Dyletswydd bioamrywiaeth a chydnerthedd ecosystemau adran 6: canllawiau ar beth yw awdurdod cyhoeddus adran 6
Awdurdodau cyhoeddus sydd â dyletswydd bioamrywiaeth a chydnerthedd ecosystemau o dan Adran 6.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Beth yw awdurdod cyhoeddus adran 6
Mae adran 6(9) (ar legislation.gov.uk) ac adran 6(10) (ar legislation.gov.uk) o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn rhestru'r amrediad eang o awdurdodau cyhoeddus y mae'r ddyletswydd yn adran 6(1) yn gymwys iddynt, sy'n cynnwys Gweinidogion Cymru, cyrff cyhoeddus, deiliaid swyddi cyhoeddus ac ymgymerwyr statudol.
Mae'r ddyletswydd adran 6 yn berthnasol i awdurdodau cyhoeddus sy'n arfer swyddogaethau mewn perthynas â Chymru, megis awdurdodau lleol, cynghorau tref a chymuned, byrddau iechyd lleol, ymddiriedolaethau iechyd gwladol ac awdurdodau parciau cenedlaethol. Mae hefyd yn cynnwys y rhai nad ydynt efallai wedi'u lleoli yng Nghymru yn unig, ond sy'n arfer swyddogaethau mewn perthynas â Chymru, megis Ystâd y Goron ac asiantaethau Llywodraeth y DU fel y DVLA, Tŷ'r Cwmnïau a'r Swyddfa Eiddo Deallusol.
Mae'n bwysig nodi mai cyfrifoldeb pob sefydliad yw sicrhau eu bod yn deall eu dyletswyddau cyfreithiol eu hunain a gwybod a ydynt yn awdurdod cyhoeddus at ddibenion adran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Mae'r ddogfen hon yn ganllaw i ddarparu rhywfaint o gymorth ond, os oes unrhyw amheuaeth ynghylch sefydliad, rhaid iddynt geisio eu cyngor cyfreithiol annibynnol eu hunain.
Y diffiniad o awdurdod cyhoeddus adran 6
Mae adran 6(9) a (10) yn nodi'r sefydliadau sy'n ddarostyngedig i'r ddyletswydd, naill ai drwy eu henwi'n benodol neu drwy eu categoreiddio'n ehangach.
Er mwyn helpu i benderfynu a yw eich sefydliad yn ddarostyngedig i'r ddyletswydd adran 6, dylech wirio'r awdurdodau cyhoeddus a enwir wedi'u rhestru yn Adran A isod ac, os nad yw'n cael ei restru, gwirio a yw'n dod o fewn y categorïau o awdurdodau cyhoeddus a restrir yn Adran B isod.
Os yw sefydliad neu berson yn arfer swyddogaethau mewn perthynas â Chymru ac o fewn un o'r diffiniadau isod, mae'n ddarostyngedig i ddyletswydd adran 6(1).
Adran A
Awdurdodau cyhoeddus a enwir yn benodol
- Gweinidogion Cymru
- Prif Weinidog Cymru
- Cwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru
- Gweinidog y Goron
- adrannau'r llywodraeth
- awdurdod lleol, sef cyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol neu gyngor cymuned yng Nghymru
- awdurdod cynllunio lleol
- cyd-bwyllgor corfforedig
Adran B
Categorïau o awdurdodau cyhoeddus
- corff cyhoeddus
- deiliad swydd:
- o dan y goron
- a grëwyd neu sy’n parhau i fodoli o ganlyniad i Ddeddf gyffredinol gyhoeddus gan Senedd Cymru neu Senedd y DU, neu
- swydd y mae'r tâl cydnabyddiaeth yn cael ei dalu ag arian a roddir gan Senedd Cymru neu Senedd y DU
- ymgymerwr statudol
Diffiniad adran 6(10) o "ymgymerwr statudol " yw:
- person sydd wedi ei awdurdodi gan unrhyw ddeddfiad i weithredu unrhyw ymgymeriad rheilffordd, rheilffordd ysgafn, tramffordd, cludiant ar ffyrdd, cludiant ar ddŵr, camlas, mordwyo mewndirol, doc, harbwr, pier neu oleudy neu unrhyw ymgymeriad ar gyfer cyflenwi pŵer hydrolig
- gweithredydd un o rwydweithiau’r cod cyfathrebu electronig (o fewn ystyr paragraff 1(1) o Atodlen 17 i Ddeddf Cyfathrebiadau 2003 (ar legislation.gov.uk)
- gweithredydd maes awyr (o fewn ystyr Deddf Meysydd Awyr 1986 (t.31)) sy’n gweithredu maes awyr y mae R (o fewn ystyr Deddf Meysydd Awyr 1986 (t. 31)) sy'n gweithredu maes awyr y mae rhan 5 o’r Ddeddf honno (ar legislation.gov.uk)o yn gymwys iddo
- trawsgludwr nwy (o fewn ystyr Rhan 1 o Ddeddf Nwy 1986 (ar legislation.gov.uk). Mae Ofgem yn cynnal rhestr o drwyddedeion nwy
- deiliad trwydded o dan adran 6(1) o Ddeddf Trydan 1989 (ar legislation.gov.uk). Mae Ofgem yn cynnal rhestr o gyflenwyr trydan
- ymgymerwr dŵr neu ymgymerwr carthffosiaeth. Mae Ofwat yn cynnal rhestr o ymgymerwyr dŵr a charthffosiaeth
- yr Awdurdod Hedfan Sifil neu ddeiliad trwydded o dan Bennod 1 o Ran 1 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000 (t.38) (ar legislation.gov.uk), i’r graddau y bo’r person sy’n dal y drwydded yn cynnal gweithgareddau a awdurdodir ganddi
- darparwr gwasanaeth cyffredinol o fewn ystyr Rhan 3 o Ddeddf Gwasanaethau Post 2011 (ar legislation.gov.uk)
Sylwer, pan fydd dolen wefan i restr o sefydliadau, dim ond y rhai sy'n bodloni un o ddiffiniadau adran 6 ac sy'n arfer swyddogaethau mewn perthynas â Chymru y mae'n ofynnol iddynt gydymffurfio â'r dyletswyddau yn adran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.
