Rydym eisiau eich barn ar ba flaenoriaethau y bydd angen i ni ganolbwyntio arnynt yn y strategaeth ddrafft ar gyfer dementia ar gyfer Cymru 2026 i 2036.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar Strategaeth Dementia newydd i Gymru. Bydd hon yn disodli’r Cynllun Gweithredu ar gyfer Dementia blaenorol (2018) a’r ddogfen gysylltiedig a gynhyrchwyd yn 2021, a oedd yn adlewyrchu’r heriau a wynebwyd yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19).
Rydym wedi bod yn glir ein bod yn bwriadu cyd-gynhyrchu cynllun newydd ac y byddwn yn cymryd yr amser angenrheidiol i ymgysylltu’n ystyrlon â phartneriaid a phobl sydd â phrofiad byw drwyddo draw. Felly, bwriedir i’r ddogfen hon roi cyfle i ymgysylltu’n gynnar â chynnwys y ddogfen, a bydd y canfyddiadau ohoni’n llywio ein strategaeth derfynol yn 2026.
Ar 2 Chwefror 2026, ychwanegwyd opsiwn ateb yn ymwneud â phrofiad bywyd yn yr adran 'Gwybodaeth Bersonol', yn dilyn nodi hepgoriad yn yr arolwg ar-lein gwreiddiol. Mae hyn bellach yn cyd-fynd â fersiynau Hawdd eu Ddeall, testun ac Iaith Arwyddion Prydain o'r ymgynghoriad.
Dogfennau ymgynghori
Strategaeth ddrafft dementia Cymru 2026 i 2036 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 643 KB
Strategaeth ddrafft dementia Cymru 2026 i 2036: fersiwn hawdd ei ddeall , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
Ffurflen ymateb: fersiwn hawdd ei ddeall , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
Asesiad effaith o'r y Gymraeg , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 412 KB
Asesiad effaith o'r gydraddoldeb , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 536 KB
Asesiad o’r effaith ar hawliau plant , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 277 KB
Gwybodaeth ychwanegol
Nodyn: Anonymeiddio ymatebion
Mae'r ffurflen ymateb i’w lawrlwytho, a gyhoeddwyd yn rhan o'r ymgynghoriad hwn, yn adlewyrchu fersiwn gynharach o eiriad Llywodraeth Cymru ar anonymeiddio ymatebion. Ers hynny, mae ein gweithdrefnau wedi'u diweddaru fel bod ymatebion i ymgynghoriad yn cael eu trin yn ddienw oni bai bod yr ymatebydd yn nodi’n wahanol. Mae unrhyw ddata personol bellach yn cael eu tynnu cyn cyhoeddi’r ymateb, oni bai bod ymatebwyr yn gofyn yn benodol fel arall.
Bydd y dull hwn wedi’i ddiweddaru yn cael ei ddefnyddio ar gyfer yr holl ymatebion a ddaw i law ar gyfer yr ymgynghoriad hwn, waeth sut y cânt eu cyflwyno.
Help a chymorth
Gellir gwneud cais am fersiynau o’r ddogfen hon mewn print bras, mewn Braille neu mewn ieithoedd eraill.
Sut i ymateb
Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 6 Ebrill 2026, ar un o`r ffurfiau a ganlyn:
Ffurflen ar-lein
E-bost
Lawrlwythwch y ffurflen ymateb.
Cwblhewch a dychwelyd i: mentalhealthandvulnerablegroups@llyw.wales
Pan fyddwch chi'n ymateb, byddai'n ddefnyddiol os ydych chi'n cadarnhau a ydych chi'n ymateb fel unigolyn neu'n cyflwyno ymateb swyddogol ar ran sefydliad ac yn cynnwys:
- dy enw
- eich swydd (os yw'n berthnasol)
- enw'r sefydliad (os yw'n berthnasol)
Post
Lawrlwythwch y ffurflen ymateb.
Cwblhewch a dychwelyd i:
Mental Health and Vulnerable Groups
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Pan fyddwch chi'n ymateb, byddai'n ddefnyddiol os ydych chi'n cadarnhau a ydych chi'n ymateb fel unigolyn neu'n cyflwyno ymateb swyddogol ar ran sefydliad ac yn cynnwys:
- dy enw
- eich swydd (os yw'n berthnasol)
- enw'r sefydliad (os yw'n berthnasol)
