Sut y byddwn yn trin unrhyw ddata personol y byddwch yn ei ddarparu mewn perthynas â Ffurflenni adborth Canllawiau Ymarfer Drafft Cymru Gyfan ar ddiogelu pobl rhag camfanteisio.
Cynnwys
Cyflwyniad
Yn unol â Rheoliadau Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (UK GDPR) mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn esbonio sut rydym yn casglu, defnyddio a phrosesu eich data personol yn deg, yn gyfreithlon ac yn dryloyw.
Sail gyfreithiol ar gyfer prosesu
Llywodraeth Cymru fydd yn rheoli unrhyw ddata personol a ddarperir gennych yng nghyswllt y ffurflenni adborth. Bydd yr wybodaeth yn cael ei phrosesu fel rhan o'n tasg gyhoeddus a'r awdurdod swyddogol a freiniwyd ynom i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.
Pa ddata personol fyddwn yn eu casglu a'u prosesu?
Diffinnir data personol o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) fel unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â pherson y gellir ei defnyddio i adnabod y person hwnnw yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, drwy gyfeirio at ffactor adnabod.
Ar gyfer yr arolwg hwn byddwn yn casglu'r data personol canlynol:
- Enw
- Cyfeiriad e-bost
Sut y cedwir eich data yn ddiogel
Mae data personol a roddir i Lywodraeth Cymru yn cael eu storio mewn ffolder ar weinydd diogel yn y DU.
Mae gan Lywodraeth Cymru weithdrefnau i'w dilyn os amheuir bod y rheolau diogelwch data wedi'u torri. Os amheuir bod achos o dorri rheolau diogelwch data wedi digwydd, bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi gwybod ichi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol pan fo'n ofynnol inni wneud hynny yn ôl y gyfraith.
Pwy fydd yn cael gweld eich data
Llywodraeth Cymru.
Timau cymorth gwasanaethau a'r gweinyddwyr technegol sy'n cefnogi'r system TG. Ni fydd y gweinyddwyr technegol yn defnyddio eich manylion mewn unrhyw ffordd.
Efallai y byddwn yn cysylltu â chi er mwyn gofyn i chi egluro eich ymateb i'r arolwg neu yn ymateb i'ch adborth yn uniongyrchol.
Am ba hyd rydyn ni'n cadw'ch manylion
Bydd eich data personol yn cael eu cadw ar systemau TG diogel Llywodraeth Cymru am hyd at 6 mis yn unol â pholisi cadw Llywodraeth Cymru ac ar ôl hynny byddant yn cael eu dinistrio'n ddiogel. Efallai y byddwn yn dileu'r wybodaeth cyn hynny os nad yw'n cael ei defnyddio mwyach.
Eich hawliau fel unigolyn
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data mae gennych yr hawliau a ganlyn:
- i gael gwybod am y data personol a gedwir amdanoch gan Lywodraeth Cymru, a chael gafael arnynt
- i ofyn inni gywiro unrhyw ddata anghywir
- i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data (o dan rai amgylchiadau)
- i’ch data gael eu ‘dileu’ (o dan rai amgylchiadau)
- i gludadwyedd data (o dan rai amgylchiadau)
- i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar ddiogelu data.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am yr hysbysiad preifatrwydd hwn, cysylltwch â'r Tîm Gwaith Teg: GwaithTeg@llyw.cymru
I gael rhagor o fanylion ynglŷn â’r wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data, cysylltwch â:
Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: SwyddogDiogeluData@llyw.cymru
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.
Dyma fanylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaer
SK9 5AF
Rhif ffôn:
0303 123 1113
Gwefan: www.ico.org.uk
