Mae Llywodraeth Cymru wedi arwain gwaith ar ymchwilio a diffinio'r Safon Ofynnol ar gyfer Bywyd Digidol ar gyfer Cymru.
Cynnwys
Rydym hefyd wedi bod yn ymgysylltu ag ymchwil ehangach a gynhelir o dan arweiniad Prifysgol Lerpwl a'r Good Things Foundation i ddatblygu'r gwaith hwn.
Ymchwil ar lefel y Deyrnas Unedig
Ym mis Mehefin 2025, cyhoeddwyd ymchwil ar lefel y Deyrnas Unedig ac fe gyflwynwyd Safon Ofynnol ar gyfer Bywyd Digidol ar gyfer holl aelwydydd y Deyrnas Unedig. Mae hyn yn darparu fframwaith i gefnogi a llywio polisi ar draws sectorau.
Rydym yn croesawu'r ymchwil hon ac yn ei gydnabod fel sail i'n polisi presennol ar y Safon Ofynnol ar gyfer Bywyd Digidol. Y dull gweithredu
- O'r gwaelod i fyny, ac fe'i ddatblygwyd gan aelodau o'r cyhoedd.
- Holistaidd, gan gwmpasu nwyddau a gwasanaethau, a gwybodaeth a sgiliau.
- Man cychwyn, gan fod gan rai aelwydydd anghenion ychwanegol.
Dyfeisiadau, gwasanaethau a sgiliau craidd
Mae dyfeisiadau, gwasanaethau a sgiliau craidd sy'n gyffredin ar draws mathau o aelwydydd.
Nwyddau a gwasanaethau digidol
- Band eang cartref neu ddata symudol diderfyn gyda digon o ddibynadwyedd a chyflymder i gefnogi pob aelod o'r cartref i gael mynediad i'r rhyngrwyd ar yr un pryd.
- Ffôn symudol a data symudol: un ffôn clyfar sylfaenol fesul oedolyn a data symudol 5GB i 15GB y mis ar gyfer pob aelod o'r aelwyd sydd â'u ffôn symudol eu hunain.
- Dyfais â sgrin fawr: un ddyfais sgrin fawr (gliniadur, tabled neu gyfrifiadur personol) fesul aelwyd.
- Teledu a gwylio: un teledu (neu ddyfais â sgrin fawr sy'n gallu ffrydio teledu) fesul aelwyd. Un drwydded deledu neu wasanaeth tanysgrifio teledu sylfaenol fesul aelwyd.
Gwybodaeth a sgiliau gweithredol
- Sefydlu (dyfeisiadau a chysylltiad): defnyddio swyddogaethau dyfais, cysylltu â'r rhyngrwyd, newid gosodiadau a mynd trwy opsiynau.
- Gwneud tasgau a gweithgareddau ar-lein: chwilio ar y rhyngrwyd, defnyddio apiau a rhaglenni, llenwi ffurflenni ar-lein, anfon a derbyn negeseuon e-bost a gwneud taliadau ar-lein.
- Rheoli a chynnal a chadw (dyfeisiadau a chysylltiad): monitro a chynnal gallu storio ar ddyfeisiadau a rheoli a monitro data symudol.
Gwybodaeth a sgiliau hanfodol
- Rheoli diogelwch: defnyddio cyfrineiriau diogel, gwerthuso diogelwch cysylltiad a gwneud taliadau diogel.
- Gwerthuso gwybodaeth a sydd ar-lein: adnabod ac osgoi sgamiau, asesu ansawdd a hygrededd gwybodaeth ac addasu, blocio ac adrodd am gyfrifon a chynnwys.
- Gwerthuso beth i'w rannu ar-lein: diogelu gwybodaeth bersonol, asesu hunaniaethau ar-lein a cheisiadau ffrindiau ac ystyried ôl troed digidol.
- Meddwl am les digidol: Rheoli amser ar-lein, rheoli disgwyliadau a phwysau cymdeithasol ac ymarfer empathi ar-lein.
Gwahaniaethau rhwng mathau o aelwydydd
Dangosodd yr ymchwil fod anghenion yn amrywio yn ôl y math o aelwyd. Dyma enghreifftiau:
- Aelwydydd â phlant sydd â'r anghenion mwyaf yn gyffredinol, ar gyfer sgiliau digidol sylfaenol ac ar gyfer dyfeisiadau a chysylltedd (sydd hefyd yn amrywio yn ôl maint yr aelwyd).
- Roedd grwpiau oedran pensiwn yn teimlo bod ffonau clyfar yn hanfodol ar gyfer mynd allan o ddydd i ddydd ac roedd grwpiau oedran gweithio yn eu hystyried fel y dyfais a ffefrir ganddynt yn y cartref a thu allan i'r cartref.
- Ychwanegodd grwpiau oedran pensiwn bod cael opsiwn o linell ffôn mewn ardaloedd â signal ffonau symudol gwael yn syniad da, yn enwedig gyda risg o doriadau yn y cyflenwad pŵer. Er bod pryder a dryswch wedi dod i'r amlwg ynglŷn â'r newid o linellau ffôn i linellau ddigidol.
- Roedd y gallu i newid gosodiadau (e.e. maint y ffont) yn fwyaf amlwg mewn grwpiau oedran pensiwn ond nodwyd ei fod hefyd yn bwysig i bob grŵp.
- Roedd angen y gallu i ddefnyddio rheolaethau rhieni mewn aelwydydd â phlant.
- Roedd mynediad at hapchwarae ar-lein yn bwysig ar gyfer cynhwysiant cymdeithasol a chyfeillgarwch plant. Efallai na fydd angen pecyn ychwanegol ond gall roi mwy o bwysau ar ddyfeisiau a chysylltiad ac mae angen sgiliau digidol sylfaenol fel gwerthuso ceisiadau i fod yn ffrind.
- Nododd pobl ifanc bedwar cam o ddefnydd digidol dros amser sy'n siapio eu hanghenion am sgiliau digidol sylfaenol: cyrchu dyfeisiadau; defnyddio gemau aml-chwaraewr ar-lein; cael ffôn symudol cyntaf; a'i ddefnyddio'n ddiweddarach wrth i blant fynd drwy'r ysgol, gwneud gwaith cartref ar-lein, cymdeithasu ar-lein, a theithio'n annibynnol.
Beth sy'n siapio gallu cartref i gwrdd â'r Safon Ofynnol ar gyfer Bywyd Digidol?
Canfu'r ymchwil fod gallu aelwydydd i fodloni'r Safon yn amrywio yn seiliedig ar incwm, seilwaith lleol, a mynediad at gymorth. Mae ffactorau eraill yn cynnwys anabledd, cyflyrau iechyd a thai.
Roedd dros 4 o bob 10 (45%) o aelwydydd â phlant yn y DU islaw'r Safon. Roedd hyn yn gysylltiedig â ffactorau tlodi plant fel incwm isel, statws rhiant unigol, a byw mewn ardaloedd difreintiedig.
Parhau â'n gwaith ar y Safon Ofynnol ar gyfer Bywyd Digidol
Ym mis Hydref 2025, comisiynodd Llywodraeth Cymru Miller Research UK i:
- asesu effaith cwrdd â'r Safon ar anghydraddoldebau iechyd
- cynnal arolwg gwaelodlin o bobl 16 oed a hŷn yng Nghymru sydd islaw'r Safon
Bydd y canfyddiadau'n cael eu cyhoeddi ar ein gwefan.
Cynlluniau peilot y Safon Ofynnol ar gyfer Bywyd Digidol
Mae ein cynlluniau peilot sy'n cael eu cyflwyno yn ystod 2025 a 2026 yn anelu at ddiffinio sut y gallwn gefnogi aelwydydd i gwrdd â'r Safon.
Meysydd ffocws:
- Cysylltedd: mynediad digonol a dibynadwy i'r rhyngrwyd (band eang a/neu SIM data).
- Dyfais/dyfeisiau: ffôn clyfar (sgrin gyffwrdd, mynediad i'r rhyngrwyd a'r gallu i redeg cymwysiadau), gliniadur (e.e. Chromebook) a/neu llechen (e.e. iPad).
- Sgiliau digidol ar gyfer pob aelod o'r aelwyd:
- Cysylltu eich dyfais â'r rhyngrwyd (band eang cartref a/neu ddata symudol)
- Lawrlwytho a defnyddio apiau (ee iPlayer, Whatsapp, ap GIG Cymru, apiau parcio ceir)
- Newid y gosodiadau ar eich dyfeisiau
- Defnyddio chwilotwr (ee Google)
- Anfon a derbyn negeseuon e-bost
- Rheoli gweithgarwch bancio ar-lein
- Creu cyfrinair diogel.
- Gwerthuso ansawdd gwybodaeth (ee adnabod camwybodaeth/twyllwybodaeth)
- Rheoli defnydd data dyfeisiau (ee ffôn clyfar neu ddyfais llechen)
- Nodi risgiau (ee sgamiau, dolenni anniogel neu gynnwys sarhaus ac amhriodol ac ati)
- Deall eich ôl troed digidol (ee gwerthuso pa fanylion sy'n cael eu rhannu ar-lein)
- Gallu cael mynediad at wasanaethau cyhoeddus, ee trefnu apwyntiadau meddyg neu ddod o hyd i wybodaeth yr awdurdod lleol
