Mae’r Prif Weinidog wedi groesawu arweinwyr gwleidyddol i Gymru ar gyfer y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig, a fydd yn trafod rhyddhau potensial y diwydiannau creadigol.
Fe wnaeth y Prif Weinidog cadeirio’r cyngor, a oedd yn cynnwys:
- Y Dirprwy Lindsay De Sausmarez Prif Weinidog Guernsey
- Micheál Martin, Taoiseach Iwerddon
- Simon Harris, Tánaiste Iwerddon a'r Gweinidog Cyllid
- Helen McEntee, Gweinidog Materion Tramor a Masnach Iwerddon, y Gweinidog Amddiffyn
- Alfred Cannan, Prif Weinidog Ynys Manaw
- Y Dirprwy Lyndon Farnham, Prif Weinidog Llywodraeth Jersey
- Michelle O'Neil, Prif Weinidog Gogledd Iwerddon
- Emma Little-Pengelly, Dirprwy Brif Weinidog Gogledd Iwerddon
- John Swinney, Prif Weinidog yr Alban
- Darren Jons, Canghellor Dugiaeth Caerhirfryn Llywodraeth y DU
- Hilary Benn, Ysgrifennydd Gwladol Llywodraeth y DU dros Ogledd Iwerddon
- Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Llywodraeth y DU dros Gymru
Bu Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Rebecca Evans, a'r Gweinidog Diwylliant, Jack Sargeant hefyd yn cymryd rhan yn yr uwchgynhadledd.
Yr uwchgynhadledd heddiw yw'r ail ddigwyddiad mawr a gynhelir gan y Prif Weinidog Eluned Morgan yr wythnos hon, yn dilyn Uwchgynhadledd Buddsoddi Cymru hynod lwyddiannus ddydd Llun, ble y cafwyd dros 300 o arweinwyr busnes o bob cwr o'r byd.
Meddai’r Prif Weinidog, Eluned Morgan:
Mae'r uwchgynhadledd heddiw yn gyfle gwych i groesawu ffrindiau i Gymru i ddathlu ein diwydiannau creadigol bywiog a deinamig.
Mae ein diwydiannau creadigol yn cyfoethogi ein bywydau mewn sawl fford gan roi mwynhad ac atgofion.
Mae’r sector hefyd yn gonglfaen i’n heconomi – mae gan y sectorau a gefnogir gan Gymru Greadigol dros 3,500 o fusnesau, sy’n cyflogi 35,000 o bobl gyda throsiant o £1.5bn.
Meddai y Gweinidog Diwylliant, Jack Sargeant:
O ffilm a theledu i gemau, cerddoriaeth, cyhoeddi a thechnolegau trochi, mae creadigrwydd Cymru yn denu sylw yn fyd-eang.
Mae ein sector creadigol yn enghraifft o lwyddiant eithriadol. Yr wythnos hon fe wnaethon gyhoeddi £2m i Bad Wolf gynhyrchu dau gynhyrchiad teledu Newydd a fydd yn dod â £30m i economi Cymru.
Mae hynny’n mynd â'n buddsoddiad cynhyrchu i £33.8m mewn 70 o brosiectau, gan gynhyrchu £419.7m, ers i Gymru Greadigol gael ei lansio yn 2020.
