Apeliadau Grantiau a Thaliadau Gwledig: canllaw
Yn egluro sut i apelio yn erbyn penderfyniad ynghylch cymhorthdal neu grant gwledig.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
1. Cyflwyniad
Mae'r ddogfen hon yn ganllaw i Broses Apelio Annibynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig. Mae'r broses yn ystyried apeliadau yn erbyn penderfyniadau swyddogion ynghylch y taliadau a'r grantiau a ddisgrifir yn Adran 4.
Mae'r canllawiau hyn yn gymwys i apeliadau a gyflwynir naill ai yng Ngham 1 neu yng Ngham 2 o 1 Ionawr 2026.
2. Apeliadau a chwynion
Mae apeliadau'n ymwneud â phenderfyniadau sy'n effeithio ar y taliadau neu'r cynlluniau grant sydd wedi'u rhestru yn Adran 4. Mae Gweinidogion Cymru o dan rwymedigaeth statudol i gadw at ddeddfwriaeth a rheolau'r cynllun; felly i fod yn llwyddiannus mewn apêl, rhaid i apelydd ddangos ei fod wedi ateb gofynion y cynllun.
Mae cwynion yn cael eu hystyried o dan weithdrefn gwyno Llywodraeth Cymru. Mae manylion ar gael yn Adran 15
Er bod y weithdrefn gwyno yn cyfeirio at sawl enghraifft, mae'r cyfan yn y bôn yn ymwneud â'r hyn y bydd swyddog wedi'i wneud neu heb ei wneud. Gall 'swyddog' fod yn unigolyn, grŵp, adran neu is-adran benodol o fewn Llywodraeth Cymru.
O dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, mae dyletswydd statudol ar Lywodraeth Cymru i weinyddu:
- Cynlluniau Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC) a'r cynlluniau a'r grantiau sydd wedi cael eu cyflwyno yn lle PAC a grantiau a lywodraethir gan Gyfraith a Gymathwyd,
- Cymorth a roddir o dan Reoliadau Cynlluniau Cymorth Amaethyddiaeth (Cymhwysedd, Gorfodi ac Apelau) (Cymru) 2025.
3. Diben y broses apelio
Diben y broses apelio yw sicrhau bod trefn deg a syml i'r rhai sy'n credu bod swyddogion wedi gwneud penderfyniad anghywir ynghylch eu taliad neu eu grant a'u bod yn cael mynediad at adolygiad annibynnol. Caiff penderfyniadau eu hadolygu i weld a yw'r swyddogion wedi bod yn wrthrychol a'u bod wedi cymhwyso rheolau'r cynllun yn gywir.
Mae dau gam i'r broses:
Cam 1 - adolygiad gan swyddogion yn yr is-adran sy'n gyfrifol am weinyddu'r cynllun, gyda chytundeb uwch swyddog. Mae'r swyddogion hyn yn wahanol i'r rhai sy'n gwneud y penderfyniad gwreiddiol.
Cam 2 - adolygiad gan y Panel Apelio Annibynnol ('y Panel') sy'n gwneud argymhellion i Weinidogion Cymru, sydd yna'n gwneud y penderfyniad terfynol sy'n dod â'r broses apelio dau gam i ben.
Rhaid i adolygiad gan swyddogion (Cam 1) ddigwydd cyn i Banel Apelio Annibynnol ystyried y mater (Cam 2).
Ym mhob Cam, adolygir ffeithiau'r achos, y dystiolaeth a gyflwynir, y ddeddfwriaeth gymwys a rheolau'r cynllun, ac os yw'n briodol, eu hailystyried.
4. Cynlluniau sy'n dod o dan y broses apelio
Bydd y broses yn ystyried apeliadau yn erbyn penderfyniadau a wneir gan swyddogion. Mae'n gymwys i'r cynlluniau a'r rheoliadau canlynol:
- Cynllun Ffermio Cynaliadwy
- Sylfaen Reoleiddio'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.
- Cynllun y Taliad Sylfaenol
- Trawsgydymffurfio
Iawndal TB - Gallwch apelio yn erbyn penderfyniad i leihau iawndal o dan ein Proses Apelio Annibynnol. Noder na allwch apelio yn erbyn y gwerth marchnad a sefydlwyd yn ystod y cam gwerthuso.
Cynlluniau eraill
- Cynllun Cynefin Cymru
- Cynllun Cynefin Cymru (Tiroedd Comin)
- Y Cynllun Troi'n Organig
- Cymorth Organig
- Grantiau Bach – Amgylchedd
- Tyfu er mwyn yr Amgylchedd
- Grantiau Bach – Effeithlonrwydd
- Grantiau Bach – Gorchuddio Iardiau
- Y Cynllun Buddsoddi mewn Rheoli Maethynnau
- Cynllun Datblygu Garddwriaeth
- Grantiau Bach – Dechrau Busnes Garddwriaeth
- Y Cynllun Arallgyfeirio Amaethyddol
- Y Cynllun Sbarduno Busnesau Bwyd
- Cynllun Cynllunio Creu Coetir
- Grant Creu Coetir
- Grantiau Bach – Creu Coetir
- Cynllun Adfer Coetir
- Cynnal Creu Coetir (WCM)
- Premiwm Creu Coetir (WCP)
- Prosiect Adnoddau Naturiol Integredig
- Ffermio Bro – Ffermio mewn Tirweddau Dynodedig
- Y Cynllun Garddwriaeth ac Arallgyfeirio Amaethyddol
- Premiwm Creu Coetir Glastir (GWCP)
- Taliad Cynnal Glastir - Creu Coetir (GCM)
- Taliad Premiwm Glastir - Creu Coetir (GCP)
- Cynlluniau Etifeddol Rhaglen Datblygu Gwledig UE 2014 i 2020
Os yw hynny'n briodol, mae'n bosibl y caiff cynlluniau newydd a gyflwynir yn y dyfodol eu hychwanegu at y rhestr hon. Cysylltwch â Chanolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW, (gweler y manylion yn Adran 8), am gyngor os yw eich apêl yn ymwneud ag unrhyw daliad neu gynllun grant arall.
5. Penderfyniadau sy'n dod o dan y broses apelio
Gellir cyflwyno apeliadau yn erbyn penderfyniad a wneir mewn perthynas â chynlluniau cymorth ariannol.
Dylid cyflwyno apeliadau yn erbyn penderfyniad os yw'r apelydd yn credu bod y penderfyniad yn seiliedig ar gamgymeriad ynghylch ffaith, bod y penderfyniad yn anghywir o dan y gyfraith, neu os bu gwall gweithdrefnol perthnasol.
Mae canllawiau cynlluniau unigol yn nodi rheolau a gofynion y cynllun a allai fod yn destun y broses apelio.
Enghreifftiau o'r mathau o benderfyniadau y gellir apelio yn eu herbyn yw:
- penderfyniadau a wneir mewn perthynas â hawliadau, gan gynnwys torri amodau cynlluniau a chosbau ariannol sy'n lleihau'r taliad a geir neu sy'n arwain at wrthod cais neu hawliad.
- penderfyniad i adennill taliadau blaenorol a wnaed.
- hysbysiadau 'rhybudd' neu 'gynghorol' a all arwain at gosb ariannol os torrir rheol neu amod eto.
- gwrthod cais i drosglwyddo / lesio hawliau Cynllun y Taliad Sylfaenol
- penderfyniadau a wneir ynghylch cymorth ariannol ar ôl derbyn contract neu ddyfarniad grant e.e. dod â chytundeb i ben yn gynnar.
Enghreifftiau o'r mathau o benderfyniadau na ellir apelio yn eu herbyn yw:
- newid cais o dan gynllun nad yw wedi'i restru uchod yn Adran 4
- maint y taliad a bennir ar gyfer cynlluniau cymorth.
6. Fframwaith cyfreithiol
Rheolir y broses apelio hon gan Reoliadau Cynlluniau Cymorthdaliadau a Grantiau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) 2006 [OS 2006/3342 (Cy.303] fel y'u diwygiwyd a Rheoliadau Cynlluniau Cymorthdaliadau a Grantiau Amaethyddol (Apelau) (Diwygio) (Cymru) 2025 i’r graddau y mae'n ymwneud â thaliadau a grantiau a weinyddir yn unol â'r Gyfraith a Gymathwyd. Rheolir y broses apelio gan Rheoliadau Cynlluniau Cymorth Amaethyddiaeth (Cymhwysedd, Gorfodi ac Apelau) (Cymru) 2025 i’r graddau y mae'n ymwneud â chymorth a weinyddir yn unol â'r rheoliadau hynny.
7. Costau
Nid oes ffi am apêl Cam 1.
Y ffioedd a godir am gyflwyno apêl Cam 2, ar wahân i Iawndal TB, yw:
- £290 am wrandawiad llafar
- £220 am wrandawiad ysgrifenedig.
Mae'r ffioedd a godir yn seiliedig ar y ffi a delir i'r Panel Apelio Annibynnol, sef £875 y dydd, ar gyfer tri aelod o'r panel. Gall y panel ystyried tair apêl lafar neu bedair apêl ysgrifenedig mewn diwrnod.
Efallai y bydd y ffioedd a delir i'r Panel Apelio Annibynnol yn cael eu hadolygu yn y dyfodol. Bydd unrhyw newid yn y ffi a delir i'r Panel Apelio Annibynnol yn cael ei adlewyrchu yn y costau ar gyfer ffioedd apêl Cam 2.
Y ffi a godir am gyflwyno apêl Cam 2 mewn perthynas ag iawndal TB fydd;
- £100 am wrandawiad llafar
- £50 am wrandawiad ysgrifenedig
Efallai y bydd y ffioedd hyn yn cael eu diwygio yn y dyfodol i adlewyrchu newidiadau i Orchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2010.
Pan fydd apêl Cam 2 yn cael ei thynnu'n ôl neu ei derbyn yn llawn, bydd y ffi yn cael ei had-dalu. Ni fydd apeliadau aflwyddiannus neu rannol lwyddiannus yn cael eu had-dalu.
8. Cam 1: adolygiad gan swyddogion
Wrth gyflwyno apêl Cam 1, rhaid i'r apelydd ddarparu:
- manylion y penderfyniad mae’n apelio yn ei erbyn
- y rhesymau pam mae'r apelydd yn credu y dylai'r penderfyniad gael ei adolygu
- unrhyw dystiolaeth ddogfennol neu ffotograffig i gefnogi'r achos
Rhaid i apeliadau gyrraedd Llywodraeth Cymru o fewn 60 diwrnod i ddyddiad y llythyr sy'n rhoi manylion y penderfyniad i gael ei adolygu.
Gellir anfon mwy nag un llythyr penderfyniad, (er enghraifft, llythyrau'n nodi canlyniad archwiliad a datganiadau talu), ynghylch hawliad. Felly, bydd y dyddiad cau o 60 niwrnod yn dechrau ar ddyddiad y llythyr olaf, (fel arfer, taliad olaf y cynllun).
Os nad ydych yn siŵr pam cawsoch eich cosbi neu os nad ydych yn deall cynnwys llythyr yn iawn, cysylltwch â Chanolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW yn y lle cyntaf.
Caiff apêl hwyr ei gwrthod.
Dylid cyflwyno apeliadau drwy'r ffurflen apeliadau ar-lein sydd ar gael ar RPW Ar-lein. Gweler Gwefan Llywodraeth Cymru am fanylion ar sut i gael gafael ar y ffurflen a'i llenwi: Ffurflen apêl apeliadau grantiau a thaliadau gwledig: gan ddefnyddio RPW Ar-lein i wneud cais
Byddwn yn anfon cydnabyddiaeth atoch i ddangos bod eich apêl wedi'n cyrraedd. Os na fyddwch wedi clywed gennym cyn pen pum niwrnod gwaith, cysylltwch â Chanolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW.
Bydd swyddogion yn cynnal adolygiad, a bydd uwch-swyddog yn ystyried a oedd y penderfyniad gwreiddiol yn un cywir, gan dalu sylw i'r ddeddfwriaeth gymwys a rheolau'r cynllun, ffeithiau'r achos ac unrhyw ddogfennau cysylltiedig.
Cewch ymateb ysgrifenedig llawn, yn dweud a fu'ch apêl yn llwyddiannus, yn rhannol lwyddiannus neu'n aflwyddiannus gyda'r rhesymau dros y penderfyniad.
9. Cam 2: adolygiad gan y Panel Apelio Annibynnol
Mae'n rhaid i apeliadau gyrraedd Llywodraeth Cymru o fewn 60 diwrnod i ddyddiad y llythyr ymateb i Gam 1 a rhaid nodi’r rheswm dros apelio ac unrhyw dystiolaeth ategol sydd i'w hystyried. Os nad yw'r rheswm dros apelio yn dangos yn glir sut mae apelydd/apelwyr wedi bodloni’r rheolau cynllun a rheoliadau cymwys, gellir tynnu'r apêl yn ôl ac ad-dalu'r ffi. Ni chewch ddefnyddio amgylchiadau eithriadol: bydd apêl a dderbynnir yn hwyr yn cael ei gwrthod.
Rhaid cyflwyno apeliadau ar y ffurflen apeliadau drwy RPW Ar-lein. Dylid talu ffioedd apelio trwy BACS i'r manylion cyfrif canlynol:
Enw Llawn y Cwmni: Llywodraeth Cymru
Enw'r Banc: National Westminster
Rhif y Cyfrif Banc: 10003061
Y Cod Didoli: 60-70-80
(£290 am wrandawiad llafar neu £220 am wrandawiad ysgrifenedig).
Dylech anfon e-bost at SharedServiceHelpdesk@llyw.cymru ac IndependentAppealsSecretariat@llyw.cymru yn cadarnhau bod taliad BACS wedi cael ei wneud a dylech gynnwys hefyd eich Cyfeirnod Cwsmer a'ch Enw Masnachu.
Wrth gyflwyno apêl Cam 2, rhaid darparu'r canlynol:
• arwydd a yw cynrychiolydd penodedig yn gweithio ar ran yr apelydd ar gyfer yr apêl.
• y fformat o ddewis ar gyfer y gwrandawiad (ysgrifenedig neu lafar)
• yr iaith o ddewis ar gyfer y gwrandawiad
• manylion y penderfyniad i gael ei adolygu.
• y rhesymau pam y credir y dylai'r penderfyniad gael ei adolygu.
• unrhyw dystiolaeth ddogfennol neu ffotograffig i gefnogi'r achos.
Mae gan y Paneli Apelio Annibynnol hyd at dri aelod, wedi'u dewis o grŵp a benodir gan Weinidogion Cymru yn unol â'r rheolau ar gyfer Penodiadau Cyhoeddus.
Rôl aelodau'r Panel yw:
• eistedd ar y Panel Apelio Annibynnol yn ôl y galw
• clywed ffeithiau'r achos ac ystyried yr hyn sydd gan yr Apelydd/Apelwyr i'w ddweud ynghyd ag unrhyw dystiolaeth berthnasol
• gwneud argymhellion i Weinidogion Cymru ynghylch yr apêl honno.
Rhaid i'r Panel ystyried pob apêl yn unol â rheolau'r cynllun perthnasol a deddfwriaeth berthnasol.
Mae gwrandawiad felly'n gyfle i esbonio wrth y Panel sut rydych wedi bodloni gofynion y cynllun a pham y dylid newid penderfyniad gwreiddiol y swyddogion.
Ni all y Panel wneud argymhellion ar faterion sy'n ymwneud â gweithredoedd honedig swyddogion a bydd materion o'r fath yn cael eu cyfeirio i'w hystyried o dan weithdrefn gwyno Llywodraeth Cymru.
10. Cyn gwrandawiad y panel
Cofrestrir eich apêl gyda’r Ysgrifenyddiaeth Apelio Annibynnol ('yr Ysgrifenyddiaeth') a rhoddir cydnabyddiaeth i chi bod eich apêl wedi cyrraedd. Cynhelir y gwrandawiad yn un o swyddfeydd lleol Llywodraeth Cymru.
Mae swyddogion yn adolygu pob apêl Cam 2 cyn gwrandawiad y panel. Bydd yr ymchwiliad yn ceisio nodi unrhyw ffactorau a allai ddatrys yr achos heb yr angen am wrandawiad panel.
Os bydd penderfyniad gwreiddiol Cam 1 yr apêl yn cael ei gadarnhau'n llawn neu'n rhannol, bydd yr Ysgrifenyddiaeth yn paratoi 'pecyn apêl' o'r holl wybodaeth berthnasol ynghylch yr achos. Ar sail y pecyn hwn, a'r wybodaeth a roddir yn y gwrandawiad, y bydd y panel yn ystyried yr apêl ac, yn unol â hynny, yn llunio ei argymhellion.
Bydd y pecyn apêl yn cynnwys:
- manylion apêl Cam 1 a'r canlyniad
- manylion y rheolau a'r rheoliadau perthnasol a oedd yn sail dros wrthod yr apêl Cam 1
- dogfennau Llywodraeth Cymru sy'n ymwneud â'r achos ac
- unrhyw ddogfennau a gyflwynwyd i gefnogi'r apêl Cam 2.
Caiff copïau o'r pecyn eu hanfon at bob aelod o'r panel, ac at yr apelydd/apelwyr a/neu gynrychiolydd drwy RPW Ar-lein.
Bydd yr Ysgrifenyddiaeth yn ysgrifennu atoch i gadarnhau dyddiad a lleoliad y gwrandawiad. Cysylltwch â'r Ysgrifenyddiaeth ar unwaith os oes unrhyw broblem o ran bod yn bresennol er mwyn gwneud trefniadau eraill.
Unwaith y bydd gwrandawiadau apêl wedi'u trefnu a'r apelydd/apelwyr neu gynrychiolydd apelydd/apelwyr wedi'u hysbysu, ni fydd yn bosibl aildrefnu neu dynnu'r apêl yn ôl mwyach, ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol.
11. Gwrandawiad y panel
Yng Ngham 2 y broses apelio, bydd y panel:
- ar gyfer apêl ysgrifenedig, yn ystyried dogfennau'r pecyn apêl ac yn trafod yr achos heb i'r apelydd/apelwyr neu gynrychiolydd/gynrychiolwyr fod yn bresennol. Bydd yr apelydd yn cael ei hysbysu wedi hynny o'r canlyniad ynghyd â'r rhesymeg sy’n sail i argymhelliad y panel
- ar gyfer apêl lafar, yn ystyried y pecyn apêl ac yn gwahodd yr apelydd/apelwyr a/neu gynrychiolydd/gynrychiolwyr i ran o'r gwrandawiad
Cynhelir gwrandawiadau mewn awyrgylch anffurfiol ac fel arfer maen nhw'n dilyn y patrwm isod:
- cyflwyniad gan gadeirydd y panel yn cadarnhau trefn y gwrandawiad
- mae Swyddog Llywodraeth Cymru'n esbonio manylion yr achos a'r penderfyniad a wnaed
- mae'r apelydd/apelwyr (a/neu gynrychiolydd) yn cael cyfle i gyflwyno'r achos i'r panel ac i ofyn ac ymateb i unrhyw gwestiynau
- unrhyw gwestiynau pellach gan y panel i swyddogion Llywodraeth Cymru
- crynodeb cadeirydd y panel a sylwadau cloi.
Bydd swyddogion o Lywodraeth Cymru, yr apelydd/apelwyr a/neu gynrychiolydd/gynrychiolwyr yn bresennol gydol y gwrandawiad ond yn gadael cyn trafodaethau aelodau'r Panel ar ôl y gwrandawiad. Fel arfer, bydd aelod o dîm yr ysgrifenyddiaeth yn cofnodi prif bwyntiau'r gwrandawiad ond ni fydd yn cymryd rhan yn y gwrandawiad na'r trafodaethau. Caiff copïau o gofnodion y gwrandawiad eu hanfon at bawb sy'n bresennol er mwyn iddynt gael cynnig eu sylwadau a chytuno arnynt cyn eu cyflwyno i Weinidogion Cymru.
Bydd y panel yn ystyried yr apêl, gan ystyried yr wybodaeth ategol a ddarperir ac adroddiadau swyddogion. Bydd y panel yn adolygu'r ddeddfwriaeth berthnasol, rheolau'r cynllun a ffeithiau'r achos cyn dod i argymhelliad.
12. Pwyntiau cyffredinol
- Mae'r panel wedi'i benodi i wneud argymhellion i Weinidogion Cymru sy'n gwneud y penderfyniad terfynol.
- Mae'r panel wedi'i rwymo gan reolau'r cynllun perthnasol a'r ddeddfwriaeth gymwys. Ni chaiff wneud argymhellion i Weinidogion Cymru, oni bai eu bod yn gyson â nhw.
- Nid yw'r gwrandawiad yn gyfle i apelydd/apelwyr godi materion manwl yn uniongyrchol â swyddogion, nac i'w holi am y modd y cafodd yr achos ei drin na hanfod yr achos. Dylid cyfeirio unrhyw gwestiynau at yr Ysgrifenyddiaeth cyn y gwrandawiad fel y gellir darparu ateb cyn y gwrandawiad. Bydd hynny'n osgoi'r angen i ohirio'r gwrandawiad i ystyried materion cymhleth.
- Dylid cyfeirio pob sylw neu wybodaeth a ddarperir gan yr apelydd yn ystod y gwrandawiad at Gadeirydd y panel, oni bai ei fod yn ymateb i gwestiwn penodol a ofynnir gan aelod arall o'r panel.
- Bydd y cadeirydd yn sicrhau bod trefn y gwrandawiad yn cael ei dilyn a bod pob parti yn cael cyfle i gyflwyno ei achos heb ymyrraeth.
- Bydd y cadeirydd yn sicrhau bod y gwrandawiad yn cael ei gynnal yn effeithlon a gall osod cyfyngiadau amser os oes angen.
- Ni fydd y panel yn rhoi unrhyw arwydd o'r argymhelliad tebygol.
13. Ar ôl y gwrandawiad
Anfonir copi o'r nodiadau a wnaed yn y gwrandawiad at bob parti er gwybodaeth. Bydd y rhain yn gofnod bras yn unig o'r prif bwyntiau a drafodwyd yn y gwrandawiad.
Bydd y panel yn paratoi adroddiad o'i ganfyddiadau a'i argymhellion i Weinidogion Cymru, sy'n gwneud y penderfyniad terfynol. Penderfyniad y Gweinidogion sy'n dod â'r broses apelio i ben.
Bydd Gweinidogion Cymru yn rhoi gwybod am y penderfyniad terfynol i'r apelydd/apelwyr a/neu gynrychiolydd yn ysgrifenedig a chaiff copi o nodiadau llawn y gwrandawiad, gan gynnwys argymhelliad y panel, ei anfon wedyn at yr apelydd/apelwyr (ac unrhyw gynrychiolydd) drwy RPW Ar-lein.
14. Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data: hysbysiad preifatrwydd
1 Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data: hysbysiad preifatrwydd
1.1 Mae'r hysbysiad hwn yn esbonio sut y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r wybodaeth a rowch yn eich cais am adolygiad o dan y 'Broses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig’. Mae’n esbonio hefyd sut y bydd Llywodraeth Cymru’n prosesu ac yn defnyddio eich data personol a'ch hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data. Rheolydd data'r wybodaeth yw Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
Swyddog diogelu data yr wybodaeth honno yw'r Swyddog Diogelu Data, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
E-bost: SwyddogDiogeluData@llyw.cymru
1.2 Bydd Llywodraeth Cymru'n prosesu ac yn rheoli'r wybodaeth yn unol â'i hymrwymiadau a'i dyletswyddau o dan y Rheoliadau Ewropeaidd (fel y'u dargedwir gan Ddeddf Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol) 2020 (p.2) a Rheoliadau (y DU) 2020/90 a 2020/91) a Rheoliadau Cynlluniau Cymorth Amaethyddol (Cymhwystra, Gorfodi ac Apelau) (Cymru) 2025.
Caiff yr wybodaeth ei defnyddio'n bennaf at bwrpas ymchwilio i'ch cais am apêl. Ond, caiff Llywodraeth Cymru ddefnyddio'r wybodaeth hefyd at ddibenion eraill, gan gynnwys y rheini sy'n gysylltiedig â'i swyddogaethau a'i dyletswyddau o dan Bolisi Taliad Uniongyrchol y DU a Pholisi Amaethyddol Cyffredin yr Undeb Ewropeaidd - yn ogystal â'i hymrwymiadau amgylcheddol statudol.
1.3 Sail gyfreithiol y prosesu yw bod ei angen i gyflawni tasg a gynhelir wrth arfer yr awdurdod swyddogol a roddir i Lywodraeth Cymru.
1.4 Mae Llywodraeth Cymru'n casglu data personol er mwyn gallu nodi'ch lleoliad chi a’ch busnes(au) fferm.
1.5 Caiff eich gwybodaeth ei storio am 10 mlynedd ar ôl i'ch apêl ddod i ben
2 Rhesymau dros rannu data personol
2.1 Wrth adolygu eich cais apêl, gallai Llywodraeth Cymru rannu'r wybodaeth â’r canlynol:
- Aelodau'r Panel Apelio Annibynnol
- Cyfoeth Naturiol Cymru
- Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion
- Y Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol
- Awdurdodau Lleol Cymru
- Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru
- DEFRA
- Swyddfeydd Amaeth eraill Llywodraeth y DU
- Awdurdodau rheoleiddio, fel Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi, Awdurdodau Lleol, yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, a’r Heddlu.
2.2 Gallai'r wybodaeth gael ei defnyddio at y dibenion canlynol:
- ymchwilio i gais am apêl a pharatoi dogfennau perthnasol i'w hystyried gan aelodau penodedig y Panel Apelio Annibynnol
- trawsgydymffurfio a chroeswirio gwybodaeth rhwng sefydliadau'r Llywodraeth er mwyn sicrhau nad oes neb yn torri rheolau cynlluniau'r Polisi Amaethyddol Cyffredin
- caniatáu i sefydliadau partner gyflawni eu dyletswyddau cyfreithiol
- cyhoeddi gwybodaeth ystadegol na ellir ei defnyddio i adnabod unigolion ac ymateb i geisiadau am wybodaeth.
3. Hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR)
3.1 Mae'r GDPR yn rhoi hawliau i unigolion mewn perthynas â'r data personol a gedwir amdanynt. Mae'r hawliau hyn yn cynnwys:
• yr hawl i gael gwybod (yr hysbysiad hwn)
• yr hawl i ofyn am a chael copïau o'r data personol sydd gan Lywodraeth Cymru amdanynt, er y gall Llywodraeth Cymru gadw peth data weithiau neu wrthod rhoi copïau
- yr hawl, o dan rai amgylchiadau, i rwystro neu gyfyngu Llywodraeth Cymru rhag prosesu data personol
- yr hawl, o dan rai amgylchiadau, i ofyn am gywiro gwybodaeth anghywir
- yr hawl, o dan rai amgylchiadau, i gael data wedi'i ddileu (ei anghofio).
Os hoffech arfer unrhyw un o'r hawliau GDPR hyn, cysylltwch â Llywodraeth Cymru yn y cyfeiriad ar ddechrau'r hysbysiad hwn.
3.2 Bydd hawl gan unigolion hefyd i ofyn i'r Comisiynydd Gwybodaeth, sy'n gorfodi ac yn cadw golwg ar y GDPR, farnu a fyddwn, wrth brosesu eu gwybodaeth bersonol, yn debygol o gadw at amodau'r GDPR. Gellir cysylltu â'r Comisiynydd Gwybodaeth yn:
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
2il Lawr, Tŷ Churchill
Ffordd Churchill
Caerdydd
CF10 2HH
Rhif ffôn: 0330 414 6421
Gwefan:https://ico.org.uk/
Rhif ffôn: 01625 545745 neu 0303 123 1113
Gwefan: www.ico.gov.uk
15. Cwynion
Ymdrinnir â chwynion o dan drefn Llywodraeth Cymru ar gyfer cwynion. Cewch ragor o wybodaeth am sut i wneud cwyn gan y Tîm Cynghori ar Gwynion:
Y Tîm Cynghori ar Gwynion
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Ffôn: 03000 251378
E-bost: complaints@llyw.cymru
Gwefan: Cwynion am Lywodraeth Cymru
Gallwch ddewis cysylltu ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru hefyd:
1 Ffordd yr Hen Gae,
Pencoed
CF35 5LJ
Ffôn: 0300 790 0203
Gwefan: Ombwdsmon
16. Cysylltiadau
Taliadau Gwledig Cymru
Canolfan Gyswllt i Gwsmeriaid
Taliadau Gwledig Cymru (cyfeiriad post)
RPW
Blwch Post 251
Caernarfon
LL55 9DA
Ffôn: 0300 062 5004
Ysgrifenyddiaeth Apelio Annibynnol
Llywodraeth Cymru
Neuadd y Sir
Spa Road East
Llandrindod Powys
LD1 5LG
