Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r canlynol yn rhoi crynodebau o'r penderfyniadau a wnaed gan weinidogion.

Darllen manylion ar y ddalen hon

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Ionawr 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Manylion

Search our decision reports using Ctrl + F.

Dyraniad o’r Gronfa Ddiogelwch Integredig

18 Chwefror 2026

Mae’r Prif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg wedi cymeradwyo dyrannu £475,000 o Gronfa Ddiogelwch Integredig Llywodraeth y DU i Uned Seiberwydnwch Llywodraeth Cymru, i gefnogi’r gwaith o gyflawni prosiectau seiberwydnwch hollbwysig.

Ailbenodi Aelod Annibynnol (Prifysgol) i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

18 Chwefror 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi ailbenodi Chantal Patel am 4 blynedd o 2 Awst 2026 hyd 1 Awst 2030.

Peilot Animateur Pysgodfeydd Cymru

18 Chwefror 2026

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i estyniad 12 mis ar gyfer Peilot Animateur Pysgodfeydd Cymru.

Setliad Taliad sy’n ddyledus ym Mro Morgannwg

18 Chwefror 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cymeradwyo’r setliad cynnar o daliad sy’n ddyledus mewn cysylltiad ag eiddo ym Mro Morgannwg.

Gwaith Seilwaith ym Mharc Busnes Bro Tathan

18 Chwefror 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cymeradwyo gwariant i gwblhau gwaith ym Mharc Busnes Bro Tathan.

Ariannu Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG

18 Chwefror 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG i gyflawni gweithgarwch yn ymwneud â rhoi organau a meinweoedd ar gyfer 2026 i 2027.

Dyraniadau Cyllid Terfynol Cymorth ac Atal Digartrefedd

17 Chwefror 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg wedi cytuno i ddyraniadau cyllid Cymorth ac Atal Digartrefedd 2026 i 2027, gan gynnwys ar gyfer y Grant Cymorth Tai.

Cytuno ar gyllid i estyn y Gwasanaeth Di-waith

17 Chwefror 2026

Mae’r Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno i estyn cymorth y Gwasanaeth Di-waith o fis Awst 2026 i fis Mawrth 2027 ac i ariannu gwerthusiad o’r Gwasanaeth Di-waith.  

Trydan Gwyrdd Cymru

17 Chwefror 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno i ariannu Trydan Gwyrdd Cymru yn 2025 i 2026.

Ailddyrannu Cyllid i Gefnogi Cymorth Bwyd Brys

17 Chwefror 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip wedi cytuno i ddarparu cyllid canol blwyddyn ychwanegol i gefnogi gweithgareddau sy’n mynd i’r afael â thlodi bwyd.

Taliadau Busnes a Rhanbarthau

17 Chwefror 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cymeradwyo taliadau ar gyfer 2026 i 2027 i’r Is-adran Busnes a Rhanbarthau.

Cyllid i gefnogi datblygiad rhaglen rhwng yr Heddlu ac Ysgolion

16 Chwefror 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo £500,000 yn 2025 hyd 2026 a £1,000,000 yn 2026 hyd 2027 er mwyn cefnogi cydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a phedwar awdurdod yr heddlu yng Nghymru i gefnogi ac atgyfnerthu cydweithredu gyda phedwar awdurdod yr heddlu, Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, Awdurdodau Lleol ac Ysgolion yng Nghymru i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau plant a phobl ifanc.

Cam 1, Canolfan Ddiagnostig Gymunedol

16 Chwefror 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer Cam 1, Canolfan Ddiagnostig Gymunedol ym Mharc Iechyd Llantrisant.

Cynlluniau Cyfarpar a Chyfalaf Digidol Diwedd Blwyddyn

16 Chwefror 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro i brynu cyfarpar amrywiol a chyflenwi cynigion digidol erbyn 31 Mawrth 2026.

Grant Cyfalaf Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr

16 Chwefror 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip wedi cymeradwyo cynigion cyllid cyfalaf i ailbroffilio grantiau a ddyfarnwyd i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful ar gyfer 2025 hyd 2026 a 2026 hyd 2027.

Cais i ddiwygio’r Rhestr Cymwysterau â Blaenoriaeth ar gyfer Prentisiaethau Adeiladu

16 Chwefror 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio a’r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi cytuno i ddiwygio’r Rhestr o Gymwysterau â Blaenoriaeth er mwyn cefnogi newidiadau i brentisiaethau adeiladu, gan gynnwys cyflwyno cymwysterau Lefel 2 newydd a chymwysterau Lefel 3 diwygiedig. Maent hefyd wedi cytuno i danysgrifennu costau posibl sydd ynghlwm wrth ddatblygu cymwysterau hyd at £120,000 yn 2025 hyd 2026, a bydd £120,000 yn ychwanegol yn cael ei ymrwymo yn 2026 hyd 2027 o’r gyllideb Prentisiaethau.

Caniatâd Cynllunio

16 Chwefror 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi rhoi caniatâd cynllunio, yn amodol ar amodau ar gyfer cais gan Lightsource BP i greu fferm solar gyda lle storio batri ar dir ar Ystad Plas Power, Ffordd Rhuthun, Wrecsam.

Cronfa Tai â Gofal

16 Chwefror 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo £10,014,065 ar gyfer pedwar cynllun ar ddeg ar draws 6 rhanbarth yng Nghymru a £3,300,000 ar gyfer y Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl. Mae Prif Weinidog Cymru wedi cymeradwyo £663,380 ar gyfer un cynllun ar draws 1 rhanbarth yng Nghymru gan ei fod o fewn etholaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol.

Egwyddorion Cydlyniant

16 Chwefror 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip wedi cymeradwyo dwy ddogfen am Egwyddorion Cydlyniant.

Canllaw Ymarferol ar gyfer y Trydydd Sector

16 Chwefror 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip wedi cymeradwyo canllaw er mwyn helpu sefydliadau’r trydydd sector i ddiogelu eu hunain rhag casineb ac aflonyddu. 

Rheolladau Deddf Gofal Plant 2006 (Asesiad Awdurdod Lleol) (Cymru) (Diwygio) 2026

12 Chwefror 2026

Mae’r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno ar Reolladau Deddf Gofal Plant 2006 (Asesiad Awdurdod Lleol) (Cymru) (Diwygio) 2026

Ail Gyllideb Atodol Iechyd a Gofal Cymdeithasol

12 Chwefror 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol a’r Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cytuno ar Ail Gyllideb Atodol Prif Grŵp Gwariant Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2025 i 2026. 

Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol

11 Chwefror 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip wedi cytuno i ddyfarnu cyllid i EYST i gyflawni gweithgareddau cydraddoldeb hil sy'n cyd-fynd â nodau Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.  

Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol

11 Chwefror 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip wedi cytuno i ddyfarnu cyllid i Race Equality First i gyflawni gweithgareddau cydraddoldeb hil sy'n cyd-fynd â nodau Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.  

Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol

11 Chwefror 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip wedi cytuno i ddyfarnu cyllid i Race Council Cymru i gyflawni gweithgareddau cydraddoldeb hil sy'n cyd-fynd â nodau Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.  

Cynllun Iechyd Lloegr

11 Chwefror 2026

Mae'r Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cytuno i swyddogion archwilio opsiynau ar gyfer cydweithio â Llywodraeth y DU ar faes o fewn eu Cynllun Iechyd 10 Mlynedd ar gyfer Lloegr.

Diwygiadau i'r Bil Dedfrydu

11 Chwefror 2026

Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip i ymrwymo £80,000 rhwng 2026 a 2027 tuag at gost ymchwil i effaith diwygiadau Bil Dedfrydu Llywodraeth y DU ar wasanaethau datganoledig.

Safonau mewn ysgolion a cholegau

11 Chwefror 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno i gefnogi'r gwaith o ddarparu Rhaglen Gyfathrebu’r Llywodraeth, yn enwedig safonau mewn ysgolion a cholegau.

Memorandwm Dealltwriaeth wedi’i Ddiweddaru

11 Chwefror 2026

Mae'r Gweinidog dros Ddiwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi cytuno ar y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth diwygiedig rhwng y BBC a Chymru Greadigol.

Cymorth pellach ar gyfer darlledu a’r cyfryngau

11 Chwefror 2026

Mae'r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi cytuno i gefnogi darlledu a'r cyfryngau ymhellach yn 2025 i 2026.

Isafswm Lwfansau Cenedlaethol ar gyfer Gofalwyr Maeth

11 Chwefror 2026

Mae'r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo'r Isafswm Lwfansau Cenedlaethol ar gyfer Gofalwyr Maeth ar gyfer 2026 i 2027.

Ail-benodi Cadeirydd i Fwrdd Iechyd Addysgu Powys

11 Chwefror 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi ailbenodi Carl Cooper am 4 blynedd o 17 Hydref 2026 tan 16 Hydref 2030.

Adolygiad y Pwyllgor Cynghori ar Ymfudo o'r Rhestr Prinder Dros Dro

11 Chwefror 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch wedi cytuno ar yr ymateb i adolygiad y Pwyllgor Cynghori ar Ymfudo o'r Rhestr Prinder Dros Dro.

Gwasanaethau Gofal a Chymorth Rheoleiddiedig

9 Chwefror 2026

Mae’r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo: y Cod Ymarfer ar Sicrhau Ansawdd a Rheoli Perfformiad, Uwchgyfeirio Pryderon, a Chau Gwasanaethau Gofal a Chymorth Rheoleiddiedig a’r Memorandwm Esboniadol cysylltiedig; Cod Ymarfer ar Sicrhau Ansawdd a Rheoli Perfformiad, Uwchgyfeirio Pryderon a Chau Gwasanaethau, mewn perthynas â Gwasanaethau Gofal a Chymorth Rheoleiddiedig – Gorchymyn (Diwrnod Penodedig) (Cymru) 2026, a gwneud Cyfarwyddiadau ar gyfer Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau’r GIG  yng Nghymru o ran Sicrhau Ansawdd a Rheoli Perfformiad, Uwchgyfeirio Pryderon, a Chau Gwasanaethau Gofal a Chymorth Rheoleiddiedig 2026.

Cynllun Tir ar gyfer Tai

9 Chwefror 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg wedi cymeradwyo ceisiadau am fenthyciad o dan y Cynllun Tir ar gyfer Tai, a chais am £11.223m ychwanegol o gyllid FTC ar gyfer y cynllun yn 2025 i 2026, ynghyd â chytuno’r prifswm ar gyfer cynnig estyniadau i ddyfarniadau benthyciadau blaenorol lle mae’r meini prawf yn cael eu bodloni.

Trawsnewid Trefi

9 Chwefror 2026

Mae’r Prif Weinidog wedi cymeradwyo cyllid Trawsnewid Trefi i gefnogi’r gwaith o ddatblygu, dylunio, a chynllunio gwaith ar gyfer 14 y Stryd Fawr, Casnewydd. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth leol a Thai wedi cymeradwyo cyllid Trawsnewid Trefi i helpu i Gaffael Eiddo yn Nhredegar; ailddatblygu lloriau uchaf y clwb nos Barcode gynt ym Merthyr Tudful; cefnogi gwelliannau allanol i Theatr y Metropole yn Abertyleri; ac adnewyddu Adeiladau’r Emporium ym Margoed. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai hefyd wedi cymeradwyo adennill cyllid a ddyfarnwyd yn wreiddiol i Ferthyr Tydfil.

Trawsnewid Trefi

9 Chwefror 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai wedi cymeradwyo cyllid Trawsnewid Trefi ar gyfer cefnogi cam 1 Porth y Gogledd ym Mhontypridd; ailddatblygu adeilad rhestredig Gradd 1 Park House yng Nghaerdydd; a chefnogi’r gwaith o ailddatblygu Civic Square ym Mhort Talbot.

Sefydliad Iechyd y Byd

9 Chwefror 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i adnewyddu’r  Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Swyddfa Ranbarthol Ewrop Sefydliad Iechyd y Byd.

Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo

9 Chwefror 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai wedi cymeradwyo cyllid ychwanegol ar gyfer Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo i weithredu 10 o brosiectau grantiau cymunedol yn 2025 i 2026.

Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr Estynedig ar gyfer Pecynwaith

9 Chwefror 2026

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog wedi cytuno â’r argymhelliad i gynnal ymgynghoriad 12 wythnos ar yr opsiynau i ehangu cyfrifoldeb cynhyrchwyr estynedig ar gyfer pecynwaith i gynnwys gwastraff pecynnau sydd wedi eu taflu er mwyn helpu i fwrw ymlaen â hyn yn y dyfodol.

Ailbenodi Aelod i Fwrdd Gofal Cymdeithasol Cymru

9 Chwefror 2026

Mae’r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo ailbenodi Helen Mary Jones yn Aelod o Fwrdd Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer tymor arall o 4 blynedd.

Setliad Terfynol yr Heddlu

9 Chwefror 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai wedi cytuno ar y sail ar gyfer cyfrifyddu a dyrannu Setliad Terfynol yr Heddlu 2026 i 2027.

Dyfarniad Cyflog ar gyfer Cyflogau Gweithredol ac Uwch ac Adolygiad o Swyddi

9 Chwefror 2026

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno â chynnydd o 3.25% i staff y GIG ar delerau ac amodau cyflog Gweithredol ac Uwch ar gyfer 2025 i 2026. Hefyd, mae’r Gweinidog wedi cytuno â’r argymhellion sy’n deillio o adolygiad annibynnol, ac wedi cytuno ar gynllun gweithredu tri cham (2025 i 2027) i ddatblygu pecyn o ddiwygiadau cynhwysfawr ac ystyrlon ar gyfer trefniadau cyflog a chontract Swyddi Gweithredol ac Uwch ar draws GIG Cymru.

Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Gofalwyr Di-dâl

9 Chwefror 2026

Mae’r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo’r ymgynghoriad ar y Strategaeth Genedlaethol ddrafft ar gyfer Gofalwyr Di-dâl.

Cyfarfod Panel Buddsoddi a gynhaliwyd ar 30 Ionawr 2026

9 Chwefror 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio a’r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi cytuno ar Gyllid Cynhyrchu Creadigol Dyfodol yr Economi ar gyfer prosiect yng Nghaerdydd.

Groundwork Cymru

9 Chwefror 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer 2026 i 2027 tuag at barhau i weithredu Groundwork Cymru.

Contract Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus

5 Chwefror 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno i ddechrau ar broses ailgaffael contract Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus.  

Prifddinas-Ranbarth Caerdydd

5 Chwefror 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno i ryddhau cyllid cyfalaf 2025 i 2026 ar gyfer Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.

Ailbenodi i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

5 Chwefror 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi ailbenodi Michael Grey yn Aelod Cyswllt o’r Bwrdd (Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol), am 2 flynedd o 30 Ionawr 2026 tan 29 Ionawr 2028.

Cyllid ar gyfer Prosiectau Cyfalaf Gofal Plant a’r Blynyddoedd Cynnar

5 Chwefror 2026

Mae'r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo'r cyllid o £1,250,000 ar gyfer Cylch Chwarae Mochdre, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, a'r ddau amrywiad i'r cyllid ar gyfer rhaglenni a ariannwyd yn flaenorol ar gyfer Cyngor Caerdydd, cyfanswm o £1,764,065.

Cyflawni cynllun y gweithlu Cymraeg mewn Addysg

5 Chwefror 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno i ddarparu £7.870 miliwn yn 2026 i 2027 a £1.640 miliwn yn 2027 i 2028 i gefnogi'r gwaith o gyflawni cynllun y gweithlu Cymraeg mewn addysg.

Cyllidebau Rhaglenni’r Gyfarwyddiaeth Ansawdd a Nyrsio

5 Chwefror 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo gwariant o £6.886 miliwn o'r cyllidebau Ansawdd a Nyrsio ar gyfer 2025 i 2026.

Setliad Terfynol Llywodraeth Leol

5 Chwefror 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar y sail ar gyfer cyfrifo a dyrannu Setliad Llywodraeth Leol Terfynol 2026 i 2027. 

Cymraeg 2050

4 Chwefror 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno i’r dyraniadau cyllideb a grant terfynol ar gyfer 2026 i 2027.

Tanwariant Cymraeg 2050

4 Chwefror 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg wedi cytuno i ailbwrpasu tanwariant o fewn maes cyllideb y Gymraeg ar gyfer 2025 i 2026.

Dirprwyadau Cymraeg 2050

4 Chwefror 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno i'r dyraniad arfaethedig o wariant cyllideb refeniw a chyfalaf Cymraeg 2050 ar gyfer 2026 i 2027 o dan gyllidebau y Gymraeg, Comisiynydd y Gymraeg a'r Gymraeg mewn Addysg a chylch cyllido tair blynedd ar gyfer derbynwyr grant Cymraeg 2050 o 2026 i 2027.

Dysgu Proffesiynol Cam 2

4 Chwefror 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer CBAC i gefnogi'r gwaith o gyflwyno Dysgu Proffesiynol Cam 2 ar gyfer y TGAU ‘gwneud-i-Gymru’ newydd.

Proses apelio annibynnol ar gyfer grantiau a thaliadau gwledig

2 Chwefror 2026

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i dderbyn argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i wrthod apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i wrthod saith hawliad Grantiau Bach Glastir.

Proses apelio annibynnol ar gyfer grantiau a thaliadau gwledig

2 Chwefror 2026

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i dderbyn argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i dderbyn yn rhannol apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i adennill taliadau ar gyfer eitemau Gwaith Cyfalaf Glastir Uwch yn dilyn arolygiad ar y safle.

Penodi Cadeirydd i'r Athrofa Dysgu Cymraeg Genedlaethol

2 Chwefror 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg wedi penodi Llinos Roberts am 5 mlynedd o 1 Ebrill 2026 i 31 Mawrth 2031.

Estyniad i’r Ganolfan Ddydd Haematoleg yn Ysbyty Athrofaol Cymru

2 Chwefror 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo darparu hyd at £2.666 miliwn ar draws 2025 i 2026 a 2026 i 2027 ar gyfer yr estyniad i’r Ganolfan Ddydd Haematoleg ac wedi cytuno i ddyfarnu'r contract cysylltiedig sy'n ofynnol i gyflawni'r cynlluniau.

Theatr fasgwlaidd ymroddedig yn Ysbyty Treforys

2 Chwefror 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo darparu hyd at £10.436 miliwn ar draws 2025 i 2026 a 2026 i 2027 ar gyfer datblygu Theatr Hybrid Fasgwlaidd bwrpasol yn Ysbyty Treforys, Abertawe.

Uned Ddiogel Isel Taith Newydd

2 Chwefror 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo darparu hyd at £5.935 miliwn ar draws 2025 i 2026 a 2026 i 2027 ar gyfer adfer ward Cedar yn Uned Ddiogel Isel Taith Newydd ac wedi cytuno i ddyfarnu'r contract cysylltiedig sy'n ofynnol i gyflawni'r cynllun.

Rhaglen ddymchwel yn Ysbyty Athrofaol Cymru

2 Chwefror 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo darparu hyd at £1.834 miliwn ar draws 2025, 2026 a 2026 i 2027, ar gyfer y rhaglen ddymchwel yn Ysbyty Athrofaol Cymru ac wedi cytuno i ddyfarnu'r contract cysylltiedig sy'n ofynnol i gyflawni'r cynllun. 

Deallusrwydd Artiffisial 

30 Ionawr 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno ar gefnogaeth i weithgareddau Deallusrwydd Artiffisial yn Academi Ddelweddu Genedlaethol Cymru.

System Gwybodaeth Gofal Dwys Cymru

30 Ionawr 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol a'r Gweinidog Iechyd Meddwl a Lles wedi cytuno i weithredu System Gwybodaeth Gofal Dwys Cymru yn raddol, gan gynnwys cynnig cyllid a threfniadau llywodraethu ar gyfer y rhaglen.

Iechyd Meddwl

30 Ionawr 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol a'r Gweinidog Iechyd Meddwl a Lles wedi cytuno ar ddyraniad cyllid iechyd meddwl ar gyfer 2026 i 2027.

Ailbenodiad i Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

30 Ionawr 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi ailbenodi Hannah Rowan yn Gyfarwyddwr Anweithredol, am 4 blynedd o 1 Ebrill 2026 tan 31 Mawrth 2030.

Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol

29 Ionawr 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno ar gyllid ar gyfer y Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol ar gyfer 2026 i 2027.

Ailbenodi Aelod Annibynnol i Addysg a Gwella Iechyd Cymru

29 Ionawr 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi ailbenodi John Gammon am 4 blynedd o 1 Awst 2026 a 31 Gorffennaf 2030.

Rhaglen Frechu rhag y Feirws Syncytiol Anadlol

29 Ionawr 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno i gyhoeddi cyfarwyddydau deddfwriaethol a manyleb gwasanaeth wedi'u diweddaru ar gyfer y rhaglen frechu rhag y Feirws Syncytiol Anadlol o fis Chwefror 2026.

Tirweddau Dynodedig a Mynediad i Gefn Gwlad

29 Ionawr 2026

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cymeradwyo dyraniadau cyllid refeniw a chyfalaf ar gyfer tirweddau dynodedig a mynediad i gefn gwlad ar gyfer 2026 i 2027.

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys – Cam Ad-drefnu 2b Ysbyty Coffa Llandrindod

29 Ionawr 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid ar gyfer Bwrdd Iechyd Addysgu Powys ar gyfer gwaith gwella yn Ysbyty Coffa Llandrindod.

Cyfarfod y Panel Buddsoddi ar 16 Rhagfyr 2025

29 Ionawr 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno ar gyllid o Gronfa Dyfodol yr Economi ar gyfer prosiect yn Wrecsam.

Cyllid ar gyfer swyddfa Bae Baglan

29 Ionawr 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip wedi cytuno i ddyrannu £25k o gyllid cyfalaf ar gyfer safle Llais, Corff Llais y Dinesydd Cymru, yng Nghanolfan Arloesi Bae Baglan ar gyfer blwyddyn ariannol 2025 i 2026.

Trawsnewid Trefi - Trefi Smart Cymru

29 Ionawr 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai wedi cytuno y bydd y contract gyda Menter Môn ar gyfer cyflawni rhaglen Trefi Smart Trawsnewid Trefi Cymru yn dod i ben fel y bwriadwyd ar 31 Mawrth 2026.

Diwygio'r diffiniad o blant milwyr

29 Ionawr 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno i adolygu'r diffiniad o 'blentyn milwr' o fis Ebrill 2026 ymlaen. Mae newidiadau allweddol yn cynnwys estyn cymhwystra i hyd at 18 oed a chaniatáu i blant cyn-filwyr yn yr ysgol gael mynediad at gymorth am hyd at chwe blynedd ar ôl gadael y gwasanaeth.

Ardal Prawf Ynni Morol – Fforwm Arfordir Sir Benfro

29 Ionawr 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno ar gymorth grant refeniw ar gyfer blwyddyn ariannol 2025 i 2026 i Fforwm Arfordir Sir Benfro ar gyfer gweithredu'r Prosiect Ardal Prawf Ynni Morol.

Cymorth i'r sector Cynghorau Cymunedol a Thref

29 Ionawr 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i barhau â'r gefnogaeth i'r sector cymuned a thref yn 2026 i 2027. Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet hefyd ar flwyddyn ychwanegol o gyllid 'mewn egwyddor' i Un Llais Cymru, corff aelodaeth y sector, a Chymdeithas Clercod Cynghorau Lleol, os derbynnir cynlluniau cyflawni derbyniol.

Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025

28 Ionawr 2026

Mae'r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno ar y cynigion pellach ar gyfer astudiaeth ddilynol i lywio gwerthusiad o ddileu elw.

Sefydlu Bwrdd Cynghori Allanol y Cynllun Hawliau Pobl Anabl

28 Ionawr 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd, a'r Prif Chwip wedi cymeradwyo'r Cylch Gorchwyl, y broses aelodaeth, a'r costau ar gyfer Bwrdd Cynghori Allanol y Cynllun Hawliau Pobl Anabl.

Ysbyty Gwynedd - Safle Glanio Hofrenyddion Ysbyty

28 Ionawr 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyllid cyfalaf o £0.982miliwn ar gyfer ailddatblygu'r Helipad yn Ysbyty Gwynedd rhwng 2026 a 2027.

Perthynas Strategol Busnes yn y Gymuned

28 Ionawr 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cymeradwyo cyllideb o £20,000 ar gyfer Perthynas Strategol Busnes yn y Gymuned rhwng 2026 a 2027.

Rhaglen Gydweithredu Cymru ar Asedau (ACPW) 3

28 Ionawr 2026

Mae'r Prif Weinidog wedi cytuno ar argymhellion Panel Grant ACPW3 i ddyfarnu cyfanswm o £126,980 o refeniw cynllun grant ACPW3 ar gyfer y flwyddyn ariannol 2025 i 2026.

Trosglwyddo'r Gronfa Tai â Gofal i Iechyd a Gofal Cymdeithasol

28 Ionawr 2026

Mae Ysgrifenyddion y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol, Cyllid a'r Gymraeg ac Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo trosglwyddo £175,000 o Tai a Llywodraeth Leol i Iechyd a Gofal Cymdeithasol fel rhan o ymarfer yr ail gyllideb atodol ar gyfer 2025 i 2026.

Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol

28 Ionawr 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio a'r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi cytuno i ymestyn y trefniant gyda Skills Development Scotland ar gyfer 2026 i 2027 i barhau i gynnal rheolaeth y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol, a chyllid cysylltiedig.

Cyllid Cyfalaf ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Plant

28 Ionawr 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip wedi cytuno i ddarparu cyllid cyfalaf o £15k i ariannu offer TG newydd yn Swyddfa'r Comisiynydd Plant rhwng 2025 a 2026.

Penodi Aelod Cyswllt i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

28 Ionawr 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno i ailbenodi Lisa Curtis-Jones yn Aelod Cyswllt o'r Bwrdd yn swydd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg am gyfnod o dair blynedd.

Hyfforddiant arweinyddiaeth wrth-hiliol CLlLC

28 Ionawr 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai, Llywodraeth Leol a Chynllunio ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg wedi cytuno ar gyllid o £60,000 i CLlLC i gyflwyno rhaglen hyfforddiant arweinyddiaeth wrth-hiliaeth genedlaethol ar gyfer uwch arweinwyr awdurdodau lleol.

Penodi Cadeirydd y Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol

28 Ionawr 2026

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi penodi Roisin Willmott am 3 blynedd o 01 Chwefror 2026 tan 31 Ionawr 2029.

Cais cynllunio a alwyd i mewn

27 Ionawr 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi gwrthod caniatâd cynllunio ar gyfer un annedd sengl a dwy annedd bâr ar dir ger 37 Cader Avenue, Bae Cinmel, Conwy.

Rhaglen(ni) ôl-16

27 Ionawr 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer rhaglenni astudio ôl-16 mewn sefydliadau Addysg Bellach Arbenigol.  

Rheoleiddio’r proffesiwn rheolaeth adeiladu

27 Ionawr 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno i ddynodi swyddogaethau ar gyfer rheoleiddio'r proffesiwn rheolaeth adeiladu i'r Rheoleiddiwr Diogelwch Adeiladu, a dod â'r cytundebau presennol â'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch i ben ar gyfer y swyddogaethau hynny.

Eurogames 2027

27 Ionawr 2026

Mae'r Prif Weinidog, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg, a’r Gweinidog dros Ddiwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi cytuno ar £110,000 o gyllid i gefnogi Eurogames 2027 yng Nghaerdydd.

Astudiaeth Gwydnwch Menai

27 Ionawr 2026

Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, ar ran Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, i gyhoeddi argymhellion Astudiaeth Gwydnwch Menai a chamau nesaf gwaith datblygu’r opsiynau a ddewiswyd.

Rhaglen dathlu 40ain mlynedd o ymrwymiad i CEDAW

27 Ionawr 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip wedi cytuno ar gyllid o hyd at £15,000 i gefnogi rhaglen Cyngor Caerdydd i ddathlu 40ain mlynedd ers ymrwymo ei deyrngarwch i'r Confensiwn ar Ddiddymu pob math o Wahaniaethu yn erbyn Menywod (CEDAW), a chaiff ei chynnal yng Nghaerdydd ym mis Mawrth 2026.

Grid trydan

26 Ionawr 2026

Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio i gyhoeddi adroddiad y Grŵp Cynghori Annibynnol ar Grid Trydan y Dyfodol i Gymru.

Ardrethi annomestig

26 Ionawr 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg wedi cytuno ar ganllawiau ar gadw ardrethi annomestig a rhyddhad ar gyfer Parthau Buddsoddi yng Nghymru.

Ambiwlans Awyr Cymru

26 Ionawr 2026

Mae'r Gweinidog dros Ddiwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi cymeradwyo rhodd Cadw o eitemau stoc sydd wedi dyddio, gwerth £1,571 i elusen enwebedig Llywodraeth Cymru, Ambiwlans Awyr Cymru.

Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol

26 Ionawr 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip wedi cytuno i ail-bwrpasu tanwariant o fewn y gyllideb Cyfiawnder Cymdeithasol ar gyfer 2025 i 2026 i gefnogi prosiectau cyllido cyfalaf ychwanegol o fewn y portffolio Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol.

Tair ar y Cyd

26 Ionawr 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo cyllid ychwanegol ar gyfer Partneriaeth Tai ar y Cyd.

Gweithgarwch Gorfodi gan Awdurdodau Lleol ym maes Iechyd a Lles Anifeiliaid

26 Ionawr 2026

Mae Dirprwy Brif Weinidog Cymru ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer 2025 i 2026 a 2026 i 2027i banel Penaethiaid Safonau Masnachu fel y gall Awdurdodau Lleol gynnal gweithgarwch gorfodi ym maes iechyd a lles anifeiliaid sy’n ychwanegol at eu cyfrifoldebau statudol. 

Cynllun Môr a Physgodfeydd Cymru

22 Ionawr 2026

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i chweched cylch o gyllid gael ei agor ar gyfer Cynllun Môr a Physgodfeydd Cymru.

Penodi Aelod Annibynnol (Prifysgol) i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

22 Ionawr 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi penodi Charlotte Reed am bedair blynedd, o 2 Chwefror 2026 tan 1 Chwefror 2030.

Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru – Gosod yr Adroddiad Blynyddol

22 Ionawr 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno i osod Adroddiad Blynyddol Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru ar gyfer 2025 yn Llyfrgell y Senedd.

Estyniad i’r Gwasanaeth Cynghori Cenedlaethol

22 Ionawr 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefydd a’r Prif Chwip, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid gwerth hyd at £133,000 ar gyfer 2026 i 2027 i estyn y Gwasanaeth Cynghori Cenedlaethol tan 30 Medi 2026, gyda’r opsiwn i’w estyn tan ddiwedd mis Mawrth 2027 yn dilyn adolygiad, os oes angen.

Ailbwrpasu tanwariant Cymunedau Cydlynus

22 Ionawr 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip wedi cytuno i ailbwrpasu tanwariant Cymunedau Cydlynus yn 2025 i 2026, drwy ddyrannu’r cyllid i awdurdodau lleol drwy gyllid wrth gefn Wcráin a Chynllun MedEvac Gaza.

Taliad gorswm

21 Ionawr 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cymeradwyo taliad gorswm ar 13.1 o erwau o dir amaethyddol yn Croes Atti, Y Fflint, Sir y Fflint.

Diogelwch Adeiladau

21 Ionawr 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo fersiwn ddrafft derfynol o’r Memorandwm Dealltwriaeth rhwng yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a Llywodraeth Cymru ar y cynllun Adrodd Gwirfoddol ar gyfer Digwyddiadau.

Gosod ffi trwyddedau cocos Cymru ar gyfer 2026 hyd 2027

21 Ionawr 2026

Mae Dirprwy Brif Weinidog Cymru ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i ymgynghoriad gyda deiliaid trwyddedau cocos a rhanddeiliaid eraill perthnasol i’w gynnal o 26 Ionawr hyd 9 Chwefror ar gynnig i gynyddu ffi’r drwydded gocos i £600.

Adolygiad Polisi y Grant Datblygu Disgyblion

20 Ionawr 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno ar gyhoeddiad a chwmpas Adolygiad Polisi y Grant Datblygu Disgyblion.

Dyraniadau’r Grant Datblygu Disgyblion

20 Ionawr 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno ar y dyraniadau cyllid arfaethedig ar gyfer y Grant Datblygu Disgyblion rhwng 2026 a 2027, gan gynnwys ehangu’r cynllun fel bod dysgwyr sydd wedi bod yn gymwys i gael Prydau Ysgol Am Ddim yn y naill neu'r llall o'r ddwy flynedd ddiwethaf yn gymwys i gael cyllid.

Casglu data’r Grant Datblygu Disgyblion

20 Ionawr 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno i ddyrannu £230k o gyllideb y Grant Datblygu Disgyblion 2026 i 2027 i ariannu'n rhannol yr ymarfer darganfod digidol ynghylch systemau ysgolion, a fydd yn cynnwys casglu data cwmpasu ar wariant ac effaith y Grant.

Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol Hybu Cig Cymru (HCC)

20 Ionawr 2026

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog wedi cytuno i osod y Cyfrifon Blynyddol a'r Datganiadau Ariannol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2024 i 2025 gerbron y Senedd, a'u cyhoeddi ar wefan HCC.

Rhaglenni Blynyddol Amnewid Fflyd

20 Ionawr 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo £23.110miliwn fel rhan o raglen Amnewid Cerbydau Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a £1.190miliwn i Bartneriaeth Cydwasanaethau’r GIG ar gyfer rhaglen Fflyd Gwasanaethau Negesydd Iechyd yn 2026 i 2027.

Setliad Dros Dro yr Heddlu

20 Ionawr 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i'r sail ar gyfer cyfrifo a dyrannu Setliad Dros Dro yr Heddlu 2026 i 2027.

Diweddariad arfaethedig i'r Canllawiau Parhad Dysgu

20 Ionawr 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo Canllawiau Parhad Dysgu diwygiedig ar gyfer Ysgolion a Lleoliadau Addysg Eraill.

Perfformiad ailgylchu

20 Ionawr 2026

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog a'r Ysgrifennydd Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi penderfynu na ddylai dirwy bosibl o £838,200 i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ar gyfer y flwyddyn darged 2021 i 2022 fod yn gymwys.

Cyllid ychwanegol ar gyfer mudiadau gwirfoddol

20 Ionawr 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, y Dirprwy Brif Weinidog, ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cymeradwyo cyllid ychwanegol o £254,200 i Ymddiriedolaeth y Brenin, Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru, GISDA, Groundworks Gogledd Cymru a Mind Casnewydd, drwy'r Grant Strategol ar gyfer Sefydliadau Gwaith Ieuenctid Gwirfoddol yn 2025 i 2026.

Cryfhau'r sail ddeddfwriaethol ar gyfer gwaith ieuenctid

20 Ionawr 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno i waith pellach gael ei wneud ar beilot posibl o'r fframwaith statudol arfaethedig newydd.

Corff Cenedlaethol ar gyfer Gwaith Ieuenctid

20 Ionawr 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno i ddechrau ar waith i sefydlu corff cenedlaethol ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru, gan gynnwys sefydlu grŵp cynghori allanol a dyrannu £20,000 i'r gwaith hwn rhwng 2025 a 2026, ac i ymgysylltu ymhellach â phartneriaid ar y fframwaith deddfwriaethol ar gyfer gwaith ieuenctid gyda'r bwriad o'i gyhoeddi ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2025 i 2026.

Trefniadau Marchnata a Chyfathrebu Gwaith Ieuenctid

20 Ionawr 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno i wahodd datganiadau newydd o ddiddordeb gan sefydliadau yn y sector gwaith ieuenctid i gyflawni swyddogaeth farchnata a chyfathrebu traws-sector o fis Medi 2025 ymlaen.

Corff Cenedlaethol a Fframwaith Statudol ar gyfer Gwaith Ieuenctid

20 Ionawr 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno i sefydlu Bwrdd Cyflawni ac is-grwpiau i gefnogi’r gwaith o ddatblygu corff cenedlaethol ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru, ac i fireinio agweddau allweddol ar y fframwaith statudol ar gyfer gwaith ieuenctid er mwyn ystyried adborth gan randdeiliaid.

Gweithgareddau ychwanegol ar gyfer ymgysylltu â ieuenctid – y camau nesaf

20 Ionawr 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo'r dyraniad o £400,000 yn 2025 i 2026 a £399,700 yn 2026 i 2027 i gefnogi ystod o weithgareddau i ddatblygu a bwrw ymlaen ag argymhellion y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro a chefnogi'r cynnig addysg i bobl ifanc yng Nghartref Plant Diogel Hillside.

Fframwaith statudol ar gyfer gwaith ieuenctid - y camau nesaf

20 Ionawr 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno i waith fynd rhagddo i gwblhau'r fframwaith statudol drafft ar gyfer gwaith ieuenctid i ddod ag ef i rym erbyn Ebrill 2026, i 25,000 gael ei ddyrannu i grant craidd Cyngor Gwasanaeth Ieuenctid Gwirfoddol Cymru rhwng 2025 a 2026 i gefnogi sefydliadau ar lawr gwlad i baratoi ar gyfer y fframwaith newydd,  ac i £50,000 arall gael ei ddyrannu i Safonau Hyfforddiant Addysg Cymru i ehangu ar y gweithgarwch a gynhaliwyd i gyflawni rhaglen datblygu'r gweithlu gwaith ieuenctid traws-sector rhwng 2025 a 2026 i fynd i'r afael â rhai o'r rhwystrau sy'n wynebu sefydliadau'r sector gwirfoddol o ran cael mynediad at hyfforddiant.

Trosglwyddiadau cyllideb Cysylltiadau Rhyngwladol ar gyfer cydweithio

20 Ionawr 2026

Mae'r Prif Weinidog, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg wedi cymeradwyo trosglwyddo £230k o'r gyllideb Cysylltiadau Rhyngwladol i gyllideb WEFO ar gyfer blwyddyn ariannol 2025 i 2026 i ariannu cydweithio ar gyfer prosiectau Agile Cymru.

Prosiect Cysylltedd Croeso

20 Ionawr 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip wedi cytuno na fydd elfen Tocyn Croeso y Prosiect Cysylltedd Croeso yn mynd rhagddo yn ei ffurf bresennol yn ystod tymor y Senedd hon.

Cwricwlwm i Gymru

20 Ionawr 2026

Mae Cyfarwyddwr y Cabinet dros Addysg wedi cytuno i gyhoeddi ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad cyfansoddi cam 1 asesiad ffurfiannol y Cwricwlwm i Gymru.

Y Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy

20 Ionawr 2026

Mae’r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo cyllid cyfalaf ar gyfer y prosiectau canlynol: Coleg Catholig Dewi Sant, MBIR Cam 3; Coleg Penybont, caffael Tŷ Bracla; a Choleg Sir Benfro, estyniad i’r fynedfa flaen ac ailwampio G7.

Y Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy

20 Ionawr 2026

Mae’r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo’r prosiectau canlynol ar gyfer symud ymlaen i gam nesaf y broses fusnes: Coleg Caerdydd a’r Fro, Cynllun Amlinellol Strategol Diwygiedig; Coleg Catholig Dewi Sant, Prosiect Coetir; Coleg Catholig Dewi Sant, Adeilad STEM newydd; a Grŵp NPTC, Academi Sgiliau Gwyrdd y Drenewydd.

Grant Cyfalaf Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr

20 Ionawr 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip wedi cymeradwyo cynigion cyllid cyfalaf gan Gyngor Sir Penfro, hyd at werth £100,000 a chan Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent hyd at werth £25,000 yn 2025 i 2026; ac i ailbroffilio’r grantiau a ddyfarnwyd i Gyngor Sir Caerdydd a Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful i mewn i 2026 i 2027.

Model Buddsoddi Cydfuddiannol Felindre

20 Ionawr 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno ar amrywiad contractiol sy’n gosod Dangosyddion Perfformiad Allweddol a chategorïau newydd o ran buddion cymunedol i’w darparu yn ystod y gwaith o adeiladu Canolfan Ganser newydd Felindre.

Coedwig Genedlaethol Cymru

20 Ionawr 2026

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i ddau safle newydd gael Statws Coedwig Genedlaethol; ac wedi cymeradwyo estyniad a chyllid ar gyfer contract arwyddion gyda Sefydliad y Deillion Merthyr Tudful; ac wedi cytuno ar drydydd gam safleoedd Ystad Goetiroedd Llywodraeth Cymru yn uno â Choedwig Genedlaethol Cymru.  

Ailbenodi dau Aelod Annibynnol (Digido a Chyllid) i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

20 Ionawr 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi ailbenodi Dafydd Vaughan yn Aelod Annibynnol (Digidol) o 10 Mai 2026 hyd 9 Mai 2030. Mae Iwan Jones wedi cael ei ailbenodi’n Aelod Annibynnol (Cyllid) o 24 Mawrth 2026 hyd 23 Mawrth 2030.

Penodi Aelod Cyswllt i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

20 Ionawr 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno i benodi’r Cynghorydd Alun Llewellyn yn Aelod Cyswllt o Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe am gyfnod o ddwy flynedd.

Dyfarnu cyllid ar gyfer Caffi Trwsio Cymru a Benthyg Cymru

20 Ionawr 2026

Mae Dirprwy Brif Weinidog Cymru ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i ddarparu cyllid sefydlog ynghyd â chynnydd ar sail chwyddiant o 3% i Benthyg Cymru a Chaffi Trwsio Cymru ar gyfer mentrau atgyweirio ac ailddefnyddio, am gost o £532, 464 o 1 Ebrill 2026 hyd 31 Mawrth 2027.

Rhaglen Heneiddio’n Iach

20 Ionawr 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno i ddyrannu £228,000 i Age Cymru ar gyfer y Rhaglen Heneiddio’n Iach. Bydd y cyllid ar gyfer blwyddyn ariannol 2026 hyd 2027.

Cyllid gan Great British Energy ar gyfer prosiectau ynni lleol

20 Ionawr 2026

Mae Dirprwy Brif Weinidog Cymru ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg wedi cytuno y gall cyllid gan Great British Energy gael ei ddyrannu i Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru ac maent hefyd wedi cytuno ar Femorandwm Dealltwriaeth sy’n cadarnhau’r dull cyllido a’r nodau. 

Penodi Aelod Cyswllt i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

19 Ionawr 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno i benodi Dr Sarah Anne Medlicott fel Aelod Cyswllt Ychwanegol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg am gyfnod o un flwyddyn.

Cymunedau Dysgu Cynaliadwy – Achosion Busnes - Ysgolion

19 Ionawr 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo cyfres o argymhellion a wnaed gan Banel Buddsoddi mewn Addysg y Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy wnaeth gyfarfod ym mis Rhagfyr i symud ymlaen i gam nesaf y broses fusnes ar gyfer Wrecsam, Ysgol Arbennig St Christopher; Casnewydd – Ysgol Gyfun Caerllion; a Rhondda Cynon Taf, Ysgol Gyfun Gymraeg - Cwm Rhondda.

Cymunedau Dysgu Cynaliadwy – Achosion Cyfiawnhad Busnes ac Amrywiadau - Colegau

19 Ionawr 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo cyfres o argymhellion a wnaed gan Banel Buddsoddi mewn Addysg y Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy wnaeth gyfarfod ym mis Rhagfyr i ddyfarnu cyllid cyfalaf ar gyfer y prosiectau canlynol: Rhondda Cynon Taf, Ysgol Uwchradd Sant Ioan Fedyddiwr; Blaenau Gwent, Ysgol Gyfun Tredegar; Caerffili – Ysgol Gynradd Llanfabon / Llancaeach; yn ogystal ag amrywiad yn ymwneud ag Ysgol Gynradd Townhill Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd. 

Rhaglen Arloesi, Technoleg a Phartneriaethau

14 Ionawr 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno, yn amodol ar gyllideb derfynol Llywodraeth Cymru, i ariannu’r Rhaglen Arloesi, Technoleg a Phartneriaethau ar gyfer blwyddyn ariannol 2026 i 2027.

Ymwybyddiaeth o AI a’i Fabwysiadu

14 Ionawr 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer cymorth busnes deallusrwydd artiffisial (AI) penodedig i fusnesau yn 2025 i 2026 a 2026 i 2027 gan gynnwys darpariaeth Busnes Cymru o raglen ymwybyddiaeth a mabwysiadu AI ar gyfer busnesau micro a busnesau bach a chanolig yng Nghymru, prosiect peillio AI a hyfforddiant AI penodol i’r sector ar gyfer busnesau yn y sector twristiaeth a digwyddiadau.

Ailddyrannu’r gyllideb Cydraddoldeb i’r gyllideb Cefnogi Cymunedau

14 Ionawr 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip wedi cytuno i ddyrannu cyllid ychwanegol i gefnogi camau gweithredu tlodi tanwydd brys drwy’r Sefydliad Banc Tanwydd.

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru

14 Ionawr 2026

Mae’r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi cymeradwyo Adroddiad Blynyddol Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru ar gyfer 2024 i 2025.

Cynlluniau cyfalaf diwedd blwyddyn

13 Ionawr 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid ar gyfer amryw o gynigion am offer, digidol a man waith i’w cyflawni erbyn 31 Mawrth 2026.

Cyllideb Academi Seren 2025 i 2026

13 Ionawr 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo’r cynigion ar gyfer dyrannu cyllideb Academi Seren ar gyfer y flwyddyn ariannol 2025 i 2026, ac eithrio £200,000 sydd angen ei drafod ymhellach.

Cyllideb Academi Seren 2025 i 2026

13 Ionawr 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo’r cynigion ar gyfer y dyraniadau sy’n weddill o gyllideb Academi Seren ar gyfer y flwyddyn ariannol 2025 i 2026.

Aildendro Contract Cyflawni

13 Ionawr 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno i aildendro Contract Cyflawni Academi Seren.  

Ailbenodi Cadeirydd i Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

12 Ionawr 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi ailbenodi Colin Dennis am bedair blynedd o 1 Hydref 2026 hyd 30 Medi 2030.

Cynnyrch diogelu planhigion

12 Ionawr 2026

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch arfer y swyddogaeth benderfynu ar gymeradwyo echdynnyn dyfrllyd o hadau eginedig Lupinus albus pêr, sylwedd gweithredol risg isel newydd a ddefnyddir mewn cynhyrchion diogelu planhigion, mewn perthynas â Chymru.

Cynyddu’r Cyflog Byw Gwirioneddol ym mis Ebrill 2026

12 Ionawr 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno ar gynnydd i isafswm cyfradd fesul awr staff y GIG yn yr Agenda ar gyfer Newid i adlewyrchu’r cynnydd yng nghyfradd y Living Wage Foundation i £13.45 yr awr. Cynnydd dros dro yw hwn cyn y dyfarniad cyflog blynyddol ar gyfer 2026 i 2027.

Ailbenodi Aelod o Fwrdd Careers Choices Dewis Gyrfa Ltd

12 Ionawr 2026

Mae’r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi ailbenodi Joni Alexander am dair blynedd o 9 Ionawr 2026 hyd 8 Ionawr 2029.

Dysgwyr LHDTC+ a chymorth gwaith ieuenctid

12 Ionawr 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip wedi cytuno i ddarparu cyllid ychwanegol a fydd yn cael ei ddosrannu i awdurdodau lleol dros flynyddoedd ariannol 2025 i 2026 (£100,000) a 2026 i 2027 (£200,000) er mwyn darparu cyllid ychwanegol i wasanaethau cymorth ieuenctid lleol drwy’r Grant Cymorth Ieuenctid i weithio gydag ysgolion a darparwyr addysg yn eu hardal leol i wella’r gefnogaeth i ddysgwyr LHDTC+.

Cymeradwyo Cyllid i Gronfa Ddysgu Undebau Cymru a TUC Cymru

12 Ionawr 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio a’r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi cytuno i gyllid er mwyn cynorthwyo â darparu gweithgareddau Cronfa Ddysgu Undebau Cymru a TUC Cymru yn y flwyddyn ariannol 2026 i 2027.

GIG Cymru

12 Ionawr 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno i gyllido ystod o ystadau, cyfarpar a chynigion digidol sydd i’w darparu erbyn diwedd blwyddyn ariannol 2025 i 2026.

Dealltwriaeth artiffisial mewn lleoliadau clinigol yng Ngwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru

8 Ionawr 2026

Mae’r Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cytuno ar gymorth ar gyfer cynlluniau i gyflwyno a mabwysiadu dealltwriaeth artiffisial mewn lleoliadau clinigol yng Ngwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru.

Peilot Cymorth Digartrefedd

8 Ionawr 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg wedi cytuno i ariannu cynllun peilot ar gyfer digartrefedd yn 2025 i 2026 a 2026 i 2027.

Cynllun Indemniad y Llywodraeth

7 Ionawr 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, a’r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi cytuno y dylai’r broses ar gyfer cael gwared â chymalau Cynllun Indemniad y Llywodraeth yng Nghymru ddilyn y model a ddefnyddiwyd gan Gyngor y Celfyddydau yn Lloegr. Maent hefyd wedi cytuno y dylid defnyddio’r broses hon ar gyfer Arddangosfa Gwen John sydd ar ddod.

Llythyr Hysbysu Aelwydydd

7 Ionawr 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg wedi cytuno i gefnogi’r trefniant i anfon Llythyr Hysbysu Aelwydydd i gartrefi yn Nghymru cyn etholiad Senedd 2026. Bydd y llythyr hwn yn rhoi gwybod i’r rhai sy’n dymuno pleidleisio drwy’r post neu drwy brocsi beth yw eu statws cofrestru a beth yw’r broses ar gyfer gwneud cais am bleidlais bost neu brocsi.

Dyraniad y Byrddau Iechyd

7 Ionawr 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno ar ddyraniad y Byrddau Iechyd ar gyfer 2026 i 2027.

Cynllun Personau Cymwys – Adolygiad o’r Amodau Awdurdodi

7 Ionawr 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno ar Gais am Dystiolaeth ar y cyd â Rheoleiddiwr Diogelwch Adeiladau Lloegr ar gyfer yr adolygiad o Amodau Awdurdodi’r Cynllun Personau Cymwys.

Llythyrau Cysur – Mudo a Chenedl Noddfa

7 Ionawr 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip wedi cytuno i anfon llythyrau cysur at sefydliadau’r trydydd sector, mewn perthynas â chyfanswm o £831,350 ar gyfer 2026 i 2027 oddi wrth Gymunedau Cydlynus.

Y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion

6 Ionawr 2026

Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a'r Gweinidog Iechyd Meddwl a Lles i ariannu gwaith y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion am ddwy flynedd ariannol arall.

Cymunedau Dysgu Cynaliadwy

6 Ionawr 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo'r prosiectau canlynol i symud ymlaen i gam nesaf y broses fusnes: Ailddatblygu Ysgolion Aberdaugleddau, Sir Benfro; Ysgol Gynradd Penrhys, Rhondda Cynon Taf; Ysgol Gatholig y Santes Fair, Wrecsam; Canolfan Alwedigaethol Cyn-16 Castell-nedd Port Talbot. Ar ben hynny, dyfarnwyd cyllid i brosiect YGG Rhosafan Castell-nedd Port Talbot drwy'r Her Ysgolion Cynaliadwy; ac mae prosiect Ysgol Mynydd Bychan Caerdydd a phrosiect Ysgol Bro Elwern Sir Ddinbych wedi derbyn cyllid drwy'r Grant Cyfrwng Cymraeg.

Cymunedau Dysgu Cynaliadwy – Achosion Busnes - Colegau

6 Ionawr 2026

Mae’r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo’r prosiectau canlynol i symud ymlaen i gam nesaf y broses fusnes: Coleg Sir Benfro, Rhaglen Amlinellol Strategol ddiwygiedig; Coleg Dewi Sant, Rhaglen Amlinellol Strategol ddiwygiedig; Coleg Dewi Sant, Prif Adeilad Cam Adnewyddu Mewnol 3.

Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol

6 Ionawr 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip wedi cytuno i gyhoeddi "llythyrau cysur" i sefydliadau'r trydydd sector a ariennir o'r gyllideb refeniw Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol, er mwyn eu helpu i gynllunio ar gyfer 2026 i 2027.

Grant Cyfalaf Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr

6 Ionawr 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip wedi cymeradwyo cynigion cyllid cyfalaf: gan Gyngor Sir Penfro am £105,619 yn 2025 i 2026; £551,516k yn 2026 i 2027 a £131,408 yn 2027 i 2028; gan Gyngor Sir Ddinbych am £4,076 yn 2025 i 2026; a gan Gyngor Sir y Fflint am £368,330 yn 2025 i 2026.

Busnes Cymdeithasol Cymru

6 Ionawr 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cymeradwyo darparu gwasanaeth Busnes Cymdeithasol Cymru a chyllid craidd ar gyfer Cwmpas a Chwmnïau Cymdeithasol Cymru ar gyfer 2026 i 2027.

Rhaglenni Cyflogadwyedd

6 Ionawr 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno ar gyllid ar gyfer rhaglenni Twf Swyddi Cymru+, ReAct+, a Chymunedau am Waith+, a chyllid i gefnogi datblygiad gwasanaeth digidol sengl ESP o'r gyllideb ddrafft 2026 i 2027.

Darparu cyngor cyfreithiol ar fewnfudo

6 Ionawr 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip wedi cytuno i ailbwrpasu £60,000 i gefnogi gweithgarwch i wella'r ddarpariaeth o gyngor cyfreithiol ar fewnfudo yng Nghymru.

Tai a arweinir gan y gymuned

6 Ionawr 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i ddyfarnu cyllid refeniw i barhau i gefnogi Cwmpas i gyflwyno a chefnogi Tai a arweinir gan y Gymuned yn 2026 i 2027.

Prosiectau Galluogi Tai Gwledig

6 Ionawr 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar £146,382 o gyllid refeniw ar gyfer prosiectau Hwyluso Tai Gwledig rhwng 2026 a 2027.

Tanwariant Cymunedau Cydlynus

6 Ionawr 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip wedi cytuno i ailbwrpasu £1.482 miliwn o danwariant i ddarparu cymorth ychwanegol i awdurdodau lleol.

Strategaeth ar gyfer Cymdeithas sy'n Heneiddio

6 Ionawr 2026

Mae'r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid i Age Cymru rhwng 2026 a 2027.

Datblygiad Warren Hall

6 Ionawr 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cymeradwyo gwariant ar gyfer gwaith seilwaith arfaethedig yn Warren Hall, Sir y Fflint.

Dyfarniadau grant dangosol y Rheoleiddiwr Tai Cymdeithasol a'r Is-adran Busnes Strategol

6 Ionawr 2026

Yn amodol ar gytundeb y Senedd ar y gyllideb derfynol ar gyfer 2026 i 2027, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar ddyfarniadau grant refeniw gwerth cyfanswm o £652.300 i Tai Pawb, TPAS Cymru, y Sefydliad Tai Siartredig, LEASE a Chymdeithas Tai Cymunedol Caerdydd.

Tlodi Tanwydd

6 Ionawr 2026

Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip i ddefnyddio'r cyllidebau presennol i ariannu Ymchwil Data Gweinyddol Cymru sy'n gwneud gwaith i gasglu tystiolaeth ar dlodi tanwydd yng Nghymru.

Gwasanaethau cyfyngedig i blant

6 Ionawr 2026

Mae'r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo cynigion ar gyfer astudiaeth ddilynol i lywio gwerthusiad o ddileu elw o wasanaethau plant cyfyngedig.

Cymorth i Brynu-Cymru

6 Ionawr 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar gyllideb ar gyfer ymgyrch gyhoeddusrwydd Cymorth i Brynu - Cymru, ac i gysoni’r trefniadau llywodraethiant ar gyfer mân benderfyniadau ynghylch cynlluniau tai sy'n cael eu cyflawni gan Fanc Datblygu Cymru.

Cyfarfod y Panel Buddsoddi ar 14 Hydref 2025

6 Ionawr 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno ar Gyllid Dyfodol yr Economi ar gyfer prosiect yn Sir Benfro.

Cyllid i helpu i hyrwyddo a chael achrediad Cyflog Byw Gwirioneddol

6 Ionawr 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio a'r Gweinidog dros Ddiwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi cytuno, yn amodol ar gyllideb derfynol Llywodraeth Cymru, i barhau i ariannu Cynnal Cymru i hyrwyddo a helpu i gael achrediad Cyflog Byw Gwirioneddol. Bydd hyn yn sicrhau parhad gweithgarwch o flwyddyn ariannol 2025 i 2026 i mewn i 2026 i 2027.

Y Gronfa Tai â Gofal – Cynigion Prosiect ar gyfer 2025 i 2026

6 Ionawr 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo £3,068,863 o gyllid cyfalaf y Gronfa Tai â Gofal ar gyfer wyth cynllun ar draws tri rhanbarth yng Nghymru. Mae'r Prif Weinidog wedi cymeradwyo £70,283 o gyllid cyfalaf y Gronfa Tai â Gofal ar gyfer dau gynllun mewn un rhanbarth o Gymru.

Rhaglen Byw'n Annibynnol

6 Ionawr 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar ddyraniadau grant drafft y Rhaglen Byw'n Annibynnol ar gyfer 2026 i 2027.

Diwydiant Sero Net Cymru

6 Ionawr 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno i ysgrifennu at Diwydiant Sero Net Cymru i gadarnhau parhad Diwydiant Sero Net Cymru, corff masnach, i gefnogi gweithgarwch datgarboneiddio diwydiannol yng Nghymru.

Proses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig

6 Ionawr 2026

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog / Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i wrthod apêl yn erbyn y penderfyniad i gymhwyso cosb am or-ddatgan ac adennill taliadau o dan gynlluniau Creu Coetir Glastir, Premiwm Creu Coetir Glastir, a Rheoli Coetir Glastir, ar ôl cwblhau'r gwiriadau gweinyddol.

Proses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig

6 Ionawr 2026

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog / Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i wrthod apêl yn erbyn y penderfyniad i wrthod hawliad Gwaith Cyfalaf Glastir Uwch 2020, gan ei fod wedi'i gyflwyno ar ôl dyddiad cau.

Proses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig

6 Ionawr 2026

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog / Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i dderbyn apêl yn erbyn y penderfyniad i gymhwyso gostyngiad taliad i hawliad Grant Cynhyrchu Cynaliadwy yn dilyn arolygiad.

Diwydiant Sero Net Cymru

6 Ionawr 2026

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno i swyddogion gymryd y camau angenrheidiol er mwyn i Lywodraeth Cymru ddisodli Diwydiant Cymru fel gwarantwr cwmni ar gyfer Diwydiant Sero Net Cymru, ochr yn ochr ag opsiynau eraill sy'n cael eu harchwilio yn ôl yr angen.