Neidio i'r prif gynnwy

Yn ystod y chwarter a ddaeth i ben ym mis Medi 2025

  • Cafodd 3,869 o ysmygwyr sy’n byw yng Nghymru driniaeth gan wasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu.
  • Gwnaeth 1.48% o’r amcangyfrif o nifer yr ysmygwyr sy’n byw yng Nghymru ymgais i roi’r gorau drwy’r gwasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu.
  • Cadarnhawyd drwy fonitro carbon monocsid bod 907 (23.44%) o’r ysmygwyr sy’n byw yng Nghymru a gafodd driniaeth yn dal i lwyddo i roi’r gorau iddi 4 wythnos ar ôl y dyddiad rhoi’r gorau i ysmygu.

Yn ystod y flwyddyn ariannol gyfredol (mis Ebrill 2025 i fis Medi 2025)

  • Cafodd 7,988 o’r ysmygwyr sy’n byw yng Nghymru driniaeth gan wasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu.
  • Gwnaeth 3.05% o’r amcangyfrif o nifer yr ysmygwyr sy’n byw yng Nghymru ymgais i roi’r gorau iddi drwy’r gwasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu.
  • Cadarnhawyd drwy fonitro carbon monocsid bod 1,868 (23.39%) o’r ysmygwyr sy’n byw yng Nghymru a gafodd driniaeth yn dal i lwyddo i roi’r gorau iddi 4 wythnos ar ôl y dyddiad rhoi’r gorau i ysmygu.

Manylion cyswllt

Ystadegau Perfformiad GIG Cymru
E-bost: hss.performance@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099