Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Rhagfyr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Wrth nodi Diwrnod Rhyngwladol y Mudwyr, mae'n bleser gennyf gyhoeddi Diweddariad Blynyddol eleni ar Gynnydd Fframwaith Integreiddio Mudwyr Cymru. Mae hwn yn gyfle amserol i gydnabod a dathlu'r gwahanol ffyrdd y mae cymunedau mudol yn cyfoethogi ac yn cryfhau bywyd yng Nghymru.

Dros y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi cryfhau'r sylfaen dystiolaeth sy'n sail i'r Fframwaith, ehangu ein gallu i ddeall profiadau mudwyr, a chymryd camau pwysig i wella ansawdd a chysondeb data ar draws meysydd polisi allweddol.

Mae'r gwaith hwn yn adlewyrchu ein hymrwymiad parhaus i Gymru wrth-hiliol a'n gweledigaeth o Gymru fel Cenedl Noddfa; lle mae pobl sy'n chwilio am ddiogelwch a chyfleoedd newydd yn cael eu croesawu, eu cefnogi ac yn gallu ffynnu. Mae mudwyr yn gwneud cyfraniad enfawr at ein cymunedau, ein gwasanaethau cyhoeddus a'n heconomi, ac mae'r cynnydd hwn yn helpu i sicrhau bod ein polisïau yn cydnabod, yn adlewyrchu ac yn cefnogi'r cyfraniad hwnnw'n well.

Byddwn yn cario'r momentwm hwn i 2026, gan ganolbwyntio ar ddata cliriach a mwy hygyrch, cydweithredu cryfach â phartneriaid ac arbenigwyr ar sail eu profiad, a gwaith pellach i wella'r dystiolaeth sy'n cefnogi’r broses o integreiddio mudwyr ledled Cymru.

Mae'r Diweddariad Blynyddol ar y Cynnydd, ynghyd â diweddariadau yn y dyfodol, ar gael ar ein tudalen we bwrpasol: Fframwaith Integreiddio Mudwyr: diweddariad cynnydd 2025 | LLYW.CYMRU