Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae’r Bennod hon yn amlinellu cyfrifoldebau awdurdodau lleol i sicrhau bod eu safleoedd yn addas i’r diben ac yn cydymffurfio â safonau iechyd a diogelwch. Mae hefyd yn ymdrin ag amddiffyn preswylwyr rhag troseddau a sicrhau diogelwch tân ar safleoedd.

Iechyd a diogelwch

Cyfrifoldeb yr awdurdod lleol a rheolwr y safle yw sicrhau bod asesiad risg o'r safle yn cael ei gynnal yn rheolaidd, gan gynnwys asesiad risg tân penodol. Rhaid i’r holl gyfarpar a ddarperir gan yr awdurdod lleol gydymffurfio â’r safonau perthnasol a chael ei archwilio’n rheolaidd gan berson cymwys. Rhaid i reolwyr safle gadw cofnodion o’r holl brofion a gynhaliwyd a dylid cwblhau arolygiadau’n flynyddol. Rhaid i reolwyr safle sicrhau bod pob gofal yn cael ei gymryd i ddiogelu unrhyw offer a ddarperir rhag yr elfennau os cânt eu storio y tu allan, er enghraifft drwy gasinau addas.

Rhaid i’r holl adeiladau a ddarperir ar y safle gan yr awdurdod lleol gydymffurfio â safonau symudedd perthnasol a, lle bo hynny'n berthnasol, â gofynion Rheoliadau Adeiladu 2010 a deddfwriaeth berthnasol arall.

Dylunio yn erbyn troseddu

Rhaid i awdurdodau lleol gydbwyso'r angen i breswylwyr, yn enwedig plant a phobl ifanc, deimlo'n ddiogel ar y safle heb deimlo'n ynysig na dan glo. Dylai unrhyw ddyluniad safle newydd anelu at ddiogelu preswylwyr cyn belled ag y bo’n ymarferol heb fod yn ormesol. Dylid osgoi gosod ffensys metel tal.

Efallai y byddai'n ddefnyddiol i awdurdodau lleol hefyd drafod eu cynlluniau gyda'r heddlu lleol i sicrhau eu bod yn cydymffurfio ag egwyddorion Diogelu drwy Ddylunio a bod materion diogelwch a throsedd yn cael eu deall ac yn cael sylw o'r cychwyn cyntaf.

Dylid ystyried cynnwys teledu cylch cyfyng wrth ddylunio safleoedd fel rhan o ddull ehangach o hyrwyddo diogelwch a llesiant yr holl breswylwyr. Dylai'r defnydd ohono fod yn gymesur, parchu preifatrwydd, a chyd-fynd ag egwyddorion cydraddoldeb a pheidio â gwahaniaethu. Mae ymgysylltu â phreswylwyr y safle yn ystod y camau cynllunio a gweithredu yn hanfodol i sicrhau bod unrhyw fesurau a gymerir yn briodol, yn dryloyw ac yn cefnogi ymddiriedaeth gymunedol.

Diogelwch tân

Wrth ddylunio safleoedd awdurdodau lleol, mae’n ofynnol i awdurdodau lleol ymgynghori â’r awdurdod tân ac achub lleol o dan adran 56 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013.

Rhaid lleoli cartrefi symudol mewn ffordd a fydd yn lleihau’r risg y bydd tân yn lledaenu rhwng adeiladau a strwythurau ar y llain. Dylai’r pellter lleiaf rhwng carafanau fod yn 6 metr.  Fel y nodir yn y canllawiau rheoli safle, lle na ellir cadw'r gwahaniad hwnnw, bydd angen i breswylwyr wagio eu carafanau os bydd tân yn datblygu ar y safle. Mewn achosion o’r fath, ni ddylai lleiniau fod yn fwy na 30 metr o bwynt tân. Rhaid gosod y mannau ymgynnull tân mewn strwythur sy’n gallu gwrthsefyll y tywydd, sy’n hawdd ei gyrraedd ac wedi’i farcio’n glir fel ‘Pwynt Tân’. Rhaid i bob pwynt tân fod â dull o seinio’r larwm os bydd tân. Rhaid i hyn fod yn briodol i faint a chynllun y safle ac yn seiliedig ar ymgynghori â’r awdurdod tân ac achub perthnasol.

Os yw'r safle'n ymestyn ymhell o'r ffordd gyhoeddus agosaf, rhaid darparu hydrantau tân ar bob safle mewn ymgynghoriad â'r awdurdod tân ac achub perthnasol. Rhaid i’r holl offer gydymffurfio â’r Safonau Prydeinig perthnasol.

Rhaid i hydrantau gydymffurfio â Safon Brydeinig 750 a dylid eu gosod fel nad oes unrhyw garafán yn fwy na 100m o hydrant. Mae’n bwysig sicrhau bod hydrantau a chyflenwadau dŵr eraill yn hawdd eu cyrraedd ac nad ydynt yn cael eu rhwystro na’u cuddio. Nid oes angen darparu riliau pibelli nac offer diffodd tân arall.

Dylid gosod hysbysiadau sy’n amlinellu pa gamau y mae’n rhaid eu cymryd os bydd tân neu argyfwng arall mewn lleoliadau amlwg ar draws y safle. Lle bo modd, dylid defnyddio pictogramau i egluro beth mae'n rhaid ei wneud a pha drefniadau sydd yn eu lle os bydd tân, gan gynnwys manylion y man ymgynnull.

Rhaid i bob safle awdurdod lleol gael protocolau ar waith sydd wedi’u nodi’n glir mewn cynllun rheoli safle. Mae angen i breswylwyr fod yn ymwybodol bod ganddynt gyfrifoldeb i atal tanau rhag digwydd. Rhaid i'r holl systemau larwm a ddarperir gan yr awdurdod lleol gael eu gosod, eu profi a'u cynnal a'u cadw mewn cyflwr da gan berson cymwys. Rhaid i’r holl gyfarpar sy’n agored i rew gael ei ddiogelu’n briodol.

Rhaid i’r gwaith o gynnal a chadw a phrofi larymau tân ar y safle gael ei osod, ei brofi a’i gynnal mewn cyflwr gweithredol gan bobl gymwys, nid preswylwyr, a bod ar gael i’w archwilio gan, neu ar ran, yr awdurdod trwyddedu neu’r Awdurdod Tân ac Achub. Rhaid cadw cofnod o’r holl brofion a’r camau unioni a gymerwyd.

Dylid ystyried gofynion yr awdurdod tân ac achub perthnasol wrth storio Nwy Petrolewm Hylifol (LPG) a deunyddiau fflamadwy eraill ar y safle. Dylai storio’r deunyddiau hyn fodloni gofynion statudol a dylid rhoi mesurau ar waith i atal camddefnydd.

Rhaid i fynediad i'r safle ac o'i gwmpas ganiatáu mynediad hawdd i gerbydau tân ac ambiwlansys.

Awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth diogelwch tân sydd mewn grym ar unrhyw adeg benodol. Mae hyn yn golygu Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005. Mae rhagor o fanylion am hyn yn y canllawiau rheoli safle. 

Gweld fersiwn argraffadwy o bob tudalen