Neidio i'r prif gynnwy

Daeth yr ymgynghoriad i ben 8 Hydref 2025.

Cyfnod ymgynghori:
16 Gorffennaf 2025 i 8 Hydref 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Adolygu ymatebion

Mae ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn cael ei adolygu ar hyn o bryd. Bydd manylion am y canlyniad yn cael eu cyhoeddi yma maes o law.

Ymgynghoriad gwreiddiol

Rydym yn ceisio eich barn ar ein cynigion ynghylch rheoliadau ar gyfer taliadau uniongyrchol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Mae rhan 1 yr ymgynghoriad yn gwneud y canlynol: 

  • Ceisio barn ar ddiwygiadau arfaethedig i Reoliadau’r Byrddau Iechyd Lleol (Swyddogaethau a Gyfarwyddir) (Cymru) 2009. Bydd hyn yn dirprwyo swyddogaethau i fyrddau iechyd lleol i wneud taliadau uniongyrchol ar ran Gweinidogion Cymru.

Mae rhan 2 yr ymgynghoriad yn gwneud y canlynol:

  • Ceisio barn ar gynnwys arfaethedig rheoliadau ar gyfer taliadau uniongyrchol ym maes gofal iechyd.
  • Ceisio barn ar sut y gall canllawiau ategu ac ychwanegu at reoliadau ar gyfer y rhai a fydd yn rhoi taliadau uniongyrchol am ofal iechyd ar waith neu ar gyfer y rhai a fydd yn eu cael.

Mae rhan 3 yr ymgynghoriad yn gwneud y canlynol:

  • Ceisio barn ar ddiwygiadau arfaethedig i’r rheoliadau a’r cod ymarfer perthnasol sy’n llywodraethu taliadau uniongyrchol ym maes gofal cymdeithasol. Yn benodol, galluogi trydydd parti a enwebir i weinyddu’r taliadau ar ran derbynnydd.

Gallai’r rheoliadau arfaethedig newid yn seiliedig ar yr ymatebion i’r ymgynghoriad ac er mwyn sicrhau eu bod yn gallu cyflawni’r amcanion polisi yn effeithiol.

Dogfennau ymgynghori

Dogfen ymgynghori: fersiwn hawdd ei ddeall , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Sut rydyn ni’n defnyddio eich gwybodaeth: fersiwn hawdd ei ddeall , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 185 KB

PDF
185 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Ffurflen ymateb: fersiwn hawdd ei ddeall , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Help a chymorth

Gellir gwneud cais am fersiynau o’r ddogfen hon mewn print bras, mewn Braille neu mewn ieithoedd eraill.