Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) 2025: canllawiau
Sut i ddehongli a defnyddio MALlC 2025.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Ynglŷn â MALlC
Cefndir
Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) yw’r mesur swyddogol o amddifadedd cymharol ar gyfer ardaloedd bach yng Nghymru. Mae’n nodi ardaloedd â’r crynodiadau uchaf o sawl math gwahanol o amddifadedd. Mae MALlC yn pennu safle pob ardal fach yng Nghymru o 1 (mwyaf difreintiedig) i 1,917 (lleiaf difreintiedig). Ystadegyn swyddogol achrededig ydyw, sy’n cael ei baratoi gan ystadegwyr yn Llywodraeth Cymru.
Grŵp o fesuriadau ar wahân sy’n cael eu cyfuno’n un ffigur yw mynegai. Y nod yw dangos newidiadau mewn newidyn cymhleth fel allbwn diwydiannol, prisiau neu, yn yr achos hwn, amddifadedd. Yna, mae mynegai yn ei gwneud yn bosibl i wneud cymariaethau rhwng gwerthoedd gwahanol. Ar gyfer MALlC, mae’r gymhariaeth rhwng ardaloedd bach.
Datblygwyd y cysyniad o Fynegai Amddifadedd Lluosog gan Ganolfan Ymchwil Anfantais Gymdeithasol Prifysgol Rhydychen, a luniodd y MALlC cyntaf yn 2000. Fe’i diweddarwyd yn 2005, 2008, 2011, 2014 a 2019 gan Lywodraeth Cymru.
Yr hyn y mae MALlC yn ei fesur
Mesur o amddifadedd lluosog yw MALlC, sy’n fesur ar sail ardal ac yn fesur o amddifadedd cymharol.
Amddifadedd
Diffyg mynediad at gyfleoedd ac adnoddau y gallem eu disgwyl yn ein cymdeithas yw hwn. Mae’r meysydd a ddefnyddir yn MALlC yn ymwneud ag agweddau materol a chymdeithasol ar amddifadedd.
- Amddifadedd materol: adnoddau ffisegol annigonol, er enghraifft bwyd, lloches neu ddillad, sydd eu hangen i fyw bywyd o safon benodol.
- Amddifadedd cymdeithasol: gallu unigolyn i gymryd rhan ym mywyd cymdeithasol arferol y gymuned.
- Amddifadedd Lluosog: mwy nag un math o amddifadedd.
Cyfrifir MALlC o 8 maes (neu fath) gwahanol o amddifadedd. Caiff pob maes ei lunio o nifer o ddangosyddion gwahanol.
Ceir amddifadedd lluosog mewn ardal os oes ganddi grynodiad uchel o amddifadedd mewn mwy nag un maes. Po fwyaf o feysydd sydd â chrynodiad uchel o amddifadedd, y mwyaf yw'r amddifadedd cyffredinol yn yr ardal honno. Nid yw hyn yn golygu bod yr un bobl yn dioddef pob math o amddifadedd, er y byddem yn disgwyl rhywfaint o orgyffwrdd.
Mesur ar sail ardal
Cyfrifir MALlC ar gyfer pob ardal fach (ardaloedd cynnyrch ehangach haen is neu ACEHIau). Llunnir ffiniau ACEHIau gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) ar ôl pob cyfrifiad. Daearyddiaeth ystadegol safonol ydynt, a ddefnyddir at ddibenion nodi ystadegau am ardaloedd bach. Yn dilyn Cyfrifiad 2021, diffiniwyd 1,917 o ACEHIau yng Nghymru, ac maent yn cynnwys poblogaeth o 1600 ar gyfartaledd. Mae MALlC yn seiliedig ar ddangosyddion sy’n ystyried nodweddion cyfanredol y bobl sy’n byw yn yr ardal ac, mewn rhai achosion, nodweddion yr ardal ei hun (er enghraifft, maes yr amgylchedd ffisegol).
Mesur cymharol
Mae’r mynegai yn cynnig ffordd o nodi ardaloedd yn eu trefn o’r ardal leiaf difreintiedig i’r ardal fwyaf difreintiedig. Nid yw’n rhoi mesur o lefel yr amddifadedd mewn ardal, ond yn hytrach a yw ardal yn fwy neu’n llai difreintiedig o’i chymharu â phob un o’r ardaloedd eraill yng Nghymru. Felly, gallwn nodi pa ardaloedd sy’n fwy (neu’n llai) difreintiedig nag eraill, ond nid o faint. Y rheswm dros weithredu felly yw bod modd i’r gwahanol feysydd gael eu cyfuno.
Y meysydd sy’n rhan o MALlC
Mae MALlC yn cynnwys wyth maes (neu fath) gwahanol o amddifadedd, a chaiff pob un ei lunio o nifer o ddangosyddion gwahanol.
Mae'r mynegai yn ychwanegu sgoriau o wahanol feysydd, ond mae rhai meysydd yn cyfrif mwy nag eraill. Mae pwysau maes yn rheoli cyfraniad cymharol bob maes at amddifadedd cyffredinol. Mae eu gwerthoedd yn seiliedig ar gyngor arbenigol ac ansawdd y dangosyddion sydd ar gael. Os oes gan barth bwysau uwch, bydd newidiadau yn y maes hwnnw yn cael mwy o effaith ar y mynegai cyffredinol.
Y meysydd a’u pwysau MALlC 2025
- Incwm, 22%
- Cyflogaeth, 20%
- Iechyd, 15%
- Addysg, 14%
- Mynediad at wasanaethau, 10%
- Tai, 9%
- Diogelwch cymunedol, 5%
- Amgylchedd ffisegol, 5%
Newidiadau ar gyfer fersiwn 2025
Sut mae MALlC 2025 yn wahanol i MALlC 2019
Mae’r fethodoleg yr un fath â methodoleg mynegeion blaenorol ar y cyfan, gyda’r un wyth maes neu fath o amddifadedd wedi’u cofnodi. Fodd bynnag, mae rhai setiau data, methodolegau a daearyddiaethau newydd wedi cael eu defnyddio i baratoi MALlC 2025, sy’n golygu nad oes modd cymharu allbynnau yn uniongyrchol â mynegeion blaenorol.
Dangosyddion newydd
- Tai: anallu i fforddio dod yn berchen-feddiannydd neu ddod yn rhan o’r farchnad rhentu breifat.
- Tai: anheddau â pherfformiad ynni gwael.
- Mynediad at wasanaethau: amseroedd teithio i wasanaethau gofal plant.
- Amgylchedd ffisegol: llygredd sŵn.
Y prif newidiadau i ddangosyddion sy’n bodoli eisoes
- Incwm: adolygwyd y dangosydd yn sgil cyflwyno Credyd Cynhwysol.
- Cyflogaeth: fel uchod, ac mae bellach yn cynnwys y rhai nad ydynt yn gweithio oherwydd cyfrifoldebau gofalu.
- Addysg: absenoldeb wedi’i rannu yn ôl cyfnod cynradd ac uwchradd, newid bach i’r dangosydd ynglŷn â chymwysterau.
- Mynediad at wasanaethau: dull newydd o gyfrifo amseroedd teithio cyfartalog a rhai newidiadau i ffynonellau data sy’n ymwneud â lleoliadau.
- Amgylchedd ffisegol: ffynhonnell data newydd ar gyfer mannau gwyrdd amgylchol, a rhai newidiadau i’r hyn sy’n cael ei gynnwys fel man gwyrdd yn y mesur o agosrwydd.
- Diogelwch cymunedol: mae troseddau treisgar a gofnodwyd gan yr heddlu wedi’u rhannu’n is-ddangosyddion, gyda rhai newidiadau i godau troseddu, ac mae’r rhan fwyaf o’r enwaduron ynglŷn â chyfraddau troseddau bellach yn cynnwys poblogaeth amhreswyl yn ystod y dydd.
Nid yw’r dangosyddion wedi’u cynnwys mwyach
Mae’r ddau ddangosydd hyn wedi cael eu dileu yn y mynegai ar gyfer MALlC 2025 gan nad yw setiau data wedi’u diweddaru ar gael:
- maes addysg, sgôr pwyntiau cyfartalog y cyfnod sylfaen
- maes addysg, sgôr pwyntiau cyfartalog Cyfnod Allweddol 2
Newidiadau i bwysoliad meysydd
Mae 2 ddangosydd newydd wedi cael eu hychwanegu at y maes tai, sydd wedi arwain at gynnydd bach yn ei bwysoliad o 7% i 9%. Er mwyn caniatáu ar gyfer hyn, mae’r pwysoliad ar gyfer y maes cyflogaeth wedi cael ei leihau ychydig o 22% i 20%.
Mae'r newidiadau hyn yn seiliedig ar adborth o’r arolwg defnyddwyr a chyngor arbenigwyr grŵp maes, yn dilyn cynnwys data newydd yn y maes tai. Er mwyn caniatáu cynnydd bach mewn pwysau tai, mae pwysau'r maes cyflogaeth wedi'i leihau ychydig, ond mae hwn yn parhau i fod yr ail barth wedi’i bwysoli uchaf.
Newidiadau i ddaearyddiaethau
Adolygodd y SYG ffiniau ACEHIau ar ôl rhyddhau data Cyfrifiad 2021, ac erbyn hyn ceir 1,917 o ACEHIau yn lle’r 1,909 o ACEHIau blaenorol ar gyfer MALlC 2019.
Yr hyn sy’n wahanol yn y deunydd cyhoeddedig
Ceir sawl diweddariad i ystod a chynnwys allbynnau MALlC ar gyfer 2025 o gymharu â 2019.
Newidiadau i MALlC 2025 o'i gymharu â MALlC 2019
- Caiff y prif adroddiad, y canllawiau a’r adroddiad technegol (heblaw am atodiadau) eu cyhoeddi mewn HTML.
- Caiff y prif adroddiad ei rannu’n benodau.
- Caiff y cynnwys technegol ei symud o’r prif adroddiad i’r ddogfen ganllaw neu’r adroddiad technegol er mwyn lleihau dyblygu a symleiddio’r prif adroddiad.
- Mae’r prif gyfleuster mapio rhyngweithiol ar gyfer MALlC bellach wedi’i we-letya o fewn MapDataCymru.
- Caiff tablau MALlC 2025 eu cyhoeddi ar y wefan StatsCymru newydd
- Caiff y prif ddata eu cyhoeddi fel ffeil Taenlen OpenDocument ochr yn ochr â thablau newydd StatsCymru.
- Ni fydd data rhai dangosyddion a oedd wedi’u rhannu yn ôl oedran a gyhoeddwyd gynt (ar gyfer MALlC 2019) ar gael ar gyfer y data newydd; byddwn yn integreiddio cyfraddau amddifadedd incwm ar gyfer plant a phobl hŷn i brif dablau dangosyddion.
Defnyddio MALlC
Defnyddiau
Mae dosbarthiad amddifadedd ledled Cymru yn bwysig wrth ddatblygu polisïau, rhaglenni a chyllid ar sail ardal. Gellir defnyddio MALlC i lywio’r penderfyniadau hyn a gwella dealltwriaeth o dueddiadau amddifadedd yng Nghymru, gan gynnwys:
- nodi’r ardaloedd bach mwyaf difreintiedig
- cymharu amddifadedd cymharol ardaloedd bach
- archwilio’r 8 maes (math) o amddifadedd ar gyfer ardaloedd bach
- cymharu cyfran yr ardaloedd bach o fewn ardal fwy sy’n ddifreintiedig iawn
- defnyddio data dangosyddion (ond nid y safleoedd) i gymharu newid absoliwt dros amser
Mae’r mynegai ar ei fwyaf defnyddiol pan gaiff ei ddefnyddio ar y cyd â gwybodaeth arall, naill ai o ddangosyddion y mynegai, data cyhoeddedig eraill neu wybodaeth leol.
Sut i ddod o hyd i ddata MALlC ar gyfer ardal benodol
Mae gwybodaeth ychwanegol am ardaloedd bach ar gael drwy ddata dangosyddion sylfaenol MALlC. Gall y manylion yn y dangosyddion hyn lywio’r gwaith o broffilio ardal a helpu grwpiau cymunedol i gyflwyno’r achos dros welliannau mewn ardaloedd lle ceir angen.
Mae 3 ffordd o ddod o hyd i ddata MALlC ar gyfer ardal benodol
- Gellir hidlo data ar lefel AGEHI ar StatsCymru i ddangos ardal benodol.
- MapDataCymru yw’r prif adnodd mapio ar gyfer MALlC 2025: gellir ei ddefnyddio i archwilio data safle yn ôl maes, gweld sut mae amddifadedd yn amrywio ar draws ardal a chwilio am ardal gan ddefnyddio amrywiaeth o ddaearyddiaeth (gan gynnwys codau post ac enwau strydoedd).
- Mae Taenlen OpenDocument yn cynnwys y safleoedd ar gyfer y meysydd a'r mynegai cyffredinol, ynghyd â gwybodaeth am ba ddegradd, cwintel a chwartel amddifadedd y mae ardal ynddynt.
Grwpiau amddifadedd
Gellir cyfeirio at ardaloedd mewn safle uchel (ACEHIau) fel y rhai ‘mwyaf difreintiedig’ neu ‘difreintiedig iawn’ i gynorthwyo gyda gwaith dehongli. Fodd bynnag, nid oes trothwy penodol lle mae ardal yn cael ei disgrifio’n ‘un ddifreintiedig’ os yw’n uwch na’r trothwy hwnnw. Mae safleoedd MALlC yn aml yn cael eu grwpio yn ôl degraddau, cwintelau a grwpiau amddifadedd at ddibenion dadansoddi a mapio.
Mae degraddau'n rhannu set o ddata yn 10 rhan gyfartal, a chwintelau yn 5. Y degradd gyntaf yw'r 10% o werthoedd isaf, yr ail ddegradd yw'r 10% nesaf ac yn y blaen.
Defnyddir y grwpiau amddifadedd yn y prif ddadansoddiadau o MALlC, gan gynnwys mapiau. Maent wedi’u llunio i roi grwpiau llai o faint ar y pen mwyaf difreintiedig o’r dosbarthiad, lle mae’r gwahaniaeth rhwng ardaloedd yn fwy nag ar y pen lleiaf difreintiedig, y gellir ei weld trwy blotio gwerthoedd dangosydd amddifadedd o'r uchaf i'r isaf mewn siart.
Ffigur 1: cyfradd amddifadedd incwm ar gyfer ardaloedd bach, o'r gyfradd uchaf (safle 1) i'r isaf (safle 1,917), MALlC 2025
Disgrifiad o ffigur 1: mae'r siart yn dangos sut mae canran y bobl sy'n ddifreintiedig o ran incwm yn cael ei dosbarthu fesul safle’r maes incwm, a bod:
- cyfraddau amddifadedd yn cynyddu'n serth ym mhen mwyaf difreintiedig y dosbarthiad (gallai newidiadau mawr yng ngwerth y dangosydd achosi newidiadau bach yn unig mewn safleoedd)
- yn y pen lleiaf difreintiedig, mae’r gromlin yn fwy gwastad, a gallai newidiadau bach yng ngwerth y dangosydd arwain at newidiadau mawr mewn safleoedd
Mae siâp ‘cromlin-s’ y dosbarthiad yn cael ei weld i ryw raddau ym mhob un o’r dangosyddion amddifadedd.
Cymharu 2019 a 2025 yn ôl grŵp amddifadedd
Mae adroddiad canlyniadau MALlC 2025 yn edrych ar symudiadau rhwng grwpiau amddifadedd rhwng MALlC 2019 a MALlC 2025, ar gyfer pob maes. Oherwydd newidiadau i gyfanswm nifer yr ACEHIau ac i ffiniau rhai ACEHIau, cymhariaeth fras yw hon ac mae’n dilyn y camau hyn:
- ar gyfer grwpiau MALlC 2019 gwnaethom ddefnyddio cynyddiadau o 191 o safleoedd ar gyfer pob degradd, gyda safleoedd o 956 ac uwch yn ffurfio’r grŵp lleiaf difreintiedig
- ar gyfer grwpiau MALlC 2025 rydym yn defnyddio cynyddiad o 191 neu 192 o safleoedd ar gyfer degraddau (fel y manylir yn metadata), gyda safleoedd o 959 ac uwch yn ffurfio’r grŵp lleiaf difreintiedig
- ar gyfer ACEHIau o MALlC 2019 a rannodd yn 2 neu fwy o ardaloedd ar gyfer MALlC 2025, gwnaethom ddyrannu’r un safle â safle’r ardal wreiddiol, fwy o faint i’r ardaloedd newydd, llai o faint
- ar gyfer ACEHIau o MALlC 2019 a unodd ag un neu fwy o ardaloedd eraill ar gyfer MALlC 2025, gwnaethom ddyrannu’r safleoedd mwyaf difreintiedig ar gyfer yr ardaloedd gwreiddiol, llai o faint i’r ardal unedig newydd
Sut i ddefnyddio MALlC i helpu i dargedu adnoddau neu weithgarwch
Caiff MALlC ei ddefnyddio’n aml i dargedu gweithgarwch neu adnoddau ar yr ardaloedd mwyaf difreintiedig. Mae hyn yn fwyaf effeithiol:
- pan fydd y broblem sylfaenol mewn crynodiad daearyddol cryf
- os mai ymateb ar lefel ardal fach neu ar lefel cymuned yw’r ffordd orau o ymateb (er enghraifft, pan fydd adnoddau wedi’u hanelu at adfywio tai neu ganol trefi, neu gynllun i leihau diweithdra crynodedig).
O dan rai amgylchiadau, gall dull gweithredu gwahanol fod yn fwy priodol, megis pan fydd y mater yn benodol i is-grwpiau o’r boblogaeth, fel yr henoed. Mewn senarios eraill, efallai mai cyfuniad o ddulliau gweithredu fydd fwyaf effeithiol, a gall y mynegai fod yn fan cychwyn defnyddiol ar gyfer gweithgarwch targedu.
Nid MALlC yw’r unig ffordd o fesur amddifadedd. Mae’r mynegai ar ei fwyaf defnyddiol pan gaiff ei ddefnyddio ar y cyd â gwybodaeth arall, naill ai o’r dangosyddion sylfaenol, ffynonellau cyhoeddedig eraill neu wybodaeth leol, er mwyn ategu’ch dealltwriaeth o’r ardaloedd. Er enghraifft, mae’r SYG wedi cyhoeddi data a gwybodaeth sy’n ymwneud â Chyfrifiad 2021 yn ogystal ag ystadegau lleol (SYG). Ceir ystadegau sy’n ymwneud yn benodol ag ardaloedd yng Nghymru yn Arolwg Cenedlaethol Cymru.
Os ydych yn bwriadu defnyddio MALlC i lywio ymarfer targedu, dechreuwch drwy ystyried pa ddata sydd fwyaf perthnasol, gan nad y mynegai cyffredinol fydd hynny bob amser. Er enghraifft, efallai y bydd yn fwy priodol defnyddio safleoedd ar gyfer un o’r mathau penodol o amddifadedd, fel diogelwch cymunedol neu iechyd. Defnyddir y maes mynediad at wasanaethau yn aml fel mesur ardal leol o deneurwydd poblogaeth.
Cydgrynhoi i greu daearyddiaethau mwy o faint
Cyfrifir MALlC ar gyfer pob ardal fach (ACEHIau). Er mwyn cymharu daearyddiaethau mwy o faint, gallwch gyfrifo cyfran yr ardaloedd bach mewn daearyddiaeth fwy o faint sydd ymhlith (dyweder) y 10% neu’r 20% o ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Er enghraifft, os bydd mwy na 10% o ardaloedd bach ardal ymhlith y 10% mwyaf difreintiedig yng Nghymru, gellir ei hystyried yn gymharol ddifreintiedig. Os bydd llai na 10%, yna gellir ei hystyried yn gymharol lai difreintiedig.
Byddwn yn cyhoeddi proffiliau amddifadedd ar gyfer daearyddiaethau mwy o faint yn fuan ar ôl cyhoeddiad cychwynnol MALlC 2025, yn ogystal â setiau data dangosyddion ar gyfer daearyddiaeth fwy. Caiff setiau data ar gyfer awdurdodau lleol eu blaenoriaethu.
Ni ellir cydgrynhoi safleoedd na sgoriau i ddaearyddiaeth mwy o faint drwy gyfartaleddu’r gwerthoedd ar gyfer yr ardaloedd bach. Mae hyn oherwydd y ffordd y mae'r mynegai wedi cael ei lunio.
- Byddai newid mewn daearyddiaeth yn effeithio ar gamau wrth gyfrifo'r mynegai (megis dadansoddi ffactorau).
- Nid yw’r safleoedd yn cynnig unrhyw amcan o faint y gwahaniaethau rhwng ardaloedd, felly nid yw eu cyfartaleddu yn ystyrlon.
Mae sgoriau meysydd wedi mynd drwy broses trawsnewid mynegrifol, sy’n lleihau’r graddau y mae amddifadedd mewn un maes yn cael ei ganslo gan ddiffyg amddifadedd mewn maes arall. Byddai cyfartaleddu sgoriau ar gyfer grŵp o ardaloedd yn cael yr un effaith (anfwriadol) ar draws yr ardaloedd. Mae’n bosibl na fydd yn gwneud synnwyr, er enghraifft, lle byddai dau ranbarth â’r un gyfran o bobl ddifreintiedig o bosibl yn cael sgoriau cyfartalog gwahanol iawn oherwydd lledaeniad y bobl hynny ar draws yr ardaloedd bach yn y rhanbarth.
Nid yw’n ddilys ychwaith i gydgrynhoi dangosyddion sylfaenol yn ddaearyddiaethau mwy o faint drwy gyfartaleddu’r gwerthoedd ar gyfer yr ardaloedd bach. Mynegir y rhan fwyaf o ddangosyddion fel cyfradd neu gyfran o’r boblogaeth, ac nid yw cyfartaleddu dangosyddion yn ystyried gwahaniaethau ym maint y boblogaeth.
Sgoriau amddifadedd
Y mynegai cyffredinol a safleoedd y meysydd yw prif gynnyrch MALlC. Cynhyrchir sgoriau (fesul maes ac yn gyffredinol) fel rhan o'r broses o gyfrifo safleoedd MALlC. Cam yn y broses o lunio'r mynegai, yn hytrach na chynnyrch ynddynt eu hunain, yw'r sgorau MALlC. Nid yw'r sgoriau'n cynrychioli lefel o amddifadedd lluosog. Mae hyn yn golygu nad yw’r sgoriau’n cynnwys mwy o wybodaeth na’r safleoedd am lefelau o amddifadedd lluosog. Er mwyn asesu lefelau o amddifadedd, dylid defnyddio data sylfaenol y dangosyddion.
Cyhoeddir sgoriau MALlC am ddau reswm yn unig:
- tryloywder (fel bod defnyddwyr yn cael mynediad at bob cam o’r cynllunio)
- fel y gall defnyddwyr arbrofi gyda gwahanol systemau pwysoli ar gyfer y mynegai, os oes angen
Sut i addasu pwysoliadau'r meysydd neu ddileu maes
Byddwn yn cyhoeddi’r sgoriau'r meysydd ar Daenlen Excel (OpenDocument). Gellir cyfuno'r sgoriau ar gyfer meysydd unigol mewn swm wedi'i bwysoli i ddarparu sgoriau mynegai cyffredinol, a gaiff eu graddio wedyn i roi safleoedd y mynegai.
Gellir addasu'r pwysoliadau er mwyn rhoi mwy neu lai o bwysoliad i faes penodol, neu leihau ei bwysoliad yn gyfan gwbl i sero. Wedyn gellir cyfrifo swm wedi'i bwysoli newydd o sgoriau'r meysydd er mwyn darparu sgoriau a safleoedd wedi'u haddasu y mynegai. Er enghraifft, os ydych yn ymchwilydd iechyd sydd â diddordeb yn effaith amddifadedd ehangach ar ganlyniadau iechyd penodol, efallai y byddwch am lunio set wedi'i haddasu o safleoedd gyda'r maes iechyd wedi'i ddileu.
Cyfyngiadau MALlC
Nid MALlC yw’r unig ffordd o fesur amddifadedd. Mae MALlC wedi cael ei ddatblygu i fesur crynodiadau o sawl math o amddifadedd ar lefel ardal fach.
Mesur amddifadedd
Nid yw safleoedd MALlC yn mesur swm amddifadedd mewn ardal. Gall y safleoedd ond cael eu defnyddio i ddweud, “mae ardal A yn fwy difreintiedig nag ardal B”, ac nid ydynt yn caniatáu ar gyfer datganiadau megis “mae ardal A ddwywaith yn fwy difreintiedig nag ardal B”.
Cymharu amddifadedd absoliwt rhwng iteriadau o’r mynegai
Mae’n bosibl na fydd newidiadau mewn safleoedd dros amser yn golygu newid mewn lefelau amddifadedd absoliwt (oherwydd mynegai cymharol yw MALlC). Mae’n bosibl y bydd newid mewn safle ar gyfer ardal o ganlyniad i ardaloedd eraill yn symud i fyny neu i lawr y safleoedd, yn hytrach nag unrhyw newid yn yr ardal ei hun. Os bydd safle ardal yn aros yr un fath, gallai lefel yr amddifadedd yn yr ardal honno fod wedi mynd i fyny neu i lawr ond ddim yn ddigon i effeithio ar ei safle o’i gymharu ag ardaloedd eraill. Fodd bynnag, weithiau gellir defnyddio dangosyddion sylfaenol MALlC i fonitro newid dros amser.
Cymharu amddifadedd cymharol rhwng iteriadau o’r mynegai
Gellir defnyddio MALlC i edrych ar y newid mewn safleoedd amddifadedd cymharol rhwng iteriadau, er enghraifft pa ardaloedd sydd wedi gadael y grŵp mwyaf difreintiedig, wedi ymuno ag ef, neu wedi aros ynddo.
Fodd bynnag, dylid bod yn ofalus wrth ddehongli newidiadau o ran safle oherwydd newidiadau i’r ffordd y mae’r mynegai yn cael ei gyfrifo rhwng cyhoeddiadau gwahanol.
Ar gyfer MALlC 2025, er mwyn cael y ciplun gorau posibl ar amddifadedd cymharol gan ddefnyddio’r data diweddaraf sydd ar gael, rydym wedi newid rhai o’r dangosyddion a phwysoliadau rhai o’r meysydd. Mae’n bosibl bod y gwelliannau hyn i’r ffordd y mesurir amddifadedd wedi cyfrannu at ardal yn dod yn fwy (neu’n llai) difreintiedig o’i chymharu ag eraill, yn ogystal â newidiadau sylfaenol mewn amddifadedd ers MALlC 2019.
Unigolion difreintiedig
Gall fod pobl:
- sy’n byw mewn ardaloedd difreintiedig na fyddent yn cael eu hystyried yn ddifreintiedig
- a fyddai’n cael eu hystyried yn ddifreintiedig yn byw yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig
Dangosir hyn gan ddefnyddio data amddifadedd incwm yn nhabl 1.
| Grŵp amddifadedd incwm | Canran yr holl bobl mewn amddifadedd incwm sy'n byw yn y grŵp hwn |
|---|---|
| Y 10% mwyaf difreintiedig (safle 1 i 191) | 22% |
| Y 20% mwyaf difreintiedig (safle 1 i 382) | 38% |
| Y 30% mwyaf difreintiedig (safle 1 i 574) | 51% |
Maer’ tabl yn dangos bod:
- mwy na 1 o bob 5 person ag amddifadedd incwm yn byw yn y 10% o ardaloedd mwyaf difreintiedig.
- dros hanner y bobl hynny sy’n ddifreintiedig o ran incwm yn y 30% o ardaloedd mwyaf difreintiedig yn y maes incwm
Felly, er bod amddifadedd yn llawer mwy crynodedig mewn rhai ardaloedd nag eraill, mae bron 4 o bob 5 person ag amddifadedd incwm yn byw y tu allan i’r 10% o ardaloedd mwyaf difreintiedig. Mae’n bwysig cofio hyn wrth dargedu adnoddau. Mae targedu’r ardaloedd ‘mwyaf difreintiedig’ hynny yn golygu cynnwys rhai pobl yn yr ardaloedd hynny nad ydynt yn ddifreintiedig o bosibl a cholli llawer o bobl ddifreintiedig sy’n byw mewn ardaloedd llai difreintiedig.
Unigolion sy’n ddifreintiedig mewn sawl ffordd
Nid yw MALlC yn nodi unigolion sy’n ddifreintiedig mewn sawl ffordd. Mae’n nodi ardaloedd lle ceir crynodiadau o sawl math gwahanol o amddifadedd. Ni allwn gysylltu’r holl ddata sydd wedi’u cynnwys yn y mynegai ar lefel unigolyn er mwyn deall graddau amddifadedd lluosog i unigolion.
Amddifadedd ledled y DU
Mae Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon i gyd yn paratoi eu Mynegeion Amddifadedd Lluosog eu hunain. Mae’r setiau data hyn yn seiliedig ar yr un cysyniad a methodoleg gyffredinol.
Rhesymau pam nad oes modd cymharu â'r mynegeion ar gyfer Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn uniongyrchol
- Cânt eu paratoi ar gyfer daearyddiaethau gwahanol (nid oes unrhyw ddaearyddiaeth ardal fach addas sy’n gyson rhwng y pedair gwlad).
- Mae gwahaniaethau rhwng y dangosyddion, ac nid yw’r holl ddata yn cael eu casglu’n gyson ledled y DU (er enghraifft, mae’r systemau addysg yn wahanol i Gymru, felly nid oes modd cymharu rhai dangosyddion addysg).
- Mae’r mynegeion wedi datblygu yn unol â’r ysgogwyr polisi ym mhob un o’r gwledydd (wrth i ddatganoli yng ngwledydd y DU ddatblygu, mae’r gwahaniaethau hyn wedi tyfu).
- Caiff y Mynegeion eu paratoi yn ôl terfynau amser gwahanol, felly nid ydynt yn tueddu i gyfeirio at yr un flwyddyn o ddata ledled y DU (mae hyn yn aml yn cael ei ysgogi gan ofynion polisi gwahanol yn y gwledydd gwahanol).
Rydym yn parhau i weithio gyda’r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol (MHCLG) a gweinyddiaethau datganoledig i archwilio cyfleoedd i gynhyrchu allbynnau wedi'u cysoni. Mae hyn yn cynnwys cyrchu data a fydd yn galluogi cyhoeddi cynhyrchion ledled y DU. Nid yw cynlluniau rhyddhau wedi'u cadarnhau eto ond byddant yn cael eu cyhoeddi ar GOV.UK maes o law.
Golud
Nid yw diffyg amddifadedd yr un fath â bod yn oludog. Nid yr ardal leiaf difreintiedig yw’r ardal fwyaf goludog o reidrwydd. Mae MALlC yn arbennig o effeithiol o ran nodi gwahaniaethau rhwng yr ardaloedd mwyaf difreintiedig. Fodd bynnag, mae’n llai dibynadwy wrth gymharu ardaloedd sy’n llai difreintiedig. Dylid gochel rhag dod i gasgliadau ynglŷn â’r gwahaniaethau rhwng ardaloedd llai difreintiedig.
Amddifadedd ac ardaloedd gwledig
Diben MALlC yw nodi crynodiadau o amddifadedd ym mhob rhan o Gymru, gan gynnwys ardaloedd gwledig. Mae pobl ddifreintiedig mewn ardaloedd gwledig yng Nghymru yn tueddu i fod yn fwy daearyddol wasgaredig nag ydynt mewn ardaloedd trefol. Mae hyn yn golygu bod pocedi o amddifadedd mewn ardaloedd gwledig yng Nghymru yn tueddu i fod ar raddfa lawer llai na hyd yn oed y ddaearyddiaeth graddfa fach sy’n sail i’r ffordd y caiff MALlC ei baratoi.
Gall pobl mewn cymunedau gwledig brofi llawer o’r un problemau â phobl ddifreintiedig mewn ardaloedd eraill Fodd bynnag, mae rhai sylwebwyr yn dadlau y gall problemau penodol effeithio’n anghymesur ar bobl mewn ardaloedd gwledig, er enghraifft diffyg cyfleoedd cyflogaeth a mynediad at wasanaethau. Gellir hefyd ddadlau y gall rhai problemau amddifadedd effeithio’n anghymesur ar bobl mewn ardaloedd trefol, megis tagfeydd.
Efallai y bydd gan y rhai sy’n ymddiddori mewn amddifadedd gwledig ddiddordeb yn yr erthygl dadansoddi amddifadedd mewn ardaloedd gwledig a gyhoeddwyd fel rhan o MALlC 2014. Mae’r erthygl ystadegol hon yn rhoi arweiniad ynglŷn â sut y gellir/na ellir defnyddio MALlC a’i ddangosyddion i ddadansoddi amddifadedd mewn ardaloedd gwledig.
Yn dilyn cyhoeddi MALlC 2025, byddwn yn archwilio cynhyrchu proffiliau amddifadedd a thablau data dangosyddion newydd ar gyfer Dosbarthiad Gwledig-Trefol newydd 2021 (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol).
