Neidio i'r prif gynnwy

Mae yna gamau y gallwch eu cymryd nawr er mwyn eich helpu i newid i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS).

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Rhagfyr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:
  • mae'r canllaw cyflym yn rhoi gwerth taliad cyffredinol SFS dangosol i chi ar gyfer 2026. Mae hwn ar gael ar Cynllun Ffermio Cynaliadwy: canllaw cyflym
     
  • mewngofnodwch i Taliadau Gwledig Cymru (RPW) Ar-lein a gwiriwch fod eich manylion yn gyfredol
    efallai y bydd angen i chi gofrestru gyda'r GOV.UK One Login newydd gwiriwch hefyd fod gan unrhyw un a allai fod angen mynediad i'ch cyfrif RPW eu cyfeiriad e-bost eu hunain
    cewch ragor o fanylion yn RPW Ar-Lein: symud o borth y Llwyodraeth i One Login Gov.UK
     
  • sicrhewch fod manylion eich busnes a'ch tir yn gywir. Os ydych wedi cael rhagor o dir, gallai hyn gael effaith ar eich gorchudd o gynefin a choetir. Llenwch y ffurflen RPW rheoli fy nhir. Cewch ragor o fanylion ar RPW Ar-lein: gan ddefnyddio 'rheoli fy nhir'
     
  • cofrestrwch gyda Cyswllt Ffermio i gael gwybodaeth, help ac arweiniad   

Gallwch hefyd ennill y blaen ar rai o'r Gweithredoedd Cyffredinol unigol. Er enghraifft:

  • UA1: iechyd pridd: bydd profion pridd a gynhelir hyd at bedair blynedd cyn i chi ymuno â'r cynllun yn cyfrif tuag at y Weithred Gyffredinol (UA) hon
  • UA4: Datblygiad Proffesiynol Parhaus: bydd modiwlau e-ddysgu'r SFS, ar gael trwy Cyswllt Ffermio a gafodd eu cwblhau yn 2025 yn cyfrif tuag at yr UA hon ar gyfer 2026
  • UA10: cynllun cyfle i blannu coed a chreu perthi/gwrychoedd: ystyriwch ble fyddai plannu coed a gwrychoedd ychwanegol yn fuddiol i'ch fferm ac ystyriwch blannu nawr trwy gynlluniau creu coetir a gwrychoedd presennol (mwy o fanylion isod)
  • edrychwch ar y templedi sydd ar gael i'ch helpu i gynnal rhai UAs fel UA2: rheolaeth integredig ar blâu ac UA12: iechyd a lles anifeiliaid