Neidio i'r prif gynnwy

1. Trosolwg

Os oes arnoch angen gwneud newidiadau i'ch cartref oherwydd anabledd neu er lles person oedrannus gallwch wneud cais am gymorth oddi wrth 1 neu ragor o'r canlynol:

  • HWYLUSO: cynllun sy'n rhoi cymorth er mwyn byw'n annibynnol
  • Grant Cyfleusterau i'r Anabl

Newidiadau y gallwch eu gwneud i'ch cartref

  • lledu drysau a gosod rampiau
  • gwella mynediad at ystafelloedd a chyfleusterau, er enghraifft lifftiau grisiau neu ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • darparu system wresogi sy'n bodloni eich anghenion
  • addasu'r dulliau o reoli gwres a golau yn y cartref fel eu bod yn haws i'w defnyddio