Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Prif Weinidog wedi groesawu arweinwyr gwleidyddol i Gymru ar gyfer y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig, a fydd yn trafod rhyddhau potensial y diwydiannau creadigol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Rhagfyr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Fe wnaeth y Prif Weinidog cadeirio’r cyngor, a oedd yn cynnwys:  

  • Y Dirprwy Lindsay De Sausmarez Prif Weinidog Guernsey
  • Micheál Martin, Taoiseach Iwerddon
  • Simon Harris, Tánaiste Iwerddon a'r Gweinidog Cyllid
  • Helen McEntee, Gweinidog Materion Tramor a Masnach Iwerddon, y Gweinidog Amddiffyn
  • Alfred Cannan, Prif Weinidog Ynys Manaw
  • Y Dirprwy Lyndon Farnham, Prif Weinidog Llywodraeth Jersey
  • Michelle O'Neil, Prif Weinidog Gogledd Iwerddon
  • Emma Little-Pengelly, Dirprwy Brif Weinidog Gogledd Iwerddon
  • John Swinney, Prif Weinidog yr Alban
  • Darren Jons, Canghellor Dugiaeth Caerhirfryn Llywodraeth y DU
  • Hilary Benn, Ysgrifennydd Gwladol Llywodraeth y DU dros Ogledd Iwerddon
  • Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Llywodraeth y DU dros Gymru

Bu Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Rebecca Evans, a'r Gweinidog Diwylliant, Jack Sargeant hefyd yn cymryd rhan yn yr uwchgynhadledd.  

Yr uwchgynhadledd heddiw yw'r ail ddigwyddiad mawr a gynhelir gan y Prif Weinidog Eluned Morgan yr wythnos hon, yn dilyn Uwchgynhadledd Buddsoddi Cymru hynod lwyddiannus ddydd Llun, ble y cafwyd dros 300 o arweinwyr busnes o bob cwr o'r byd.  

Meddai’r Prif Weinidog, Eluned Morgan:  

Mae'r uwchgynhadledd heddiw yn gyfle gwych i groesawu ffrindiau i Gymru i ddathlu ein diwydiannau creadigol bywiog a deinamig. 

Mae ein diwydiannau creadigol yn cyfoethogi ein bywydau mewn sawl fford gan roi mwynhad ac atgofion. 

Mae’r sector hefyd yn gonglfaen i’n heconomi – mae gan y sectorau a gefnogir gan Gymru Greadigol dros 3,500 o fusnesau, sy’n cyflogi 35,000 o bobl gyda throsiant o £1.5bn.

Meddai y Gweinidog Diwylliant, Jack Sargeant:  

O ffilm a theledu i gemau, cerddoriaeth, cyhoeddi a thechnolegau trochi, mae creadigrwydd Cymru yn denu sylw yn fyd-eang. 

Mae ein sector creadigol yn enghraifft o lwyddiant eithriadol. Yr wythnos hon fe wnaethon gyhoeddi £2m i Bad Wolf gynhyrchu dau gynhyrchiad teledu Newydd a fydd yn dod â £30m i economi Cymru.

Mae hynny’n mynd â'n buddsoddiad cynhyrchu i £33.8m mewn 70 o brosiectau, gan gynhyrchu £419.7m, ers i Gymru Greadigol gael ei lansio yn 2020.