Neidio i'r prif gynnwy

Dawn Bowden AS, Y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Rhagfyr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 24 Mawrth 2025, cafodd Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025 (“y Ddeddf”) y Cydsyniad Brenhinol, gan nodi carreg filltir bwysig yn ein hymrwymiad i wella gofal a chymorth ledled Cymru. Mae’r ddeddfwriaeth nodedig hon yn cyflwyno diwygiadau a gynlluniwyd i gryfhau’r system iechyd a gofal cymdeithasol, gwella tryloywder a grymuso unigolion drwy roi iddynt ragor o ddewis a rheolaeth.

Mae’r Ddeddf yn cyflawni tri amcan polisi allweddol:

  • Dileu elw o ofal cymdeithasol plant, gan sicrhau bod gofal i blant sy’n derbyn gofal yn cael ei ddarparu ar sail nid-er-elw;
  • Cyflwyno taliadau uniongyrchol ar gyfer gofal iechyd, gan ganolbwyntio ar oedolion sy’n gymwys i gael Gofal Iechyd Parhaus y GIG;
  • Gwneud diwygiadau amrywiol i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, er mwyn sicrhau bod y rhannau hyn o’r fframwaith statudol yn gweithredu’n effeithiol.
Cychwyn darpariaethau

Yr wythnos diwethaf, llofnodais y Gorchymyn Cychwyn cyntaf sy’n dod â darpariaethau perthnasol y Ddeddf i rym, yn unol â’n hamserlen ar gyfer gweithredu:

  • O 1 Ionawr 2026:
  • Bydd pwerau gwneud rheoliadau perthnasol yn dod i rym er mwyn ei gwneud yn bosibl i’r is-ddeddfwriaeth angenrheidiol fod yn ei lle ym mis Ebrill 2026.
  • Bydd darpariaethau yn dod i rym i gefnogi ymgynghori, yng ngwanwyn 2026, ar gynnwys cynlluniau digonolrwydd blynyddol yr awdurdodau lleol a fydd yn ofynnol o dan adran 11 o’r Ddeddf.
  • Rhan 2, adran 24 (a’r ddarpariaeth gysylltiedig yn Atodlen 2): Bydd taliadau uniongyrchol mewn gofal iechyd hefyd yn cael eu cychwyn, gan roi pŵer i fyrddau iechyd lleol ddarparu pecynnau Gofal Iechyd Parhaus i oedolion cymwys drwy daliadau uniongyrchol, o fis Ebrill 2026.
  • O 1 Ebrill 2026:
    • Bydd Rhan 1, Pennod 1 yn dod i rym, gan gychwyn, gyda rhai eithriadau penodol, ddarpariaethau sy’n ymwneud â chyfyngiadau ar elw mewn gwasanaethau gofal cymdeithasol plant.
    • Bydd Rhan 1, Pennod 2 yn dod i rym, gan gychwyn, gyda rhai eithriadau penodol, ddarpariaethau sy’n ymwneud â gwasanaethau gofal cymdeithasol, y gweithlu, a thaliadau uniongyrchol mewn gofal cymdeithasol.

Mae’r dyddiadau hyn wedi’u cynllunio a’u cyhoeddi ymlaen llaw i ddarparu digon o amser ar gyfer ymgynghori (a wnaed rhwng mis Gorffennaf a mis Hydref eleni), drafftio deddfwriaethol ac i gefnogi’r paratoadau gweithredol.

Ar hyn o bryd, mae fy swyddogion yn gweithio i lunio’r holl offerynnau statudol a’r dogfennau ategol sy’n ofynnol ar gyfer mis Ebrill 2026, gan gynnwys adroddiadau cryno ar yr ymgynghoriad, ar gyfer eu gosod neu eu cyhoeddi yn dilyn Toriad y Nadolig. 

Mae’r Gorchymyn Cychwyn hefyd yn gwneud darpariaeth drosiannol ynghylch ceisiadau gan ddarparwyr i gofrestru ‘gwasanaeth plant o dan gyfyngiad’[1] newydd neu i ychwanegu lle y caiff gwasanaeth plant o dan gyfyngiad ei ddarparu ynddo at eu cofrestriad presennol. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau o’r fath i’w hystyried, heb gymhwyso’r gofyniad nid-er-elw newydd, fydd 31 Mawrth 2026.

At hynny, o 1 Gorffennaf 2026, bydd y Gorchymyn Cychwyn hefyd yn dod â darpariaeth bellach i rym sy’n ymwneud â dyletswydd yr awdurdod lleol i lunio a chyhoeddi cynlluniau digonolrwydd blynyddol, a’r gymeradwyaeth Weinidogol ar gyfer y rhain. Disgwylir i’r cynlluniau cyntaf gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru ym mis Rhagfyr 2026.

Diweddariad ar Weithredu
1. Dileu Elw o Ofal Cymdeithasol Plant

Mae’r paratoadau ar gyfer gweithredu’r darpariaethau nid-er-elw yn mynd rhagddynt yn gyflym, mewn partneriaeth â’r awdurdodau lleol, y darparwyr gwasanaethau, a chyrff y sector. 

O 1 Ebrill 2026, ni chaniateir i unrhyw gartrefi plant, llety diogel na gwasanaethau maethu newydd gofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) oni bai bod y darparwr yn un o’r mathau penodedig o sefydliad nid-er-elw. At hynny, ni fydd darparwyr presennol y gwasanaethau hyn yn gallu gwneud cais i AGC i amrywio eu cofrestriad i ychwanegu gwasanaeth neu le newydd, oni bai bod y darparwr yn un o’r mathau penodedig hynny o sefydliad nid-er-elw.

Daeth ymgynghoriad cyhoeddus ar y newidiadau rheoleiddiol arfaethedig a’r dull ar gyfer monitro a gorfodi darpariaethau’r Ddeddf ynghylch trefniadau ariannol afresymol neu anghymesur i ben ar 8 Hydref 2025. Bydd crynodeb o’r ymatebion yn cael ei gyhoeddi ddechrau’r flwyddyn nesaf, a bydd yn cael ei ddefnyddio i lywio’r rheoliadau terfynol. 

I gefnogi’r cyflawni, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo £75 miliwn dros dair blynedd ariannol (sy’n dod i ben yn 2028) drwy’r Grant Dileu Elw a Diwygio Radical, i helpu’r awdurdodau lleol a’r rhanbarthau i ddatblygu darpariaeth breswyl a maethu newydd. Mae hyn yn adeiladu ar y £68 miliwn a ddarparwyd eisoes rhwng 2022 a 2025. Rydym hefyd yn ariannu Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru i gydlynu gwaith cynllunio a chefnogi’r awdurdodau lleol a’r rhanbarthau ledled Cymru.

Yn ogystal â hynny, rydym yn gweithio gyda Cwmpas i gynorthwyo darparwyr er-elw presennol sy’n ystyried ailsefydlu fel un o’r pedwar sefydliad nid-er-elw penodedig. Mae cynghorwyr arbenigol yn darparu cyngor wedi’i deilwra, cyfrinachol i helpu darparwyr i wneud penderfyniadau gwybodus. Mae’r adborth cynnar yn dangos bod y gefnogaeth hon yn cael ei gwerthfawrogi’n fawr.

Mae rhagor o wybodaeth am ein hymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i ddileu elw o ofal plant sy’n derbyn gofal i’w chael ar wefan Llywodraeth Cymru

Yn olaf, mae ail adroddiad cynnydd ar bontio i fodel nid-er-elw wedi’i lunio a’i ddarparu i’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, gan gyflawni argymhelliad 9 o’i Adroddiad craffu Cyfnod 1. Mae’r adroddiad cynnydd yn cynnwys data manwl ar wasanaethau, lleoedd ac aelwydydd cofrestredig, a ddadansoddwyd yn ôl ardaloedd awdurdodau lleol a byrddau partneriaeth rhanbarthol. Mae’r adroddiad i’w gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

Rydym yn parhau i ymgysylltu â grwpiau cynrychioliadol, gan gynnwys Comisiynydd Plant Cymru, Voices from Care Cymru a’r Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol, i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn deall beth mae’r newidiadau hyn yn ei olygu iddynt hwy.

2. Taliadau Uniongyrchol ar gyfer Gofal Iechyd

Mae’r paratoadau ar gyfer cyflwyno’r opsiwn o wneud taliadau uniongyrchol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus o 1 Ebrill 2026 wedi hen ddechrau. Bydd y diwygio hyn yn rhoi cyfle i oedolion cymwys ofyn am daliad uniongyrchol ar gyfer eu cymorth Gofal Iechyd Parhaus ac, o ganlyniad, bydd ganddynt ragor o ddewis a rheolaeth dros drefniadau gofal.

Mae’r datblygiadau allweddol yn cynnwys:

  • Ymgynghori: daeth ymgynghoriad ar y cynigion ar gyfer rheoliadau i ben ar 8 Hydref 2025. Cafodd yr ymatebion eu dadansoddi, a bydd adroddiad cryno yn cael ei gyhoeddi ddechrau’r flwyddyn nesaf. Bydd y rheoliadau a’r canllawiau terfynol yn cael eu llywio gan yr ymatebion hyn.
  • Drafftio canllawiau ar gyfer deall y rheoliadau: mae canllawiau yn cael eu llunio gan ddefnyddio mewnbwn rhanddeiliaid i gefnogi’r gweithredu a byddant yn esblygu wrth i’r broses o gyflawni fynd rhagddi.
  • Cyllid: mae £150,000 wedi’i gymeradwyo y flwyddyn ariannol hon i gefnogi byrddau iechyd lleol i ymgymryd â gwaith rhagbaratoi, gan gynnwys swydd benodedig i gydlynu’r gweithredu. Mae hyn yn rhan o becyn cyllid trosiannol tair blynedd a amlinellir ym Memorandwm Esboniadol ac Asesiad Effaith Rheoleiddiol y Ddeddf.
  • Y sail dystiolaeth: mae arolwg cyflym o’r dystiolaeth a gomisiynwyd gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wedi’i gyhoeddi i lywio polisïau a’r cynllunio gweithredol.
  • Ymgysylltu: mae swyddogion yn cadw mewn cysylltiad rheolaidd ag arweinwyr Gofal Iechyd Parhaus ym mhob bwrdd iechyd lleol, a chynhelir cyfarfodydd deufisol a fforymau ehangach i ategu hyn. Mae’r ymgysylltu diweddar yn cynnwys y Fforwm Cydraddoldeb i Bobl Anabl, Fforwm Taliadau Uniongyrchol Cymru Gyfan a ffrwd waith Gofal Iechyd Parhaus Bwrdd Gwerth a Chynaliadwyedd GIG Cymru. Mae’r gwersi o daliadau uniongyrchol mewn gofal cymdeithasol yng Nghymru, a rhanbarthau eraill, yn cael eu hymgorffori.

Er y bydd yr opsiwn i ofyn am daliad uniongyrchol ar gael o 1 Ebrill 2026, bydd gweithredu hyn yn ddibynnol ar fodloni’r meini prawf cymhwysedd a chwblhau’r prosesau gofynnol. Bydd dewisiadau polisi ac ymgynghori pellach yn ofynnol cyn y caiff taliadau uniongyrchol mewn gofal iechyd eu hymestyn, y tu hwnt i Ofal Iechyd Parhaus, yn y dyfodol.

3. Datganiadau Blynyddol a Chofrestru Darparwyr Gwasanaethau

Mae’r Ddeddf yn cryfhau tryloywder ac atebolrwydd ar gyfer gwasanaethau gofal cymdeithasol rheoleiddiedig. 

O 1 Ebrill 2026:
  • Rhaid i ddarparwyr gyhoeddi eu datganiadau blynyddol ar eu gwefannau eu hunain erbyn 30 Mehefin bob blwyddyn, cyn pen 91 o ddiwrnodau i ddiwedd y flwyddyn ariannol. Bydd methu â chydymffurfio yn drosedd a fydd, o bosibl, yn ddarostynedig i hysbysiad cosb.
  • Rhaid i ddarparwyr sy’n dymuno canslo eu cofrestriad gyflwyno ceisiadau drwy eu cyfrif ar-lein ag AGC, gan ddarparu gwybodaeth benodedig i sicrhau bod trefniadau i gau gwasanaethau yn cael eu rheoli’n ddiogel a chan roi sylw dyledus i lesiant unigolion. Mae’r mesurau hyn yn atgynhyrchu’r prosesau presennol ar gyfer ceisiadau i amrywio cofrestriad darparwyr.

Mae’r Ddeddf hefyd yn egluro pwerau AGC o dan Ddeddf 2016 i ymchwilio i ddarpariaeth yr amheuir ei bod yn anghofrestredig. 

Bydd crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad ar y newidiadau rheoleiddiol arfaethedig yn cael ei gyhoeddi ddechrau’r flwyddyn nesaf, i gyd-fynd â gosod y rheoliadau. 

Ymgysylltu a’r Camau Nesaf

Rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i gydgynhyrchu a thryloywder drwy gydol gweithredu’r Ddeddf. Bydd yr ymgysylltu â rhanddeiliaid – gan gynnwys awdurdodau lleol, byrddau iechyd lleol, darparwyr a grwpiau cynrychioliadol – yn parhau i siapio rheoliadau, canllawiau a threfniadau cynllunio gweithredol yn y dyfodol.

Mae’r camau nesaf yn cynnwys:

  • Cyhoeddi crynodeb o’r holl ymgyngoriadau ddechrau 2026.
  • Gosod yr holl is-ddeddfwriaeth (fel sy’n ofynnol ar gyfer mis Ebrill 2026) ddechrau 2026.
  • Ymgynghori ar gynlluniau digonolrwydd blynyddol awdurdodau lleol yng ngwanwyn 2026, gyda’r cynlluniau cyntaf i gael eu cyflwyno erbyn 1 Rhagfyr 2026.
  • Cwblhau canllawiau (ar gyfer taliadau uniongyrchol Iechyd Gofal Parhaus) a’r holl baratoadau gweithredol ar gyfer gweithredu ym mis Ebrill 2026.
  • Parhau i adrodd ar y cynnydd o ran dileu elw o ofal plant sy’n derbyn gofal, ac ar daliadau uniongyrchol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus, i Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd, yn unol â’r argymhellion y cytunwyd arnynt.

Ymhellach i hyn, mae gan AGC dudalennau gwe sy’n benodol ar gyfer darparu gwybodaeth a chymorth i ddarparwyr gwasanaethau mewn perthynas â’r newidiadau rheoleiddiol a statudol sy’n effeithio arnynt hwy – o ran dileu elw o ofal cymdeithasol plant a’r newidiadau cyffredinol i'r gofynion ar gyfer cyhoeddi datganiadau blynyddol a cheisiadau i ganslo cofrestriadau. 

Casgliadau

Mae Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025 yn gam trawsnewidiol ar y daith tuag at ddarparu system ofal decach, sy’n fwy cynaliadwy. Drwy ddileu elw o ofal cymdeithasol plant, cyflwyno taliadau uniongyrchol ar gyfer gofal iechyd a chryfhau ein fframweithiau rheoleiddio, rydym yn sicrhau bod budd y cyhoedd a gwerthoedd sy’n canolbwyntio ar y person wrth wraidd gofal a chymorth yng Nghymru.

Byddaf yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau wrth inni symud tuag at weithredu’n llawn ym mis Ebrill 2026.

[1] gwasanaeth cartref gofal a ddarperir yn gyfan gwbl neu’n bennaf i blant, gwasanaeth maethu neu wasanaeth llety diogel