Neidio i'r prif gynnwy

Daeth yr ymgynghoriad i ben 12 Mawrth 2026.

Cyfnod ymgynghori:
18 Rhagfyr 2025 i 12 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Adolygu ymatebion

Mae ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn cael ei adolygu ar hyn o bryd. Bydd manylion am y canlyniad yn cael eu cyhoeddi yma maes o law.

Ymgynghoriad gwreiddiol

Hoffem glywed eich barn ar gynigion i weithredu agweddau ar Ran 5 o Ddeddf Diwygio Lesddaliad a Rhydd-ddaliad 2024 mewn perthynas â Thaliadau Gweinyddu ar ystadau a reolir yn breifat.

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Rydym yn ymgynghori ar fframwaith rheoleiddio newydd sydd wedi'i gynllunio i ddod â mwy o dryloywder, tegwch a chysondeb i'r ffordd y mae taliadau gweinyddol yn cael eu cymhwyso ar ystadau a reolir yn breifat.

Gwybodaeth ychwanegol

  • Mae hyn yn rhan o'r gwaith paratoi ar gyfer gweithredu Deddf Diwygio Lesddaliad a Rhydd-ddaliad 2024.
  • Mae adrannau 83-87 o Ran 5 yn canolbwyntio ar daliadau gweinyddu, gan roi pwerau i Weinidogion Cymru reoleiddio sut mae'r taliadau hyn yn cael eu diffinio, eu cyfrifo a'u cymhwyso.