Daeth yr ymgynghoriad i ben 12 Mawrth 2026.
Adolygu ymatebion
Mae'r ymatebion i'r ymgynghoriad hwn wrthi’n cael eu hadolygu. Pan fydd hyn wedi’i gwblhau, byddwn yn cyhoeddi'r canlyniad.
Ymgynghoriad gwreiddiol
Hoffem glywed eich barn ar gynigion i weithredu agweddau ar Ran 5 o Ddeddf Diwygio Lesddaliad a Rhydd-ddaliad 2024 mewn perthynas â Thaliadau Gweinyddu ar ystadau a reolir yn breifat.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Rydym yn ymgynghori ar fframwaith rheoleiddio newydd sydd wedi'i gynllunio i ddod â mwy o dryloywder, tegwch a chysondeb i'r ffordd y mae taliadau gweinyddol yn cael eu cymhwyso ar ystadau a reolir yn breifat.
Dogfennau ymgynghori
Gwybodaeth ychwanegol
- Mae hyn yn rhan o'r gwaith paratoi ar gyfer gweithredu Deddf Diwygio Lesddaliad a Rhydd-ddaliad 2024.
- Mae adrannau 83-87 o Ran 5 yn canolbwyntio ar daliadau gweinyddu, gan roi pwerau i Weinidogion Cymru reoleiddio sut mae'r taliadau hyn yn cael eu diffinio, eu cyfrifo a'u cymhwyso.
