Cyfarfod o Grŵp Cynghori'r Gweinidog ar Ofalwyr Di-dâl: Dydd Iau 25 Medi 2025
Cofnodion cyfarfod o Grŵp Cynghori'r Gweinidog ar Ofalwyr Di-dâl a gynhaliwyd ar 25 Medi 2025.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Mynychwyr
- Kate Cubbage, Cynghrair Cynhalwyr Cymru a Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru (Cadeirydd)
- Alyson Hoskins, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol (ADSS) Cymru a Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent – Dirprwy Gadeirydd
- Denise Moultrie, Llywodraeth Cymru
- Louise Bushell-Bauers Arolygiaeth Gofal Cymru
- Jayne Newman, Gofalwr Di-dâl
- Bobbie-Jo Haarhoff, Gofalwr Di-dâl
- Albie Sutton, Bwrdd Cynghori Gofalwyr Ifanc
- Rob Simkins, Cynghrair Cynhalwyr a Gofalwyr Cymru
- Jon Antoniazzi, Cynghrair Cynhalwyr a Marie Curie
- David Watkins, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
- Valerie Billingham, Swyddfa'r Comisiynydd Pobl Hŷn
- Kathy Proudfoot, Rhwydwaith Dysgu a Gwella Swyddogion Gofalwyr
- Nick Andrews, Prifysgol Abertawe
- Dan Burrows, Prifysgol Caerdydd
- Kate Young, Cynghrair Cynhalwyr Cymru a Fforwm Cymru Gyfan
- R Williams, Cynghrair Cynhalwyr a Parkinsons UK
- Victoria Lloyd, Age Cymru
- Tanya Tye, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
- Rachel Wright, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Myfanwy Moran, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol (ADSS) Cymru a Cyngor Dinas Casnewydd
- Anna Bird, Bwrdd Iechyd Hywel Dda
- Lois Roffe, Arolygiaeth Gofal Cymru
- Ffion Scott, Bwrdd Cynghori Gofalwyr Ifanc
- Naheed Ashraf, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
- Nicki Harrison, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol (ADSS) Cymru
- Suzanne Becquer-Moreno, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
- Trudy Heald, Llywodraeth Cymru
- Amanda Phillips, Llywodraeth Cymru
Ymddiheuriadau
- Jon Day, Gofal Cymdeithasol Cymru
- Kim Dolphin, Rhwydwaith Dysgu a Gwella Swyddogion Gofalwyr
- Naomi Harper, Cyngor Sir y Fflint
- Amy Hawkins, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol (ADSS) Cymru a Cyngor Abertawe
- Josie Yuen, Iechyd Cyhoeddus Cymru
- Adam Frewen, Arolygiaeth Gofal Cymru
Croeso
Agorodd y Cadeirydd y cyfarfod trwy groesawu'r mynychwyr a chyflwyno cynnwys y diwrnod sydd i ddod.
Y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol
Croesawodd y Gweinidog Albie Sutton fel y cynrychiolydd gofalwyr ifanc newydd, a chyflwynodd Alyson Hoskins fel y Dirprwy Gadeirydd newydd.
Nododd y Gweinidog bwysigrwydd clywed yn uniongyrchol oddi wrth ofalwyr ifanc, gan sôn am ei phresenoldeb diweddar yn yr Ŵyl Gofalwyr Ifanc lle cymerodd ran yng nghyfarfod y Bwrdd Cynghori ar Ofalwyr Ifanc. Nododd ei bwriad i drafod y materion a godwyd yn y cyfarfod hwnnw gyda'i swyddogion.
Cyfeiriodd y Gweinidog at y gwaith ymgysylltu a wnaed gyda gofalwyr di-dâl a'u cynrychiolwyr ledled Cymru i lywio'r gwaith o ddatblygu'r Strategaeth Genedlaethol newydd ar gyfer Gofalwyr Di-dâl. Cydnabu'r Gweinidog rôl y rheini a oedd yn bresennol o ran sicrhau bod amrywiaeth eang o safbwyntiau yn cael eu hystyried wrth gynhyrchu'r strategaeth.
Diolchodd y Gweinidog i Alyson Hoskins am arwain y cynllun gweithredu ynghylch darparu gwybodaeth, cyngor, a chymorth i ofalwyr di-dâl, ac asesiadau o anghenion gofalwyr, gan ddiolch hefyd i gydweithwyr am eu cefnogaeth barhaus.
Yn ogystal, croesawodd Denise Moultrie Ffion Scott fel cynrychiolydd y Bwrdd Cynghori ar Ofalwyr Ifanc.
Diweddariad ar ffrwd waith ar gyfer gwella mynediad at wybodaeth, cyngor, a chymorth, ac asesiadau o anghenion gofalwyr
Nododd Alyson Hoskins yr ymgysylltu blaenorol a wnaed gydag arweinwyr gofal cymdeithasol a gofalwyr di-dâl trwy gyfres o weithdai. Mae'r ymgysylltu hwnnw wedi arwain at ddatblygu cynllun gweithredu, a'r blaenoriaethau allweddol yw:
- gwella dulliau o adnabod ac ymgysylltu â gofalwyr wrth 'ddrws ffrynt' gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol (gwybodaeth, cyngor, a chymorth (IAA))
- ymarferwyr yn darparu asesiadau o anghenion gofalwyr
- gofalwyr yn deall yr hyn y dylent ei ddisgwyl o asesiadau
- gwella cysondeb arferion cofnodi
- cadw mewn cysylltiad â gofalwyr a adolygiadau
Bydd y cynllun gweithredu yn cael ei drafod yn y Grŵp Gorchwyl a Gorffen, a chroesawyd sylwadau pellach gan y grŵp.
3. Ymgysylltu mewn perthynas â'r strategaeth genedlaethol, a'r amserlen cyflawni
Rhoddodd Denise Moultrie ddiweddariad ar yr ymarfer cyn ymgynghori ar gyfer datblygu'r strategaeth ddrafft. Cafodd y themâu allweddol sy'n dod i'r amlwg wrth ymgysylltu â gofalwyr a rhanddeiliaid di-dâl eu rhannu gyda'r grŵp.
Mae'r cyfarfod heddiw yn cynnwys gweithdy i gefnogi'r gwaith o ddatblygu'r strategaeth ddrafft. Bydd hyn yn destun ymgynghoriad cyhoeddus, yn ôl pob tebyg ym mis Ionawr. Bydd y strategaeth derfynol yn cael ei chyhoeddi yn 2026, yn dilyn etholiadau'r Senedd. Bydd y grŵp llywio yn parhau i oruchwylio'r gwaith o ddatblygu'r strategaeth.
Diolchwyd i Lois Roffe, Amanda Phillps, a Trudy Heald am eu cefnogaeth gyda'r gwaith hwn.
Diweddariad gan yr aelodau ymchwil
Soniodd Nick Andrews wrth y grŵp am y cyfarfod cyntaf llwyddiannus o Gymuned Ymarfer newydd sy'n canolbwyntio ar ofalwyr di-dâl. Ymhlith y pynciau a godwyd roedd:
- sicrhau gwell canlyniadau iechyd meddwl
- ymgysylltu â gofalwyr gwrywaidd
- gwella dulliau o adnabod gofalwyr di-dâl
- rheoli gwybodaeth, cynlluniau rhyddhau
- cynllun seibiannau byr
Bydd y grŵp yn parhau i gyfarfod yn chwarterol.
Rhoddodd Dan Burrows ddiweddariad ar ymchwil ei dîm, a oedd yn cynnwys canfyddiadau ar iechyd meddwl, demograffeg incwm, tlodi, a risg hunanladdiad. Rhannwyd fideo a oedd yn darlunio bywyd fel rhiant gofalwr gyda'r grŵp: Mwy na rhiant - Prifysgol Birmingham.
Gwerthusiadau o'r Cynllun Seibiannau Byr a'r Gronfa Cymorth i Ofalwyr
Rhoddwyd diweddariad i'r grŵp ar y Cynllun Seibiannau Byr a'r Gronfa Cymorth i Ofalwyr, gan drafod effaith a chanlyniadau. Cytunodd yr aelodau y byddai'n ddefnyddiol cael data gwerthuso, yn ddelfrydol wedi'u dadansoddi fesul awdurdod lleol.
Cydnabuwyd bod y ddau gynllun yn cael effaith gadarnhaol ar ofalwyr, ac fe'u hystyrir yn gynlluniau gwerthfawr.
Ymgysylltu â strategaeth gofalwyr di-dâl
Derbyniodd aelodau'r grŵp bapur a oedd yn crynhoi'r prif themâu a oedd wedi dod i'r amlwg o'r ymarfer cyn-ymgynghori, dywedwyd wrthynt fod y rhain wedi llywio'r cwestiynau i'w hystyried yn y gweithgarwch gweithdy dilynol. Y themâu oedd:
- caledi ariannol
- mynediad at wasanaethau
- cefnogi grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli
- cyflogaeth
- iechyd meddwl a llesiant emosiynol
- seibiant a seibiannau o ofalu
- adnabod a chydnabod
- gofalwyr ifanc
- gofalwyr mewn perthynas â'r gwasanaethau ar gyfer y bobl y maent yn gofalu amdanynt
Gweithdai ar strategaeth genedlaethol
Rhannwyd yr aelodau'n ddau grŵp i drafod y themâu a nodwyd.
Roedd y trafodaethau'n ymwneud â nodi amcanion a fyddai'n ymateb i'r themâu pe baent yn cael eu cyflawni. Hefyd cafodd y camau gweithredu a'r mesurau a fyddai'n helpu i gyflawni'r amcanion arfaethedig eu trafod a'u cofnodi.
Diolchwyd i'r Aelodau am eu cyfraniadau gwerthfawr i'r ymarfer hwn, a fyddai'n llywio'r strategaeth ddrafft.
Camau gweithredu o’r cyfarfod diwethaf
Cadarnhawyd bod pob cam gweithredu wedi'i gwblhau.
Dyddiad y cyfarfod nesaf
10 Rhagfyr 2025
