Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi arwain gwaith ar ymchwilio a diffinio'r Safon Ofynnol ar gyfer Bywyd Digidol ar gyfer Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Rhagfyr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rydym hefyd wedi bod yn ymgysylltu ag ymchwil ehangach a gynhelir o dan arweiniad Prifysgol Lerpwl a'r Good Things Foundation i ddatblygu'r gwaith hwn.

Ymchwil ar lefel y Deyrnas Unedig

Ym mis Mehefin 2025, cyhoeddwyd ymchwil ar lefel y Deyrnas Unedig ac fe gyflwynwyd Safon Ofynnol ar gyfer Bywyd Digidol ar gyfer holl aelwydydd y Deyrnas Unedig. Mae hyn yn darparu fframwaith i gefnogi a llywio polisi ar draws sectorau.

Rydym yn croesawu'r ymchwil hon ac yn ei gydnabod fel sail i'n polisi presennol ar y Safon Ofynnol ar gyfer Bywyd Digidol. Y dull gweithredu 

  • O'r gwaelod i fyny, ac fe'i ddatblygwyd gan aelodau o'r cyhoedd.
  • Holistaidd, gan gwmpasu nwyddau a gwasanaethau, a gwybodaeth a sgiliau.
  • Man cychwyn, gan fod gan rai aelwydydd anghenion ychwanegol.

Dyfeisiadau, gwasanaethau a sgiliau craidd

Mae dyfeisiadau, gwasanaethau a sgiliau craidd sy'n gyffredin ar draws mathau o aelwydydd.

Nwyddau a gwasanaethau digidol

  • Band eang cartref neu ddata symudol diderfyn gyda digon o ddibynadwyedd a chyflymder i gefnogi pob aelod o'r cartref i gael mynediad i'r rhyngrwyd ar yr un pryd.
  • Ffôn symudol a data symudol: un ffôn clyfar sylfaenol fesul oedolyn a data symudol 5GB i 15GB y mis ar gyfer pob aelod o'r aelwyd sydd â'u ffôn symudol eu hunain.
  • Dyfais â sgrin fawr: un ddyfais sgrin fawr (gliniadur, tabled neu gyfrifiadur personol) fesul aelwyd.
  • Teledu a gwylio: un teledu (neu ddyfais â sgrin fawr sy'n gallu ffrydio teledu) fesul aelwyd. Un drwydded deledu neu wasanaeth tanysgrifio teledu sylfaenol fesul aelwyd.

Gwybodaeth a sgiliau gweithredol

  • Sefydlu (dyfeisiadau a chysylltiad): defnyddio swyddogaethau dyfais, cysylltu â'r rhyngrwyd, newid gosodiadau a mynd trwy opsiynau.
  • Gwneud tasgau a gweithgareddau ar-lein: chwilio ar y rhyngrwyd, defnyddio apiau a rhaglenni, llenwi ffurflenni ar-lein, anfon a derbyn negeseuon e-bost a gwneud taliadau ar-lein.
  • Rheoli a chynnal a chadw (dyfeisiadau a chysylltiad): monitro a chynnal gallu storio ar ddyfeisiadau a rheoli a monitro data symudol.

Gwybodaeth a sgiliau hanfodol

  • Rheoli diogelwch: defnyddio cyfrineiriau diogel, gwerthuso diogelwch cysylltiad a gwneud taliadau diogel.
  • Gwerthuso gwybodaeth a sydd ar-lein: adnabod ac osgoi sgamiau, asesu ansawdd a hygrededd gwybodaeth ac addasu, blocio ac adrodd am gyfrifon a chynnwys.
  • Gwerthuso beth i'w rannu ar-lein: diogelu gwybodaeth bersonol, asesu hunaniaethau ar-lein a cheisiadau ffrindiau ac ystyried ôl troed digidol.
  • Meddwl am les digidol: Rheoli amser ar-lein, rheoli disgwyliadau a phwysau cymdeithasol ac ymarfer empathi ar-lein.

Gwahaniaethau rhwng mathau o aelwydydd

Dangosodd yr ymchwil fod anghenion yn amrywio yn ôl y math o aelwyd. Dyma enghreifftiau:

  • Aelwydydd â phlant sydd â'r anghenion mwyaf yn gyffredinol, ar gyfer sgiliau digidol sylfaenol ac ar gyfer dyfeisiadau a chysylltedd (sydd hefyd yn amrywio yn ôl maint yr aelwyd).
  • Roedd grwpiau oedran pensiwn yn teimlo bod ffonau clyfar yn hanfodol ar gyfer mynd allan o ddydd i ddydd ac roedd grwpiau oedran gweithio yn eu hystyried fel y dyfais a ffefrir ganddynt yn y cartref a thu allan i'r cartref.
  • Ychwanegodd grwpiau oedran pensiwn bod cael opsiwn o linell ffôn mewn ardaloedd â signal ffonau symudol gwael yn syniad da, yn enwedig gyda risg o doriadau yn y cyflenwad pŵer. Er bod pryder a dryswch wedi dod i'r amlwg ynglŷn â'r newid o linellau ffôn i linellau ddigidol.
  • Roedd y gallu i newid gosodiadau (e.e. maint y ffont) yn fwyaf amlwg mewn grwpiau oedran pensiwn ond nodwyd ei fod hefyd yn bwysig i bob grŵp.
  • Roedd angen y gallu i ddefnyddio rheolaethau rhieni mewn aelwydydd â phlant.
  • Roedd mynediad at hapchwarae ar-lein yn bwysig ar gyfer cynhwysiant cymdeithasol a chyfeillgarwch plant. Efallai na fydd angen pecyn ychwanegol ond gall roi mwy o bwysau ar ddyfeisiau a chysylltiad ac mae angen sgiliau digidol sylfaenol fel gwerthuso ceisiadau i fod yn ffrind.
  • Nododd pobl ifanc bedwar cam o ddefnydd digidol dros amser sy'n siapio eu hanghenion am sgiliau digidol sylfaenol: cyrchu dyfeisiadau; defnyddio gemau aml-chwaraewr ar-lein; cael ffôn symudol cyntaf; a'i ddefnyddio'n ddiweddarach wrth i blant fynd drwy'r ysgol, gwneud gwaith cartref ar-lein, cymdeithasu ar-lein, a theithio'n annibynnol.

Beth sy'n siapio gallu cartref i gwrdd â'r Safon Ofynnol ar gyfer Bywyd Digidol?

Canfu'r ymchwil fod gallu aelwydydd i fodloni'r Safon yn amrywio yn seiliedig ar incwm, seilwaith lleol, a mynediad at gymorth. Mae ffactorau eraill yn cynnwys anabledd, cyflyrau iechyd a thai.

Roedd dros 4 o bob 10 (45%) o aelwydydd â phlant yn y DU islaw'r Safon. Roedd hyn yn gysylltiedig â ffactorau tlodi plant fel incwm isel, statws rhiant unigol, a byw mewn ardaloedd difreintiedig.

Parhau â'n gwaith ar y Safon Ofynnol ar gyfer Bywyd Digidol

Ym mis Hydref 2025, comisiynodd Llywodraeth Cymru Miller Research UK i:

  • asesu effaith cwrdd â'r Safon ar anghydraddoldebau iechyd
  • cynnal arolwg gwaelodlin o bobl 16 oed a hŷn yng Nghymru sydd islaw'r  Safon

Bydd y canfyddiadau'n cael eu cyhoeddi ar ein gwefan.

Cynlluniau peilot y Safon Ofynnol ar gyfer Bywyd Digidol

Mae ein cynlluniau peilot sy'n cael eu cyflwyno yn ystod 2025 a 2026 yn anelu at ddiffinio sut y gallwn gefnogi aelwydydd i gwrdd â'r Safon. 

Meysydd ffocws:

  • Cysylltedd: mynediad digonol a dibynadwy i'r rhyngrwyd (band eang a/neu SIM data).
  • Dyfais/dyfeisiau: ffôn clyfar (sgrin gyffwrdd, mynediad i'r rhyngrwyd a'r gallu i redeg cymwysiadau), gliniadur (e.e. Chromebook) a/neu llechen (e.e. iPad).
  • Sgiliau digidol ar gyfer pob aelod o'r aelwyd:
    • Cysylltu eich dyfais â'r rhyngrwyd (band eang cartref a/neu ddata symudol)
    • Lawrlwytho a defnyddio apiau (ee iPlayer, Whatsapp, ap GIG Cymru, apiau parcio ceir)
    • Newid y gosodiadau ar eich dyfeisiau
    • Defnyddio chwilotwr (ee Google)
    • Anfon a derbyn negeseuon e-bost
    • Rheoli gweithgarwch bancio ar-lein
    • Creu cyfrinair diogel.
    • Gwerthuso ansawdd gwybodaeth (ee adnabod camwybodaeth/twyllwybodaeth)
    • Rheoli defnydd data dyfeisiau (ee ffôn clyfar neu ddyfais llechen)
    • Nodi risgiau (ee sgamiau, dolenni anniogel neu gynnwys sarhaus ac amhriodol ac ati)
    • Deall eich ôl troed digidol (ee gwerthuso pa fanylion sy'n cael eu rhannu ar-lein)
    • Gallu cael mynediad at wasanaethau cyhoeddus, ee trefnu apwyntiadau meddyg neu ddod o hyd i wybodaeth yr awdurdod lleol