Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALIC 2025) adroddiad technegol - Cyflwyniad
Yn amlinellu prif wybodaeth dechnegol ar gyfer adroddiad canlyniadau Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALIC).
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cefndir
Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) yw’r mesur swyddogol o amddifadedd cymharol ar gyfer ardaloedd bach yng Nghymru. Mae’n nodi ardaloedd â’r crynodiadau uchaf o sawl math gwahanol o amddifadedd. Mae MALlC yn pennu safle pob ardal fach yng Nghymru o 1 (mwyaf difreintiedig) i 1,917 (lleiaf difreintiedig). Ystadegyn swyddogol achrededig ydyw, sy’n cael ei baratoi gan ystadegwyr yn Llywodraeth Cymru, yn gweithio o dan y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.
Cyfrifir MALlC o wyth maes (neu fath) gwahanol o amddifadedd, pob un yn seiliedig ar amrywiaeth o ddangosyddion gwahanol. Mae’r adroddiad technegol hwn yn disgrifio sut y cafodd MALlC 2025 ei lunio ac mae’n cynnwys rhestr lawn o ddangosyddion a gwybodaeth am y dangosyddion. Mae ein dogfen ganllaw ar MALlC yn rhoi rhagor o wybodaeth am y diffiniad o amddifadedd a sut i ddehongli a defnyddio MALlC. Mae ein hadroddiad ar ganlyniadau MALlC hefyd yn rhoi enghreifftiau o ddefnyddiau MALlC.
Sut y caiff MALlC ei lunio
Mae i’r mynegai dair prif elfen:
- y 54 o setiau data dangosyddion sylfaenol
- safleoedd ar gyfer yr wyth maes (neu fath) gwahanol o amddifadedd, a grëwyd drwy gyfuno dangosyddion perthnasol o fewn pob maes
- safleoedd cyffredinol MALlC, a grëwyd drwy gyfuno safleoedd y meysydd
Caiff yr holl elfennau hyn eu cyfrifo ar gyfer pob un o’r ardaloedd bach (Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is neu ACEHIau) yng Nghymru a’u cyhoeddi. Ceir rhestr lawn o’r dangosyddion yn yr adroddiad ar ganlyniadau.
Mae’r ffordd y caiff y dangosyddion a’r meysydd eu cyfuno wedi’i llunio i wahaniaethu’n ddibynadwy rhwng ardaloedd ar y pen mwyaf difreintiedig o’r dosbarthiad, ond nid ar y pen lleiaf difreintiedig. Mae hyn yn golygu bod y gwahaniaethau rhwng yr ardaloedd lleiaf difreintiedig yng Nghymru wedi’u diffinio’n llai manwl na’r gwahaniaethau rhwng yr ardaloedd mwyaf difreintiedig.
Newidiadau ar gyfer MALlC 2025
Mae’r fethodoleg yr un fath â methodoleg mynegeion blaenorol ar y cyfan, gyda’r un wyth maes neu fath o amddifadedd wedi’u cofnodi. Fodd bynnag, mae rhai setiau data, methodolegau a daearyddiaethau newydd wedi cael eu defnyddio i baratoi MALlC 2025, sy’n golygu nad oes modd cymharu allbynnau yn uniongyrchol â mynegeion blaenorol.
Ceir manylion am y newidiadau i ddangosyddion a methodolegau yn yr adroddiad technegol hwn, ac mae crynodeb o’r newidiadau ar gael yn yr adroddiad ar ganlyniadau.
Dangosyddion
Mae’r meysydd yn seiliedig ar setiau o ddangosyddion. Mae’r rhain yn feintiau mesuradwy sy’n cofnodi’r cysyniad o amddifadedd ar gyfer pob maes (e.e. canran y bobl o oedran gweithio sy’n cael budd-daliadau sy’n gysylltiedig â chyflogaeth ar gyfer y maes cyflogaeth, a mesur o gyrhaeddiad addysgol (sgoriau pwyntiau cyfartalog CA4) yn y maes addysg).
Mae’n rhaid i bob un o ddangosyddion MALlC 2025 fodloni’r un meini prawf â mynegeion amddifadedd MALlC 2019 a’r rhai a’i rhagflaenodd, fel y’u rhestrwyd yn yr adroddiad ar ein dangosyddion arfaethedig. Mae’n rhaid i ddangosyddion fod yn gadarn ar lefel yr ardal fach ac yn gyson ledled Cymru. Yn ymarferol, golyga hyn fod y mynegai yn seiliedig i raddau helaeth ar ddata gweinyddol, gyda nifer cyfyngedig o newidynnau’r Cyfrifiad neu newidynnau wedi’u modelu os na fydd data gweinyddol priodol ar gael.
Cyfrifir y pwysoliadau ar gyfer dangosyddion o fewn meysydd mewn sawl ffordd wahanol, a grynhoir fel a ganlyn ac a esbonnir yn fanwl ym mhob pennod maes yn yr adroddiad technegol:
- ar gyfer y meysydd incwm a chyflogaeth, dim ond un dangosydd cyfansawdd sy’n bodoli ac, felly, nid oes angen unrhyw bwysoliad o fewn y maes.
- ar gyfer meysydd tai, yr amgylchedd ffisegol a mynediad at wasanaethau, caiff y dangosyddion eu grwpio’n ddau neu fwy o is-feysydd, wedyn caiff safleoedd yr is-feysydd eu trawsffurfio’n esbonyddol (gweler atodiad 1.1), cyn cael eu cyfuno mewn swm wedi’i bwysoli
- ar gyfer y meysydd addysg, iechyd, mynediad at wasanaethau (is-faes mynediad ffisegol) a diogelwch cymunedol, defnyddir techneg ystadegol dadansoddi ffactorau i gyfrifo pwyoliadau ffactorau ar gyfer y dangosyddion (gweler atodiad 1.2)
Yn ogystal â safleoedd ar gyfer y meysydd cyffredinol, byddwn yn cyhoeddi safleoedd ar gyfer pob is-faes ar StatsCymru. Mae rhai o’n dangosyddion yn defnyddio Amcangyfrifon Poblogaeth Ardaloedd Bach yn yr enwaduron. Gwnaethom ddefnyddio data Amcangyfrifon Poblogaeth Ardaloedd Bach a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2024 (amcangyfrifon hyd at ganol 2022) a oedd ar gael ar gyfer cyfnod prosesu data MALlC 2025 ym mis Hydref 2025. Ers hynny, mae’r SYG wedi cyhoeddi diweddariadau a diwygiadau i elfennau o’r data hyn ar 7 Tachwedd 2025. Rydym wedi edrych ar hyn ac wedi asesu bod effaith y newidiadau ar lefel ardal yn fach.
Sgoriau meysydd
Y mynegai cyffredinol a safleoedd y meysydd yw prif gynnyrch MALlC. Fel rhan o’r broses o gyfrifo safleoedd MALlC, caiff sgoriau amddifadedd (meysydd a rhai cyffredinol) eu cynhyrchu. Gweler yr adroddiad canllaw am ragor o gyngor ar ddehongli sgoriau.
Yna, caiff safleoedd meysydd unigol, a gyfrifir drwy roi swm wedi’i bwysoli dangosyddion maes yn ei drefn, eu trawsffurfio’n esbonyddol (gweler atodiad 1.1 i gynhyrchu sgoriau meysydd. Mae ardaloedd yn cael sgoriau (safleoedd wedi’u trawsffurfio) sy’n amrywio rhwng 0 (y lleiaf difreintiedig) a 100 (y mwyaf difreintiedig) ar gyfer pob maes. Mae’r sgoriau yn cynyddu’n esbonyddol sy’n golygu bod yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yn fwy amlwg. Mae hyn yn lleihau’r graddau y gall amddifadedd mewn rhai meysydd gael ei wrthbwyso gan ddiffyg amddifadedd mewn meysydd eraill.
Yna, caiff y setiau o sgoriau meysydd eu pwysoli yn unol â phwysoliad perthnasol y maes a’u hadio at ei gilydd, i gynhyrchu sgôr gyffredinol MALlC, a fydd, yn ei thro, yn cael ei rhoi yn nhrefn ei safle i gynhyrchu safleoedd cyffredinol MALlC.
Pwysoliadau meysydd
Mae pwysoliadau’r meysydd yn rheoli cyfraniad cymharol pob maes at amddifadedd cyffredinol. Mae eu gwerthoedd yn seiliedig ar gyngor arbenigol ac ansawdd y dangosyddion sydd ar gael. Mae pwysau uwch yn golygu bod amrywiad yn y maes hwnnw yn cael mwy o effaith ar y mynegai cyffredinol.
| Maes MALIC | Pwysoliad maes MALlC 2025 | Pwysoliad maes MALlC 2019 |
|---|---|---|
| Incwm | 22% | 22% |
| Cyflogaeth | 20% | 22% |
| Iechyd | 15% | 15% |
| Addysg | 14% | 14% |
| Mynediad i wasanaethau | 10% | 10% |
| Tai | 9% | 7% |
| Diogelwch cymunedol | 5% | 5% |
| Yr amgylchedd ffisegol | 5% | 5% |
Mae dau ddangosydd newydd wedi cael eu hychwanegu at y maes tai, sydd wedi arwain at gynnydd bach yn ei bwysoliad o 7% i 9%. Er mwyn caniatáu ar gyfer hyn, mae’r pwysoliad ar gyfer y maes cyflogaeth wedi cael ei leihau ychydig o 22% i 20%, ond hwn yw’r maes wedi’i bwysoli uchaf ond uno hyd am ei fod yn benderfynydd cryf o ran amddifadedd.
Daearyddiaethau MALlC
Ardaloedd Cynnyrch Ehangach
Yn sgil Cyfrifiad 2001, datblygodd y SYG hierarchaeth ddaearyddol o’r enw Ardaloedd Cynnyrch Ehangach (ACE). Eu nod oedd gwella’r dull o gofnodi ystadegau ardaloedd bach yng Nghymru a Lloegr. Adolygwyd yr ardaloedd, a gwnaed rhai newidiadau, yn dilyn Cyfrifiad 2021 (SYG). Lle y bo’n bosibl, cyhoeddir ystadegau swyddogol ar lefel daearyddiaeth ACE.
Mae tair haen o ACE: Haen Is, Haen Ganol, a Haen Uwch. Y rheswm am hyn oedd bod gofynion datgelu yn golygu bod modd rhyddhau rhai setiau o ddata ar gyfer ardaloedd llawer llai nag eraill. Felly, er mwyn cefnogi amrywiaeth o ofynion data posibl, penderfynwyd creu’r tair haen arbennig hon. Dyma’r cyfyngiadau:
- Mae ACE Haen Is (a elwir yn ACEHI) yn cynnwys isafswm poblogaeth o tua 1,000.
- Mae maint cymedrig yr holl Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is yn agos i 1,600.
- Maent yn seiliedig ar grwpiau o Ardaloedd Cynnyrch y Cyfrifiad (rhwng 4 a 6 fel arfer).
- Mae ACE Haen Ganol (ACEHG) yn cynnwys isafswm poblogaeth o tua 5,000.
- Mae maint cymedrig yr holl ACEHG yn agos i 8,200.
Yr uned ddaearyddol ar gyfer MALlC
Yr ardaloedd daearyddol a ddefnyddiwyd wrth gyfrifo MALlC 2025 yw’r 1,917 o Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is (ACEHIau) yng Nghymru. Defnyddiwyd ACEHIau fel yr uned ddaearyddol ym MALlC 2005, 2008, 2011, 2014 a 2019. Adolygodd y SYG ffiniau ACEHIau ar ôl rhyddhau data Cyfrifiad 2021, ac erbyn hyn ceir 1,917 o ACEHIau yn lle’r 1,909 o ACEHIau blaenorol ar gyfer MALlC 2019.
Er bod safleoedd cyffredinol MALlC yn cael eu cyfrifo ar lefel AGEHI yn unig, byddwn yn llunio proffiliau o amddifadedd ar gyfer ardaloedd mwy o faint (fel awdurdodau lleol, byrddau iechyd lleol, ACEHGau ac ardaloedd etholaethau’r Senedd) sydd ar gael ar StatsCymru. Mae’r rhain yn edrych ar gyfran yr ardaloedd bach mewn ardal fwy o faint sy’n ddifreintiedig iawn. Hefyd, cyhoeddir data dangosyddion unigol ar gyfer amrywiaeth o ddaearyddiaethau ar StatsCymru. Ar gyfer y rhan fwyaf o feysydd, caiff data dangosyddion eu dyrannu i AGEHI gan gyflenwyr y data fel rhan o’r broses gasglu. Fodd bynnag, darperir data ar lefel ddaearyddol is ar gyfer rhai dangosyddion yn y meysydd mynediad at wasanaethau, addysg a diogelwch cymunedol. Ceir esboniad o sut y dyrannwyd data i ACEHIau ar gyfer y meysydd hyn yn atodiad 1.3.
Cydnabyddiaethau
Rydym yn ddiolchgar am gyfraniadau llawer o bobl a sefydliadau sydd wedi darparu data a chyngor ar gyfer MALlC 2025. Hoffem ddiolch yn arbennig i'r canlynol am y gwaith datblygu neu'r gefnogaeth wedi'i deilwra a ddarparwyd ganddynt:
- Sefydliad Ymchwil Adeiladu (BRE), a gynhyrchodd fersiwn wedi'i diweddaru o'r dangosydd tai o ansawdd gwael
- Arolygiaeth Gofal Cymru, a ddarparodd ddata lleoliad ar gyfer darparwyr gofal plant
- Caroline Thomas a Mark Corbin, CGI, a ddatblygodd gyfrifiadau amseroedd teithio
- Yr Adran Addysg, a ddarparodd ddata ar gyfer y maes addysg
- Deprivation.org, Oxford Consultants for Social Inclusion (OCSI), a'r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol, a ddarparodd sawl set ddata dangosydd
- Iechyd a Gofal Digidol Cymru, a ddarparodd ddata ar gyflyrau iechyd a gofnodwyd gan feddygon teulu
- Noise Consultants Ltd, a gynhyrchodd ddata amlygiad i sŵn
- Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, a ddarparodd ddata ar gyfer y maes iechyd ac amcangyfrifon poblogaeth
- Yr Athro Glen Bramley, Prifysgol Heriot-Watt, a gynhyrchodd y dangosydd fforddiadwyedd tai
- Yr Athro Rich Fry ac Oliver Thwaites, Gwyddor Data Poblogaeth, Prifysgol Abertawe, a ddarparodd ddata ar wyrddni amgylchynol
- Iechyd Cyhoeddus Cymru, a ddarparodd ddata o gofrestriadau canser a'r Rhaglen Mesur Plant
- Heddluoedd Cymru, a gyfrannodd at y maes diogelwch cymunedol
Atodiad 1.1: trawsffurfio safleoedd meysydd yn esbonyddol
Mae trawsffurfio safleoedd yn esbonyddol yn lleihau’r graddau y gall amddifadedd mewn rhai meysydd gael ei wrthbwyso gan ddiffyg amddifadedd mewn meysydd eraill. Mae’r broses drawsffurfio yn nodi safleoedd yr ardaloedd mwyaf difreintiedig fel bod lleoedd yn cael eu cyflwyno rhwng ardaloedd sy’n adlewyrchu’r dosbarthiadau gwirioneddol ac yn pwysleisio ‘cynffon’ mwyaf difreintiedig y dosbarthiad.
Mae’r union broses drawsffurfio fel a ganlyn: Ar gyfer unrhyw AGEHI, nodwch ei safle yn y maes, wedi’i raddio i’r ystod (0,1), ag R (gyda R=1/1917 ar gyfer y lleiaf difreintiedig, R=1917/1917=1 ar gyfer y mwyaf difreintiedig). Mae sgôr y maes wedi’i drawsffurfio yn hafal i:
lle mae log yn dynodi logarithm naturiol ac mae esb yn dynodi’r trawsffurfiad esbonyddol neu antilog. Mae’n hawdd cyfrifo’r fformiwla hon ac mae’n symlach na’r broses drawsffurfio i gromlin normal a ddefnyddir yn aml, sy’n gofyn am ddefnyddio tabl am-edrych.
Ffigur 1.1: histogram o faes wedi’i drawsffurfio
Disgrifiad o ffigur x: mae hwn yn dangos dosbarthiad y safleoedd wedi’u trawsffurfio, a elwir yn sgoriau. Mae gan bob maes wedi’i drawsffurfio ystod o 0 i 100, gyda sgôr o 100 ar gyfer yr AGEHI fwyaf difreintiedig. Mae gan yr AGEHI leiaf difreintiedig (R = 1/1917) sgôr maes o tua 0.01.
Mae’r cysonyn -23 yn rhoi priodoledd wrthbwyso o 10%. Mae hyn yn golygu bod gan 10% o ACEHIau sgôr uwch na 50 (y mwyaf difreintiedig) a bod gan y 90% o ACEHIau sy’n weddill sgoriau rhwng 0 a 50. Pan gaiff sgoriau wedi’u trawsffurfio o wahanol feysydd eu cyfuno drwy eu cyfartaleddu, mae sgiwedd y dosbarthiad yn lleihau’r graddau y gall amddifadedd mewn un maes gael ei wrthbwyso gan ddiffyg amddifadedd mewn maes arall. Er enghraifft, os caiff y sgoriau wedi’u trawsffurfio ar ddau faes eu cyfartaleddu’n unig, gyda phwysoliadau cyfartal, byddai gan AGEHI (ddamcaniaethol) a sgoriodd 100 ar un maes a 0 ar y llall sgôr cyfunol o 50 ac felly byddai’n cael ei gosod ar y 90ain ganradd. Byddai cyfartaleddu’r safleoedd heb eu trawsffurfio, neu ar ôl trawsffurfio i ddosbarthiad normal, yn golygu y byddai AGEHI o’r fath yn cael ei gosod yn y 50fed ganradd; byddai’r lefel uchel o amddifadedd yn y naill faes wedi cael ei gwrthbwyso’n llwyr gan y lefel isel o amddifadedd yn y llall.
Golyga hyn fod methodoleg y Mynegai wedi’i llunio i wahaniaethu’n ddibynadwy rhwng ardaloedd ym mhen mwyaf difreintiedig y dosbarthiad, ond bod gwahaniaethau rhwng yr ardaloedd lleiaf difreintiedig yng Nghymru yn llai clir.
Yn ogystal â chael ei defnyddio i gyfuno safleoedd meysydd i lunio safleoedd cyffredinol yn y mynegai, caiff y broses drawsffurfio hon ei chymhwyso at safleoedd is-feysydd i bennu safleoedd meysydd ar gyfer y meysydd mynediad at wasanaethau, tai a’r amgylchedd ffisegol.
Er bod safle penodol wedi’i bennu ar gyfer pob AGEHI ar gyfer y rhan fwyaf o ddangosyddion MALlC 2025, roedd gan nifer bach o ddangosyddion nifer mawr o “0-gwerthoedd” clwm ar gynffon leiaf difreintiedig y dosbarthiad. Er enghraifft, yn y maes mynediad at wasanaethau mewn 955 o ACEHIau roedd 0% o eiddo yn methu â chael band eang cyflym iawn. Gwelwyd y patrwm hon yn yr is-faes digidol yn y maes mynediad at wasanaethau a’r is-faes perygl llifogydd ym maes yr amgylchedd ffisegol. At ddibenion trawsffurfio esbonyddol, pennwyd safleoedd is-faes o 1917 i’r ACEHIau hyn er mwyn lleihau eu cyfraniadau at sgoriau cyffredinol meysydd i’r eithaf.
Atodiad 1.2: dadansoddi ffactorau
Trosolwg o’r dechneg dadansoddi ffactorau
Mae dadansoddi ffactorau yn ddull o asesu i ba raddau y gall set o ddangosyddion fod yn mesur yr un lluniad neu ffactor sylfaenol. Y cynsail i fodel un ffactor cyffredin yw bod y ffactor sylfaenol yn cael ei fesur yn amherffaith gan bob un o’r dangosyddion yn y set ddata ond y bydd dangosyddion sydd â’r gydberthynas agosaf â’r ffactor sylfaenol hefyd yn cydberthyn yn agos iawn â’i gilydd. Felly, drwy ddadansoddi’r cydberthynas rhwng dangosyddion, bydd yn bosibl dod i gasgliadau ynghylch y ffactor cyffredin ac, o ganlyniad i hynny, amcangyfrif ‘sgôr ffactor’ ar gyfer pob AGEHI. Cyfrifir y sgôr hon ar sail set o bwysoliadau ar gyfer pob un o’r dangosyddion yn y set ddata a gynhyrchir drwy’r broses dadansoddi ffactorau. Wedyn, gellir defnyddio’r sgôr ffactor hon fel mynegai’r maes.
Dim ond ar gyfer pedwar maes y mae’r dechneg dadansoddi ffactorau wedi’i defnyddio, sef: iechyd, addysg, mynediad at wasanaethau a diogelwch cymunedol. O fewn y maes mynediad at wasanaethau, defnyddir y dechneg dadansoddi ffactorau i gyfrifo pwysoliadau o fewn yr is-faes mynediad ffisegol. Y prif resymau pam mae’r dechneg dadansoddi ffactorau wedi’i defnyddio yw:
- bod y dangosyddion ar fetrigau gwahanol a bod ganddynt lefelau gwahanol o gywirdeb, sy’n golygu na ellir eu cyfansymio
- nodi’r ffactor sy’n sail i’r dangosyddion yn y maes
- helpu i ystyried problem ‘cyfrif dwbl’ mewn maes
Yn y meysydd cyflogaeth ac incwm, gallwn nodi unigolion sy’n ddifreintiedig neu nad ydynt yn ddifreintiedig yn nhermau’r diffiniad o’r maes. Wedyn, gellir cyfansymio nifer y bobl ddifreintiedig a’i rannu ag enwadur addas i roi cyfradd ardal.
Nid yw hyn yn bosibl yn y 6 maes arall, lle mae ffurfiau ar amddifadedd yn tueddu i ymddangos mewn ffyrdd gwahanol ar adegau gwahanol. Er enghraifft, mae unigolyn yn wynebu ‘amddifadedd o ran iechyd’ os bydd yn marw’n gynamserol neu’n dioddef o salwch hirdymor. Er bod pobl â salwch hirdymor yn fwy tebygol o farw yn gynamserol nag eraill, nid yw’r pethau hyn yn digwydd i’r un bobl ar yr un pryd.
Fel arfer, mae meysydd o’r fath yn cynnwys data ar bobl ar wahanol oedrannau ac adegau. Er enghraifft, yn y maes Addysg, aseswyd diffyg cymwysterau yn y boblogaeth oedolion yn ogystal â chanlyniadau gwael ar lefel ysgol.
Rydym yn rhagdybio bod ffactor sylfaenol ar lefel yr ardal leol (e.e. amddifadedd iechyd) sy’n golygu bod y cyflyrau gwahanol hyn yn debygol o gydfodoli yn yr un ardal. Ni ellir mesur y ffactor sylfaenol hwn yn uniongyrchol ond gellir ei nodi drwy ei effeithiau ar fesurau unigol penodol (e.e. marw cyn pryd, salwch hirdymor, plant pwysau geni isel ac ati).
Felly, rydym wedi casglu nifer o ddangosyddion sy’n mesur, â gwahanol lefelau o gywirdeb, effeithiau’r ffactor sylfaenol hwn. Drwy ystyried y gydberthynas rhwng pob un o’r dangosyddion hyn, gellir nodi a mesur y ffactor sylfaenol.
Mae’r dechneg dadansoddi ffactorau hefyd yn ystyried i ryw raddau broblem ‘cyfrif dwbl’ mewn meysydd sy’n cynnwys dangosyddion o bosibl sy’n gorgyffwrdd â’i gilydd. Er enghraifft, yn y maes iechyd, gall unigolyn fod wedi cael canser a chael ei gynnwys, o bosibl, yn y dangosydd salwch hirdymor cyfyngus. Mae cyfuno data gan ddefnyddio dulliau eraill megis ‘sgoriau z’ yn rhoi pwysoliadau dwbl yn fwy uniongyrchol i’r achosion hyn drwy ystyried pob un ohonynt. Fodd bynnag, mae’r dechneg dadansoddi ffactorau yn rhoi rhywfaint o ystyriaeth i’r gorgyffwrdd hwn am y gall fod gan ddangosydd bwysoliad is os bydd y cyfraniad a wna eisoes wedi cael ei ystyried.
Amcangyfrif y tebygolrwydd mwyaf
Mae MALlC 2025 yn dilyn y fethodoleg a ddefnyddiwyd mewn iteriadau diweddar a’r un a ddefnyddiwyd gan Brifysgol Rhydychen ar gyfer MALlC 2000, yn ogystal â’r mynegeion ar gyfer tair gwlad arall y DU.
Dewiswyd dadansoddi ffactorau â’r tebygolrwydd mwyaf fel y dull amcangyfrif am ei fod:
- yn sefydlog o ran graddfeydd (yn wahanol i Brif Ffactoreiddio)
- yn ystyried gwall mesur (yn wahanol i Ddadansoddi Prif Gydrannau)
- yn trin data fel petaent wedi’u samplu o uwchboblogaeth, sy’n gyson â thybiaethau’r prosiect
Cymunolrwydd
Dyma gyfran amrywiant newidyn a esbonnir gan strwythur ffactor. Mae’n rhaid amcangyfrif cymunolrwydd newidyn cyn cynnal dadansoddiad ffactorau. Nid oes rhaid amcangyfrif cymunolrwydd cyn cynnal dadansoddiad prif gydrannau. Mae amcangyfrifon cymunolrwydd yn amcangyfrifon o gyfran yr amrywiant cyffredin mewn newidyn. Mae amcangyfrifon cymunolrwydd ymlaen llaw yn amcangyfrifon a wneir cyn y dadansoddiad ffactorau. Mae dulliau cyffredin o amcangyfrif cymunolrwydd ymlaen llaw yn cynnwys:
- amcangyfrif annibynnol o ddibynadwyedd
- yr aml gydberthyniad wedi’i sgwario rhwng pob newidyn a’r newidynnau eraill
- y cydberthyniad uchaf oddi ar y groeslin ar gyfer pob newidyn
- ailadrodd drwy gynnal cyfres o ddadansoddiadau ffactor gan ddefnyddio’r amcangyfrifon cymunolrwydd terfynol o un dadansoddiad fel amcangyfrifon cymunolrwydd ymlaen llaw ar gyfer y dadansoddiad nesaf
Amcangyfrifon cymunolrwydd terfynol yw cyfanswm y llwythiadau wedi’u sgwario ar gyfer newidyn mewn matrics ffactorau orthogonol.
Defnyddiwyd y rhagosodiad ar gyfer amcangyfrifon cymunolrwydd ymlaen llaw, sef Aml Gydberthyniad Sgwâr, ar gyfer cyfrifiadau MALlC 2025.
Y broses gyfrifo
I ddechrau, trawsffurfiwyd y dangosyddion i ddosbarthiad normal safonol. Yna, mewngofnodwyd y dangosyddion wedi’u trawsffurfio i ‘ddadansoddiad ffactorau Tebygolrwydd Mwyaf un ffactor cyffredin’ gan ddefnyddio’r swyddogaeth dadansoddi ffactorau o becyn Psych R (Rdocumentation.org).
Cafodd cydran pwysoliadau’r dadansoddiad ffactorau canlyniadol ei thynnu a’i defnyddio i roi sgoriau meysydd ar gyfer y meysydd diogelwch cymunedol, addysg ac iechyd a sgôr yr is-faes mynediad ffisegol yn y maes mynediad at wasanaethau.
Atodiad 1.3: dyrannu data i Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is (ACEHIau)
Ar gyfer y rhan fwyaf o feysydd, caiff data dangosyddion eu dyrannu i ACEHIau gan gyflenwyr y data fel rhan o’r broses gasglu. Fodd bynnag, darperir data ar lefel ddaearyddol is ar gyfer rhai dangosyddion yn y maes mynediad at wasanaethau ac ar gyfer y rhan fwyaf o ddangosyddion yn y meysydd addysg a diogelwch cymunedol. Isod, rhoddir esboniad o’r ffordd y cafodd data dangosyddion yn y meysydd hyn eu dyrannu i ACEHIau.
Y maes addysg
Heblaw am y dangosydd ar oedolion heb gymwysterau neu â chymwysterau lefel isel, darparwyd yr holl ddata newydd ac wedi’u diweddaru ar ddangosyddion yn y maes addysg ar lefel cod post. Gan nad yw llawer o godau post yn gyfan gwbl o fewn un AGEHI, defnyddiwyd dull o ddosbarthu data ar lefel cod post i nifer o ACEHIau.
Fel rhan o’r dull dosbarthu hwn, caiff data eu pwysoli yn ôl cyfran yr anheddau o fewn cod post sydd wedi’u lleoli ym mhob AGEHI groestoriadol. Tybir y bydd cyfrannau’r anheddau ym mhob AGEHI groestoriadol yn cyfateb, fwy neu lai, i gyfrannau poblogaeth y cod post sy’n byw ym mhob AGEHI groestoriadol. Yn olaf, lle nad yw codau post yn gyfan gwbl o fewn un AGEHI, rhoddir pwysoliad o 1 i’r data.
Er mwyn defnyddio’r dull hwn, datblygwyd cyfleuster chwilio cod post-i-AGEHI (gyda phwysoliadau anheddau wedi’u cyfrifo) gan Uned Data a Daearyddiaeth Llywodraeth Cymru ac fe’i defnyddiwyd i ddechrau i baru cynifer o godau post ag ACEHIau â phosibl.
Wedyn, parwyd unrhyw godau post nad oeddent wedi’u paru gan ddefnyddio un o gyfleusterau chwilio’r SYG a bennodd godau post i ACEHIau yn seiliedig ar ganolbwynt daearyddol agosaf AGEHI. Nid oedd y cyfleuster chwilio hwn wedi’i bwysoli ac, felly, pennwyd pwysoliad rhagosodedig o 1 i’r holl ddata wedi’u paru.
Cafodd unrhyw ddata a oedd yn dal heb eu paru ar yr adeg hon eu hepgor o gyfrifiadau’r dangosyddion.
Y maes mynediad at wasanaethau
Cafodd gwybodaeth am leoliadau mannau gwasanaeth (megis ar gyfer ysgolion, swyddfeydd post) a ddefnyddiwyd yn y dangosyddion amseroedd teithio eu geogodio a’u dyrannu i ACEHIau gan ddefnyddio System Gwybodaeth Graffig.
Mae data Ofcom ar y gallu i gael band eang cyflym iawn ar gael yn gyhoeddus ar lefel Ardal Gynnyrch (AG) yn adroddiadau Cysylltu’r Gwledydd Ofcom. Cafodd set data gwanwyn 2025 eu cyfuno i AGEHI gan ddefnyddio cyfleuster chwilio daearyddiaeth y SYG.
Y maes diogelwch cymunedol
Darparwyd data ar droseddau ac achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol a gofnodwyd ar lefel microddata gan y pedwar heddlu yng Nghymru. Roedd y setiau data yn cynnwys gwybodaeth am leoliad daearyddol digwyddiadau (h.y. cod post a/neu gyfeirnod grid) a bennwyd i ACEHIau gan ddefnyddio dull llyfnhau gofodol. Yn benodol, tynnwyd tir clustogi o 10m o amgylch lleoliad trosedd/digwyddiad a chafodd y drosedd honno/digwyddiad hwnnw ei r(h)annu’n gyfartal gan bob ACEHI a oedd yn croestorri â’r tir clustogi o 10m. Cynhaliwyd y broses hon ar wahân ar gyfer pob cofnod o drosedd a digwyddiad yn y microddata sylfaenol er mwyn ystyried problemau hysbys gyda phroses geogodio data’r heddlu.
Cafwyd data ar gyfeirnodau grid digwyddiadau tân o’r System Cofnodi Digwyddiadau ac fe’u mapiwyd i ACEHIau gan Uned Data a Daearyddiaeth Llywodraeth Cymru.
