Pennod 1: cyflwyniad
Cyflwyniad
Mae'r bennod hon yn amlinellu'r bwriad i ddylunio Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr mewn ffordd sy'n gyson â themâu sy'n dod i'r amlwg drwy Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol. Mae hefyd yn tynnu sylw at ddiben y canllaw ymarferol hwn i roi gwybod i awdurdodau lleol sut i ddylunio, datblygu a gwella safleoedd. Dyma’r fersiwn ddiweddaraf o’r canllawiau ac mae'n disodli’r canllawiau gwreiddiol a gyhoeddwyd yn 2015.
Mae Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru yn nodi ei hymrwymiad i greu Cymru yn genedl wrth-hiliol. Mae’r camau gweithredu yn y cynllun yn cynnwys cymorth i gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn y gymdeithas yng Nghymru a’r camau y byddwn yn eu cymryd i gyflawni gwrth-hiliaeth ar gyfer y cymunedau hyn.
Mae’r canllawiau hyn yn seiliedig ar ymgysylltu ag aelodau o’r gymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Rydym yn cydnabod y gwahaniaethau diwylliannol sydd yn aml wedi arwain at allgau cymdeithasol y grwpiau hyn, ac rydym am sicrhau bod lleisiau’r cymunedau hyn yn cael eu clywed wrth ddarparu gwasanaethau.
Bwriad y canllawiau hyn yw helpu awdurdodau lleol i ddylunio safleoedd Sipsiwn a Theithwyr mewn ffordd sy'n cefnogi hawliau dynol preswylwyr ac yn hwyluso eu mynediad at dai, gofal iechyd, addysg, glanweithdra a chyfleusterau chwarae digonol.
Mae defnyddio dull sy'n seiliedig ar hawliau dynol wrth ddylunio safleoedd Sipsiwn a Theithwyr yn hanfodol er mwyn sicrhau tegwch, cynhwysiant a chymdeithas gydlynus. Bydd defnyddio dull gwirioneddol gydweithredol hefyd yn helpu i sicrhau bod anghenion cymunedau Sipsiwn a Theithwyr yn cael eu nodi a'u diwallu'n briodol.
Mae’r dull hwn yn cyd-fynd â phwyslais y Canllawiau ar gyd-gynhyrchu, Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus a Nodau Datblygu Cynaliadwyr Cenhedloedd Unedig, sydd i gyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd ymgysylltu cynhwysol a chynrychioladol.
Yn aml at ddibenion polisi ac er mwyn sicrhau bod y gwahaniaeth rhwng y 3 cymuned hyn yn cael ei adlewyrchu, defnyddir y term Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Fodd bynnag, at ddibenion y canllawiau hyn, bydd y term Sipsiwn a Theithwyr, fel y’i diffinnir yn Neddf Tai (Cymru) 2014, yn cael ei ddefnyddio i adlewyrchu natur y dyletswyddau sydd gan awdurdodau lleol tuag at y cymunedau hyn.
Mae'r canllawiau hyn yn seiliedig ar amrywiaeth o ddeddfwriaeth sy'n nodi hawliau Sipsiwn a Theithwyr a'r hyn y gallant ddisgwyl i awdurdodau lleol ei wneud ar eu cyfer, gan gynnwys Deddf Tai (Cymru) 2014 sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddiwallu'r anghenion a nodir yn eu Hasesiadau Llety Sipsiwn a Theithwyr.
O dan adran 56 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013, caiff awdurdod lleol ddarparu safleoedd lle gellir dod â chartrefi symudol i'w defnyddio fel preswylfeydd parhaol, a chaiff reoli'r safleoedd neu eu lesio i rywun arall. Wrth ddarparu safleoedd cartrefi symudol, rhaid i awdurdodau lleol roi sylw i unrhyw safonau enghreifftiol ar gyfer cynllun, a darpariaeth cyfleusterau, gwasanaethau ac offer ar gyfer safleoedd o'r fath a bennir gan Weinidogion Cymru o dan adran 10. Darllenwch safonau enghreifftiol 2008 ar gyfer safleoedd carafanau yng Nghymru. Mae safleoedd Sipsiwn a Theithwyr awdurdodau lleol yn 'safleoedd gwarchodedig' at ddibenion y Ddeddf, sy'n darparu diogelwch deiliadaeth cyfartal i breswylwyr sy'n byw ar safleoedd Sipsiwn a Theithwyr. Mae'r Ddeddf hefyd yn egluro rolau a chyfrifoldebau ar gyfer rheoli lleiniau ac amwynderau eraill ar safleoedd.
O dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP), rhaid i awdurdodau lleol sicrhau bod hawliau plant a phobl ifanc i fynegi eu barn ar faterion sy'n effeithio arnynt ac i gael safon byw ddigonol yn cael eu hystyried wrth ddylunio safle Sipsiwn a Theithwyr.
Mae Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 yn gosod dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i hyrwyddo cyfranogiad plant a phobl ifanc mewn penderfyniadau sy'n effeithio arnynt.
Gyda'i gilydd, mae'r darpariaethau hyn yn nodi fframwaith ar gyfer sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu parchu fel unigolion sydd â'u hawliau, eu profiadau a'u safbwyntiau eu hunain sy'n gorfod siapio'r amgylcheddau y maent yn byw ynddynt.
Demograffeg
Mae tuedd ar hyn o bryd i Sipsiwn a Theithwyr ddod yn fwy ‘sefydlog’ ar safleoedd parhaol neu symud i dai confensiynol. Mae teithio wedi dod yn anoddach oherwydd patrymau newidiol mewn gwaith a diffyg mannau aros cyfreithiol neu ddarpariaeth tramwy, ac effaith Deddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd 2022 (Deddf yr Heddlu 2022).
Roedd Cyfrifiad 2021 yn awgrymu mai dim ond 3,630 o Sipsiwn a Theithwyr Gwyddelig sy’n yw yng Nghymru. Ar draws Cymru a Lloegr dim ond 21.6% o holl aelodau’r gymuned y cofnodwyd eu bod yn byw mewn carafanau neu strwythurau symudol neu dros dro eraill, gyda 78.4% yn byw mewn gwahanol fathau o dai confensiynol (‘brics a morter’). Adeg cyhoeddi, mae gan 16 o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru safleoedd i Sipsiwn a Theithwyr, sy’n darparu oddeutu 465 o leiniau.
Y Gymraeg
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i’r egwyddor o drin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal. Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn darparu ar gyfer pennu safonau ymddygiad sy’n ymwneud â’r Gymraeg. Mae’r safonau presennol yn cael eu pennu yn Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 1) 2015.
Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cyflwyno hysbysiad cydymffurfio i Weinidogion Cymru yn nodi pa safonau sy’n berthnasol i unrhyw weithgaredd neu wasanaeth sy’n cael ei ddarparu gan Weinidogion Cymru neu ar eu rhan ar hyn o bryd.
Mae gan bob awdurdod lleol ei Hysbysiad Cydymffurfio Iaith Gymraeg ei hun, wedi’i orfodi gan y Comisiynydd.
Diben y canllawiau hyn
Bwriad y canllawiau hyn yw helpu awdurdodau lleol i ddylunio a chynnal a chadw safleoedd priodol ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru. Mae’n cynnwys canllawiau ymarferol i helpu awdurdodau lleol i sicrhau bod eu holl safleoedd, gan gynnwys safleoedd aros dros dro/safleoedd wedi eu negodi a safleoedd tramwy, yn addas i’r diben. Darllenwch y canllawiau sy'n ymwneud â pharatoi Cynlluniau Datblygu Lleol (CDLlau) o ran gweithdrefnau, cyd-destun cyffredinol ac yn benodol yng nghyswllt darpariaeth Sipsiwn a Theithwyr.
Dylid darllen y canllawiau ochr yn ochr â Safonau Enghreifftiol 2008 y mae'n rhaid i awdurdodau lleol eu hystyried.
Dylid eu darllen hefyd ar y cyd â’r Canllawiau Rheoli Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru sy'n nodi cyfrifoldebau gwahanol awdurdodau lleol a phreswylwyr fel y nodir yn Neddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013.
Nid yw'r canllawiau hyn yn cael eu cyhoeddi o dan statud. Fodd bynnag, bydd dilyn y canllawiau hyn wrth ddylunio safleoedd newydd neu ailwampio safleoedd presennol yn helpu awdurdodau lleol i ddylunio, datblygu a gwella safleoedd Sipsiwn a Theithwyr addas yn eu hardal.
Bydd awdurdodau lleol, wrth ystyried y canllawiau hyn a’r canllawiau ‘Rheoli Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru’ yn helpu i sicrhau bod safleoedd Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru:
- yn cael eu hadeiladu ar dir addas a diogel
- yn gynaliadwy, yn cael eu rheoli’n dda a bod gwaith cynnal a chadw’n cael ei gynllunio ac nid bob amser yn adweithiol
- wedi’u cynllunio'n effeithio ar y cyd â chymunedau Sipsiwn a Theithwyr
- bod â safonau cyfatebol, lle bo hynny'n berthnasol, i'r rhai ar gyfer mathau eraill o safleoedd cartrefi symudol a thai cymdeithasol
- wedi’u cynllunio er mwyn helpu i annog a datblygu perthynas dda rhwng Sipsiwn a Theithwyr a’r gymuned sefydlog, a rhwng preswylwyr y safle a rheolwr y safle / yr awdurdod lleol
Mae Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol yn cydnabod bod angen llety diogel a diwylliannol briodol er mwyn i unigolion ffynnu mewn rhannau eraill o’u bywydau, a'i fwriad yw mynd i’r afael â’r prinder safleoedd a’r llety o ansawdd gwael sydd ar gael i Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru. Bydd y nod hwn yn cael ei gefnogi drwy argaeledd parhaus cyllid Grant Cyfalaf Safleoedd ar gyfer datblygu safleoedd newydd a phresennol.
Bydd y graddau y mae awdurdodau lleol wedi ystyried y canllawiau hyn yn rhan o ystyriaeth Llywodraeth Cymru wrth asesu ceisiadau am gyllid Grant Cyfalaf Safleoedd mewn perthynas â safleoedd Sipsiwn a Theithwyr. Mae'n bosibl y bydd unrhyw gynigion a wneir am safleoedd/lleiniau newydd nad ydynt yn cyrraedd y safonau disgwyliedig y cyfeirir atynt yn y canllawiau hyn yn cael eu gwrthod. Caiff awdurdodau lleol eu hatgoffa er mwyn bod yn gymwys i gael cyllid grant, bod yn rhaid i safleoedd newydd fod yn gynaliadwy ac ar gael i’w defnyddio fel safle Sipsiwn a Theithwyr am o leiaf 21 mlynedd.
Datblygu’r canllawiau hyn
Mae'r canllawiau hyn yn disodli canllawiau 2015 'Dylunio Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr'.
Wrth ddatblygu'r canllawiau hyn, ymgysylltwyd â'r gymuned i sicrhau bod y broses wedi'i gwreiddio mewn profiad bywyd a'i bod yn adlewyrchu dull gweithredu sy'n canolbwyntio ar bobl. Roedd hyn yn cynnwys gweithio'n uniongyrchol gyda Sipsiwn a Theithwyr ledled Cymru, gan sicrhau bod y canllawiau'n hygyrch, yn gynhwysol ac yn cael eu siapio gan leisiau'r rheini yr effeithir arnynt fwyaf. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ceisio cysoni safonau â’r rhai y gall y gymuned sefydlog ddisgwyl eu profi. Yn y rhan fwyaf o achosion, gellir gwneud cymhariaeth uniongyrchol â mathau eraill o safleoedd cartrefi symudol ond mewn rhai achosion mae’n fwy priodol cymharu â’r ddarpariaeth tai cymdeithasol.
Diffiniadau
Mae’r canllawiau hyn yn canolbwyntio’n llwyr ar safleoedd Sipsiwn a Theithwyr sy’n eiddo i awdurdodau lleol neu ar brydles ganddynt. Mae Adran 62 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 ac adran 108 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 yn diffinio ‘Sipsiwn a Theithwyr’ fel a ganlyn:
- Pobl sy’n arfer ffordd nomadaidd o fyw, beth bynnag fo’u hil neu eu tarddiad, gan gynnwys:
- Personau sydd, ar sail eu hanghenion addysgol neu iechyd eu hunain, eu teulu neu ddibynnydd neu dim ond oherwydd henaint, wedi rhoi'r gorau i deithio dros dro neu'n barhaol, ac
- Aelodau o grŵp trefnedig o siewmyn teithiol neu bersonau sy’n rhan o syrcasau teithiol (pa un a ydynt yn cyd-deithio mewn grŵp o’r fath ai peidio); a
- Unrhyw bobl eraill sydd â thraddodiad diwylliannol o nomadiaeth neu o fyw mewn cartref symudol.
Bwriad y diffiniad uchod yw sicrhau bod Sipsiwn Romani ethnig a Theithwyr Gwyddelig yn cael eu cynnwys, yn ogystal â’r rhai o unrhyw grŵp ethnig arall sy’n arfer ffordd o fyw nomadig. Mae’r diffiniad hefyd yn cynnwys Siewmyn Teithiol. Dylid cynnwys Teithwyr Newydd yn y diffiniad hefyd os ydynt yn dangos traddodiad diwylliannol o nomadiaeth neu o fyw mewn cartrefi symudol.
Nid oes angen i aelodau o’r cymunedau hyn o reidrwydd ddangos eu bod yn arfer ffordd o fyw nomadig parhaus i gael eu hystyried yn Sipsiwn neu’n Deithwyr.
Mae Sipsiwn a Theithwyr ymysg y grwpiau sydd wedi’u hallgáu fwyaf yn gymdeithasol, gyda chanlyniadau iechyd ac addysg yn sylweddol waeth na’r boblogaeth sefydlog. Mae rhywfaint o dystiolaeth yn awgrymu pan mae Sipsiwn a Theithwyr yn gallu ymgartrefu ar safleoedd sy'n cael eu rheoli a'u cynnal a'u cadw'n dda, maen nhw'n gallu cael gafael yn well ar wasanaethau iechyd ac addysg, sy'n gallu arwain at ansawdd bywyd gwell.
Fel y cydnabyddir gan Estyn, mae plant yn elwa drwy well presenoldeb a chyrhaeddiad yn y system addysg; mae sicrhau bod cyfleoedd addysgol addas ar gael i'r rhai sy'n byw ar safleoedd awdurdodau lleol hefyd yn galluogi gweithwyr addysg proffesiynol i feithrin perthynas sefydlog, llawn ymddiriedaeth â theuluoedd.
Bydd mynediad gwell at ofal iechyd yn helpu unigolion, er enghraifft, i fanteisio ar ofal iechyd ataliol, gan gynnwys brechu plant; bydd cael safleoedd sy'n hygyrch i ymwelwyr iechyd hefyd yn helpu i sicrhau gwell gofal iechyd i breswylwyr y safle.
Mae Sipsiwn a Theithwyr sy’n byw ar safleoedd parhaol hefyd yn fwy tebygol o ddefnyddio cyfleusterau lleol hygyrch, sy’n helpu i sicrhau bod eu plant yn gallu byw a chwarae mewn amgylcheddau diogel.
Mae'r canllaw hwn yn ceisio sicrhau y bydd llawer mwy o Sipsiwn a Theithwyr yn gallu cael gafael ar lety sy’n briodol i’w diwylliant. Mae hyn yn adlewyrchu cyfraith achosion Hawliau Dynol ac yn cefnogi ein Hamcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol 2024 i 2028 i ddiwallu anghenion tai penodol y rheini sydd â nodweddion gwarchodedig.
