Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Heddiw rydym yn nodi Diwrnod AIDS y Byd, ac eleni mae ein ffocws ar oresgyn unrhyw darfu ar gynnydd, a'r angen i drawsnewid yr ymateb i AIDS wrth inni alw ar y cyd am arweinyddiaeth wleidyddol barhaus, cydweithrediad rhyngwladol, a dulliau gweithredu sy'n canolbwyntio ar hawliau dynol er mwyn rhoi terfyn ar AIDS erbyn 2030.
Mae'r frwydr fyd-eang i gael gwared ar drosglwyddiad HIV, a phob math o stigma a gwahaniaethu sy'n gysylltiedig ag ef, yn wynebu gostyngiad sylweddol mewn cyllid rhyngwladol. Gallai'r canlyniadau fod yn ddifrifol, gan arwain at gynnydd mawr mewn lefelau heintio a marwolaethau, yn enwedig mewn gwledydd incwm isel a chanolig.
Byddaf yn parhau i eirioli dros bolisïau byd-eang sy'n sicrhau bod gan bawb fynediad at wasanaethau atal, triniaeth a gofal ar gyfer HIV.
Yng Nghymru, mae'r polisïau hyn wedi'u hen sefydlu yn ein Cynllun Gweithredu HIV i Gymru 2023-26, sy'n cefnogi gwelliannau o ran mynediad at brofion, diagnosis cynnar, a chymorth i bobl â HIV.
Yn gynharach eleni, fe wnes i gadarnhau cyllid ar gyfer cefnogi'r gwaith o gyflawni'r Cynllun Gweithredu HIV dros weddill ei oes. Mae elfen sylweddol o hyn wedi galluogi parhad ein gwasanaeth profi a phostio ar-lein cenedlaethol, sy'n rhad ac am ddim ac yn gyfrinachol, yn ogystal ag ehangu'r ddarpariaeth o becynnau prawf am ddim mewn cymunedau lleol. Yn 2024, defnyddiodd mwy o bobl nag erioed y gwasanaeth profi a phostio, a hyd yn hyn mae dros 33,000 o becynnau prawf wedi'u dosbarthu i dros 480 o leoliadau.
Bellach, mae pob bwrdd iechyd wedi llofnodi Datganiad Llwybr Carlam Paris, gan wneud Cymru'n genedl Llwybr Carlam. Mae'n dangos ein hymrwymiad i sicrhau na fydd unrhyw un yn cael ei adael ar ôl wrth gael mynediad at ofal iechyd teg, yn ogystal â'n hymrwymiad i fynd i'r afael â'r stigma a'r gwahaniaethu sy'n gysylltiedig â HIV. Mae hyn yn gyflawniad rhyfeddol, a byddwn yn cyhoeddi tendr ym mis Ionawr i ariannu cynghrair Cymru gyfan i adeiladu ar ein cynnydd.
Mae cyllid wedi'i ddarparu i ddatblygu cam nesaf achos busnes ar gyfer System Rheoli Achosion Iechyd Rhywiol Cymru gyfan, a disgwylir iddo gael ei gwblhau erbyn diwedd y flwyddyn ariannol. Mae hwn yn gam nesaf pwysig yn y broses o sicrhau system a fydd yn y pen draw yn gwella'r drefn o reoli cleifion; yn darparu data gwell i fonitro tueddiadau, gan ein galluogi i fesur llwyddiant ein hymyriadau a chynllunio'r ddarpariaeth o wasanaethau.
Mae'r ymdrechion i gael gwared ar y stigma sy'n gysylltiedig â HIV yn parhau trwy raglenni ymwybyddiaeth a phrosiectau penodol, gan gynnwys hyfforddiant ac addysg i weithlu'r GIG a gofal cymdeithasol, ac i ddisgyblion ysgolion uwchradd.
Diolch i driniaethau hynod effeithiol, mae pobl â HIV bellach yn byw bywydau hir ac iach, ond gwyddom y bydd angen cymorth ychwanegol ar rai ohonynt, a'r ffordd orau o wneud hynny, yn aml, yw ei ddarparu trwy'r rheini sydd â phrofiad bywyd. Er mwyn sicrhau bod hyn ar gael ledled Cymru, rydym yn comisiynu rhaglen cymorth cymheiriaid, a ariennir yn genedlaethol.
Mae'r data diweddaraf am dueddiadau o ran atal, diagnosis a thrin HIV yng Nghymru yn dangos, gan ein bod yn gweld y lefelau uchaf erioed o brofi ac atal, y gallwn leihau nifer y trosglwyddiadau yn sylweddol, ac yn y pen draw gyflawni ein nod o ddim trosglwyddiadau newydd o gwbl yng Nghymru erbyn 2030. Yn 2024, bu gostyngiad o 20% mewn achosion newydd yng Nghymru.
Ond er gwaethaf y lefelau profi uchaf erioed, aseswyd bod bron i hanner yr achosion newydd yn rhai sydd yn cael diagnosis hwyr. Mae clinigwyr yn cwrdd yn rheolaidd i adolygu pob achos er mwyn deall a oedd cyfleoedd i ganfod yr haint yn gynharach, ac i rannu gwersi posibl.
Mae nifer y bobl sy'n defnyddio proffylacsis cyn-gysylltiad (PrEP) sydd, o'i gymryd fel y'i rhagnodir, yn lleihau'r risg o ddal HIV ryw 99%, yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn. Mae sicrhau bod mwy o bobl yn manteisio ar y ddarpariaeth hon yn rhan o'n dull gweithredu ar gyfer cyrraedd ein nod o roi terfyn ar drosglwyddiadau newydd. Mae negeseuon penodol ar y gweill i wella ymwybyddiaeth pobl o PrEP, ac rwy'n disgwyl i'r byrddau iechyd arloesi i wella mynediad ato. Tan yn ddiweddar dim ond fel tabled i'w gymryd bob dydd y mae PrEP wedi bod ar gael, ond erbyn hyn, mae math newydd o PrEP y gellir ei chwistrellu ar gael hefyd. Mae'n cael ei roi bob dau fis, ac mae’n bosibl ei ddarparu ym mhob rhan o Gymru ar gyfer y rheini nad ydynt yn gallu cymryd PrEP ar ffurf tabledi am resymau clinigol.
Rydym wedi gweld cynnydd sylweddol mewn cyfnod byr o amser, diolch i waith caled ac ymroddiad pawb sy'n ymwneud â'r ymgyrch hon, ond mae rhagor o waith i'w wneud o hyd os ydym am gyflawni ein nodau o roi terfyn ar drosglwyddiadau newydd, a sicrhau bod pobl yn gallu byw'n dda gyda HIV.
