Nifer yr achosion o dwbercwlosis (TB) mewn gwartheg ym Mhrydain Fawr: Medi 2025
Data ar brofion, achosion newydd, buchesi o dan gyfyngiadau a gwartheg a laddwyd â TB buchol ar y gyfer Medi 2025.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae datganiad Ystadegau Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) yn cynnwys ystadegau ar sail yr ardaloedd TB yng Nghymru, ac mae'r pennawd ystadegol hwn yn seiliedig arno.
Nifer y buchesi ag achosion newydd o TB
Ffigur 1: Buchesi ag achosion newydd o TB yng Nghymru, Ionawr 2008 i Fedi 2025
Disgrifiad o Ffigur 1: siart llinell a bar yn dangos y tueddiad o ran achosion newydd mewn buchesi yng Nghymru ers 2008. Mae’r bariau glas golau yn nodi nifer yr achosion newydd bob mis tra bo’r llinell dywyll yn nodi cyfartaledd treigl o achosion newydd dros 12 mis.
Roedd 595 o achosion newydd yn ystod y 12 mis hyd at fis Medi 2025, sy’n gynnydd o 1.4% o’i gymharu â’r 12 mis blaenorol pan oedd 587 o achosion newydd.
Ffynhonnell: Ystadegau TB gwartheg Defra a gyhoeddwyd ar 10 Rhagfyr 2025
Anifeiliaid gafodd eu lladd i reoli TB
Ffigur 2: Anifeiliaid a laddwyd i reoli TB yng Nghymru, Ionawr 2008 i Fedi 2025
Disgrifiad o Ffigur 2: siart llinell a bar yn dangos y tueddiad o ran anifeiliaid sydd wedi cael eu lladd yng Nghymru ers 2008. Mae’r bariau glas golau yn nodi nifer yr anifeiliaid a gafodd eu lladd bob mis tra bo’r llinell dywyll yn nodi cyfartaledd treigl yr anifeiliaid a gafodd eu lladd dros 12 mis.
Cafodd 12,493 o anifeiliaid eu lladd yn ystod y 12 mis hyd at fis Medi 2025, sy’n gynnydd o 1.8% o’i gymharu â’r 12 mis blaenorol pan gafodd 12,276 anifeiliaid eu lladd.
Ffynhonnell: Ystadegau TB gwartheg Defra a gyhoeddwyd ar 10 Rhagfyr 2025
Rhagor o wybodaeth
Mae'r duedd gyffredinol ar gyfer anifeiliaid sy'n cael eu lladd oherwydd rheolaeth TB buchol yn amrywiol. Gellir priodoli llawer o’r cynnydd diweddar ers 2014 i’r defnydd cynyddol o brofion sensitif iawn. Er enghraifft, mae profion gama, gwaredu Adweithyddion Amhendant a dehongli manwl o’r prawf croen oll wedi’u defnyddio er mwyn ceisio gwaredu heintiau a lleihau’r perygl y gallai’r clefyd ledu ac y gallai achosion o’r clefyd ddigwydd eto.
Mae'r gyfres fisol yn amrywiol, a gellir disgwyl ambell frig. Bu cynnydd yn y duedd nes cyrraedd yr uchafbwynt ym mis Hydref 2018. Cyhoeddwyd dadansoddiad pellach o'r duedd hon hyd at fis Mehefin 2019 yn yr erthygl ystadegol: Dadansoddiad o'r nifer o anifeiliaid gafodd eu lladd i reoli TB, Hydref 2018 i Mehefin 2019.
Dros y 12 mis diwethaf, cynhaliwyd mwy o brofion gama ac yn sgil hynny cafwyd mwy o adweithiau positif i’r prawf, gan arwain at gynnydd amlwg yn nifer yr anifeiliaid y bu’n rhaid eu difa i reoli TB gwartheg. Mae defnyddio’r prawf gama ynghyd â’r prawf croen yn ffordd fwy trylwyr o ddarganfod yr haint, ac o gyflawni’r nod o leihau cyfraddau heintio ac o leihau’r risg o ledaenu’r clefyd ac iddo daro yr eildro. Er mai amcan hyn yn y tymor hir yw lleihau heintiadau, gall hyn arwain yn y tymor byr at gynnydd yn y nifer sy’n cael eu difa wrth i heintiadau a gollwyd o’r blaen gael eu darganfod.
Manylion cyswllt
Ystadegau Materion Gwledig a'r Amgylchedd
E-bost: ystadegau.amaeth@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099

