Mae yna gamau y gallwch eu cymryd nawr er mwyn eich helpu i newid i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS).
- mae'r Canllaw Cyflym yn rhoi gwerth taliad Cyffredinol SFS dangosol i chi ar gyfer 2026. Mae hwn ar gael ar Cynllun Ffermio Cynaliadwy: canllaw cyflym
- mewngofnodwch i Taliadau Gwledig Cymru (RPW) Ar-lein a gwiriwch fod eich manylion yn gyfredol
efallai y bydd angen i chi gofrestru gyda'r GOV.UK One Login newydd gwiriwch hefyd fod gan unrhyw un a allai fod angen mynediad i'ch cyfrif RPW eu cyfeiriad e-bost eu hunain
cewch ragor o fanylion yn RPW Ar-Lein: symud o Borth Y Llwyodraeth i One Login Gov.UK
- sicrhewch fod manylion eich busnes a'ch tir yn gywir. Os ydych wedi cael rhagor o dir, gallai hyn gael effaith ar eich gorchudd o gynefin a choetir. Llenwch y ffurflen RPW Rheoli fy Nhir. Cewch ragor o fanylion ar RPW Ar-lein: gan ddefnyddio 'rheoli fy nhir'
- cofrestrwch gyda Cyswllt Ffermio i gael gwybodaeth, help ac arweiniad
Gallwch hefyd ennill y blaen ar rai o'r Gweithredoedd Cyffredinol unigol. Er enghraifft:
- UA1 Iechyd Pridd: Bydd profion pridd a gynhelir hyd at bedair blynedd cyn i chi ymuno â'r Cynllun yn cyfrif tuag at y Weithred Gyffredinol (UA) hon
- UA4 Datblygiad Proffesiynol Parhaus: Bydd modiwlau e-ddysgu'r SFS, ar gael trwy Cyswllt Ffermio a gafodd eu cwblhau yn 2025 yn cyfrif tuag at yr UA hon ar gyfer 2026
- UA10 Cynllun Cyfle i Blannu Coed a Chreu Perthi/Gwrychoedd: Ystyriwch ble fyddai plannu coed a gwrychoedd ychwanegol yn fuddiol i'ch fferm ac ystyriwch blannu nawr trwy gynlluniau creu coetir a gwrychoedd presennol (mwy o fanylion isod)
- edrychwch ar y templedi sydd ar gael i'ch helpu i gynnal rhai UAs fel UA2 Rheolaeth Integredig ar Blâu ac UA12 Iechyd a Lles Anifeiliaid
