Neidio i'r prif gynnwy

Allbynnau o werthusiad tri cham y cynllun peilot Ail Gartrefi a Fforddiadwyedd yn Nwyfor, Gwynedd.

Prif ganfyddiadau

  • Nododd partneriaid y cynllun peilot fod y peilot wedi gwella adnoddau a chapasiti I fynd i’r afael a heriau tai. Cryfhaodd hefyd y berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a phartneriaid cyflawni, a mireiniodd arferion gweithio cydweithredol.
  • Ymhlith yr ymyriadau, cyfarwyddiadau Erthygl 4 a phremiymau treth y cyngor a ystyriwy fel rhai a’r cyrhaeddiad ehangaf. Cafodd mentrau tai dan arweiniad y gymuned, er eu bod yn llai o ran graddfa, dderbyniad da yn lleol. Ar y cyfan, amlygodd y gwerthusiad berthnasoedd cadarnhaol â rhanddeiliaid ac ymgysylltiad cydweithredol cryf.
  • Tynnodd rhanddeiliaid y gymuned sylw at nifer yr ail gartrefi a llogir dros dro yn ardal Dwyfor. Roedd y pryderon mwyaf ynghylch fforddiadwyedd yn cynnwys cyflogau isel a mudo i ffwrdd preswylwyr iau. Nododd rhanddeiliaid fod llawer o ail gartrefi sydd ar gael ar hyn o bryd ar y farchnad yn anghyfleus i deuluoedd lleol. Roedd ymwybyddiaeth o ymyriadau yn bennaf yn gyfyngedig i Erthygl 4, taliadau uwch treth cyngor a Homebuy. Fel arfer, cafwyd gwybodaeth drwy wasg leol, cyfryngau cymdeithasol, a gair y gwynt.
  • Teimlai partneriaid peilot ei bod yn bwysig cael swyddogion peilot yn yr ardal leol er mwyn deall ffactorau cyd-destunol.

Heriau pêilot

  • Yn ystod y gosodiad, roedd arbrofi wedi'i gyfyngu, achosodd burocratiaeth rwystredigaeth, ac roedd cyfathrebu a disgwyliadau rhanddeiliaid yn anodd i'w rheoli.
  • Awgrymodd rhanddeiliaid y gymuned gyfarfodydd wyneb yn wyneb bob mis i wella cyfathrebu, galluogi mwy o arbrofi, a darparu canllawiau cliriach.

Adroddiadau

Prif adroddiad , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 628 KB

PDF
628 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Crynodeb , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 189 KB

PDF
189 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Tim Ymchwil Tai

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn:

0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.