Arolwg o'r cyfrifiad amaethyddol a garddwrol: Mehefin 2025
Data ar gyfer defnydd tir amaethyddol, da byw ar ffermydd a nifer y bobl sy'n gweithio ar ddaliadau amaethyddol ar 2 Mehefin 2025.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae’r Arolwg Amaethyddol a Garddwrol wedi’i gynnal ym mis Mehefin ers 1867 er mwyn darparu amcangyfrifon o weithgarwch amaethyddol yng Nghymru bob blwyddyn.
Mae’r adroddiad hwn yn rhoi’r amcangyfrifon cyntaf o’r prif newidynnau o’r arolwg Mehefin 2025.
Prif bwyntiau
- Mae 90% o arwynebedd tir Cymru yn cael ei ddefnyddio ar gyfer ffermio. Oherwydd natur y tir hwn, fe’i defnyddir yn bennaf ar gyfer magu defaid a gwartheg.
- Mae yna 8.8 miliwn o ddefaid ac ŵyn yng Nghymru, ychydig yn uwch na’r 8.7 yn 2024.
- Mae yna 1.08 miliwn o wartheg a lloi yng Nghymru – man gostyngiad ar y 1.09 miliwn y flwyddyn cynt. Roedd amrywiad clir rhwng y fuches eidion a’r fuches llaeth. Gostyngodd maint y fuches eidion 5.0% tra bod maint y fuches laeth wedi cynyddu 1.1%.
- Cafwyd 58,000 hectar o ydau eu tyfu yng Nghymru yn 2025 – cynnydd o 10% o’r flwyddyn cynt. Roedd hyn yn bennaf oherwydd cynnydd sylweddol yn yr ardal o wenith a dyfwyd. I’w roi yn ei gyd-destun, mae ardaloedd ydau yn cyfrif am lai na 3% o holl dir amaethyddol Cymru.
Ymateb i’r arolwg
Llwyddodd yr arolwg 2025 i gyflawni cyfradd ymateb o 50% - mae hyn yn cynrychioli cynnydd sylweddol o’i gymharu â’r flwyddyn cynt. Mae hefyd yn dod â chyfres hir-dymor o gyfraddau ymateb sy’n lleihau dros nifer o flynyddoedd i ben.
Yn 2025 anogwyd ffermwyr i gwblhau’r arolwg ar-lein lle bynnag y bo modd. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod efallai na fydd hyn bob amser yn bosibl. Cwblhawyd 60% o'r ffurflenni ar-lein eleni - cynnydd o 46% y llynedd. Mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio y bydd y gyfran hon yn parhau i gynyddu ar gyfer yr arolwg hwn yn y dyfodol.
Fel bob amser, mae Llywodraeth Cymru yn ddiolchgar iawn i'r holl ffermwyr hynny a roddodd o’u hamser i lenwi'r arolwg.
Cymharu â blynyddoedd blaenorol
Y canlyniadau a gyflwynir yn y datganiad hwn yw'r prif amcangyfrifon cyntaf o'r arolwg eleni. Mae'r rhain yn cael eu cymharu â'r amcangyfrifon o arolwg 2024 gan amlaf.
Yn aml, y cyd-destun hanesyddol sy’n rhoi’r persbectif pwysicaf ar niferoedd heddiw, boed hynny ar draws nifer o'r blynyddoedd diweddaraf neu dros gyfnod hwy.
Felly mae taenlen sy'n cyd-fynd â'r datganiad hwn ac ynddi:
- restr lawn o newidynnau hyd at 2025: cyfres amser (1998 i 2025) sy'n dangos sut mae'r prif newidynnau yn rhannu'n is-gategorïau manylach
- sylwer nad oes rhai o'r manylion hyn ar gael ar gyfer 2020 o ganlyniad i'r arolwg llai a gynhaliwyd y llynedd. (gweler datganiad ar ganlyniadau Arolwg 2020 am ragor o fanylion)
- y cyd-destun hanesyddol: cyfres amser sy'n dyddio'n ôl i 1867 ac sy'n dangos y tueddiadau yn y prif ddangosyddion yn y tymor hir
Defnydd tir amaethyddol yng Nghymru
Mae tirwedd, ansawdd pridd a hinsawdd Cymru yn cyfyngu ar y defnydd y gellir ei wneud o’r tir. Mae rhan fwyaf o Gymru yn fryniog neu’n fynyddig ac mae hynny, ynghyd ag ansawdd pridd cymharol wael a hinsawdd wlyb, yn golygu mai dim ond pori defaid a gwartheg y gellir ei wneud ar y rhan fwyaf o’r tir.
Mae Arolwg Amaethyddol Cymru yn casglu gwybodaeth am dir a ddefnyddir ar ffermydd (sydd naill ai’n eiddo i rywun neu’n cael eu rhentu). Nid yw’r wybodaeth hon yn cynnwys defnydd o dir comin. Mae rhyw 180,000 hectar ohono yng Nghymru. Nid yw tir comin yn cael ei gynnwys gan ei fod yn cael ei ddefnyddio gan grwpiau o ffermydd sydd â hawliau ar gomin penodol, yn hytrach na chael ei ddefnyddio gan un fferm yn unig.
Data diweddaraf
Amcangyfrifon ar gyfer yr arolwg 2025 ar ddefnydd o dir amaethyddol
- Gwelwyd gostyngiad o 0.3% yng nghyfanswm y tir ar ddaliadau i 1,770,100 hectar ym mis Mehefin 2025.
- O’i gyfuno â’r 180,300 hectar o dir pori garw ar dir comin, mae hynny’n golygu bod 90% o holl arwynebedd tir Cymru yn cael ei ddefnyddio at ddibenion amaethyddol.
- Roedd 110,100 hectar o gnydau âr ym mis Mehefin 2025.
Mae’r defnydd o dir ar y daliadau yng Nghymru yn 2025 wedi’i ddangos isod.
Ffigur 1: Rhaniad tir ar ddaliadau amaethyddol yn ôl defnydd 2025
Disgrifiad o ffigur 1: mae’r siart yn dangos bod glaswelltir parhaol yn cyfri am bron i ddau draean (61%) o dir fferm yng Nghymru. Mae’r tir yn weddill yn gynnwys glaswelltir newydd (9%), tir pori garw (14%), cnydau âr (6%) a thir arall (9%). Mae tir arall yn gynnwys coedir, adeiladau a thir sydd ddim yn cael ei ddefnyddio ar gyfer amaeth.
Ffynhonnell: Arolwg amaethyddol a garddwrol, Mehefin 2025
[Nodyn1] Tir pori garw lle mae gan y deiliad yr unig hawliau (h.y. nid yw’n cynnwys tir pori garw ar dir comin).
[Nodyn2] Mae’n cynnwys garddwriaeth (llysiau a ffrwythau a dyfir yn yr awyr agored, stoc galed a thai gwydr).
Mae arwynebedd tir ar ffermydd yng Nghymru wedi gostwng ychydig (0.3%). Er hynny, mae cynnydd wedi bod yn y gyfres hanesyddol dros y blynyddoedd diwethaf.
Fodd bynnag, dylid trin y data hwn gyda gofal oherwydd cyfyngiadau posibl yn ansawdd y data. Gellir brynu, gwerthu, rhentu neu osod tir fferm ac mae cynnal cofnodion cywir a diweddaru’r gofrestr ffermydd i adlewyrchu’r newidiadau hyn yn gallu bod yn heriol.
Mae ansawdd y data ar ffermydd newydd yn gyffredinol yn dda. Bydd angen i ffermwr gofrestru er mwyn cael Cyfeirnod Cwsmer (CRN) at ddibenion taliadau a CPH (rhif daliad) er mwyn caniatáu iddo symud anifeiliaid. Felly, byddwn yn dod i wybod am ffermydd newydd wrth iddynt gofrestru am y tro cyntaf.
Pan fydd gweithgarwch ffermio yn dod i ben, mae'r cofrestriad yn parhau ond nid yw'r tir yn cael ei ffermio mwyach, neu mae’n cael ei roi ar osod i ffermwr arall neu'n cael ei werthu. Felly, mae’n bosibl bod y tir yn cael ei gyfrif o dan ei gofrestriad gwreiddiol a hefyd pan fydd yn dechrau cael ei ffermio o dan ei gofrestriad newydd am gyfnod o amser.
Defaid ac ŵyn yng Nghymru
Mae gwytnwch defaid yn golygu bod modd eu ffermio ledled Cymru, yn enwedig yn yr ucheldir lle nad oes llawer o opsiynau busnes ymarferol eraill. Er bod y costau cynnal a chadw a’r costau cyfalaf sy’n gysylltiedig â defaid yn gymharol isel, nid ydynt yn gwneud llawer o elw i’r ffermwr ychwaith. Felly, gall gweithgareddau eraill gael blaenoriaeth ar dir gwell.
Data diweddaraf
Amcangyfrifon ar gyfer yr arolwg 2025 ar gyfer defaid ac ŵyn
- Roedd cyfanswm y defaid ac ŵyn yng Nghymru yn 8.81 miliwn, cynnydd o 0.7% ar y ffigur ar gyfer y llynedd.
Dechreuodd nifer y defaid a'r ŵyn yng Nghymru dyfu yn ystod y 1970au, gan gyrraedd uchafbwynt o 11.8 miliwn ym 1999. Bu gostyngiad graddol yn y niferoedd dros y 10 mlynedd dilynol, ac mae’n bosibl mai’r hyn a oedd i gyfrif am hynny oedd y newidiadau i’r ffordd yr oedd Polisi Amaethyddol Cyffredin yr UE (PAC) yn cael ei weithredu, pan gafwyd gwared yn raddol ar gynlluniau a oedd yn seiliedig ar nifer y da byw a oedd yn cael eu cadw.
Cynyddodd niferoedd eto am ychydig o flynyddoedd, ond dros y 10 mlynedd diwethaf maent wedi amrywio fyny ac i lawr. Roedd y ffigur o ychydig dan 8.7 miliwn a welwyd yn 2023 yn isaf ers 2011. Fodd bynnag, mae’r ffigur wedi cynyddu ychydig yn y ddwy flynedd ganlynol.
Mae'r ystadegau hanesyddol i'w gweld yn y daenlen sy'n cyd-fynd â'r datganiad hwn. Ceir sylwebaeth fanylach ar y tueddiadau yn fersiwn 2019 o'r datganiad hwn.
Gwartheg a lloi yng Nghymru
Mae gwartheg yn cael eu cadw’n bennaf am eu llaeth neu er mwyn cynhyrchu cig. Dyma’r sectorau godro ac eidion. Mae ffermydd yn dueddol o ganolbwyntio naill ai ar odro neu ar eidion. Mae ffermydd sy’n gwneud y ddau yn brin, ond mae rhai i’w cael. Mae ffermio gwartheg godro yn dueddol o greu enillion uwch ond mae’n gofyn am dir gwell a chryn fuddsoddiad cyfalaf. Yng Nghymru, mae gan ffermydd sydd â llawer o wartheg eidion lawer o ddefaid hefyd yn aml. Gall ffermydd eidion fagu’r anifeiliaid o’r cyfnod pan fyddant yn lloi nes iddynt gael eu hanfon i’r lladd-dy. Fodd bynnag, mae’n gymharol gyffredin yng Nghymru, yn enwedig ar yr ucheldir, i fagu’r anifeiliaid tan iddynt gyrraedd pwynt penodol ac yna’n symud i fferm arall lle byddant yn parhau i gael eu magu cyn cael eu hanfon i’r lladd-dy. Gall y ffermydd hynny fod ar diroedd isel yng Nghymru neu yn Lloegr.
Ers 2004, mae data am niferoedd gwartheg wedi bod ar gael drwy’r System Olrhain Gwartheg sy’n cael ei rheoli gan Wasanaeth Symud Gwartheg Prydain (BCMS), at ddibenion iechyd anifeiliaid yn bennaf.
Data diweddaraf
Amcangyfrifon ar gyfer yr arolwg 2025 ar gyfer gwartheg
- Roedd cyfanswm y gwartheg a’r lloi yng Nghymru yn 1,079,500, gostyngiad o 1.0% o’i gymharu â’r ffigur ar gyfer mis Mehefin 2024.
- Mae’r nifer o wartheg godro 2+ oed sydd wedi bwrw llo wedi cynyddu 1.1% o’i gymharu â Mehefin 2024 i 254,100. Mae’r diffiniad hwn yn cael ei dderbyn yn gyffredinol fel mesur o’r fuches odro.
- Gan ddefnyddio’r diffiniad cyfatebol, gostyngodd maint y fuches eidion 5.0% dros y 12 mis diwethaf i 133,700.
Mae’r ystadegau hanesyddol i’w gweld yn y daenlen sy’n cyd-fynd â’r datganiad hwn. Mae esboniad manylach o’r tueddiadau yn fersiwn 2019 o’r datganiad hwn.
Da byw eraill yng Nghymru
Yn economaidd, y prif fathau o dda byw ar ffermydd masnachol yng Nghymru yw gwartheg a defaid. Y prif grwpiau eraill o dda byw yw dofednod a moch, ond yn achos y rheini, mae’r cynhyrchu’n digwydd mewn nifer cymharol fach o unedau mawr. Mae’r niferoedd a gadwir gan geidwaid eraill, nad ydynt yn fasnachol, yn gymharol fach.
O ganlyniad, gall cynnydd neu ostyngiad mawr yn y niferoedd mewn ychydig o unedau gael effaith sylweddol ar yr amcangyfrifon cyffredinol.
Data diweddaraf: moch
Amcangyfrifon ar gyfer arolwg 2025
- Roedd cynnydd o 0.7% yn nifer y moch yng Nghymru o’i gymharu â 2024. Y cyfanswm ar hyn o bryd yw 28,100. Mae mwyafrif (92%) yr anifeiliaid hynny’n cael eu cadw i’w pesgi (cynhyrchu cig) gyda’r gweddill yn cael eu defnyddio ar gyfer magu.
Data diweddaraf: dofednod
Amcangyfrifon ar gyfer arolwg 2025
- Cyfanswm y dofednod yng Nghymru oedd 12,092,100 – roedd y rhan fwyaf ohonynt (94%) yn ieir bwyta neu’n frwyliaid (6.9 miliwn) ac ieir a gadwir ar gyfer wyau (4.5 miliwn o adar).
Mae’r gyfres hanesyddol ar gyfer y niferoedd o foch a dofednod i’w gweld yn y daenlen sy’n cyd-fynd â’r datganiad hwn. Mae esboniad manylach o’r tueddiadau yn fersiwn 2019 o’r datganiad hwn.
Ceffylau a geifr
Nid yw data am y grwpiau hyn o dda byw yn cael eu cyflwyno fel rhan o’r datganiad hwn er eu bod ar gael yn y daenlen sy’n cyd-fynd ag ef.
Llafur ar ddaliadau amaethyddol yng Nghymru
Mae’r amcangyfrifon a gyflwynir yn y datganiad hwn ar gyfer llafur ar ffermydd yn cael eu cyfyngu i niferoedd y prif ffermwyr ac i’r bobl hynny sy’n cael eu cyflogi i weithio ar y fferm. Gweler y sylwadau am ansawdd data isod i gael rhagor o wybodaeth ynghylch pam nad oes rhagor o fanylion yn cael eu cynnwys.
Amcangyfrifon ar gyfer 2025
- Nifer y prif ffermwyr, cyfarwyddwyr, partneriaid busnes a’u gŵyr/gwragedd oedd 38,700, cynnydd o 3.6% ers 2024.
- Mae’r nifer hwn yn cynnwys 17,200 o brif ffermwyr llawnamser a 21,400 o ffermwyr rhan-amser. Efallai bod problem adrodd gyda rhai unigolion ar rai unedau llai yn cofnodi llawnamser oherwydd mai dyna yw eu patrwm gwaith cyffredinol, nid eu patrwm gwaith ar y fferm yn unig; ni wyddys ar hyn o bryd i ba raddau y mae hyn yn digwydd.
- Nifer y bobl a gyflogwyd ar ffermydd ar 2 Mehefin 2025 oedd 9,400, gostyngiad o 23% ers 2024. Cymerir y ffigur hwn fel cipolwg ar ddechrau Mehefin, felly gall y gyfres fod yn anwadal o flwyddyn i flwyddyn.
- Mae’r diffiniad o brif ffermwyr yn un eang: mae’n cynnwys partneriaid busnes, cyfarwyddwyr cwmnïau ac unrhyw ŵr/gwraig i ffermwr, neu ei gysylltiadau busnes. Fodd bynnag, mae’n rhaid i unrhyw ŵr/wraig wneud rhywfaint o waith ar y fferm i gael eu cynnwys.
- Yng Nghymru, mae’r rhan fwyf o’r gwaith bob dydd ar y fferm yn cael ei wneud gan y ffermwr a’i deulu agosaf. Gan amlaf, bydd y rhain yn cael eu cynnwys yn y diffiniad uchod o brif ffermwyr. Fel rheol, dim ond am gyfnodau byr ar adegau prysur o’r flwyddyn (e.e. ŵyna, cynhaeaf) neu i wneud tasgau arbenigol (e.e. cneifio, dipio) y bydd angen cymorth ychwanegol.
- Bydd y gwaith arbenigol yn dueddol o gael ei wneud gan gontractwyr nad ydynt yn cael eu cynnwys yng nghyfrif llafur yr Arolwg Amaethyddol. Y prif resymau dros hynny yw eu bod yn hunangyflogedig ac yn ffermwyr eu hunain yn aml (ac felly eisoes wedi’u cynnwys yn amcangyfrif yr arolwg).
- Mae’r arolwg yn cael ei gynnal ar ffurf cipolwg ar un diwrnod penodol ddechrau mis Mehefin. Mae’r anweddolrwydd sy’n gysylltiedig â hynny yn ei gwneud yn anodd iawn gweld unrhyw duedd dros nifer o flynyddoedd. Gall ffactorau fel y tywydd benderfynu pryd mae pobl yn cael eu cyflogi yn ystod y flwyddyn, er enghraifft.
Gall y diffiniadau o bwy ddylai gael eu cynnwys a sut dylid eu categoreiddio fod yn gymhleth. Yn unol â hynny, mae fformat y cwestiynau llafur wedi’i ddiwygio ddwywaith yn ystod y degawd diwethaf. Fodd bynnag, er bod newid geiriad y cwestiynau a’r ffordd y cânt eu cyflwyno yn gallu helpu o ran eglurder, mae angen cofio bod hynny hefyd yn gallu effeithio ar gysondeb wrth adrodd ar niferoedd.
Cymariaethau â gweddill y DU
Mae arolygon cyffelyb yn cael eu cynnal yng ngwledydd eraill y DU. Mae dolenni at ganlyniadau Arolwg Amaethyddol Mehefin 2025 ar gyfer y gwledydd hynny i’w gweld isod.
Lloegr
Structure of the agricultural industry (Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig)
Yr Alban
Results of the June Scottish Agricultural Census (Gwefan Llywodraeth yr Alban)
Gogledd Iwerddon
Mae’r canlyniadau ar gyfer y Deyrnas Unedig yn cael eu cyhoeddi gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig. Mi fydd rhain yn cael eu cyhoeddi ar 11 Rhagfyr 2025.
Rhagor o wybodaeth am ystadegau amaethyddol yng Nghymru
Mae’r datganiad hwn yn rhoi prif ganlyniadau arolwg 2025 ar lefel Cymru gyfan. Bydd canlyniadau manylach yr arolwg yn cael eu darparu mewn allbynnau ar wahân yn y dyfodol.
Prif allbynnau eraill yn ymwneud ag ystadegau amaethyddol
- StatsCymru: Mae gwasanaeth data agored newydd StatsCymru wedi’i lansio’n ddiweddar. Rydym yn bwriadu cyhoeddi cyfres newydd o setiau data arolygon amaethyddol ar y safle newydd erbyn haf 2026.
- Ffeithiau a Ffigurau Ffermio: dyma daflen maint poced y bwriedir iddi gael ei defnyddio fel adnodd cyfeirio cyflym ar gyfer data lefel uchel. O’r herwydd, mae’n cael ei gyhoeddi ar ffurf copi caled ond gallwch wneud cais am y data. Mae Ffeithiau a Ffigurau Ffermio yn cael ei gyhoeddi bob blwyddyn.
- Ystadegau ar ardaloedd bach amaethyddol: dyma’r canlyniadau manylaf o’r Cyfrifiad Amaethyddol a gynhelir ym mis Mehefin bob blwyddyn. Er mwyn diwallu’r anghenion cynyddol am ystadegau amaethyddol manwl, mae’r bwletin hwn yn amlinellu’r cyfaddawd rhwng manylder ac ansawdd data ac yn darparu set ddata sy’n ceisio sicrhau cydbwysedd rhwng y ddau ar gyfer y defnyddiwr. Bydd y datganiad nesaf yn cael ei gyhoeddi Gwanwyn 2025.
- Incymau Fferm yng Nghymru: mae’r bwletin blynyddol hwn yn cyflwyno canlyniadau’r Arolwg o Fusnesau Ffermio a gynhelir gan Brifysgol Cymru, Aberystwyth ar ran Llywodraeth Cymru. Bydd y datganiad nesaf yn cael ei gyhoeddi ym mis Ionawr 2025.
- Mae ystadegau amaethyddol Cymru ar gael ar gyfer cyfnod hanesyddol hir, ac mae’r data hynny ar gael ar ffurf taenlen sy’n cyd-fynd â’r datganiad hwn. I gael rhagor o wybodaeth am ystadegau amaethyddol Cymru, gallwch gysylltu â ni drwy ddefnyddio un o’r ffyrdd a nodir ar y dudalen flaen.
Mae rhagor o wybodaeth gyffredinol am amaethyddiaeth i’w gweld o dan y pwnc Ffermio a Chefn Gwlad ar wefan Llywodraeth Cymru.
Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg
Cafodd adroddiad ansawdd cynhwysfawr, sy’n disgrifio’r ddwy agwedd hyn ar ddata’r arolwg ei gyhoeddi ym mis Chwefror 2021.
Statws ystadegau swyddogol
Dylai’r holl ystadegau swyddogol ddangos safonau’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (Awdurdod Ystadegau'r DU).
Mae’r rhain yn ystadegau swyddogol achrededig. Cafodd eu hadolygu'n annibynnol gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau ym mis Chwefror 2013. Maent yn cydymffurfio â'r safonau o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.
Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw parhau i gydymffurfio â'r safonau a ddisgwylir fel rhan o'r achrediad. Os byddwn yn pryderu ynghylch a yw'r ystadegau hyn yn dal i fodloni'r safonau priodol, byddwn yn trafod y pryderon hynny â'r OSR yn brydlon. Gellir dileu neu atal achrediad ar unrhyw adeg pan na fydd y safonau uchaf yn cael eu cynnal, a gellir ei adennill pan fydd y safonau yn cael eu hadfer.
Gelwir ystadegau swyddogol achrededig (OSR) yn Ystadegau Gwladol yn Neddf 2007.
Datganiad o gydymffurfiaeth â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau
Mae ein hymarfer ystadegol yn cael ei reoleiddio gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (OSR). OSR sy'n gosod y safonau o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau y dylai pob cynhyrchydd ystadegau swyddogol gydymffurfio â nhw.
Mae ein holl ystadegau yn cael eu cynhyrchu a'u cyhoeddi yn unol â nifer o ddatganiadau a phrotocolau i wella dibynadwyedd, ansawdd a gwerth. Mae'r rhain wedi'u nodi yn Natganiad Cydymffurfiaeth Llywodraeth Cymru.
Mae'r ystadegau swyddogol achrededig (OSR) hyn yn dangos y safonau a ddisgwylir o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus yn y ffyrdd canlynol.
Dibynadwyedd
Parhau i ddefnyddio iaith glir, annhechnegol i gyflwyno’r ystadegau a’u cyd-destun i gynulleidfa mor eang â phosibl.
Cyflwyno’r prif “ddata diweddaraf” ar frig pob adran gan mai’r rhain fydd o’r diddordeb mwyaf i’n defnyddwyr allweddol.
Darparu data hanesyddol i gyd-fynd â’r datganiad hwn, ynghyd â sylwadau sy’n egluro’r ffactorau sydd y tu ôl i’r tueddiadau hanesyddol.
Ansawdd
Cyhoeddi adroddiad ansawdd manwl ym mis Chwefror 2021 ac ynddo wybodaeth am ansawdd data a methodoleg yr arolwg. Mae darparu'r wybodaeth honno ar wahân yn golygu bod y Datganiad hwn yn fyrrach.
Gwerth
Perswadio ffermwyr i gwblhau'r arolwg ar-lein lle bynnag y bo modd.
Ehangu’r manylion ar sut y defnyddir y data mewn rhannau eraill o Lywodraeth Cymru.
Defnyddio’r cylchgronau eraill a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru ac Undebau’r Ffermwyr ac a anfonir at ffermwyr i’w hannog i anfon ffurflenni’r arolwg yn ôl atom. Hefyd defnyddio gwasanaeth negeseuon electronig Taliadau Gwledig Cymru at yr un diben.
Mae croeso ichi gysylltu â ni yn uniongyrchol os oes gennych unrhyw sylwadau ynghylch sut rydym yn bodloni'r safonau hyn. Fel arall, gallwch gysylltu â'r OSR drwy e-bostio regulation@statistics.gov.uk neu drwy fynd i'w gwefan.
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (WFG)
Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Fe gafodd y dangosyddion cenedlaethol hyn osodwyd gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.
Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.
Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.
Manylion cyswllt
Ystadegau Materion Gwledig ac Amgylchedd
E-bost: ystadegau.amaeth@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099
SFR: 112/2025
