Cylch gorchwyl
Rôl Grŵp Ymgynghorol PCET a manylion ei aelodau.
Cynnwys
Cefndir
- Ym mis Mawrth 2023, cyhoeddwyd Tuag at weledigaeth newydd ar gyfer addysg gychwynnol athrawon yn y sectorau addysg a hyfforddiant ôl-orfodol: adolygiad ar gyfer Llywodraeth Cymru. Comisiynwyd yr adolygiad, a oedd yn archwilio'r ddarpariaeth AGA bresennol ar gyfer addysg a hyfforddiant ôl-orfodol (AHO), yn sgil argymhellion gan yr 'Astudiaeth Gwmpasu Dysgu Proffesiynol Ôl-16 (Llywodraeth Cymru, 2019a)' ac adolygiad thematig dilynol o AGA ar gyfer addysg a hyfforddiant ôl-orfodol gan Estyn (2021a). Secondiwyd Dr Steve Bell o Estyn i Lywodraeth Cymru i gynnal yr adolygiad ar ran Llywodraeth Cymru (a gomisiynwyd gan yr Is-adran Addysg Bellach a Phrentisiaethau ar y pryd), fel rhan o'r rhaglen ehangach Datblygu'r Gweithlu Ôl-16. Mae argymhellion yr adroddiad i'w gweld yn Atodiad A.
- Bydd gweithredu Fframwaith AGA newydd ar gyfer AHO yn effeithiol yn gwella statws proffesiynol ymarferwyr yn y sector AHO ac yn cefnogi a gwella'r parch cydradd gydag ymarferwyr a sefydliadau yn y sectorau addysg orfodol. Mae'r Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg a'r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch ill dau yn cefnogi'r dull hwn. Yn ogystal, mae manteision sylweddol i ddysgwyr o ran deilliannau a chyfranogiad parhaus o gael gweithlu gyda sicrwydd ansawdd a gefnogir yn llawn.
- Yn dilyn yr amgylchedd cynllunio a chyllido newydd ar gyfer y sector a grëwyd drwy sefydlu Medr, bydd angen i'r gwaith o weithredu a chyflwyno rhai o'r argymhellion gynnwys cydweithredu a gweithio mewn partneriaeth ar y flaenraglen waith bosibl gyda swyddogion Medr.
Y sefyllfa bresennol o ran y ddarpariaeth AGA ar gyfer y sector AHO
- Mae athrawon sy'n cwblhau’r cwrs AGA Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) yn llwyddiannus i ddod yn athrawon ysgol hefyd yn ennill Statws Athro Cymwysedig (SAC). Mae hyn, a chwblhau cyfnod sefydlu statudol, yn ofynnol gan ddeddfwriaeth i alluogi person i ymgymryd â gwaith penodol ac i gael ei dalu fel athro cymwysedig mewn ysgol a gynhelir. Mae deddfwriaeth yn bodoli hefyd, ond sydd wedi dyddio, sy'n pennu'r cymhwyster addysgu gofynnol i fod yn athro/darlithydd cymwys mewn coleg addysg bellach. Mae'r cymwysterau cymeradwy'n cynnwys y dyfarniadau Tystysgrif Broffesiynol mewn Addysg ar gyfer AHO, Tystysgrif Raddedig Broffesiynol mewn Addysg a TAR. Mae colegau addysg bellach hefyd yn ystyried ymarferydd sydd â chymhwyster TAR (SAC) i addysgu mewn coleg addysg bellach.
- Fodd bynnag, nid yw'r dyfarniad AGA ar gyfer AHO yn rhoi SAC, ac felly ni ystyrir bod ymarferwyr sydd wedi cymhwyso trwy'r llwybr hwn yn gymwys i addysgu mewn ysgolion a gynhelir, er y gallant, mewn rhai amgylchiadau, addysgu cyrsiau galwedigaethol yn y cwricwlwm lleol. Gallant addysgu mewn ysgolion annibynnol, lle nad yw SAC yn fandadol. Yn ogystal, yn wahanol i AGA ar gyfer athrawon ysgol, nid yw'r ddarpariaeth cyrsiau AGA ar gyfer AHO wedi'i hachredu'n ffurfiol gan Gyngor y Gweithlu Addysg. Mae hyn wedi bod yn destun pryder o ran parch cydradd a chydnabyddiaeth broffesiynol rhwng y gweithlu ysgolion a'r gweithlu ôl-16, yn ogystal ag ansawdd y ddarpariaeth heb broses arolygu/sicrhau ansawdd sydd wedi'i rheoli a'i chynllunio.
- Derbynnir bod angen adolygu'r trefniadau AGA ar gyfer AHO ers peth amser. Ar ôl sefydlu Medr, mae nawr yn amser da i wneud hynny. Mae'r meysydd y byddai angen i ni fynd i'r afael â nhw'n benodol yn cynnwys:
- yr angen i ystyried a chefnogi cydraddoldeb rhwng athrawon ysgol ac athrawon addysg bellach o ran gofynion mynediad a chymhellion, a chefnogi hyrwyddo gyrfa yn y sector trydyddol
- cludadwyedd posibl cymwysterau addysgu
- achrediad priodol ar gyfer y ddarpariaeth cyrsiau
- cymorth ar gyfer dysgu proffesiynol i ddarlithwyr sydd newydd gymhwyso a dysgu proffesiynol parhaus ar gyfer staff mewn gwasanaeth
- Bydd gweithredu Fframwaith AGA newydd ar gyfer AHO yn effeithiol yn gwella statws proffesiynol ymarferwyr yn y sector AHO, gan gefnogi a gwella'r parch cydradd gydag ymarferwyr a sefydliadau yn y sectorau addysg orfodol. Mae grŵp cynghori arbenigol lefel uchel wedi'i sefydlu.i gynghori ar y broses ddiwygio, ar gynllun ar gyfer newid yn y dyfodol ac ar drefn y gwelliannau.
- Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y bydd angen is-ddeddfwriaeth i ddiwygio’r gofynion presennol a (neu) gyflwyno trefniadau statudol newydd yn ystod rhaglen newid pum mlynedd o'r fath, a bydd angen ystyried hyn fel rhan o unrhyw gynigion.
- Bydd mabwysiadu proses newid pum mlynedd ar gyfer AGA mewn AHO yn caniatáu amser i gynllunio, gweithredu a gwerthuso pob cam o'r broses ddiwygio, gydag ystyriaethau o ran cyrsiau (gan gynnwys cynllun a dilysu) yn cael eu hystyried drwyddi draw.
Nodau'r grŵp
- Bydd disgwyl i'r grŵp:
- ddarparu arbenigedd ac arweinyddiaeth
- bod yn llais 'dylanwadu' strategol
- cynghori Llywodraeth Cymru ar y ffordd orau o adolygu ac ailstrwythuro'r trefniadau AGA ar gyfer AHO yn 2025/26 i weithio tuag at raglen waith pum mlynedd ar gyfer newid
- Byddem yn disgwyl i aelodau'r grŵp cynghori ddefnyddio eu profiad a'u gwybodaeth arbenigol i ystyried a phennu trefn y newidiadau sydd eu hangen i'r Fframwaith a'r rhaglen gyflawni ar gyfer y dyfodol.
Cyfrifoldebau'r grŵp
- Yn ystod 12 mis cyntaf y rhaglen ddiwygio:
- bdd y grŵp yn nodi gweledigaeth sy'n uno ac yn ymgymryd â gwaith cwmpasu pellach i brofi, llywio a chefnogi’r newidiadau sydd eu hangen i'r ddarpariaeth AGA ar gyfer AHO, ac yn darparu ymchwil sy'n seiliedig ar dystiolaeth wrth ystyried y flaenraglen waith pum mlynedd.
- bydd yn sicrhau bod cefnogaeth ddwyieithog yn cael ei darparu ar gyfer pob cynnig a datblygiad yn y dyfodol
- bydd yn cynnig datblygu rhaglen ar gyfer y gweithlu a fframwaith deddfwriaethol i'r dyfodol, yn gosod trefn ar y gwaith hwnnw ac yn ei gefnogi
- bydd yn darparu ei farn arbenigol i gefnogi a chynghori Gweinidogion Cymru, gan eu harfogi i wneud penderfyniadau gwybodus, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, ynghylch yr adolygiad a'r dull strategol a fabwysiedir
- yn dilyn y cyngor a geir yn y sesiynau grŵp, cynhyrchu dogfen 'Rhaglen Waith - Cam 2' a all lywio penderfyniadau posibl yn nhymor nesaf y Senedd
Rhaglen Waith Cam 1: Sefydlu Fframwaith
13. Yng ngham 1 y rhaglen newid (yn ystod y 12 mis cyntaf) bydd yn ofynnol i'r grŵp:
- ddatblygu a chytuno ar weledigaeth sy'n uno ar gyfer y gweithlu ôl-16, yn enwedig ar gyfer y gweithlu AHO
- ystyried yr argymhellion eang a'r chwe thema allweddol y cyfeirir atynt yn yr adolygiad gefnogi Fframwaith ar gyfer Gweithredu
Dyma nhw yn fras:
- sefydlu proses ddiwygio genedlaethol, gydweithredol a gwerthusol sy'n seiliedig ar dystiolaeth
- datblygu a chryfhau partneriaethau i roi profiadau cyfoethog ac amrywiol o ansawdd uchel a chymorth mentora i hyfforddeion
- mabwysiadu cwricwlwm AGA AHO cydlynol a chynhwysfawr, sy'n gysylltiedig â'r safonau proffesiynol, a strwythur dyfarnu cyson
- paratoi hyfforddeion i addysgu mewn cymdeithas ddwyieithog
- cydnabod a gwella statws proffesiynol a pharatoi hyfforddeion ar gyfer dysgu a datblygu proffesiynol gydol gyrfa
- gwella cyfleoedd ymarferwyr AHO ar gyfer datblygiad gyrfa yn y sectorau AHO a ledled y system addysg ehangach (Atodiad A)
- adolygu'r dirwedd weithredol bresennol a nodi atebion ymarferol ar gyfer darparu AGA ar gyfer AHO yn y dyfodol
- pennu hyd a lled pecynnau gwaith tymor byr, tymor canolig a hirdymor cyflawnadwy a fyddai'n cefnogi ein hymrwymiad i gynyddu cyfranogiad a phresenoldeb trwy wella ansawdd y gweithlu AHO
- cynnig amserlen a threfn ar gyfer datblygu a gweithredu'r newidiadau arfaethedig
- datblygu meincnod sy'n seiliedig ar dystiolaeth (data)
- ystyried pa is-grwpiau sydd eu hangen yn y flwyddyn gyntaf i fwrw ymlaen â chamau penodol a chamau cyflym
Is-grwpiau
Mae'r grŵp wedi cytuno i gael tri is-grŵp. Dyma nhw:
- Dysgu Proffesiynol: dan gadeiryddiaeth Yana Williams (Colegau Cymru)
- Cwricwlwm Craidd: dan gadeiryddiaeth Caroline Lewis (USCET)
- Cymhellion AHO: dan gadeiryddiaeth Rhian Pound-McCarthy (Medr)
Mae amcanion y grwpiau wrthi’n cael eu cwblhau mewn cydweithrediad â'u cadeiryddion a byddant yn adrodd yn ôl i'r grŵp cynghori o fewn amserlen cytûn.
Aelodaeth a phresenoldeb
- Bydd aelodaeth y Grŵp yn hyblyg ac ar sail 'yn ôl yr angen'. Caiff y grŵp ei gadeirio gan Dafydd Evans. Mae gan Dafydd Evans ystod o brofiad perthnasol a bu'n Brif Swyddog Gweithredol Grŵp Llandrillo Menai rhwng 2016 a 2018, yn Brifathro Coleg Llandrillo rhwng 2014 a 2016, ac yn Brifathro Coleg Menai rhwng 2009 a 2014. Mae wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar ddyrannu adnoddau ac aildrefnu'r sector ôl-16 yn Ynys Môn a Gwynedd. Mae'n aseswr cyswllt i Estyn ac wedi cynnal arolygiadau ar sawl coleg. Mae Dafydd hefyd yn gyn-Gadeirydd Colegau Cymru.
- Cynigir bod y grŵp yn cynnwys y rhanddeiliaid canlynol:
- Cadeirydd Annibynnol: Dafydd Evans
- Arweinwyr polisi Llywodraeth Cymru (Cyfarwyddiaeth Addysg Drydyddol)
- Dr Steve Bell (Awdur yr Adolygiad AHO Mawrth 2023 a chynrychiolydd Ôl-16 Estyn)
- Medr: cynrychiolydd o dîm y gweithlu
- Cyngor y Gweithlu Addysg
- Rhanddeiliad sector AGA o is-grŵp AHO USCET Cymru
- Undeb Prifysgolion a Cholegau (fel Cynrychiolydd y Cyd-undebau Llafur)
- Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
- Cynrychiolydd o Colegau Cymru
- Athro o goleg addysg bellach, wedi dilyn cymhwyster TAR AHO yn ddiweddar
- Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru
- Darlithydd addysg uwch neu addysg bellach, cynrychiolydd darparwr cyrsiau TAR AHO
- Mae contract wedi'i gytuno rhwng y Cadeirydd a Llywodraeth Cymru.
- Os nad yw aelodau craidd yn gallu mynychu'r cyfarfod, gall dirprwy fynychu yn eu lle os yw’r Cadeirydd yn cytuno i hynny. Rhaid bod gan y cynrychiolwyr yr awdurdod i gynrychioli eu hardal.
Trefniadau'r cyfarfodydd
- Llywodraeth Cymru fydd yn darparu rôl yr ysgrifenyddiaeth.
- Bydd cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn fisol yn rhithwir hyd nes yr ystyrir bod eu hangen yn llai aml.
- Os bydd angen cyfarfodydd wyneb yn wyneb, neu grwpiau ffocws penodol, telir treuliau rhesymol.
- Bydd agenda a phapurau yn cael eu dosbarthu 7 diwrnod cyn y cyfarfod.
- Bydd pob cyfarfod yn cael ei recordio at ddibenion trawsgrifio a bydd crynodeb o'r drafodaeth yn cael ei ddosbarthu i'r aelodau o fewn 10 diwrnod gwaith. Bydd y trawsgrifiadau wedyn yn cael eu dileu. Gofynnir i'r holl aelodau gyflawni unrhyw gamau gweithredu/ymrwymiadau erbyn yr amserlenni cytûn neu o fewn mis i bob cyfarfod.
- Caiff y cylch gorchwyl hwn ei adolygu'n rheolaidd i sicrhau ei fod yn parhau'n addas i'r diben ac yn berthnasol dros amser.
Atodiad A
Argymhellion o’r adroddiad ‘Tuag at weledigaeth newydd ar gyfer addysg gychwynnol athrawon yn y sectorau addysg a hyfforddiant ôl-orfodol: adolygiad ar gyfer Llywodraeth Cymru’:
Sefydlu proses ddiwygio genedlaethol, gydweithredol a gwerthusol sy’n seiliedig ar dystiolaeth
- Dylai Llywodraeth Cymru ymrwymo i broses ddiwygio pum mlynedd sydd wedi’i chynllunio ar gyfer AGA AHO.
- Sefydlu grŵp cynghori sefydlog lefel uchel i gynghori ar y broses ddiwygio.
- Datblygu gweledigaeth unedig ar gyfer addysg gychwynnol athrawon AHO yng Nghymru.
- Mireinio prosesau casglu data er mwyn cofnodi nifer yr hyfforddeion mewn hyfforddiant a gwybodaeth ddemograffig briodol, canlyniadau hyfforddeion a’u cyrchfannau. Cyhoeddi ystadegau blynyddol yn ymwneud ag AGA AHO.
- Dylai Estyn gynnal cyfres o adolygiadau sector i lywio’r broses adolygu a gwerthuso ei chynnydd.
- Sefydlu rhwydwaith proffesiynol ar gyfer addysgwyr athrawon AGA AHO.
Datblygu a chryfhau partneriaethau i roi profiadau cyfoethog ac amrywiol o ansawdd uchel a chymorth mentora i hyfforddeion
- Sefydlu panel, meini prawf a phroses achredu ar gyfer AGA AHO, gan gynnwys trefniadau ar gyfer sicrhau ansawdd ac arolygu.
- Achredu rhaglenni AGA AHO. Sicrhau bod unrhyw broses achredu’n ei gwneud yn ofynnol i bartneriaethau AU-AB gyflwyno darpariaeth, a bod pob partneriaeth yn cynnwys o leiaf un SAU ac o leiaf un coleg AB ‘angor’.
- Gwella ansawdd, a mynediad at, ddarpariaeth fentora ar gyfer hyfforddeion AGA AHO.
- Gwella ansawdd profiad ymarfer addysgu hyfforddeion.
Cwricwlwm AGA AHO cydlynol a chynhwysfawr, sy’n gysylltiedig â’r safonau proffesiynol, a strwythur dyfarnu cyson
- Sicrhau bod gan ddyfarniadau AGA AHO deitlau, lefelau gofynion a gwerthoedd credyd cyson.
- Datblygu cwricwlwm craidd, sy’n gysylltiedig â’r safonau proffesiynol, a fyddai’n cael ei gyflwyno gan bob darparwr.
- Gan ddefnyddio’r safonau proffesiynol AHO presennol, datblygu meini prawf a chanllawiau ychwanegol y gellir eu defnyddio i ddisgrifio’r disgwyliadau ar gyfer ymarferwyr AHO ar ôl cwblhau eu rhaglenni AGA, ac yn ystod eu cyfnod sefydlu.
- Paratoi hyfforddeion i addysgu mewn cymdeithas ddwyieithog.
- Datblygu modiwlau gwahaniaethol, fel rhan o’r cwricwlwm craidd, sy’n hyrwyddo, yn annog ac yn cefnogi addysgu a dysgu cyfrwng Cymraeg a dwyieithog.
- Sicrhau bod unrhyw raglen gymhelliant yn y dyfodol ar gyfer hyfforddeion AGA AHO yn cynnwys cymhellion i hyfforddeion addysgu neu astudio yn ddwyieithog neu drwy gyfrwng y Gymraeg.
- Datblygu cyfleoedd i hyfforddeion sy’n ymgymryd â phrofiad ymarfer addysgu neu sy’n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg mewn unrhyw sefydliad gael cymuned o gymheiriaid a manteisio ar brofiadau cydweithredol gyda chydweithwyr.
- Sicrhau bod hyfforddeion sy’n ymgymryd â phrofiad ymarfer addysgu neu sy’n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn cael mynediad at fentor addysgu sydd ag arbenigedd a phrofiad o ddarpariaeth ddwyieithog.
Cydnabod a gwella statws proffesiynol a pharatoi hyfforddeion ar gyfer dysgu a datblygu proffesiynol gydol gyrfa
- Sefydlu statws proffesiynol, Statws Ymarferydd Cymwysedig (AHO) , wedi’i dalfyrru i ‘SYC (AHO)’,ar gyfer ymarferwyr sydd wedi cwblhau dyfarniad AGA AHO.
- Datblygu proses sefydlu ar gyfer ymarferwyr AHO gyrfa gynnar sydd wedi cwblhau dyfarniad AGA AHO, sy’n cefnogi dysgu, myfyrio a datblygiad proffesiynol, ac yn rhoi sicrwydd bod ymarferwyr yn bodloni safonau proffesiynol AHO.
- Adolygu a diweddaru Rheoliadau Cymwysterau Athrawon Addysg Bellach (Cymru) 2002 fel eu bod yn adlewyrchu’r strwythur cymwysterau newydd.
Gwella cyfleoedd ymarferwyr AHO ar gyfer datblygiad gyrfa yn y sectorau AHO a ledled y system addysg ehangach
- Ymchwilio i fethodoleg a fframwaith rheoleiddio, a’u datblygu, fel bod ymarferwyr AHO yn gallu cael eu cyflogi fel athrawon cymwysedig mewn ysgolion a gynhelir.
- Datblygu cyfleoedd i ymarferwyr AHO astudio mewn swydd ar lefel gradd ac ôl-radd ym maes addysg.
