodol, pan fydd y dull wedi’i ddatblygu ymhellach.

Maes diogelwch cymunedol

Bwriedir i’r maes hwn ystyried amddifadedd sy’n ymwneud â byw mewn cymuned ddiogel. Mae’n cwmpasu profiadau gwirioneddol o droseddu a thân, yn ogystal â chanfyddiadau pobl o ddiogelwch pan fyddant allan yn yr ardal leol.

Ymatebion i gwestiynau penodol

Cwestiwn 23: Rhowch eich barn ar ba mor berthnasol i’r maes diogelwch cymunedol yw’r dangosydd newydd posibl ar gyfer troseddau rhywiol a gofnodwyd gan yr heddlu.

Cafwyd 21 o ymatebion i’r cwestiwn hwn, a gwnaeth wyth ymatebydd ei hepgor. Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr yn credu bod y dangosydd yn berthnasol i’r maes, gyda 19 allan o 21 o ymatebwyr yn pleidleisio bod y dangosydd ynglŷn â throseddau a gofnodwyd gan yr heddlu o leiaf yn berthnasol i raddau. O’r rhain, roedd 10 o ymatebwyr (47.6%) yn credu bod y dangosydd yn berthnasol iawn i’r maes, ac roedd y naw ymatebydd arall (42.9%) yn credu ei fod yn berthnasol i raddau. Roedd y ddau ymatebydd arall yn credu nad oedd y dangosydd yn berthnasol nac yn amherthnasol i’r maes. Nid oedd yr ymatebydd yn credu bod y dangosydd yn amherthnasol.

Cwestiwn 24: Esboniwch eich rhesymau dros yr ymatebion uchod a gwnewch unrhyw sylwadau eraill ar y cynigion ar gyfer y maes diogelwch cymunedol.

Cafwyd naw ymateb i’r cwestiwn hwn gan ystod o sefydliadau.

Troseddau rhywiol a gofnodwyd gan yr heddlu

Ar y cyfan, roedd cefnogaeth i’r cynnig i gynnwys dangosydd ynglŷn â throseddau rhywiol a gofnodwyd gan yr heddlu. Un thema a gododd dro ar ôl tro oedd bod ymatebwyr o’r farn bod y math hwn o drosedd yn fater pwysig i gymunedau sy’n agored i niwed a chymunedau difreintiedig, ochr yn ochr â’i effaith fawr ar deimladau ynglŷn â diogelwch cymunedol a diogelwch unigolion.

Nododd dau ymatebydd yn uniongyrchol sut roeddent yn credu y byddai gan ddangosydd ynglŷn â throseddau rhywiol a gofnodwyd gan yr heddlu ddefnyddiau ymarferol. Gwnaeth un gysylltu’r dangosydd â gwella gwybodaeth ynghylch a yw’r adnoddau ariannol sy’n cael eu dyrannu i ymdrin â’r problemau cymdeithasol hyn gyda throseddu yn effeithiol. Roedd yr ymatebydd arall yn canolbwyntio ar ddefnyddioldeb y dangosydd o ran deall ac ymdrin â materion sy’n ymwneud â thrais ar sail rhywedd, yn ogystal â chysoni â blaenoriaethau cenedlaethol i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau cymdeithasol cysylltiedig.

Fodd bynnag, nododd tri ymatebydd rai pryderon ynglŷn â’r dangosydd a’r set ddata a oedd yn cael eu defnyddio. Gwnaeth pob un o’r ymatebwyr hyn godi problemau gydag ansawdd y data, yn enwedig o ran tanadrodd a thangofnodi. Ystyriwyd bod hyn yn effeithio ar gadernid y data, a chodwyd cwestiynau ynghylch a allai’r dangosydd gofnodi graddau llawn troseddu rhywiol.

Sylwadau eraill

Dim ond dau ymatebydd a wnaeth sylwadau ar y maes ar wahân i’r dangosydd ynglŷn â throseddau rhywiol a gofnodwyd gan yr heddlu.

Nododd un ymatebydd y byddai dangosydd ar wahân ar gyfer troseddau casineb yn werthfawr o ran cofnodi problemau sy’n gysylltiedig â nodweddion gwarchodedig, megis hiliaeth. Fodd bynnag, cydnabu hefyd effaith problemau presennol o ran tanadrodd a thangofnodi troseddau casineb ac, ar y cyfan, roedd yn cefnogi’r rhesymeg dros y penderfyniadau ar gyfer y maes diogelwch cymunedol.

Gofynnodd yr ymatebydd arall a yw dangosydd ar gamddefnyddio sylweddau wedi cael ei ystyried naill ai fel rhan o’r maes diogelwch cymunedol neu’r maes iechyd. Mae hyn wedi cael ei ystyried yn y gorffennol ond nid yw wedi cael ei dderbyn oherwydd y niferoedd bach posibl i rai ardaloedd bach. Hefyd, byddai rhywfaint o effaith camddefnyddio sylweddau yn cael ei chofnodi’n fwy uniongyrchol drwy ddangosyddion eraill MALlC, er enghraifft y rhai sy’n ymwneud â marwolaethau cynamserol, cyflyrau cronig a chyflyrau iechyd meddwl.

Crynodeb o’r dangosyddion ar gyfer MALlC 2025

Bwrgleriaethau a gofnodwyd gan yr heddlu

Rydym yn ystyried y potensial i gynnwys blynyddoedd pellach o ddata (cyfartaleddau dwy flynedd a ddefnyddiwyd yn flaenorol) er mwyn gwneud y data yn fwy cadarn. Dylid nodi bod rhai newidiadau wedi cael eu gwneud i’r codau ar gyfer bwrgleriaeth ond ni fydd hyn yn effeithio ar y data a gynhwysir.

Achosion o ddwyn a gofnodwyd gan yr heddlu

Rydym yn ystyried y potensial i gynnwys blynyddoedd pellach o ddata (cyfartaleddau dwy flynedd a ddefnyddiwyd yn flaenorol) er mwyn gwneud y data yn fwy cadarn. Ceir cynigion i gynnwys codau dwyn pellach yn y dangosydd hwn.

Difrod troseddol a gofnodwyd gan yr heddlu

Rydym yn ystyried y potensial i gynnwys blynyddoedd pellach o ddata (cyfartaleddau dwy flynedd a ddefnyddiwyd yn flaenorol) er mwyn gwneud y data yn fwy cadarn.

Troseddau treisgar a gofnodwyd gan yr heddlu

Rydym yn ystyried y potensial i gynnwys blynyddoedd pellach o ddata (cyfartaleddau dwy flynedd a ddefnyddiwyd yn flaenorol) er mwyn gwneud y data yn fwy cadarn. Cynigir y dylid ychwanegu stelcian a gorfodaeth i’r dangosydd hwn. Rydym hefyd yn ymchwilio i addasrwydd disodli’r dangosydd ynglŷn â throseddau treisgar a gofnodwyd gan yr heddlu gan ddangosyddion cyfansoddol sy’n cwmpasu gwahanol agweddau ar droseddau treisgar megis ‘troseddau treisgar heb anaf’, ‘lladdiad a thrais sy’n achosi anaf’ a ‘stelcian a rheolaeth drwy orfodaeth’. Mae pob un o’r categorïau hyn o droseddau treisgar fel arfer yn cynnwys niferoedd mawr o droseddau o’u cymharu â chategorïau eraill o droseddau megis ‘bwrgleriaeth’.

Ymddygiad gwrthgymdeithasol

Rydym yn bwriadu diweddaru’r dangosydd hwn, yn amodol ar wiriadau sicrhau ansawdd ar y data a gofnodwyd gan yr heddlu.

Achosion o dân

Rydym yn ymchwilio i weld a fyddai newid i gyfartaledd dros dair blynedd yn hytrach na’r cyfartaledd dros ddwy flynedd a ddefnyddiwyd yn flaenorol yn rhoi amcangyfrifon cadarnach.

Troseddau rhywiol a gofnodwyd gan yr heddlu

Rydym yn ystyried a ddylid cynnwys troseddau rhywiol fel dangosydd newydd yn y maes hwn. Y ffynhonnell yw troseddau a gofnodwyd gan yr heddlu a byddai’n cael ei chynnwys ar yr un sail â’r data eraill a gofnodwyd gan yr heddlu yn y maes hwn.

Materion eraill

Fel y nodir uchod, rydym yn dal i ystyried y cyfnodau cyfeirio i’w defnyddio, a ddylid cynnwys rhai troseddau ychwanegol o dan y dangosyddion presennol, a chynnig newydd ar gyfer troseddau rhywiol. Mae penderfyniadau terfynol ynglŷn â phwysoli ar gyfer y mynegai eto i’w gwneud.

Dangosyddion eraill i’w hystyried yn y dyfodol

Mae’r ymatebion i’r arolwg yn nodi y dylid ailystyried troseddau casineb a chamddefnyddio sylweddau mewn iteriadau o MALlC yn y dyfodol. Er ein bod wedi dod i’r casgliad bod y rhain yn anaddas ar gyfer MALlC 2025, byddwn yn eu nodi i’w hystyried mewn iteriadau o’r mynegai yn y dyfodol.

Newidiadau i gynigion ar ôl adborth arolwg neu waith diweddar

Nodwn y gefnogaeth gyffredinol i’r cynigion ar gyfer y maes hwn. Yn ogystal â’r newidiadau arfaethedig, rydym yn ystyried addasrwydd disodli’r dangosydd ynglŷn â throseddau treisgar a gofnodwyd gan yr heddlu gan ddangosyddion cyfansoddol sy’n cwmpasu agweddau ar droseddau treisgar megis ‘troseddau treisgar heb anaf’, ‘lladdiad a thrais sy’n achosi anaf’ a ‘stelcian a rheolaeth drwy orfodaeth’. Mae pob un o’r categorïau hyn o droseddau treisgar fel arfer yn cynnwys niferoedd mawr o droseddau o’u cymharu â chategorïau eraill o droseddau megis ‘bwrgleriaeth’.

Maes yr amgylchedd ffisegol

Diben y maes hwn yw mesur ffactorau yn yr ardal leol a all effeithio ar lesiant neu ansawdd bywyd y rhai sy’n byw yn yr ardal honno.

Ymatebion i gwestiynau penodol

Cwestiwn 25: Rhowch eich barn ar ba mor berthnasol i faes yr amgylchedd ffisegol yw’r dangosydd newydd posibl ar gyfer risg gwres.

Roedd y mwyafrif o’r ymatebwyr o’r farn bod y dangosydd ynglŷn â risg gwres a gynigiwyd o leiaf yn berthnasol i raddau i faes yr amgylchedd ffisegol. Roedd hyn yn cynnwys chwech o bobl (30% o gyfanswm yr ymatebwyr) a oedd wedi dewis yr opsiwn ‘perthnasol iawn’, a 10 o bobl (50% o gyfanswm yr ymatebwyr) a oedd wedi dewis yr opsiwn ‘yn berthnasol i raddau’.

Roedd tri o bobl o’r farn nad oedd y dangosydd yn berthnasol nac yn amherthnasol i’r maes, ac roedd un person o’r farn nad oedd risg gwres yn berthnasol o gwbl i’r maes. Hepgorwyd y cwestiwn hwn gan naw o bobl.

Cwestiwn 26: Rhowch eich barn ar ba mor berthnasol i faes yr amgylchedd ffisegol yw’r dangosydd newydd posibl ar gyfer llygredd sŵn.

Yn debyg i’r adborth ar y dangosydd ynglŷn â risg gwres, roedd y mwyafrif o’r ymatebwyr o’r farn bod y dangosydd ynglŷn â llygredd sŵn a gynigwyd o leiaf yn berthnasol i raddau i’r maes cyffredinol. Roedd pedwar o bobl (22% o gyfanswm yr ymatebwyr) o’r farn ei fod yn berthnasol iawn, ac roedd 11 o bobl (61% o gyfanswm yr ymatebwyr) wedi dewis ‘yn berthnasol i raddau’.

Roedd un person o’r farn nad oedd y dangosydd yn berthnasol nac yn amherthnasol i’r maes cyffredinol a dewisodd dau berson yr opsiwn ‘ddim yn berthnasol o gwbl’. Hepgorwyd y cwestiwn hwn gan 11 o bobl.

Cwestiwn 27: Esboniwch eich rhesymau dros yr ymatebion uchod a gwnewch unrhyw sylwadau eraill ar gynigion ar gyfer maes yr amgylchedd ffisegol.

Risg gwres

Awgrymodd yr ymatebion y byddai pobl, ar y cyfan, yn cefnogi’r cynnig i gynnwys risg gwres ym maes yr amgylchedd ffisegol. Tynnodd dau o ymatebwyr sylw at berthnasedd y dangosydd hwn i boblogaethau sy’n agored i niwed, gan gynnwys oedolion hŷn ac aelwydydd incwm isel, y gall risgiau hinsawdd, megis cyfnodau poeth iawn ac inswleiddio annigonol yn y cartref, effeithio arnynt.

Fodd bynnag, awgrymodd yr adborth hefyd fod risg gwres yn annhebygol o fod yn ffactor arwyddocaol yng Nghymru am ychydig flynyddoedd ac y byddai ond yn berthnasol i’r grwpiau neu’r ardaloedd penodol uchod o bosibl. Nododd un ymatebydd, er y byddai’n cefnogi’r cynnig i gynnwys y dangosydd, ei bod yn bwysig sicrhau bod y data yn bodloni meini prawf y dangosydd, fel y’i nodwyd yn yr adroddiad ar y cynigion.

Oherwydd yr amser sydd ei angen i roi MALlC 2025 ar waith, penderfynwyd parhau i ystyried y dangosydd hwn er mwyn ei gynnwys o bosibl yn yr iteriad nesaf o MALlC yn hytrach nag yn 2025.

Llygredd sŵn

Roedd y rhan fwyaf o bobl yn cytuno bod y dangosydd hwn yn berthnasol i faes yr amgylchedd ffisegol, a dangosodd ymatebwyr ddiddordeb yn yr ardaloedd y byddai sŵn ffyrdd, rheilffyrdd neu ddiwydiant yn effeithio’n anghymesur arnynt. Cyfeiriwyd at ansawdd data yn yr adborth, a gofynnwyd pa agweddau ar lygredd sŵn a fyddai’n cael eu cynnwys yn y dangosydd, a nodwyd y dylai’r data fodloni meini prawf dangosyddion MALlC. Cyfeiriwyd hefyd yn yr adborth at ba mor aml y byddai diweddariad. Gofynnodd un ymatebydd am i’r gwaith hwn gael ei ail-wneud, a nododd un arall y bydd y data wedi dyddio o bosibl erbyn yr iteriad nesaf o MALlC. Awgrymodd adborth arall y bydd yn anodd o bosibl bennu ffigur ar gyfer AGEHI gyfan.

Ar ôl ystyried yr adborth ar y dangosydd hwn, rydym wedi penderfynu cynnwys y dangosydd arfaethedig ym MALlC 2025, ar yr amod bod y data yn bodloni meini prawf dangosyddion MALlC. Mae’r gwaith ar asesu addasrwydd y data hyn ar gyfer MALlC 2025 yn mynd rhagddo.

Sylwadau eraill

Fel yr amlinellir uchod, cafwyd cefnogaeth gyffredinol o blaid cynnwys yr holl ddangosyddion arfaethedig yn y maes hwn.

Nododd un ymatebydd fod mynediad i fannau awyr agored yn ddangosydd pwysig iawn, yn enwedig o ystyried iechyd meddwl pobl yn ystod pandemig COVID-19.

Crynodeb o’r dangosyddion ar gyfer MALlC 2025

Perygl llifogydd

Rydym yn bwriadu diweddaru’r dangosydd ar gyfer cyfran yr aelwydydd sy’n wynebu risg o lifogydd gan ddefnyddio data mis Mai 2025.

Ansawdd aer

Rydym yn bwriadu diweddaru’r tri dangosydd (Nitrogen Deuocsid, PM10 a PM2.5) sy’n ffurfio’r is-faes gan ddefnyddio data 2023.

Mannau gwyrdd amgylchynol

Rydym yn bwriadu diweddaru’r dangosydd ynglŷn â mannau amgylchynol. Rydym yn archwilio diweddaru'r dangosydd hwn gan ddefnyddio delweddau lloeren Planet Fusion, gan ddisodli'r sgoriau'n deillio o ffotograffiaeth o'r awyr a ddefnyddiwyd yn MALlC 2019. Mae hyn oherwydd gwahaniaethau yn y synwyryddion lloeren o'i gymharu â chamerâu wedi'u gosod ar awyrennau, a chydraniad y delweddau canlyniadol sydd ar gael.

Agosrwydd at fan gwyrdd naturiol hygyrch

Rydym yn bwriadu diweddaru’r dangosydd ynglŷn ag agosrwydd at fan gwyrdd naturiol hygyrch a chynnwys llwybrau pellter hir cenedlaethol yn y set ddata ar gyrchfannau.

Dangosyddion newydd posibl

Rydym yn archwilio dangosydd llygredd sŵn a fyddai’n mesur y llygredd sŵn o ffyrdd, rheilffyrdd a diwydiant yn seiliedig ar fapiau sŵn strategol 2022.

Materion eraill

Mae dadansoddiad o’r set ddata ar gyfer llygredd sŵn er mwyn sicrhau ei haddasrrwydd ar gyfer MALlC yn mynd rhagddo. Bwriedir mai lefel sŵn gyfartalog dros 24 awr gyda phwysoliad ychwanegol ar gyfer cyfnodau yn ystod y nos (a ddynodwyd yn lefel y sŵn yn ystod y dydd-noswaith-nos (Lden)) fydd y metrig a ddefnyddir ar gyfer y dangosydd hwn. Mae penderfyniadau terfynol ynglŷn â phwysoli ar gyfer y mynegai eto i’w gwneud.

Dangosyddion eraill i’w hystyried yn y dyfodol

Mae ymatebion i’r arolwg yn awgrymu y byddai’n werthfawr ychwanegu perygl gwres at y maes, ond ni fydd modd cynnwys hyn ar gyfer yr iteriad hwn o MALlC. Rydym yn bwriadu parhau i ystyried y set ddata hon, ac eraill sy’n ymwneud ag effaith newid yn yr hinsawdd, wrth ddiweddaru MALlC yn y dyfodol.

Newidiadau i gynigion ar ôl adborth arolwg neu waith diweddar

Ni fwriadwn weithredu ar y cynnig i gynnwys dangosydd sgôr perygl gwres yn yr iteriad hwn o MALlC.

Cynigion ar gyfer dangosyddion newydd

Ymatebion i gwestiynau penodol yn yr ymgynghoriad

C28: Rhestrwch, yn nhrefn blaenoriaeth, y dangosyddion newydd arfaethedig i’w cynnwys ym MALlC 2025 o ran yr hyn a fyddai’n ychwanegu’r gwerth mwyaf i’r mynegai.

Gofynnwyd i’r ymatebwyr restru’r dangosyddion canlynol yn nhrefn blaenoriaeth (ddim wedi’u nodi mewn trefn benodol):

  • Brechiadau ymhlith plant
  • Iechyd deintyddol
  • Amseroedd teithio i wasanaethau gofal plant
  • Anheddau â pherfformiad ynni gwael
  • Fforddiadwyedd tai
  • Troseddau rhywiol a gofnodwyd gan yr heddlu
  • Sgôr perygl gwres
  • Llygredd sŵn

Atebwyd y cwestiwn hwn gan gyfanswm o 22 o ymatebwyr, a gwnaeth saith o ymatebwyr ei hepgor.

Nid yw safle cymharol y dangosyddion arfaethedig o reidrwydd yn golygu bod y dangosyddion hynny yn anaddas ar gyfer MALlC ond gall awgrymu pa ddangosyddion y mae defnyddwyr MALlC yn rhoi blaenoriaeth gymharol uwch iddynt.

Tabl 1: Trefn blaenoriaeth dangosyddion newydd arfaethedig i’w cynnwys ym MALlC 2025 [Nodyn 1]
Dangosydd arfaethedigCyfanswm y sgôr Safle
Fforddiadwyedd tai1301
Brechiadau ymhlith plant1262
Anheddau â pherfformiad ynni gwael1243
Iechyd deintyddol1064
Amseroedd teithio i wasanaethau gofal plant895
Troseddau rhywiol a gofnodwyd gan yr heddlu796
Sgôr perygl gwres577
Llygredd sŵn458

[Nodyn 1] Mae ‘cyfanswm y sgôr’ wedi’i bennu o chwith yn seiliedig ar y flaenoriaeth a roddwyd gan bob ymatebydd. Er enghraifft, byddai safle 1 yn ychwanegu sgôr o 8 at y dangosydd hwnnw ond byddai safle 8 yn ychwanegu sgôr o 1.

Yn seiliedig ar yr 22 o ymatebion i’r cwestiwn hwn, y dangosydd â’r flaenoriaeth uchaf i’w gynnwys ym MALlC 2025 oedd fforddiadwyedd tai. Daeth y dangosydd ynglŷn â brechiadau ymhlith plant yn ail agos ac yna’r dangosydd ynglŷn â pherfformiad ynni gwael, a sgoriodd lai na fforddiadwyedd tai o ychydig.

Cwestiwn 29: Esboniwch eich rhesymau dros y drefn uchod, a gwnewch unrhyw sylwadau eraill ar ddangosyddion newydd arfaethedig i’w cynnwys ym MALlC 2025.

Dangosyddion â blaenoriaeth uwch

Fel y gwelir yn y crynodeb, roedd y 22 o ymatebwyr yn rhoi gwerth mawr ar y dangosyddion arfaethedig ynglŷn â thai i’w cynnwys ym MALlC 2025. Dywedodd gwahanol ymatebwyr fod fforddiadwyedd tai ac anheddau â pherfformiad ynni gwael yn ddangosyddion pwysig, ac yn debygol o adlewyrchu effaith amddifadedd orau wrth ystyried yr argyfwng costau byw. Dywedodd un ymatebydd ei fod wedi rhoi blaenoriaeth uchel i’r rhain oherwydd gwendid canfydddedig yn y maes tai, a fyddai’n cael ei gryfhau pe bai’r dangosyddion arfaethedig hyn yn cael eu cynnwys.

Mewn sylwadau eraill rhybuddiwyd ynglŷn â diffiniadau ac ansawdd data ar gyfer y dangosyddion hyn, fel yr ymhelaethir arnynt yn yr adran gynharach ar dai.

Nododd dau ymatebydd iddi fod yn dasg anodd rhestru dangosyddion posibl yn ôl blaenoriaeth, proses a oedd yn agored i oddrychedd, ac mai ansawdd data yn y pen draw fydd yn pennu a ddylid cynnwys dangosyddion ai peidio.

Dangosyddion â blaenoriaeth is

Mynegodd dau o bobl bryderon ynglŷn ag iechyd deintyddol fel cynnig, oherwydd dosbarthiad anwastad gofal deintyddol y GIG ledled Cymru. Hefyd, cododd ymatebwyr unigol rai problemau gyda’r cynigion ar gyfer mynediad at wasanaethau gofal plant, llygredd sŵn, a pherygl gwres, fel yr ymhelaethwyd arnynt mewn penodau cynharach ar feysydd.

Fodd bynnag, gwnaeth un ymatebydd nodi bod yr holl ddangosyddion arfaethedig yn ddefnyddiol ac nad yw safle isel o reidrwydd yn dangos na ddylid ei gynnwys ym MALlC 2025.

Awgrymiadau eraill

Roedd un ymatebydd o’r farn y dylid ystyried mynediad at ofal cymdeithasol, ac awgrymodd un arall ddangosydd ar gyfer ‘amser teithio i’r gwaith’.

Pwysoliad y maes

Ymatebion i gwestiynau penodol yn yr ymgynghoriad

Cwestiwn 30: Gwnewch unrhyw sylwadau ar y dull arfaethedig o bwysoli meysydd ar gyfer MALlC 2025.

Am fod cwestiynau eraill ynglŷn â phwysoli yn bresennol drwy gydol yr arolwg, daw rhai o’r ymatebion isod o adrannau cynharach yn yr arolwg ynglŷn â meysydd penodol ac maent wedi cael eu cyfuno ag ymatebion i’r cwestiwn hwn.

Roedd rhai ymatebwyr o’r farn y dylai’r pwysoliadau aros yr un fath â rhai MALlC 2019, a nododd dau ymatebydd mai dim ond ar ôl i’r dangosyddion gael eu pennu’n llawn y byddai modd rhoi ateb llawn i gwestiwn 30. Mae’r isod yn crynhoi ymatebion eraill a awgrymodd newidiadau i bwysoliadau meysydd ar gyfer MALlC 2025. Cymysg fu’r farn ar y pwnc hwn.

Pwysoliadau uwch a awgrymwyd

Roedd sawl ymatebydd yn credu y dylai pwysoliad y maes tai fod yn uwch ar gyfer MALlC 2025. Soniwyd am berthnasedd cynyddol y maes tai i amddifadedd, ac awgrymodd un ymatebydd y dylai’r pwysoliad fod mor uchel â 12% i 15%. Fodd bynnag, awgrymodd rhai y dylai lefel uwch ar gyfer tai ddibynnu ar b’un a yw’r dangosyddion arfaethedig ar gyfer fforddiadwyedd tai ac anheddau â pherfformiad ynni gwael yn cael eu datblygu’n llawn a’u cynnwys ym MALlC 2025.

Roedd rhai ymatebwyr yn credu y dylai pwysoliad mynediad at wasanaethau fod yn uwch. Er na roddwyd llawer o resymau yn nodi pam, nododd y prif safbwyntiau fod mynediad at wasanaethau wedi dod yn fwy perthnasol i amddifadedd a bod 10% (pwysoliad MALlC 2019) yn rhy isel ar gyfer y maes hwn.

Yn ystod trafodaeth yn un o’r gweminarau a gynhaliwyd, nododd un cyfranogwr fod pwysoliad yr amgylchedd ffisegol yn ymdddangos yn isel o ystyried pwysigrwydd cynyddol effeithiau amgylcheddol.

Roedd dau o’r ymatebwyr hefyd o’r farn y dylai pwysoliad y maes incwm fod yn uwch o gymharu â MALlC 2019, a hynny am eu bod yn ystyried mai hwn oedd y maes cryfaf o’i gymharu â’r lleill. Fodd bynnag, roedd y rhai a oedd yn awgrymu lefel uwch ar gyfer incwm yn cynnig y dylai fod lefel is ar gyfer y maes cyflogaeth, fel y nodir isod.

Pwysoliadau is a awgrymwyd

Y prif faes lle yr awgrymodd ymatebwyr y dylai fod pwysoliad is oedd cyflogaeth, a hynny’n bennaf er mwyn cynyddu lefelau mewn meysydd eraill a oedd wedi dod yn bwysicach ym marn ymatebwyr, megis iechyd, addysg a thai. Roedd ymatebwyr eraill o’r farn y dylai’r maes cyflogaeth fod yn is na’r maes incwm, a fyddai’n caniatáu ar gyfer lefel ychydig yn uwch yn y maes incwm, neu mewn meysydd sydd â gwerth is ar hyn o bryd. Gwnaeth ymatebwyr a roddodd werthoedd ar gyfer pwysoliadau awgrymedig roi lefel o rhwng 17% i 20% ar gyfer cyflogaeth.

Rydym yn cydnabod y gefnogaeth gyffredinol i’n cynigion a byddwn yn ystyried y sylwadau penodol wrth benderfynu ar yr union bwysoliadau. Byddwn yn gwneud hyn drwy drafod â’r grwpiau cynghori ar MALlC. Bydd penderfyniadau yn seiliedig ar ansawdd data pob dangosydd unwaith y bydd yn hysbys (mae rhai wrthi’n cael eu datblygu ar hyn o bryd), yn ogystal â phwysigrwydd cysyniadol pob un mewn perthynas ag amddifadedd. Byddwn yn cyhoeddi gwybodaeth am ein rhesymau dros bwysoliadau terfynol MALlC 2025.

Allbynnau MALlC

Ymatebion i gwestiynau penodol yn yr ymgynghoriad

Cwestiwn 31: Nodwch yn y tabl isod pa mor aml, os o gwbl, rydych wedi defnyddio’r allbynnau canlynol.

Gofynnwyd i’r ymatebwyr a ydynt yn defnyddio’r allbynnau canlynol yn aml iawn, weithiau, yn anaml neu erioed:

Dangosir y canlyniadau llawn yn ffigur 1 o atodiad 2.

Atebwyd y cwestiwn hwn gan gyfanswm o 21 o ymatebwyr. Ni wnaeth rhai o’r 21 o ymatebwyr roi ateb ar gyfer pob un o’r allbynnau, a’r nifer lleiaf o ymatebwyr i allbwn oedd 18. Bydd y crynodeb canlynol yn cael ei gymharu drwy ddefnyddio canrannau i gyfrif am y gwahaniaethau yn nifer yr ymatebwyr fesul allbwn. Gwnaeth wyth ymatebydd hepgor y cwestiwn yn gyfan gwbl.

Yr allbwn sydd â’r ganran uchaf o ddefnyddwyr ‘aml iawn’ oedd safleoedd mynegai a meysydd fesul ardal fach (taenlen), gyda 50% o ymatebwyr yn dweud eu bod yn defnyddio hyn yn aml iawn. Daeth fersiwn StatsCymru o safleoedd mynegai a meysydd fesul ardal fach yn ail agos (45%), “Dadansoddiad o nodweddion y boblogaeth yn ôl amddifadedd ardal (Cyfrifiad 2021)” (37%), yr adnodd mapio rhyngweithiol (35%) a data dangosyddion yn ôl ardal fach a daearyddiaethau mwy (35%).

Wrth gynnwys allbynnau y dywedodd ymatebwyr eu bod yn eu defnyddio weithiau neu’n amlach, roedd yr adroddiad canlyniadau yn allbwn poblogaidd (mae 60% yn defnyddio hwn weithiau, mae 25% yn defnyddio hwn yn aml iawn). Roedd canran uchel iawn o ymatebwyr hefyd yn dweud eu bod yn defnyddio’r canllaw ar ddadansoddi data dangosyddion a’r adroddiad canllaw, gyda 75% yn dweud eu bod yn defnyddio’r rhain weithiau ond ddim llawer sy’n defnyddio’r rhain yn aml iawn (5%).

Cafwyd dau allbwn lle na ddywedodd yr un ymatebwyr nad oeddent erioed wedi’u defnyddio – y “Dadansoddiad o nodweddion y boblogaeth yn ôl amddifadedd ardal (Cyfrifiad 2021)” (21% yn anaml, 42% weithiau, 37% yn aml iawn), a’r canllaw ar ddadansoddi data dangosyddion (20% yn anaml, 75% weithiau, 5% yn aml iawn). Fodd bynnag, o ran y ddau allbwn hyn dim ond 19 a ymatebodd i’r un cyntaf a dim ond 20 a ymatebodd i’r ail un (o blith cyfanswm o 21 a ymatebodd i’r cwestiwn), ac mae’n bosibl nad oedd y rhai na fyddent wedi’u defnyddio erioed wedi rhoi ateb ar gyfer yr allbwn hwnnw yn lle hynny.

Yr allbynnau sydd â’r ganran uchaf o ymatebwyr a ddywedodd nad oeddent erioed wedi eu defnyddio oedd gwybodaeth geo-ofodol MALlC ar MapDataCymru a’r mapiau meysydd AGEHI statig (25% yr un).

Cwestiwn 32: I ba raddau yr hoffech weld y cynhyrchion hyn yn cael eu cynhyrchu eto ar gyfer MALlC 2025?

Rhestrwyd yr un allbynnau ag a restrwyd ar gyfer cwestiwn 31. Dangosir y canlyniadau llawn yn ffigur 2 o atodiad 2.

Atebodd cyfanswm o 20 o ymatebwyr i’r cwestiwn hwn, a gwnaeth naw ei hepgor yn gyfan gwbl. Fel gyda chwestiwn 31, ni wnaeth pob un o’r 20 o ymatebwyr ateb ar gyfer pob allbwn, felly ceir gwahaniaethau yn nifer yr ymatebwyr fesul allbwn. Yr isaf yw 16. Unwaith eto, mae’r crynodeb isod yn cyfrif am y gwahaniaethau hyn.

Ar gyfer pob un o’r allbynnau, dywedodd y mwyafrif o’r ymatebwyr yr hoffent weld yr un allbynnau yn cael eu cynhyrchu unwaith eto ar gyfer MALlC 2025. Yr allbwn â’r ganran uchaf o ymatebwyr a ddywedodd hyn oedd yr adroddiad canlyniadau (95%), ac yna safleoedd mynegai a meysydd fesul ardal fach (94%). Cafodd cryn dipyn o gefnogaeth o blaid diweddaru llawer o allbynnau eraill, a cheir tabl llawn o’r canlyniadau yn atodiad 2.

O gymharu â’r allbynnau eraill, dywedodd canran eithaf uchel o bobl yr hoffent weld yr adroddiad ar ddangosyddion amddifadedd ar gyfer ardaloedd mewn amddifadedd hirsefydlog (18%) a’r adnodd mapio rhyngweithiol (16%) unwaith eto, ond mewn fformat gwahanol. Dim ond ar gyfer un allbwn na chafwyd unrhyw ymatebwyr yn gofyn am fformat gwahanol, sef safleoedd mynegai a meysydd fesul ardal fach.

Dywedodd 29% o’r ymatebwyr nad ydynt yn defnyddio data dangosyddion yn ôl ardal fach a daearyddiaethau mwy, sef y ganran uchaf o ymatebwyr ar gyfer unrhyw allbwn. Dywedodd 24% o’r ymatebwyr nad oeddent yn defnyddio’r adroddiad ar ddadansoddi amddifadedd sy’n ymwneud â phlant, y proffiliau amddifadedd ar gyfer daearyddiaethau mwy, a data dangosyddion yn ôl oedran.

Cwestiwn 33: Esboniwch eich rhesymau dros yr ymatebion uchod a rhowch wybod os oes gennych unrhyw sylwadau neu awgrymiadau eraill sy’n ymwneud ag allbynnau ym MALlC 2025.

Cafwyd 10 o ymatebion i’r cwestiwn hwn, pob un gyda ffocws gwahanol. Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr yn canolbwyntio ar esbonio eu rhesymau dros ymatebion blaenorol a’u barn ar allbynnau penodol. Gwnaeth rhai ymatebwyr sylwadau hefyd ynglŷn â gwelliannau posibl i’r allbynnau; roedd y rhain naill ai’n ymwneud â’r allbynnau presennol neu’n awgrymu allbynnau newydd.

Sylwadau ar yr allbynnau presennol a’r ffordd y cânt eu defnyddio

Ar y cyfan, mae’r ymatebion yn awgrymu bod defnyddwyr yn fodlon ar yr allbynnau sydd eisoes yn cael eu cynhyrchu a bod galw am i lawer ohonynt gael ei diweddaru. Nododd dau ymatebydd eu bod yn credu bod rhyw werth i bob un o’r allbynnau. Nododd un ymatebydd hefyd, er mai anaml y mae llawer o’r allbynnau yn cael eu defnyddio, eu bod nhw i gyd yn werthfawr yn y gwaith y maent yn cael eu defnyddio ar ei gyfer. Roedd un ymatebydd o’r farn bod rhai o’r allbynnau yn cael eu defnyddio yn rhy anaml i’w diweddaru. Fodd bynnag, ni nododd yr ymatebydd hwn pa rai a chydnabu ei bod yn bosibl y byddent yn cael eu defnyddio’n amlach yn y dyfodol.

O’r allbynnau presennol, yr allbynnau daearyddol neu ofodol, er enghraifft yr adnodd mapio rhyngweithiol, tablau a mapiau meysydd AGEHI statig a gafodd y sylw mwyaf. Cyfeiriodd dau ymatebydd at yr adnodd mapio, a oedd yn cael ei ystyried yn werthfawr iawn gan y ddau. Nododd un o’r ymatebwyr hyn fod yr adnodd yn ddefnyddiol i helpu ei defnyddwyr ddeall amddifadedd ar draws gwahanol feysydd. Roedd yr ymatebydd hwn hefyd yn awyddus i weld gwelliannau pellach i nodweddion yr adnodd mapio rhyngweithiol drwy ganiatáu cymharu safleoedd meysydd ochr yn ochr.

Cyfeiriodd dau ymatebydd at y tabl codau post hefyd, a ystyriwyd yn werthfawr. Nododd un ymatebydd, er nad oedd tablau codau post MALlC yn cael eu defnyddio’n uniongyrchol yn ei waith, eu bod yn hollbwysig i fonitro canlyniadau iechyd. Soniodd ymatebydd arall y byddai wedi defnyddio’r tabl codau post (ac allbynnau eraill, nas nodwyd) pe bai wedi bod yn ymwybodol ohono.

Cyfeiriwyd dau ymatebydd at setiau data dangosyddion. Unwaith eto, dangoswyd diddordeb mewn allbynnau daearyddol neu ofodol, gydag un o’r ymatebwyr yn gofyn am i ddata dangosyddion fod ar gael mewn fformat geo-ofodol ar MapDataCymru. Nododd yr ymatebydd arall y gall setiau data rhai dangosyddion fod yn ddryslyd.

Sylwadau cyffredinol ac allbynnau newydd

Gwnaeth sawl un o’r ymatebwyr unigol sylwadau neu awgrymiadau yn gofyn am y canlynol:

  • Mwy o setiau data rhagweithiol a dadansoddi gofodol.
  • Allbwn yn cymharu gwerthoedd ar gyfer MALlC 2025 â MALlC 2019.
  • Data hydredol.
  • Ystyried allbynnau MALlC wrth ddylunio system newydd StatsCymru a’i rhoi ar waith.
  • Y dylem fod yn ofalus o ran arteffactau sy’n ymwneud ag oedran yn y data.
  • Y dylai allbynnau gael eu cyhoeddi yn 2025 heb eu gohirio tan 2026.

Hoffem nodi bod ein set ddata o ardaloedd mewn amddifadedd hirsefydlog (StatsCymru) yn cynnwys elfen hydredol, am ei bod yn archwilio ardaloedd sydd wedi aros mewn grŵp ag amddifadedd cymharol uchel ers sawl iteriad o’r mynegai. 

Nodwn fod yr ymatebwyr yn fodlon ar y cyfan ar yr ystod o allbynnau MALlC o 2019. Byddwn yn ystyried hyn a’r blaenoriaethau penodol a’r awgrymiadau a wnaed wrth lunio cynllun lledaenu ar gyfer MALlC 2025.

Atodiad 1

Sefydliadau a ymatebodd i arolwg MALlC

Noder bod nifer o ymatebwyr mewn rhai sefydliadau.

  • Tîm Iechyd Cyhoeddus Lleol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
  • Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau
  • Cyngor Caerdydd
  • Cyngor Sir Caerfyrddin
  • CIH Cymru
  • Cyngor Gwynedd
  • Data Cymru
  • Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
    Groundwork Gogledd Cymru
  • Home-start Cymru
  • Cadwch Gymru’n Daclus
  • Cyngor Sir Fynwy (ymateb gan y sefydliad cyfan)
  • Cyngor Dinas Casnewydd
  • Gwasanaeth Tai Cyngor Sir Powys
  • Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Lleol
  • Cyngor Rhondda Cynon Taf
  • Cyngor Abertawe (ymateb gan y sefydliad cyfan)
  • Trafnidiaeth Cymru
  • Urdd Gobaith Cymru
  • Llywodraeth Cymru
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
  • Pedwar ymateb unigol heb sefydliad hysbys

Atodiad 2

Ffigur 1: Amlder defnydd pob allbwn MALlC

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Siart bar sy'n dangos pa mor aml roedd ymatebwyr yn defnyddio allbynnau MALlC, fel y crynhowyd yn yr adran gynharach ar allbynnau MALlC.

Ffigur 2: Safbwyntiau ar fformat pob allbwn MALlC

Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Siart bar sy'n dangos barn ymatebwyr ar fformat allbynnau MALlC, fel y'i crynhoir yn yr adran gynharach ar allbynnau MALlC.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Nia Jones
E-bost: ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099