Gofal clyw GIG Cymru: dull gweithredu ar gyfer gwasanaethau awdioleg yn y dyfodol (WHC/2025/024)
Sut gall pobl gael mynediad at ofal clyw amserol, diogel, o ansawdd uchel, sy’n cyd-fynd â’n dull gweithredu ar gyfer gwasanaethau awdioleg yn y dyfodol a ‘Cymru Iachach’, ein cynllun hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Manylion
Statws:
Gweithredu.
Categori:
Perfformiad a Cyflawni, Technoleg Gwybodaeth, Gwyddoniaeth, Ymchwil, Cynllunio, Polisi
Teitl:
Gofal clyw GIG Cymru: Dull Gweithredu ar gyfer Gwasanaethau Awdioleg yn y Dyfodol
Dyddiad dod i ben neu Dyddiad adolygu:
Amherthnasol.
I’w weithredu gan:
- Prif weithredwyr, byrddau neu ymddiriedolaethau iechyd
- Cyfarwyddwyr meddygol, byrddau neu ymddiriedolaethau iechyd
- Cyfarwyddwyr ac arweinwyr ymchwil a datblygu, byrddau neu ymddiriedolaethau iechyd
- Cyfarwyddwyr gofal sylfaenol, byrddau neu ymddiriedolaethau iechyd
- Byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd y GIG, a darparwyr gofal sylfaenol
- Cyfarwyddwyr gweithredol nyrsio, byrddau neu ymddiriedolaethau iechyd
- Cyfarwyddwyr therapïau a gwyddorau iechyd, byrddau neu ymddiriedolaethau iechyd
- Cyfarwyddwyr cynllunio, byrddau neu ymddiriedolaethau iechyd
- Cyfarwyddwyr gofal sylfaenol, byrddau neu ymddiriedolaethau iechyd
- Cyfarwyddwyr iechyd y cyhoedd, ymddiriedolaethau neu byrddau iechyd
- Cyfarwyddwyr y gweithlu a datblygu sefydliadol, byrddau neu ymddiriedolaethau iechyd
- Cyfarwyddwyr cyllid, byrddau neu ymddiriedolaethau iechyd
- Ymarferwyr cyffredinol
Anfonir gan:
Sarah O'Sullivan-Adams, Pennaeth Polisi Optometreg ac Awdioleg, Llywodraeth Cymru
Enwau cyswllt yn Llywodraeth Cymru:
Dull Gweithredu ar gyfer Gwasanaethau Awdioleg yn y Dyfodol
Annwyl gydweithwyr
Ers i'r Fframwaith Gweithredu (WHC 2018-006) ddod i ben, mae swyddogion polisi wedi bod yn gweithio gyda rhanddeiliaid ledled Cymru i ddatblygu dull cenedlaethol ar gyfer awdioleg ac maent bellach yn cyflwyno'r cynllun y cytunwyd arno, Dull Gweithredu ar gyfer Gwasanaethau Awdioleg yn y Dyfodol.
Dyma'r cam cyntaf yn ein taith ddiwygio i fodloni'r ymrwymiad polisi ar gyfer awdioleg. Derbynnir yn eang bod diwygio yn newid enfawr o ran darparu gwasanaethau, i roi gwasanaethau ar sail sefydlog a rhoi sicrwydd y bydd y ddarpariaeth yn deg, yn gyson ac yn gynaliadwy ledled GIG Cymru. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gynnal sgyrsiau â rhanddeiliaid ac yn ceisio sicrwydd drwy Fwrdd Awdioleg Cymru i sicrhau bod gwasanaethau awdioleg yn cael adnoddau digonol – gan fuddsoddi er elw, pan fo'r elw hwnnw'n weithlu medrus ac yn fynediad, profiad a chanlyniadau gwell i bobl sydd angen gofal clyw.
Y Cefndir
Yn dilyn cymeradwyaeth gan Fforwm Polisi Llywodraeth Cymru, Bwrdd Arweinyddiaeth GIG Cymru, a Thîm Gweithrediaeth GIG Cymru, bydd Bwrdd Awdioleg Cymru yn llywio camau i fwrw ymlaen â'r nodau yn unol â'r trefniadau llywodraethiant ar gyfer adrodd, monitro a sicrwydd cyflawni a gwariant er mwyn darparu adroddiadau cynnydd blynyddol i Ysgrifennydd y Cabinet a Phrif Weithredwyr y byrddau iechyd.
Bydd swyddogion polisi yn parhau i oruchwylio'r holl ffrydiau gwaith, drwy Fwrdd Awdioleg Cymru, i helpu i sicrhau cydgysylltu cenedlaethol ar draws gofal sylfaenol, cymunedol ac eilaidd. Drwy waith Rhwydwaith Gwybodaeth Glinigol y Rhaglen Gofal a Gynlluniwyd, bydd GIG Cymru yn parhau i fonitro gwasanaethau'r glust, y trwyn a'r gwddf mewn ysbytai, gan fanteisio ar y cyfleoedd a gyflwynir yn y Dull Gweithredu ar gyfer Awdioleg yn y Dyfodol i drawsnewid gwasanaethau a llwybrau. Bydd y dull cydweithredol hwn yn sicrhau modelau gwasanaeth cynaliadwy ar gyfer y dyfodol.
Bydd y cyfeiriad polisi hwn i ddiwygio a datblygu modelau gwasanaeth awdioleg newydd arloesol yn gwella safle Cymru ymhellach fel arweinydd ym maes darparu gwasanaethau awdioleg, lle mae gwledydd eraill y DU yn parhau i ddilyn ein harweiniad.
Mae'r newidiadau demograffig ar draws y byd gorllewinol yn dra hysbys; mae mwy o bobl, ac mae'r bobl hynny'n byw yn hirach. Mae effaith y newidiadau hyn yn y boblogaeth ar wasanaethau awdioleg yn y DU yn cael ei gydnabod – mae mwy o broblemau clyw mewn poblogaeth sy'n heneiddio sydd angen gofal hirdymor. Yn ogystal, mae adroddiad diweddar y Lancet, Risk factors for dementia yn nodi mai colli clyw yw'r ffactor risg mwyaf addasadwy ar gyfer dementia. Dyma yw prif achos y blynyddoedd sy’n cael eu byw gydag anabledd i’r rhai dros 70 oed. Mae'r cyflyrau hyn yn gysylltiedig â heneiddio ac mae'r galw am y gwasanaethau hyn yn cynyddu ar gyfer iechyd, gyda chostau dilynol ar gyfer gofal cymdeithasol parhaus.
Bydd ein dull gweithredu yn y dyfodol yn adlewyrchu’r ffordd rydym yn byw, er mwyn iddo gyd-fynd â’n ffordd o fyw a’n disgwyliadau. Yr uchelgais yw cynllunio a darparu gwasanaethau o amgylch anghenion defnyddwyr gwasanaeth a dewisiadau ein dinasyddion gyda phwyslais llawer mwy ar gadw pobl yn iach er mwyn gwella'u cyfleoedd bywyd - fel bod pawb yn cyrraedd eu potensial addysgol, cyflogaeth a chymdeithasol llawn. Mae hyn yn cwmpasu nodau Cymru Iachach a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn llawn.
