Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Rhaid i gynghorwyr arbennig sicrhau nad oes unrhyw wrthdaro’n codi, neu y gellid ystyried ei fod yn codi, rhwng eu dyletswyddau cyhoeddus a’u buddiannau preifat, yn ariannol neu fel arall.

Rhaid datgan buddiannau i Bennaeth Is-adran y Cabinet fel rhan o’r broses benodi. Mae’r wybodaeth bersonol y mae cynghorwyr arbennig yn ei datgelu yn cael ei thrin yn gyfrinachol. Mae pob cynghorydd arbennig wedi cyflwyno ffurflen datgan buddiannau wedi’i chwblhau, gan gynnwys ffurflenni dim buddiant mewn achosion pan nad oedd gwrthdaro buddiannau gwirioneddol, posibl neu ganfyddiadol. Pan fo’n berthnasol i’r rôl, ac er mwyn helpu i reoli canfyddiad o wrthdaro neu i egluro sut y mae gwrthdaro yn cael ei reoli, cyhoeddir y buddiannau yn flynyddol.

Mae Pennaeth Is-adran y Cabinet wedi ystyried y ffurflenni hyn ac wedi barnu y dylai’r buddiannau perthnasol a ganlyn gael eu cyhoeddi.

Sarah Dickins

Cofnod yn y gofrestr

  • Ymddiriedolwr, Peak Cymru. Mae Ms Dickins yn cael ei hymesgusodi o gymryd rhan mewn materion sy’n ymwneud â gwaith neu gyllid yr Ymddiriedolaeth, os byddant yn codi.
  • Perchnogaeth deuluol o fferm ddefaid yn y De. Mae Ms Dickins yn cael ei hymesgusodi o gymryd rhan mewn materion sy’n ymwneud â datblygu polisi amaethyddol.
  • Mae ei phartner yn Gyfarwyddwr Miller Research UK Ltd. Mae Ms Dickins yn cael ei hymesgusodi o gymryd rhan mewn materion sy’n ymwneud â busnes ei phartner neu gleientiaid y busnes, os byddant yn codi.
  • Mae ei phartner yn Is-gadeirydd yr elusen ailgylchu Homemakers. Mae Ms Dickins yn cael ei hymesgusodi o gymryd unrhyw ran mewn materion sy’n ymwneud â’r elusen, os byddant yn codi.
  • Mae ei phartner yn aelod o Fwrdd Gŵyl Fwyd y Fenni. Mae Ms Dickins yn cael ei hymesgusodi o gymryd unrhyw ran mewn materion sy’n ymwneud â’r elusen, os byddant yn codi.
  • Cynghorydd Cymuned ar gyfer Ward Ynysgynwraidd. Mae’r rôl hon i gael ei chyflawni yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad ar gyfer Cynghorwyr Arbennig.
  • Aelod o'r teulu yn Gyfarwyddwr Cyswllt Portland Communications. Mae Ms Dickins yn cael ei hymesgusodi o gymryd rhan mewn materion sy’n ymwneud â Portland Communication neu ei gleientiaid, os byddant yn codi.
  • Mae aelod o'r teulu yn gweithio i Leukaemia UK. Mae Ms Dickins yn cael ei hymesgusodi o unrhyw faterion sy'n ymwneud â Leukaemia UK pe baent yn codi.

Madeleine Brindley

Cofnod yn y gofrestr

  • Aelod o Gymdeithas y Cerddwyr. Mae Ms Brindley yn cael ei hymesgusodi o gymryd rhan mewn materion sy’n ymwneud â gwaith neu gyllid y gymdeithas, os byddant yn codi.

Philippa Marsden

Cofnod yn y gofrestr

  • Llywodraethwr Cymuned ar gyfer Ysgol Gymraeg Cwm Gwyddon
  • Ymddiriedolwr, Clwb Athletau Harriers Casnewydd. Mae Ms Marsden yn cael ei hymesgusodi o gymryd rhan mewn materion sy’n ymwneud â gwaith neu gyllid yr Ymddiriedolaeth, os byddant yn codi.

Mary Wimbury

Cofnod yn y gofrestr

  • Ymddiriedolwr, UK Mathematics Trust. Mae Ms Wimbury yn cael ei hymesgusodi o gymryd rhan mewn materion sy’n ymwneud â gwaith neu gyllid yr Ymddiriedolaeth, os byddant yn codi.
  • Aelod o Bwyllgor Gweithredol Cenedlaethol, y Blaid Gydweithredol. Mae’r rôl hon i gael ei chyflawni yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad ar gyfer Cynghorwyr Arbennig.
  • Aelod o'r teulu yn Llysgennad Gweithredu dros Blant. Bydd Ms Wimbury yn datgan buddiant ac yn ymesgusodi ei hun o faterion sy'n ymwneud â'r sefydliad, os byddant yn codi.
  • Mae Aelod o'r Teulu yn Llywydd Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol (CWVYS). Bydd Ms Wimbury yn datgan buddiant ac yn ymesgusodi ei hun o faterion sy'n ymwneud â'r sefydliad, os byddant yn codi.

Haf Davies

Cofnod yn y gofrestr

  • Mae aelod o’r teulu yn gweithio i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Bydd Ms Davies yn datgan buddiant ac yn ymesgusodi o faterion ym maes gwaith penodol aelodau ei theulu yn yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn ôl yr angen.
  • Mae aelod o'r teulu yn gweithio i'r Eglwys yng Nghymru. Bydd Ms Davies yn datgan buddiant pan fo’r angen yn codi ac yna'n cymryd y camau priodol i ymesgusodi ei hun pe bai hynny'n angenrheidiol.

Jackie Jones

Cofnod yn y gofrestr

  • Cynghorydd Lleol, Dinas a Sir Caerdydd. Mae’r rôl hon i gael ei chyflawni yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad ar gyfer Cynghorwyr Arbennig.
  • Aelod o’r Bwrdd, y Gymdeithas Ewropeaidd i Fenywod sy’n Gyfreithwyr. Mae Ms Jones yn cael ei hymesgusodi o gymryd rhan mewn materion sy’n ymwneud â'r Bwrdd, os byddant yn codi.
  • Noddwr, y Mudiad Ewropeaidd. Mae Ms Jones yn cael ei hymesgusodi o gymryd rhan mewn materion sy’n ymwneud â'r Mudiad, os byddant yn codi.
  • Gweithredwr, Mudiad Llafur dros Ewrop. Mae'r rôl hon i'w chyflawni yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad ar gyfer Cynghorwyr Arbennig ac mae Ms Jones yn cael ei ymesgusodi rhag cymryd rhan mewn materion sy'n ymwneud â'r Mudiad pe baent yn codi
  • Ymddiriedolwr, Cymru Ddiogelach. Mae Ms Jones yn cael ei hymesgusodi o gymryd rhan mewn materion sy’n ymwneud â gwaith neu gyllid yr Ymddiriedolaeth, os byddant yn codi.
  • Swyddog Menywod, Cyngor y Blaid Gydweithredol yng Nghymru. Mae’r rôl hon i gael ei chyflawni yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad ar gyfer Cynghorwyr Arbennig.
  • Ymgeisydd ar gyfer Etholiad y Senedd yn etholaeth Caerdydd Ffynnon Taf. Mae’r rôl hon i gael ei chyflawni yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad ar gyfer Cynghorwyr Arbennig. Bydd Ms Jones yn sicrhau bod y rôl hon yn cael ei chyflawni ar wahân i'w chontract gyda Llywodraeth Cymru, ac yn cymryd camau i ymesgusodi ei hun o faterion sy'n effeithio ar ei darpar etholaeth pe baent yn codi.

Nadila Hussein

Cofnod yn y gofrestr

  • Cyfarwyddwr Fair Jobs CIC. Ni fydd Ms Hussein yn gwneud gwaith i'r sefydliad tra'n gweithio fel Cynghorydd Arbennig. Bydd hi'n ymesgusodi ei hun o unrhyw drafodaethau sy'n ymwneud â'r sefydliad pe baent yn codi.

Victoria Solomon

Cofnod yn y gofrestr

  • Dim diddordebau perthnasol i'w cyhoeddi

Kirsty Keenan

Cofnod yn y gofrestr

  • Cyflogaeth eilaidd yn cefnogi Aelod o'r Senedd. Mae’r rôl hon i gael ei chyflawni yn unol â'r Cod Ymddygiad ar gyfer Cynghorwyr Arbennig. Bydd Ms Keenan yn sicrhau nad oes gwrthdaro rhwng y ddwy rôl, ac nad yw'r rôl cyflogaeth eilaidd yn cwmpasu meysydd y mae hi wedi gweithio arnynt yn ei rôl Cynghorydd Arbennig

Luke Young

Cofnod yn y gofrestr

  • Ar secondiad o Cyngor ar Bopeth. Bydd Mr Young yn datgan buddiant ac yn cymryd camau i ymesgusodi ei hun o'r holl faterion sy'n ymwneud â'r sefydliad tra bydd yn cael ei gyflogi fel Cynghorydd Arbennig.
  • Cyn Aelod o Fwrdd Cenedlaethol Samariaid Cymru a Bwrdd Cynghori Strategol y Samariaid. Bydd Mr Young yn datgan buddiant ac yn cymryd camau i ymesgusodi ei hun o faterion sy'n ymwneud â'r sefydliad os oes angen.
  • Nid yw Cyfarwyddwr Cwmni Clear Red Campaigns Ltd. yn masnachu ar hyn o bryd ac ni fydd Mr Young yn ymgymryd ag unrhyw weithgaredd busnes i'r cwmni nac yn derbyn unrhyw incwm tra ei fod wedi'i gyflogi fel Cynghorydd Arbennig.

Tal Michael

Cofnod yn y gofrestr

  • Mae Aelod o'r Teulu yn ddiffoddwr tân wrth gefn yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru. Bydd Mr Michael yn datgan buddiant ac yn cymryd camau i ymesgusodi ei hun lle bo angen mewn materion sy'n ymwneud â thelerau ac amodau Diffoddwyr Tân, a Gwasanaeth Tân y Canolbarth a'r Gorllewin.
  • Aelod o'r teulu yn Llysgennad Gweithredu dros Blant. Bydd Mr Michael yn datgan buddiant ac yn ymesgusodi ei hun o faterion sy'n ymwneud â'r sefydliad, os byddant yn codi.
  • Mae Aelod o'r Teulu yn Llywydd Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol (CWVYS). Bydd Mr Michael yn datgan buddiant ac yn ymesgusodi ei hun o faterion sy'n ymwneud â'r sefydliad, os byddant yn codi.

Victoria Evans

Cofnod yn y gofrestr

  • Dim diddordebau perthnasol i'w cyhoeddi

David Hooson

Cofnod yn y gofrestr

  • Dim diddordebau perthnasol i'w cyhoeddi

Stephen Jones

Cofnod yn y gofrestr

  • Dim diddordebau perthnasol i'w cyhoeddi

Aelodaeth o Undebau Llafur

Mae gan Gynghorwyr Arbennig hawl i ddal aelodaeth o undeb llafur mewn rhinwedd bersonol, ond rhaid cymryd gofal i osgoi unrhyw wrthdaro buddiannau gwirioneddol neu ganfyddiadol â’u rolau portffolio. Mae’n ofynnol, felly, i Gynghorwyr Arbennig ystyried yr angen i ddatgan buddiant ac i ymesgusodi eu hunain, pan ystyrir y bo hynny’n angenrheidiol, o drafodaethau â'u Hundeb Llafur sy’n ymwneud â pholisi Llywodraeth Cymru yn eu meysydd.