Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Er mwyn annog is-gontractio a chydweithrediad consortia, rydym yn cyhoeddi cyfeiriadur o gyflenwyr sydd wedi nodi bod ganddynt ddiddordeb mewn rhannu eu manylion cyswllt at y dibenion hyn. Mae'r cyfeiriadur yn cael ei gyhoeddi fel rhan o grynodeb yr adborth i’r ymgysylltu ynghylch cymorth cyflogadwyedd, ar wefan Llywodraeth Cymru fel y nodir isod: rhaglen cymorth cyflogadwyedd: digwyddiadau ymgysylltu.

Dylai cyflenwyr nad ydynt wedi'u rhestru ar hyn o bryd ond sydd â diddordeb mewn cydweithio ac sy'n dymuno ychwanegu eu manylion cyswllt at y cyfeiriadur anfon e-bost at lywodraeth Cymru cymorth cyflogadwyedd: cymorthCyflogadwyedd@llyw.cymru.

Rhowch yr wybodaeth ganlynol yn eich e-bost: 

  • Enw cyswllt.
  • Swydd yn y sefydliad (os yw'n berthnasol).
  • Cyfeiriad e-bost cyswllt.
  • Enw'r sefydliad a chyfeiriad post (os yw'n berthnasol).

Cyfeiriwch at yr hysbysiad preifatrwydd sydd ar ddiwedd y cyfeiriadur hwn i weld sut y bydd Llywodraeth Cymru yn trin eich manylion personol. Mae'n cynnwys gwybodaeth am eich hawliau a'r wybodaeth rydym yn ei chadw amdanoch a'r seiliau cyfreithiol dros y modd rydym yn defnyddio eich gwybodaeth.

Bydd y canllawiau canlynol o ddiddordeb:

Ceisiadau ar y cyd ar gyfer contractau cyhoeddus

Llywodraeth Cymru, canllawiau i gonsortia: ceisiadau ar y cyd am gontractau cyhoeddus: canllawiau i gonsortia.

Cadwyni cyflenwi

Rhaid i delerau ac amodau'r Contract sy'n berthnasol i Gontractwr arweiniol, gan gynnwys y telerau sy'n ymwneud â thaliadau gael eu trosglwyddo i unrhyw isgontractwyr.

Rhaid i'r Cynigydd/Cynigwyr llwyddiannus gyflwyno adroddiad blynyddol yn nodi'r camau y mae'r sefydliad wedi'u cymryd i atal caethwasiaeth a masnachu pobl yn ei gadwyn gyflenwi. 

Llywodraeth Cymru, Cyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi: cod ymarfer: cyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi: cod ymarfer.

Llywodraeth Cymru, Cyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi: cod ymarfer, arweiniad a hyfforddiant: cyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi: cod ymarfer, arweiniad a hyfforddiant.

Cyfeiriadur

Pwrpas rhannu manylion cyswllt yw annog cydweithio ac ehangu cyfranogiad. Gwahoddir cyflenwyr i fynegi diddordeb mewn ffurfio trefniadau is-gontractio a (neu) consortia (gweler rhan 1).

Mae'r canlynol wedi rhoi eu caniatâd i rannu eu manylion cyswllt:

ACT Ltd

Ocean Park House
East Tyndall Street
Cardiff
CF245ET

Matthew Burnett: Head of Operations and Contracts

AlphaPlus Consultancy Ltd

C/o AQA
Devas Street
Manchester
M15 6EX

Fraser Talbot: Business Development Lead

BFB Labs

127 Farringdon Road 
c/o Better Space
London
EC1R 3DA

Kelly Tham: Head of Service Growth and Delivery
 

Cardiff & Vale College

Dumballs Rd
Cardiff
CF10 5FE

James Scorey: Deputy Principal
 

Case-UK

Suite 1
Triangle Business Park,
Pentrebach
Merthyr Tydfil
CF48 4TQ

Sally Gibbs: Director of Strategy & Growth
 

Educ8 Training Group

Gateway
Tredomen
Ystrad Mynach
CF72 7EH

Rebecca Engwell: Bids & Tenders Lead

Fedcap Employment Limited

Boaz House
Massey Road
Thornaby
Stockton-On-Tees
TS17 6DY

Kirsty Hunn: Commercial Director

HGV Training Services Limited (T/A Insite)

Phill Yates: Head of Contracts and Procurement

Itec Training Solutions Ltd

Gareth Mathews: Director

Maximus UK Services Ltd

18c Meridian East
Meridian Business Park
Leicester
LE19 1WZ

Joel Williams

North East Wales Mind

The Wellbeing Centre
21b Chester Street
Mold
CH7 1EG

Natasha Wait: Business Development and Income Generation Manager

North Wales Training Ltd TA COPA

Ruth Collinge: Head of Contracts

Pembrokeshire College

Merlins Bridge
Haverfordwest
SA61 1SZ

Berni Tyler: Director of Consortium & Employer Relations

PeoplePlus

The Quorum
Bond Street South
Bristol
BS1 3AE

Kelly Reynolds: Director, Employment and Skills, Wales

Platfform

Michael Franjieh: Senior Bid Writer

Reed in Partnership

26 Rushworth Street
London
SE1 0RB

Philip Duffield: Bid Director

Scope

Here East Press Centre
14 East Bay Lane
London
E15 2GW

Leanne Price: Grants Manager 

Serco

Suite 1
Ground Floor
Trafalgar House
5 Fitzalan Place
Adamsdown
Cardiff
CF24 0ED

David Ward: Principal Business Development Lead

Swansea Council

Elliott Williams: Senior Economic Regeneration Manager

MTIB

Unit 4
riangle Business Park
Pentrebach
Merthyr Tydfil
CF48 4TQ

Petra Kennedy: Deputy CEO

Volunteering Matters

The Innovation Centre
Festival Drive
Blaenau Gwent
NP23 8XA

Ryan Crewe-Hands: Partnerships Manager for Wales

Hysbysiad Preifatrwydd Cyfeiriadur o Gyflenwyr sydd â diddordeb mewn Is-gontractio a(neu) Gydweithrediad Consortia

Yn unol â Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR y DU) mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn esbonio sut rydym yn casglu, defnyddio a phrosesu eich data personol yn deg, yn gyfreithlon ac yn dryloyw.

Sail gyfreithlon ar gyfer prosesu

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol rydych wedi'i ddarparu mewn perthynas â'r cyfeiriadur o gyflenwyr sydd â diddordeb mewn Is-gontractio a (neu) gydweithrediad consortia.

Bydd yr wybodaeth yn cael ei phrosesu fel rhan o'n tasg gyhoeddus a'r awdurdod swyddogol a roddwyd i ni ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.

Pa ddata personol y byddwn yn ei gasglu a'i brosesu

Diffinnir data personol o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) fel 'unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson adnabyddadwy y gellir ei adnabod yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol trwy gyfeirio at nodwedd adnabod'.

Ar gyfer y Cyfeiriadur hwn byddwn yn casglu'r data personol canlynol:

  • Enw cyswllt.
  • Swydd yn y sefydliad (os yw'n berthnasol).
  • Cyfeiriad E-bost Cyswllt.
  • Enw'r sefydliad a chyfeiriad post (os yw'n berthnasol).

Sut rydym yn cadw eich data yn ddiogel

Mae data personol a roddir i Lywodraeth Cymru yn cael ei gadw ar weinyddion diogel yn y DU ac ar gyfer y Cyfeiriadur hwn mae eich data personol yn cael ei storio mewn ffolder sydd wedi’i gyfyngu. 

Mae gan Lywodraeth Cymru weithdrefnau i ddelio ag unrhyw doriadau diogelwch data a amheuir. Os bydd yn amau tor diogelwch, bydd Llywodraeth Cymru yn eich hysbysu chi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol lle mae'n ofynnol yn gyfreithiol i ni wneud hynny.

Pwy fydd yn cael mynediad at eich data

Llywodraeth Cymru: 

Timau gwasanaeth cymorth a'i weinyddwyr technegol ar gyfer systemau sy'n cefnogi'r system TG. Ni fydd gweinyddwyr technegol ar gyfer y systemau yn defnyddio eich manylion mewn unrhyw ffordd.

Os byddwch yn dewis i’ch manylion gael eu rhannu â sefydliadau eraill yn adran 2 y Cyfeiriadur hwn, yna byddwn yn rhannu eich manylion cyswllt â’r sawl sydd hefyd wedi dewis hynny. Efallai y bydd eich manylion yn cael eu cyhoeddi gyda hysbysiad ymgysylltu rhagarweiniol â'r farchnad a/neu hysbysiad tendro.

Efallai y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth ag asiantaeth atal twyll at ddibenion atal twyll ac atal gwyngalchu arian.

Efallai bydd eich manylion cyswllt yn cael eu defnyddio at ddibenion ymchwil a gwerthuso, gan gynnwys lle mae Llywodraeth Cymru yn comisiynu contractwr annibynnol at ddibenion gwerthuso'r cynllun a (neu) proses. 

Mae cymryd rhan yn gwbl wirfoddol. Fodd bynnag, rydym yn gwerthfawrogi eich cyfranogiad yn fawr gan fod eich barn a'ch profiadau yn bwysig i lywio gwelliant sefydliadol. Sylwch, efallai y bydd sefydliadau ymchwil/ gwerthuswyr yn cysylltu â dim ond sampl o unigolion a (neu) fentrau.

Am ba hyd y cedwir eich manylion

Bydd eich data personol yn cael ei gadw ar system TG diogel Llywodraeth Cymru yn unol â pholisi cadw Llywodraeth Cymru ac ar ôl hynny bydd yn cael ei ddileu’n ddiogel. Efallai y byddwn yn dileu'r wybodaeth yn gynt os nad yw'n cael ei defnyddio mwyach.

Eich hawliau fel unigolyn

O dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl i’r canlynol:

  • cael gwybod am y data personol sydd gan Lywodraeth Cymru amdanoch a’i weld
  • gofyn inni gywiro gwallau yn y data hwnnw
  • gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data (o dan amgylchiadau penodol)
  • i'ch data gael ei 'ddileu' (o dan amgylchiadau penodol)
  • cludadwyedd data (o dan amgylchiadau penodol)
  • cyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â'r hysbysiad preifatrwydd hwn, cysylltwch â blwch post Llywodraeth Cymru ar gyfer y Rhaglen Cymorth Cyflogadwyedd yn: employabilitysupport@gov.wales / CymorthCyflogadwyedd@llyw.cymru

Am ragor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw a'i defnyddio, neu os hoffech arfer eich hawliau gan ddefnyddio Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data, cysylltwch â:

Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:

Cyswllt Cwsmeriaid
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn: 0303 123 1113

Gwefan: ico gwefan