Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae’r datganiad ystadegol chwarterol hwn yn rhoi crynodeb o ddata perfformiad y GIG ar gyfer byrddau iechyd lleol unigol. Caiff dadansoddiad misol ar gyfer Cymru gyfan ei gyhoeddi yn y crynodeb o Weithgarwch a Pherfformiad y GIG sy’n gysylltiedig. Mae data misol manwl ar gyfer byrddau iechyd lleol hefyd ar gael ar StatsCymru.

Cyflwynir y dadansoddiadau yma ar gyfer pob bwrdd iechyd yn seiliedig ar dargedau perfformiad sefydledig Llywodraeth Cymru ar gyfer adrannau achosion brys, apwyntiadau cleifion allanol, diagnosteg a therapïau, a gwasanaethau canser. Gallwch lywio i fyrddau iechyd penodol gan ddefnyddio'r hyperddolenni adran yng nghornel chwith uchaf yr adroddiad hwn.

Oherwydd pryderon ynghylch ansawdd y data, mae’r data am yr amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth (RTT) ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) wedi cael ei atal dros dro. Roedd hyn yn dilyn pryderon am anghysondeb ym maint y rhestrau aros a adroddwyd ac anghysondeb â lefelau gweithgarwch gweithredol. Mae adolygiad o brosesau casglu a dilysu data wedi dod i’r casgliad nad oedd carfan o gleifion – yr oedd eu llwybrau wedi cael eu dyrannu i ddarparwyr annibynnol – wedi cael eu cynnwys mewn ffurflenni data. Nodwyd mân broblemau eraill gyda’r data hefyd. Mae BIPBC yn mynd ati i gywiro'r materion hyn ar frys ac rydym yn disgwyl ailddechrau adrodd ar BIPBC a Chymru gyfan ym mis Ionawr 2026. Felly, nid yw ffigurau’r amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth wedi'u cynnwys yn yr adroddiad hwn.

Cafodd amrywiaeth o fetrigau perfformiad ambiwlansys newydd eu cyflwyno ym mis Gorffennaf 2025. Cyhoeddir ffigurau'r byrddau iechyd ar StatsCymru. Fodd bynnag, nid yw'n bosibl crynhoi'r rhain ar ffurf y mesurau allweddol ar gyfer pynciau eraill fel y nodir isod. Dros amser, byddwn yn edrych ar opsiynau ar gyfer crynhoi tueddiadau ym mherfformiad byrddau iechyd ar gyfer y mesurau ambiwlans newydd.

Mae data yn yr adroddiad hwn wedi cael ei ddarparu gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW). Ar gyfer rhai mesurau, nid oedd modd cymharu Powys â’r byrddau iechyd eraill yng Nghymru. Mae hyn oherwydd bod gwahaniaethau sylweddol yn nifer a math y gwasanaethau a ddarperir ym Mhowys o’i gymharu â byrddau iechyd eraill.

Prif bwyntiau

O ran adrannau achosion brys, Aneurin Bevan oedd â’r gyfran uchaf o gleifion a dderbyniwyd, a drosglwyddwyd neu a ryddhawyd o fewn y targed amser o 4 awr, sef 74.5%, a Betsi Cadwaladr oedd â’r gyfran isaf, sef 55.7%.

Aneurin Bevan oedd â’r ganran isaf yn aros mwy na 12 awr mewn adrannau brys, ar 7.6%, a Betsi Cadwaladr oedd â’r gyfran uchaf (19.4%).

Ar hyn o bryd Powys sydd â’r gyfran isaf o arosiadau diagnostig sy’n fwy na’r amser targed o 8 wythnos (7.2%). Betsi Cadwaladr sydd â’r gyfradd uchaf (48.4% o lwybrau). 

Ar gyfer therapïau, nid oes gan Fae Abertawe lwybrau sy'n aros mwy na'r targed o 14 wythnos. Hywel Dda oedd â’r gyfran uchaf o gleifion yn aros mwy na 14 wythnos (24.7% o lwybrau).

O ran gwasanaethau canser, Hywel Dda sydd â’r gyfran uchaf o gleifion yn dechrau triniaeth o fewn 62 diwrnod i’r pwynt amheuaeth (66.5%), a Betsi Cadwaladr sydd â’r gyfran isaf (51.7%).

Aneurin Bevan

Ffigur 1: crynodeb o berfformiad Aneurin Bevan hyd at fis Hydref 2025 ar gyfer gofal wedi’i drefnu, a mis Tachwedd 2025 ar gyfer gofal heb ei drefnu [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o ffigur 1: cyfres o siartiau yn dangos perfformiad bwrdd iechyd lleol Aneurin Bevan o’i gymharu â Chymru ar gyfer mesurau dethol mewn gofal brys a gofal wedi’i gynllunio yng Nghymru. Caiff y pwyntiau allweddol eu crynhoi yn yr adran naratif isod.

Ffynhonnell: Set ddata adrannau brys (DHCW), Amseroedd aros am wasanaethau diagnostig a therapi (DHCW), Amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth (DHCW), Llwybr Lle’r Amheuir Canser (DHCW)

Ystadegau Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ar StatsCymru

[Nodyn 1]: Mae echelinau canrannol y siartiau hyn ar raddfeydd gwahanol a dylid ystyried hyn wrth gymharu’r mesurau hyn.

[Nodyn 2]: Daeth data niwroffisioleg ar gyfer Aneurin Bevan ar gael ym mis Mehefin 2023, gan ychwanegu tua 1,000 o lwybrau nad oeddent wedi cael eu hadrodd o’r blaen. Darparwyd gwasanaethau diagnosteg niwroffisioleg gan Aneurin Bevan cyn mis Mehefin 2023, ond nid yw’r data hynny ar gael. Mae hyn yn effeithio ar gymharedd data diagnostig ar gyfer Aneurin Bevan a Chymru dros amser.

[Nodyn 3]: O fis Ebrill 2024 ymlaen, nid oedd llwybrau awdioleg a rheoli pwysau yn cael eu hadrodd yn y data therapïau mwyach, sy’n golygu nad oes modd eu cymharu â data hyd at fis Mawrth 2024.

Gofal heb ei drefnu ym mis Tachwedd 2025

Cafodd 74.5% o gleifion adrannau achosion brys eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn 4 awr. Nid oes tuedd hirdymor amlwg o ran perfformiad. 

Arhosodd 7.6% o gleifion fwy na 12 awr i gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau. Mae hyn wedi bod yn gyfnewidiol dros y blynyddoedd diwethaf.

Gofal wedi’i drefnu ym mis Hydref 2025

Roedd 7.8% o lwybrau’n aros dros yr amser targed am brofion diagnostig. Mae hyn wedi gostwng yn sylweddol ers dechrau pandemig COVID-19.

Roedd 1.2% o lwybrau’n aros dros yr amser targed am wasanaethau therapi. Mae hyn wedi gostwng dros y flwyddyn ddiwethaf.

Roedd 57.6% o lwybrau canser wedi dechrau eu triniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn yr amser targed. Mae’r perfformiad wedi amrywio dros amser.

Crynodeb

Perfformiodd Aneurin Bevan yn well na chyfartaledd Cymru o ran canran y cleifion mewn adrannau achosion brys a dderbyniwyd, a drosglwyddwyd neu a ryddhawyd o fewn 4 awr a dros 12 awr.

Ar hyn o bryd, mae'r perfformiad yn well na ffigurau Cymru gyfan ar gyfer profion diagnostig, therapïau, ac yn waeth ar gyfer amseroedd aros am driniaeth canser.

Betsi Cadwaladr

Ffigur 2: crynodeb o berfformiad Betsi Cadwaladr hyd at fis Hydref 2025 ar gyfer gofal wedi’i drefnu, a mis Tachwedd 2025 ar gyfer gofal heb ei drefnu [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o ffigur 2: Cyfres o siartiau yn dangos perfformiad bwrdd iechyd lleol Betsi Cadwaladr o’i gymharu â Chymru ar gyfer mesurau dethol mewn gofal brys a gofal wedi’i gynllunio. Caiff y pwyntiau allweddol eu crynhoi yn yr adran naratif isod.

Ffynhonnell: Set ddata adrannau brys, DHCW, Amseroedd aros am wasanaethau diagnostig a therapi, DHCW, Amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth, DHCW, Llwybr Lle’r Amheuir Canser, DHCW

Ystadegau Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ar StatsCymru

[Nodyn 1]: Mae echelinau canrannol y siartiau hyn ar raddfeydd gwahanol a dylid ystyried hyn wrth gymharu’r mesurau hyn.

[Nodyn 2]: Ym mis Ebrill 2020, ni wnaeth Betsi Cadwaladr gyflwyno unrhyw ddata ar gyfer therapïau. Darllenwch yr wybodaeth am ansawdd i gael rhagor o wybodaeth.

[Nodyn 3]: O fis Ebrill 2024 ymlaen, nid oedd llwybrau awdioleg a rheoli pwysau yn cael eu hadrodd yn y data therapïau mwyach, sy’n golygu nad oes modd eu cymharu â data hyd at fis Mawrth 2024.

Gofal heb ei drefnu ym mis Tachwedd 2025

Cafodd 55.7% o gleifion adrannau achosion brys eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn 4 awr. Mae hyn wedi gostwng dros y flwyddyn ddiwethaf

Arhosodd 19.4% o gleifion fwy na 12 awr i gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau. Yn gyffredinol, mae hyn wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf.

Gofal wedi'i drefnu ym mis Hydref 2025

Roedd 48.4% o lwybrau’n aros dros yr amser targed am brofion diagnostig. Mae hyn wedi cynyddu'n ddiweddar.

Roedd 5.6% o lwybrau’n aros dros yr amser targed am wasanaethau therapi. Mae hyn wedi gostwng yn ddiweddar.

Roedd 51.7% o lwybrau canser wedi dechrau eu triniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn yr amser targed. Mae’r duedd hirdymor ar i lawr yn gyffredinol.

Crynodeb

Mae canran y cleifion adrannau achosion brys sy’n cael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn 4 awr a dros 12 awr yn waeth na chyfartaledd Cymru ar hyn o bryd.

Ar hyn o bryd, mae’r perfformiad yn waeth na ffigurau Cymru gyfan ar gyfer profion diagnostig, ac yn well na ffigurau Cymru gyfan ar gyfer therapïau. Mae’r perfformiad yn waeth na chyfartaledd Cymru o ran amseroedd aros am driniaeth canser.

Caerdydd a'r Fro

Ffigur 3: crynodeb o berfformiad Caerdydd a’r Fro hyd at fis Hydref 2025 ar gyfer gofal wedi’i drefnu, a mis Tachwedd 2025 ar gyfer gofal heb ei drefnu [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o ffigur 3: cyfres o siartiau yn dangos perfformiad bwrdd iechyd lleol Caerdydd a’r Fro o’i gymharu â Chymru ar gyfer mesurau dethol mewn gofal brys a gofal wedi’i gynllunio. Caiff y pwyntiau allweddol eu crynhoi yn yr adran naratif isod.

Ffynhonnell: Set ddata adrannau brys, DHCW, Amseroedd aros am wasanaethau diagnostig a therapi, DHCW, Amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth, DHCW, Llwybr Lle’r Amheuir Canser, DHCW

Ystadegau Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ar StatsCymru

[Nodyn 1]: Mae echelinau canrannol y siartiau hyn ar raddfeydd gwahanol a dylid ystyried hyn wrth gymharu’r mesurau hyn.

[Nodyn 2]: O fis Ebrill 2024 ymlaen, nid oedd llwybrau awdioleg a rheoli pwysau yn cael eu hadrodd yn y data therapïau mwyach, sy’n golygu nad oes modd eu cymharu â data hyd at fis Mawrth 2024.

Gofal heb ei drefnu ym mis Tachwedd 2025

Cafodd 58.5% o gleifion adrannau achosion brys eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn 4 awr. Yn gyffredinol, mae’r perfformiad wedi dirywio dros y blynyddoedd diwethaf.

Arhosodd 8.2% o gleifion fwy na 12 awr i gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau. Mae'r duedd yn y ffigurau hyn yn newidiol iawn.

Gofal wedi'i drefnu ym mis Hydref 2025

Roedd 48.0% o lwybrau’n aros dros yr amser targed am brofion diagnostig. Mae'r niferoedd wedi dechrau gostwng yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Roedd 8.9% o lwybrau’n aros dros yr amser targed am wasanaethau therapi. Mae'r niferoedd wedi cynyddu'n raddol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Dechreuodd 60.7% o lwybrau canser eu triniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn yr amser targed, ac mae’r perfformiad ar ól tuedd bach am i fyny yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Crynodeb

Mae canran y cleifion mewn adrannau achosion brys sy’n cael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn 4 awr yn waeth na chyfartaledd Cymru ar hyn o bryd, ac mae’r ganran sy’n aros mwy na 12 awr yn well na chyfartaledd Cymru.

Yng Nghaerdydd a’r Fro, mae'r perfformiad yn waeth na ffigurau Cymru gyfan ar gyfer profion diagnostig, ac ar gyfer therapïau ar hyn o bryd. Mae’r perfformiad yn well na chyfartaledd Cymru o ran amseroedd aros am driniaeth canser.

Cwm Taf Morgannwg

Ffigur 4: crynodeb o berfformiad Cwm Taf Morgannwg hyd at fis Hydref 2025 ar gyfer gofal wedi’i drefnu, a mis Tachwedd 2025 ar gyfer gofal heb ei drefnu [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o ffigur 4: Cyfres o siartiau yn dangos perfformiad bwrdd iechyd lleol Cwm Taf Morgannwg o’i gymharu â Chymru ar gyfer mesurau dethol mewn gofal brys a gofal wedi’i gynllunio. Caiff y pwyntiau allweddol eu crynhoi yn yr adran naratif isod.

Ffynhonnell: Set ddata adrannau brys, DHCW, Amseroedd aros am wasanaethau diagnostig a therapi, DHCW, Amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth, DHCW, Llwybr Lle’r Amheuir Canser, DHCW

Ystadegau Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ar StatsCymru

[Nodyn 1]: Mae echelinau canrannol y siartiau hyn ar raddfeydd gwahanol a dylid ystyried hyn wrth gymharu’r mesurau hyn.

[Nodyn 2]: O fis Ebrill 2024 ymlaen, nid oedd llwybrau awdioleg a rheoli pwysau yn cael eu hadrodd yn y data therapïau mwyach, sy’n golygu nad oes modd eu cymharu â data hyd at fis Mawrth 2024.

Gofal heb ei drefnu ym mis Tachwedd 2025

Cafodd 59.8% o gleifion adrannau achosion brys eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn 4 awr. Mae hyn wedi gostwng yn ystod y misoedd diwethaf.

Arhosodd 12.2% o gleifion fwy na 12 awr i gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau. Mae'r duedd yn y ffigwr hwn yn newidiol.

Gofal wedi'i drefnu ym mis Hydref 2025

Roedd 32.7% o lwybrau’n aros dros yr amser targed am brofion diagnostig. Mae'r niferoedd wedi cynyddu'n ddiweddar.

Roedd 0.5% o lwybrau’n aros dros yr amser targed am wasanaethau therapi. Mae hyn wedi bod yn gymharol sefydlog yn ddiweddar. 

Dechreuodd 62.2% o lwybrau canser eu triniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn yr amser targed, ac mae’r perfformiad wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Crynodeb

Mae canran y cleifion adrannau achosion brys sy’n cael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn 4 awr a dros 12 awr yn waeth na chyfartaledd Cymru ar hyn o bryd.

Yng Nghwm Taf Morgannwg, mae'r perfformiad yn debyg i ffigurau Cymru gyfan ar gyfer profion diagnostig, ac yn well ar gyfer therapïau ar hyn o bryd. Mae’r perfformiad yn well na chyfartaledd Cymru o ran amseroedd aros am driniaeth canser.

Hywel Dda

Ffigur 5: crynodeb o berfformiad Hywel Dda hyd at fis Hydref 2025 ar gyfer gofal wedi’i drefnu, a mis Tachwedd 2025 ar gyfer gofal heb ei drefnu [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o ffigur 5: cyfres o siartiau yn dangos perfformiad bwrdd iechyd lleol Hywel Dda o’i gymharu â Chymru ar gyfer mesurau dethol mewn gofal brys a gofal wedi’i gynllunio. Caiff y pwyntiau allweddol eu crynhoi yn yr adran naratif isod.

Ffynhonnell: Set ddata adrannau brys, DHCW, Amseroedd aros am wasanaethau diagnostig a therapi, DHCW, Amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth, DHCW, Llwybr Lle’r Amheuir Canser, DHCW

Ystadegau Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ar StatsCymru

[Nodyn 1]: Mae echelinau canrannol y siartiau hyn ar raddfeydd gwahanol a dylid ystyried hyn wrth gymharu’r mesurau hyn.

[Nodyn 2]: O fis Ebrill 2024 ymlaen, nid oedd llwybrau awdioleg a rheoli pwysau yn cael eu hadrodd yn y data therapïau mwyach, sy’n golygu nad oes modd eu cymharu â data hyd at fis Mawrth 2024.

Gofal heb ei drefnu ym mis Tachwedd 2025

Cafodd 71.2% o gleifion adrannau achosion brys eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn 4 awr. Mae hyn wedi cynyddu'n ddiweddar.

Arhosodd 8.6% o gleifion fwy na 12 awr i gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau. Mae’r duedd wedi bod yn newidiol yn y blynyddoedd diwethaf.

Gofal wedi'i drefnu ym mis Hydref 2025

Roedd 13.4% o lwybrau’n aros dros yr amser targed am brofion diagnostig. Mae hyn wedi gostwng yn ddiweddar.

Roedd 24.7% o lwybrau’n aros dros yr amser targed am wasanaethau therapi. Mae tuedd gyffredinol am i fyny yn y tymor hir. 

Roedd 66.5% o lwybrau canser wedi dechrau eu triniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn yr amser targed. Gwelwyd tuedd gynyddol gyffredinol yn ddiweddar.

Crynodeb

Ar hyn o bryd, mae canran y cleifion mewn adrannau achosion brys sy’n cael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn 4 awr yn well na chyfartaledd Cymru, ac mae’r ganran sy’n aros mwy na 12 awr yn well na chyfartaledd Cymru.

Mae'r perfformiad yn well na ffigurau Cymru gyfan ar gyfer profion diagnostig, ac yn waeth ar gyfer therapïau ar hyn o bryd. Mae’r perfformiad yn well na chyfartaledd Cymru o ran amseroedd aros am driniaeth canser.

Powys

Ffigur 6: crynodeb o berfformiad Powys hyd at fis Hydref 2025 o ran gofal wedi'i drefnu [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 6: Cyfres o siartiau yn dangos perfformiad bwrdd iechyd lleol Powys o’i gymharu â Chymru ar gyfer mesurau dethol mewn gofal brys a gofal wedi’i gynllunio. Caiff y pwyntiau allweddol eu crynhoi yn yr adran naratif isod.

Ffynhonnell: Amseroedd aros am wasanaethau diagnostig a therapi, DHCW, Amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth, DHCW

Ystadegau Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ar StatsCymru

[Nodyn 1]: Mae echelinau canrannol y siartiau hyn ar raddfeydd gwahanol a dylid bod yn ofalus wrth gymharu’r mesurau hyn.

[Nodyn 2]: O fis Ebrill 2024 ymlaen, nid oedd llwybrau awdioleg a rheoli pwysau yn cael eu hadrodd yn y data therapïau mwyach, sy’n golygu nad oes modd eu cymharu â data hyd at fis Mawrth 2024.

Gofal wedi'i drefnu ym mis Hydref 2025

Roedd 7.2% o lwybrau’n aros dros yr amser targed am brofion diagnostig. Mae'r duedd gyffredinol yn newidiol ond mae wedi gostwng yn sylweddol ers dechrau'r pandemig.

Roedd 1.2% o lwybrau’n aros dros yr amser targed am wasanaethau therapi. Mae’r niferoedd wedi bod ar yr un lefelau â’r rhai cyn y pandemig ers cryn amser.

Crynodeb

Ar gyfer rhai mesurau, nid oedd modd cymharu Powys â’r byrddau iechyd eraill yng Nghymru. Mae hyn oherwydd bod gwahaniaethau sylweddol yn nifer a math y gwasanaethau a ddarperir ym Mhowys o’i gymharu â byrddau iechyd eraill. Fodd bynnag, mae’r ffigurau’n cymharu’n fras â byrddau iechyd eraill ar gyfer llwybrau diagnosteg a therapi, ac amseroedd aros RTT. Mae'r perfformiad yn well na ffigurau Cymru gyfan ar gyfer profion diagnostig, ac ar gyfer therapïau ar hyn o bryd.

Bae Abertawe

Ffigur 7: crynodeb o berfformiad Bae Abertawe hyd at fis Hydref 2025 ar gyfer gofal wedi’i drefnu, a mis Tachwedd 2025 ar gyfer gofal heb ei drefnu [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o ffigur 7: cyfres o siartiau yn dangos perfformiad bwrdd iechyd Bae Abertawe o’i gymharu â Chymru ar gyfer mesurau dethol mewn gofal brys a gofal wedi’i gynllunio. Caiff y pwyntiau allweddol eu crynhoi yn yr adran naratif isod.

Ffynhonnell: Set ddata adrannau brys, DHCW, Amseroedd aros am wasanaethau diagnostig a therapi, DHCW, Amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth, DHCW, Llwybr Lle’r Amheuir Canser, DHCW

Ystadegau Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ar StatsCymru

[Nodyn 1]: Mae echelinau canrannol y siartiau hyn ar raddfeydd gwahanol a dylid ystyried hyn wrth gymharu’r mesurau hyn.

[Nodyn 2]: O fis Ebrill 2024 ymlaen, nid oedd llwybrau awdioleg a rheoli pwysau yn cael eu hadrodd yn y data therapïau mwyach, sy’n golygu nad oes modd eu cymharu â data hyd at fis Mawrth 2024.

Gofal heb ei drefnu ym mis Tachwedd 2025

Cafodd 72.3% o gleifion adrannau achosion brys eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn 4 awr. Nid oes tuedd hirdymor amlwg o ran perfformiad.

Arhosodd 8.9% o gleifion fwy na 12 awr i gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau. Mae'r duedd gyffredinol yn newidiol.

Gofal wedi’i drefnu ym mis Gorffennaf 2025

Roedd 24.5% o lwybrau’n aros dros yr amser targed am brofion diagnostig. Mae hyn wedi bod ar drywydd am i lawr yn y tymor hir ond mae wedi codi yn ystod y misoedd diwethaf.

Nid oes dim llwybrau’n aros dros yr amser targed ar gyfer gwasanaethau therapi. Mae hyn wedi bod yn gyson is na 10% yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Dechreuodd 56.2% o lwybrau canser eu triniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn yr amser targed, heb unrhyw duedd hirdymor amlwg.

Crynodeb

Mae canran y cleifion mewn adrannau achosion brys sy’n cael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn 4 awr yn well na chyfartaledd Cymru ar hyn o bryd, ac mae’r ganran sy’n aros mwy na 12 awr yn well na chyfartaledd Cymru.

Ym Mae Abertawe, mae'r perfformiad yn well na ffigurau Cymru gyfan ar gyfer profion diagnostig, ac ar gyfer therapïau ar hyn o bryd. Mae’r perfformiad yn waeth na chyfartaledd Cymru o ran amseroedd aros am driniaeth canser.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Gellir dod o hyd i wybodaeth ansawdd a methodoleg bellach sy'n berthnasol i'r datganiad ystadegol hwn yn adroddiad ansawdd crynodeb gweithgarwch a pherfformiad y GIG.

Statws ystadegau swyddogol

Dylai’r holl ystadegau swyddogol ddangos safonau’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (Awdurdod Ystadegau'r DU).  

Ystadegau swyddogol achrededig yw’r rhain. Cawsant eu hadolygu'n annibynnol gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (OSR) ym mis Gorffennaf 2012. Maent yn cydymffurfio â’r safonau dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. 

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw parhau i gydymffurfio â’r safonau a ddisgwylir fel rhan o achrediad. Os byddwn yn dechrau pryderu ynghylch p’un a yw’r ystadegau hyn yn dal i gyrraedd y safonau priodol, byddwn yn trafod unrhyw bryderon â’r Swyddfa yn brydlon. Gellir dileu neu atal achrediad ar unrhyw adeg pan nad yw’r safonau uchaf yn cael eu cynnal, a gellir adennill y statws pan fo’r safonau’n cael eu hadfer.

Cyfeirir at Ystadegau swyddogol achrededig (Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau) fel Ystadegau Gwladol yn Neddf Ystadegau a’r Gwasanaeth Cofrestru 2007. 

Datganiad cydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau

Y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (OSR) sy’n rheoleiddio ein hymarfer ystadegol. Mae’r Swyddfa’n gosod y safonau o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau y dylai holl gynhyrchwyr ystadegau swyddogol lynu wrthynt.

Cynhyrchir a chyhoeddir ein holl ystadegau yn unol â nifer o ddatganiadau a phrotocolau er mwyn gwella eu dibynadwyedd, eu hansawdd a’u gwerth. Nodir y rhain yn Natganiad Cydymffurfio Llywodraeth Cymru.

Mae’r ystadegau swyddogol achrededig hyn yn dangos y safonau a ddisgwylir o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus yn y ffyrdd canlynol.

Dibynadwyedd

Daw’r ystadegau hyn o amryw o ffynonellau sy’n deillio o systemau data gweinyddol a ddefnyddir ar draws y GIG yng Nghymru. Darperir data ar y gwasanaeth 111, galwadau ambiwlans 999 ac amseroedd ymateb ambiwlansys gan Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST), a chesglir yr holl ffynonellau data eraill gan Fyrddau Iechyd Lleol Cymru a’u darparu i Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) er mwyn eu galluogi i gael eu casglu ar lefel genedlaethol.

Bwrdd Safonau Gwybodaeth Cymru (WISB) (DHCW), sef ceidwad y Broses Sicrwydd Safonau Gwybodaeth, sy’n goruchwylio’r casgliadau data. Mae’r Bwrdd yn mandadu casgliadau data drwy’r GIG a Byrddau Iechyd Lleol, yn arfarnu safonau gwybodaeth ac yn rhoi sicrwydd ar faterion sy’n ymwneud â chyfrinachedd a chydsyniad.

Caiff y ffigurau a gyhoeddir eu crynhoi gan ddadansoddwyr proffesiynol, gan ddefnyddio’r data a’r dulliau cymhwyso diweddaraf sydd ar gael, yn ogystal â’u barn broffesiynol a’u sgiliau dadansoddi. 

Cyhoeddir yr ystadegau hyn ymlaen llaw yn yr adran Ystadegau ac Ymchwil ar wefan Llywodraeth Cymru. Mae mynediad at y data wrth brosesu wedi'i gyfyngu i’r rhai sy’n ymwneud â chynhyrchu’r ystadegau, sicrhau ansawdd ac at ddibenion gweithredol. Mae mynediad cyn rhyddhau’r ystadegau yn cael ei gyfyngu i dderbynyddion cymwys yn unol â’r Cod Ymarfer (Awdurdod Ystadegau'r DU).

Ansawdd

Mae ystadegau a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru yn glynu wrth y Strategaeth Rheoli Ansawdd Ystadegol sy’n ategu piler Ansawdd y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ac egwyddorion ansawdd allbynnau ystadegol y System Ystadegol Ewropeaidd.

Sefydlir safonau a diffiniadau data gan Fwrdd Safonau Gwybodaeth Cymru (WISB). Rhoddir arweiniad i’r sefydliadau sy’n darparu data, a darperir hyfforddiant i staff sy’n gyfrifol am gasglu’r data yn y tarddiad. Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn casglu ac yn dilysu data ac mae’n gwneud ymholiadau’n uniongyrchol i’r byrddau iechyd ynghylch data afreolaidd a data sydd ar goll. Cyn i Iechyd a Gofal Digidol Cymru ddarparu setiau data wedi’u dilysu i Lywodraeth Cymru, mae’r byrddau iechyd yn cymeradwyo’r holl ddata. Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn darparu setiau data wedi’u dilysu i Lywodraeth Cymru, lle mae dadansoddwyr yn prosesu’r data i gynhyrchu’r ystadegau cyfanredol yn y fformat sydd ei angen i’w cyhoeddi. Cyn eu cyhoeddi, mae Llywodraeth Cymru yn cynnal gwiriadau dilysu terfynol a gallai gyflwyno ymholiadau yn eu cylch i Iechyd a Gofal Digidol Cymru a’r byrddau iechyd. Mae uwch ystadegwyr yn llofnodi’r datganiad ystadegol cyn ei gyhoeddi.

Gwerth

Pwrpas y datganiad ystadegol hwn a’r data cysylltiedig a gyhoeddir ar StatsCymru yw: darparu tystiolaeth ar gyfer datblygu polisi; rhoi gwybod i’r cyfryngau a’r cyhoedd yn ehangach am weithgarwch a pherfformiad GIG Cymru; galluogi darparwyr gwasanaethau fel Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i fonitro eu perfformiad eu hunain.

Mae ystadegau dibynadwy ar faint y gweithgarwch a wneir yn y GIG, hyd rhestrau aros, amseroedd ymateb ambiwlansys ac amseroedd aros am driniaethau canser yn hanfodol i roi gwybod i ddefnyddwyr am gyflwr gwasanaethau’r GIG a pherfformiad Llywodraeth Cymru a’r Byrddau Iechyd Lleol. Mae’r gwasanaethau hyn yn cael effaith sylweddol ar fywydau dinasyddion, a rhoddir cryn sylw i’r pynciau hyn yn y cyfryngau ac mewn trafodaethau gwleidyddol.

Mae’r wybodaeth a gyhoeddir yma hefyd yn cefnogi cynllun hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol: Cymru Iachach.

Mae amseroldeb y data yn golygu bod yr wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei darparu gan ddefnyddio data dibynadwy. 

Mae croeso i chi gysylltu â ni’n uniongyrchol os oes gennych unrhyw sylwadau am y ffordd rydym yn bodloni’r safonau hyn. Fel arall, gallwch gysylltu â’r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau drwy anfon e-bost at regulation@statistics.gov.uk neu drwy wefan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn cyflwyno saith nod llesiant ar gyfer Cymru, sef: Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iachach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru wneud y canlynol: (a) cyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae’n rhaid eu cymhwyso er mwyn mesur cynnydd tuag at gyrraedd y nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio’r dangosyddion cenedlaethol, cyn gynted ag sy’n rhesymol ymarferol, rhaid iddynt wneud y canlynol: (a) cyhoeddi'r dangosyddion fel y’u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Gosodwyd y dangosyddion cenedlaethol hyn gerbron y Senedd yn 2021. Mae’r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli’r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau sydd wedi eu cynnwys yn y datganiad hwn hefyd ddarparu naratif i gefnogi’r dangosyddion cenedlaethol a gallent gael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus mewn cysylltiad â’u hasesiadau llesiant lleol a’u cynlluniau llesiant lleol.

Hoffem gael adborth gennych

Rydym yn croesawu unrhyw adborth am unrhyw agwedd ar yr ystadegau hyn. Gellir anfon yr adborth drwy e-bost i’r cyfeiriad hwn ystadegau.iechyd@llyw.cymru.

Y diweddariad nesaf

19 Mawrth 2026

Manylion cyswllt

Ystadegau Ysbytai
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 115/2025

Image