Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r adroddiad yn syntheseiddio tystiolaeth i nodi’r cyfnod adolygiad ôl-weithredu tair-blynedd o’r Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020.

Daeth Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020 ('y Ddeddf') i rym ar 21 Mawrth 2022. Mae'r Ddeddf yn diddymu'r amddiffyniad yn y gyfraith gyffredin o 'gosb resymol' a oedd ar gael o'r blaen i rieni a'r rhai sy'n gweithredu in loco-parentis fel amddiffyniad i gyhuddiadau o  ymosod ar neu guro plentyn.

O dan delerau'r Ddeddf, mae'n ofynnol i Weinidogion Cymru baratoi a chyhoeddi adroddiadau ar effeithiau'r newidiadau deddfwriaethol dair blynedd a phum mlynedd ar ôl eu rhoi ar waith.  Mae'r adroddiad yn nodi'r adolygiad ôl-weithredu tair blynedd  (PIR).

Mae'r adroddiad yn darparu asesiad o weithredu'r ddeddfwriaeth ar y meysydd y cytunwyd arnynt gyda'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn ystod hynt y ddeddfwriaeth:

  • yr effaith ar wasanaethau cyhoeddus
  • ymwybyddiaeth o'r gyfraith
  • agweddau at gosbi corfforol
  • safbwyntiau a phrofiadau rhanddeiliaid

Mae'r adroddiad yn tynnu ar amrywiaeth eang o ffynonellau data ac ymchwil, gan gynnwys data gweinyddol, data arolwg, a data a gasglwyd o gyfweliadau a grwpiau ffocws a gynhaliwyd drwy brosiect ymchwil.

Prif gasgliadau

Mae gweithredu'r Ddeddf wedi cael ei gynorthwyo'n fawr gan greu rolau gweithwyr Cymorth Rhianta y tu allan i'r Llys. Maent wedi chwarae rhan allweddol wrth weithio'n agos gyda theuluoedd i roi cyngor ar ddulliau rhianta cadarnhaol a chymorth ataliol sy'n darparu datrysiadau i rieni cyn eu troseddoli.

Adroddodd llawer o weithwyr proffesiynol, yn enwedig y rhai sy'n gweithio ym meysydd iechyd ac addysg, fod y Ddeddf yn cyd-fynd yn agos â'u rolau a'u cyfrifoldebau diogelu. Ar gyfer y gweithwyr proffesiynol hyn, ni chafodd y Ddeddf effaith sylweddol ar eu llwyth gwaith. Fodd bynnag, adroddodd staff yr heddlu ac awdurdodau lleol gynnydd mewn llwythi gwaith, yn enwedig ar ôl cyflwyno'r Ddeddf i ddechrau. Mae'r effeithiau cynnar hyn wedi'u lleddfu'n rhannol gan ddatblygu canllawiau aml-asiantaeth cliriach a mireinio mwy ar y llwybrau atgyfeirio.

Yn gyffredinol, mae'r dystiolaeth yn dangos bod ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o'r Ddeddf yn gyffredinol yn gryf ymhlith gweithwyr proffesiynol, rhieni a gofalwyr, y cyhoedd yn gyffredinol a phlant a phobl ifanc.

Mae canfyddiadau'r arolwg yn dangos lefelau isel ymhlith y cyhoedd o dderbyn defnyddio cosb gorfforol, a hynny yn y rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu a'r rhai hebddynt. Fodd bynnag, mae'r canfyddiadau'n awgrymu bod lleiafrif o hyd sy'n meddwl bod cosb gorfforol 'weithiau yn angenrheidiol' neu'n sy'n camddeall cwmpas y Ddeddf.

Mae gweithwyr proffesiynol yn adrodd mwy o eglurder a hyder wrth drafod disgyblaeth a hawliau plant gyda theuluoedd. Mae mwy o ymgysylltu â rhieni ar reoli ymddygiad drwy ddulliau cadarnhaol wedi helpu gweithwyr proffesiynol i symud eu ffocws i fynd at wraidd yr hyn sy'n digwydd, gan ddilyn dull ataliol. Er bod rhai heriau wedi'u crybwyll wrth nodi achosion o gosb gorfforol, roedd y rhan fwyaf o weithwyr proffesiynol yn teimlo'n hyderus o ran y dulliau a ddefnyddir.

Adroddiadau

Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020: adroddiad synthesis , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 871 KB

PDF
871 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Ymchwil Plant a Theuluoedd

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn:

0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.